BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"><HEAD><title lang="cy" xml:lang="cy">Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio) (Cymru) 2008 No. 1409 (Cy. 146)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2008/wsi_20081409_we_1.html

[New search] [Help]


 

Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio) (Cymru) 2008

Gwnaed

30 Mai 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

2 Mehefin 2008

Yn dod i rym

1 Awst 2008 ac eithrio'r hyn a ddarperir gan erthyglau 4(1), 5(1), 6(1), 7(1), 8(1), 9(1), 10(1), 11(1), 12(1), 13(1), 14(1), 15(1) a (2)

Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 108(3)(a) a (b), (5) ac adran 210 o Ddeddf Addysg 2002(1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt(2) ac ar ôl gwneud y trefniadau hynny ar gyfer ymgynghori y maent o'r farn eu bod yn briodol yn unol ag adran 117 o Ddeddf Addysg 2002, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.–(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio) (Cymru) 2008 ac yn ddarostyngedig i erthyglau 4(1), 5(1), 6(1), 7(1), 8(1), 9(1), 10(1), 11(1), 12(1), 13(1), 14(1) a 15(1) a (2) isod, daw i rym ar 1 Awst 2008.

(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.–(1) Yn y Gorchymyn hwn–

ystyr "y ddogfen addysg gorfforol" ("the physical education document") yw'r ddogfen a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru yn Ionawr 2008 sy'n dwyn y teitl "Addysg gorfforol yng Nghwricwlwm Cenedlaethol Cymru"(3);

ystyr "y ddogfen celf a dylunio" ("the art and design document") yw'r ddogfen a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru yn Ionawr 2008 sy'n dwyn y teitl "Celf a dylunio yng Nghwricwlwm Cenedlaethol Cymru"(4);

ystyr "y ddogfen dylunio a thechnoleg" ("the design and technology document") yw'r ddogfen a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru yn Ionawr 2008 sy'n dwyn y teitl "Dylunio a thechnoleg yng Nghwricwlwm Cenedlaethol Cymru"(5);

ystyr "y ddogfen ddaearyddiaeth" ("the geography document") yw'r ddogfen a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru yn Ionawr 2008 sy'n dwyn y teitl "Daearyddiaeth yng Nghwricwlwm Cenedlaethol Cymru"(6);

ystyr "y ddogfen fathemateg" ("the mathematics document") yw'r ddogfen a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru yn Ionawr 2008 sy'n dwyn y teitl "Mathemateg yng Nghwricwlwm Cenedlaethol Cymru"(7);

ystyr "y ddogfen gerddoriaeth" ("the music document") yw'r ddogfen a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru yn Ionawr 2008 sy'n dwyn y teitl "Cerddoriaeth yng Nghwricwlwm Cenedlaethol Cymru"(8);

ystyr "y ddogfen Gymraeg" ("the Welsh document") yw'r ddogfen a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru yn Ionawr 2008 sy'n dwyn y teitl "Cymraeg yng Nghwricwlwm Cenedlaethol Cymru"(9);

ystyr "y ddogfen hanes" ("the history document") yw'r ddogfen a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru yn Ionawr 2008 sy'n dwyn y teitl "Hanes yng Nghwricwlwm Cenedlaethol Cymru"(10);

ystyr "y ddogfen ieithoedd tramor modern" ("the modern foreign language document") yw'r ddogfen a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru yn Ionawr 2008 sy'n dwyn y teitl "Ieithoedd tramor modern yng Nghwricwlwm Cenedlaethol Cymru"(11);

ystyr "y ddogfen Saesneg" ("the English document") yw'r ddogfen a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru yn Ionawr 2008 sy'n dwyn y teitl "Saesneg yng Nghwricwlwm Cenedlaethol Cymru"(12);

ystyr "y ddogfen technoleg gwybodaeth a chyfathrebu" ("the information and communication technology document") yw'r ddogfen a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru yn Ionawr 2008 sy'n dwyn y teitl "Technoleg gwybodaeth a chyfathrebu yng Nghwricwlwm Cenedlaethol Cymru"(13);

ystyr "y ddogfen wyddoniaeth" ("the science document") yw'r ddogfen a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru yn Ionawr 2008 sy'n dwyn y teitl "Gwyddoniaeth yng Nghwricwlwm Cenedlaethol Cymru"(14); ac

mae cyfeiriadau at y cyfnodau allweddol cyntaf, yr ail gyfnod allweddol, y trydydd cyfnod allweddol a'r pedwerydd cyfnod allweddol i'w dehongli yn unol ag adran 103 o Ddeddf Addysg 2002.

Dirymu a darpariaethau trosiannol

3.–(1) Dirymir y Gorchmynion a restrir yn yr Atodlen ar 1 Awst 2008.

(2) Er gwaethaf paragraff (1) mae'r darpariaethau yn y Gorchmynion a restrir yn yr Atodlen yn parhau yn gymwys i ddisgyblion yn yr ail gyfnod allweddol, y trydydd cyfnod allweddol a'r pedwerydd cyfnod allweddol hyd nes y bydd darpariaethau'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddynt.

Celf a dylunio

4.–(1) Daw darpariaethau'r Gorchymyn hwn i'r graddau y maent yn ymwneud â'r ddogfen celf a dylunio i rym ar–

(a) 1 Awst 2008 o ran disgyblion yn nhair blynedd gyntaf yr ail gyfnod allweddol ac yn nwy flynedd gyntaf y trydydd cyfnod allweddol; a

(b) 1 Awst 2009 o ran disgyblion ym mhedwaredd flwyddyn yr ail gyfnod allweddol ac yn nhrydedd flwyddyn y trydydd cyfnod allweddol.

