BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"><HEAD><title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol) (Cymru) 2008 No. 476 (Cy. 42) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2008/wsi_20080476_we_1.html |
[New search] [Help]
Gwnaed
22 Chwefror 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
25 Chwefror 2008
Yn dod i rym
27 Chwefror 2008
1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol) (Cymru) 2008, a deuant i rym ar 27 Chwefror 2008.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag awdurdodau yng Nghymru.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â'r flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2008.
(4) Yn y Rheoliadau hyn ystyr "Deddf 1992" ("the 1992 Act") yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.
2. Mae adran 32 o Ddeddf 1992 yn cael effaith–
(a) yn is-adran (3)(a)(3) fel petai'r geiriau "or relevant special grant" wedi'u hepgor; a
(b) fel petai'r is-adran ganlynol wedi'i mewnosod ar ôl is-adran (12)(4) –
"(12A) In this section and section 33 below–
(a) references to sums payable for the financial year in respect of redistributed non-domestic rates are references to sums so payable in accordance with the Local Government Finance Report (No.1) 2008–2009 (Final Settlement – Councils) approved by resolution of the National Assembly for Wales pursuant to section 84H(2)(5) of, and paragraph 11B(1)(6) of Schedule 8 to, the Local Government Finance Act 1988 on 29 January 2008; and
(b) references to sums payable for the financial year in respect of revenue support grant are references to sums so payable in accordance with that report.".
3. Mae adran 33(1) o Ddeddf 1992(7) yn cael effaith fel petai'r geiriau "or relevant special grant" yn eitem P wedi'u hepgor.
4. Mae adran 43 o Ddeddf 1992 yn cael effaith–
(a) yn is-adran (3)(a)(i)(8)–
(i) fel petai'r geiriau "relevant special grant" wedi'u hepgor; a
(ii) fel petai'r geiriau "floor funding" wedi'u mewnosod o flaen y geiriau "or police grant;"; a
(b) fel petai'r is-adrannau a ganlyn wedi'u mewnosod ar ôl is-adran (6D)(9) –
"(6E) In this section and section 44 below–
(a) references to sums payable for the financial year in respect of redistributed non-domestic rates are references to sums so payable in accordance with the Local Government Finance Report (No.2) 2008–2009 (Final Settlement – Police Authorities) approved by resolution of the National Assembly for Wales pursuant to section 84H(2) of, and paragraph 11B(1) of Schedule 8 to, the Local Government Finance Act 1988 on 19 February 2008; and
(b) references to sums payable for the financial year in respect of revenue support grant are references to sums so payable in accordance with that report.
(6F) In this section and section 44 below "floor funding" means grant payable to a major precepting authority by the Secretary of State in addition to the police grant referred to in subsection (6C).".
5. Mae adran 44(1) o Ddeddf 1992(10) yn cael effaith –
(a) fel petai'r geiriau "relevant special grant" yn eitem P wedi'u hepgor; a
(b) fel petai'r geiriau "floor funding" yn eitem P wedi'u mewnosod o flaen y geiriau "or police grant;".
Brian Gibbons
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
22 Chwefror 2008
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae adrannau 32 a 43 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 ("Deddf 1992") yn nodi, yn ôl eu trefn, sut y mae awdurdodau bilio a phrif awdurdodau praeseptio i gyfrifo'u hanghenion cyllideb ar gyfer blwyddyn ariannol. Mae adrannau 33 a 44 o'r Ddeddf honno yn nodi, yn ôl eu trefn, sut y mae awdurdodau bilio a phrif awdurdodau praeseptio i gyfrifo swm sylfaenol eu treth gyngor.
Mae rheoliadau 2(a), 3, 4(a)(i) a 5(a) o'r Rheoliadau hyn yn hepgor cyfeiriadau at "relevant special grant" o adrannau 32, 33, 43 a 44 o Ddeddf 1992 ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2008 gan nad oes unrhyw grantiau arbennig yn cael eu diffinio yn grantiau arbennig perthnasol am y flwyddyn ariannol honno.
