BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"><HEAD><title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2008 No. 577 (Cy. 56)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2008/wsi_20080577_we_1.html

[New search] [Help]


 

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2008

Gwnaed

3 Mawrth 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

4 Mawrth 2008

Yn dod i rym

28 Mawrth 2008

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 71, 76, 77, 128, 129, 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1. Enw'r Rheoliadau yw'r Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2007 a deuant i rym ar 28 Mawrth 2008.

Diwygio rheoliad 1 o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997

2. Yn y diffiniad o "NHS sight test fee" yn rheoliad 1(2) o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997(2) –

(a) yn lle "£52.04" rhodder "£53.34", a

(b) yn lle "£18.85" rhodder "£19.32".

Diwygio rheoliad 10 o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986

3. Yn rheoliad 10(1) (y datganiad) o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986(3) ar ddiwedd rheoliad 10(1)(b) yn lle'r geiriau o "A determination" hyd at "relates." rhodder–

Edwina Hart

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

3 Mawrth 2008

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997 er mwyn cyfeirio at gynnydd o 2.5% yn ffioedd prawf golwg y GIG. Mae'r Rheoliadau hefyd yn diwygio rheoliad 10 o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986 i ddarparu pan fo Gweinidogion Cymru yn gwneud darpariaeth mewn penderfyniad o ran y ffioedd sydd i'w talu gan Fwrdd Iechyd Lleol am wneud profion golwg gan ymarferwyr meddygol offthalmig ac optegwyr, caiff y penderfyniad ddarparu bod y ffioedd yn cael eu talu ynglŷn â chyfnod sy'n dechrau ar ddyddiad sy'n gynharach na dyddiad y penderfyniad, ac os cymerir y penderfyniad yn ei gyfanrwydd, nad yw'n andwyol i'r personau y mae a wnelo hyn â'u tâl.

(1)

2006 p.42. Back [1]

(2)

O.S. 1997/818 fel y'i diwygiwyd. Back [2]

(3)

1986/975 fel y'i diwygiwyd. Back [3]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2008/wsi_20080577_we_1.html