BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"><HEAD><title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2008 No. 1259 (Cy. 126) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2008/wsi_20081259_we_1.html |
[New search] [Help]
Gwnaed
5 Mai 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
6 Mai 2008
Yn dod i rym
29 Mai 2008
1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) (Diwygio) 2008.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 29 Mai 2008 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "Rheoliadau 2007" ("the 2007 Regulations") yw Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007(3).
3. Mae Rheoliadau 2007 wedi'u diwygio fel a ganlyn.
4. Yn rheoliad 2 –
(a) ym mharagraff (4) yn lle "Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci", rhodder "Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir, Twrci a'r tiriogaethau tramor";
(b) ym mharagraff (4)(ch) o'r testun Cymraeg, yn lle'r geiriau "blentyn ei briod neu ei bartner sifil,", rhodder y geiriau "briod neu bartner sifil ei blentyn,";
(c) ym mharagraff (6)(ch) o'r testun Cymraeg, yn lle'r geiriau "blentyn ei briod neu ei bartner sifil,", rhodder y geiriau "briod neu bartner sifil ei blentyn,";
(ch) ar ôl paragraff 7, mewnosoder–
"(8) At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae person sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig oherwydd ei fod wedi symud o'r Ynysoedd at ddibenion ymgymryd â chwrs i'w ystyried yn berson sy'n preswylio fel arfer yn yr Ynysoedd.".
5. Yn yr Atodlen –
(a) ym mharagraff 3(ch), yn lle "Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir", rhodder "Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a'r tiriogaethau tramor";
(b) yn lle paragraff 6, rhodder–
"6.–(1) Person–
(a) sydd–
(i) yn weithiwr mudol AEE neu'n berson hunangyflogedig AEE;
(ii) yn berson Swisaidd cyflogedig neu'n berson Swisaidd hunangyflogedig;
(iii) yn aelod o deulu person a grybwyllir ym mharagraff (i) neu (ii);
(iv) yn weithiwr ffin yr AEE neu'n berson hunangyflogedig ffin yr AEE;
(v) yn berson Swisaidd cyflogedig y ffin neu'n berson Swisaidd hunangyflogedig y ffin; neu
(vi) yn aelod o deulu person a grybwyllir ym mharagraff (iv) neu (v);
(b) yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(c) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a'r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(2) Nid yw paragraff (b) o is-baragraff (1) yn gymwys pan fo'r person yn dod o fewn paragraff (a)(iv), (v) neu (vi) o'r is-baragraff hwnnw.";
(c) ym mharagraff 7(b), yn lle "sydd wedi bod fel arfer yn preswylio yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir" rhodder "sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a'r tiriogaethau tramor";
(ch) ym mharagraff 8(1)(ch), yn lle "Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir", rhodder "Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a'r tiriogaethau tramor";
(d) ym mharagraff 9(1)–
(i) ym mharagraff (a)(i), yn lle "blwyddyn academaidd gyntaf", rhodder "un o flynyddoedd academaidd";
(ii) yn lle paragraff (c), rhodder–
"(c) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a'r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac";
(iii) hepgorer paragraff (ch);
(iv) ym mharagraff (d), yn lle "mharagraffau (c) neu (d)", rhodder "mharagraff (c) ";
(dd) ym mharagraff 10(1)(ch), yn lle "Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir", rhodder "Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a'r tiriogaethau tramor";
(e) ym mharagraff 11(c), yn lle "Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir", rhodder "Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a'r tiriogaethau tramor";
(f) ym mharagraff 12(c), yn lle "Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci", rhodder "Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir, Twrci a'r tiriogaethau tramor".
Jane E Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru.
5 Mai 2008
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007 ("Rheoliadau 2007").
Mae rheoliadau 4 a 5 yn gwneud diwygiadau i reoliad 2 a'r Atodlen i Reoliadau 2007 i alluogi preswyliad yn y tiriogaethau tramor i gael ei drin fel preswyliad cymwys mewn achosion penodol ac i'w gwneud yn glir y bydd myfyrwyr sy'n symud o'r Ynysoedd i'r Deyrnas Unedig at ddibenion ymgymryd â'u cwrs yn cael eu trin fel rhai sy'n preswylio fel arfer yn yr Ynysoedd.
Ymdrinnir â gwallau teipograffyddol yn rheoliad 2(4)(ch) a 2(6)(ch) o destun Cymraeg Rheoliadau 2007 yn rheoliad 4.
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 1 o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) 1983, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 2006/1458 o 8 Mehefin 2006 ymlaen. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 2 o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) 1983, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas ag adrannau 1 a 2 o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) 1983 i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraffau 30(1) a 30(2)(d) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Back [1]
1983 p.40. Diwygiwyd adran 1 gan Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (p.40), Atodlen 12, paragraff 91; Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p.13), Atodlen 8, paragraff 19; Deddf Addysg 1994 (p.30), Atodlen 2, paragraff 7; Deddf Addysg 1996 (p.56), Atodlen 37, paragraff 57; Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p.30), Atodlen 3, paragraff 5; Deddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21), Atodlen 9, paragraffau 1 ac 11; Deddf Addysg 2002 (p.32), Atodlen 21, paragraff 5 a Deddf Addysg 2005 (p.18), Atodlen 14, paragraff 9. Diwygiwyd Adran 2 gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1988, adran 44 ac Atodlen 4. Back [2]
O.S. 2007/2310 (Cy.181). Back [3]