Mae rheoliadau 2(b) a 4(b) yn mewnosod, am y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2008 ar gyfer awdurdodau bilio a phrif awdurdodau praeseptio yng Nghymru, ddiffiniadau o'r symiau sy'n daladwy mewn cysylltiad ag ardrethi annomestig a ailddosberthir a grant cynnal refeniw yn adrannau 32 a 43 o Ddeddf 1992. Diben hyn yw sicrhau nad yw symiau'r ardrethi annomestig a ailddosberthir a'r grant cynnal refeniw a gedwir allan o'r cyfrifiad ar gyfer gofynion cyllideb yn yr adrannau hynny ond yn ymwneud â'r cyfryw symiau sy'n daladwy o dan yr priod Adroddiadau Cyllid Llywodraeth Leol am y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2008. Mae'r un diffiniadau yn gymwys hefyd i adrannau 33 a 44 o Ddeddf 1992. Mae rheoliad 4(b) hefyd yn diffinio "floor funding" yn adran 43 drwy fewnosod is-adran (6F) ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2008.
Mae rheoliadau 4(a)(ii) a 5(b) yn diwygio ymhellach adrannau 43 a 44 o Ddeddf 1992 fel bod prif awdurdodau praeseptio yng Nghymru yn gorfod ystyried unrhyw gyllid gwaelodol a geir oddi wrth yr Ysgrifennydd Gwladol am y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2008 wrth wneud y cyfrifiad gofynnol am y flwyddyn honno.
1992 p.14; diwygiwyd adran 32(9) gan baragraff 4 o Atodlen 12 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p.19). Back [1]
Trosglwyddwyd y swyddogaethau hyn, o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan erthygl 2(a) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo, ac wedi hynny i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi. Back [2]
Diwygiwyd adran 32(3)(a) gan Reoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol a Chronfeydd) 1994 (O.S. 1994/246) a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol a Chronfeydd) 1995 (O.S. 1995/234). Fe'i diwygiwyd hefyd mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2007–2008 gan reoliad 2(a) o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol) (Cymru) 2007 (O.S. 2007/571 (Cy.49)). Back [3]
Mewnosodwyd adran 32(12A) mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2007–2008 gan reoliad 2(b) o O.S. 2007/571 (Cy.49). Back [4]
1988 p.41; amnewidiwyd adran 84H (a roddwyd yn lle adran 84H fel y'i mewnosodwyd gan adran 40(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (p.26) ac Atodlen 2 iddi) gan erthygl 3 o Orchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Addasiadau Canlyniadol a Darpariaethau Trosiannol) 2007 ac Atodlen 1 iddo (O.S. 2007/1388). Back [5]
Amnewidiwyd paragraff 11B(1) (a roddwyd yn lle paragraff 11B(1) fel y'i mewnosodwyd gan adran 40(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 ac Atodlen 2 iddi) gan erthygl 3 o O.S. 2007/1388 ac Atodlen 1 iddo. Back [6]
Diwygiwyd adran 33(1) gan O.S. 1994/246 ac O.S. 1995/234. Fe'i diwygiwyd hefyd mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2007–2008 gan reoliad 3 o O.S. 2007/571 (Cy.49). Back [7]
Diwygiwyd adran 43(3)(a) gan O.S. 1994/246 ac O.S. 1995/234. Fe'i diwygiwyd hefyd mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2007–2008 gan reoliad 4(a) o O.S. 2007/571 (Cy.49). Back [8]
Mewnosodwyd is-adrannau 43(6E) a (6F) mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2007–2008 gan reoliad 4(b) o O.S. 2007/571 (Cy.49). Back [9]
Diwygiwyd adran 44(1) gan O.S. 1994/246 ac O.S. 1995/234. Fe'i diwygiwyd hefyd mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2007–2008 gan reoliad 5 o O.S. 2007/571 (Cy.49). Back [10]