(2) Y darpariaethau ynghylch y targed cyrhaeddiad a rhaglenni astudio a osodir yn y ddogfen celf a dylunio yn cael effaith at ddibenion pennu'r targed cyrhaeddiad a rhaglenni astudio o ran celf a dylunio.

(3) Nid yw'r enghreifftiau a argreffir mewn llythrennau italig yn y ddogfen celf a dylunio (sy'n egluro'r rhaglenni astudio a ddisgrifir ynddi) yn ffurfio rhan o'r ddarpariaeth a wneir gan y Gorchymyn hwn.

Dylunio a thechnoleg

5.–(1) Daw darpariaethau'r Gorchymyn hwn i'r graddau y maent yn ymwneud â'r ddogfen dylunio a thechnoleg i rym ar–

(a) 1 Awst 2008 o ran disgyblion yn nhair blynedd gyntaf yr ail gyfnod allweddol ac yn nwy flynedd gyntaf y trydydd cyfnod allweddol; a

(b) 1 Awst 2009 o ran disgyblion ym mhedwaredd flwyddyn yr ail gyfnod allweddol ac yn nhrydedd flwyddyn y trydydd cyfnod allweddol.

(2) Y darpariaethau ynghylch y targed cyrhaeddiad a rhaglenni astudio a osodir yn y ddogfen dylunio a thechnoleg yn cael effaith at ddibenion pennu'r targed cyrhaeddiad a rhaglenni astudio o ran dylunio a thechnoleg.

(3) Nid yw'r enghreifftiau a argreffir mewn llythrennau italig yn y ddogfen dylunio a thechnoleg (sy'n egluro'r rhaglenni astudio a ddisgrifir ynddi) yn ffurfio rhan o'r ddarpariaeth a wneir gan y Gorchymyn hwn.

Saesneg

6.–(1) Daw darpariaethau'r Gorchymyn hwn i'r graddau y maent yn ymwneud â'r ddogfen Saesneg i rym ar–

(a) 1 Awst 2008 o ran disgyblion yn nhair blynedd gyntaf yr ail gyfnod allweddol ac yn nwy flynedd gyntaf y trydydd cyfnod allweddol;

(b) 1 Awst 2009 o ran disgyblion ym mhedwaredd flwyddyn yr ail gyfnod allweddol ac yn nhrydedd flwyddyn y trydydd cyfnod allweddol;

(c) 1 Awst 2010 o ran disgyblion ym mlwyddyn gyntaf y pedwerydd cyfnod allweddol; ac

(ch) 1 Awst 2011 o ran disgyblion yn ail flwyddyn y pedwerydd cyfnod allweddol.

(2) Y darpariaethau ynghylch targedau cyrhaeddiad a rhaglenni astudio a osodir yn y ddogfen Saesneg yn cael effaith at ddibenion pennu'r targedau cyrhaeddiad a rhaglenni astudio o ran Saesneg.

(3) Nid yw'r enghreifftiau a argreffir mewn llythrennau italig yn y ddogfen Saesneg (sy'n egluro'r rhaglenni astudio a ddisgrifir ynddi) yn ffurfio rhan o'r ddarpariaeth a wneir gan y Gorchymyn hwn.

Daearyddiaeth

7.–(1) Daw darpariaethau'r Gorchymyn hwn i'r graddau y maent yn ymwneud â'r ddogfen ddaearyddiaeth i rym ar–

(a) 1 Awst 2008 o ran disgyblion yn nhair blynedd gyntaf yr ail gyfnod allweddol ac yn nwy flynedd gyntaf y trydydd cyfnod allweddol; a

(b) 1 Awst 2009 o ran disgyblion ym mhedwaredd flwyddyn yr ail gyfnod allweddol ac yn nhrydedd flwyddyn y trydydd cyfnod allweddol.

(2) Y darpariaethau ynghylch y targed cyrhaeddiad a rhaglenni astudio a osodir yn y ddogfen ddaearyddiaeth yn cael effaith at ddibenion pennu'r targed cyrhaeddiad a rhaglenni astudio o ran daearyddiaeth.

(3) Nid yw'r enghreifftiau a argreffir mewn llythrennau italig yn y ddogfen ddaearyddiaeth (sy'n egluro'r rhaglenni astudio a ddisgrifir ynddi) yn ffurfio rhan o'r ddarpariaeth a wneir gan y Gorchymyn hwn.

Hanes

8.–(1) Daw darpariaethau'r Gorchymyn hwn i'r graddau y maent yn ymwneud â'r ddogfen hanes i rym ar–

(a) 1 Awst 2008 o ran disgyblion yn nhair blynedd gyntaf yr ail gyfnod allweddol ac yn nwy flynedd gyntaf y trydydd cyfnod allweddol; a

(b) 1 Awst 2009 o ran disgyblion ym mhedwaredd flwyddyn yr ail gyfnod allweddol ac yn nhrydedd flwyddyn y trydydd cyfnod allweddol.

(2) Y darpariaethau ynghylch y targed cyrhaeddiad a rhaglenni astudio a osodir yn y ddogfen hanes yn cael effaith at ddibenion pennu'r targed cyrhaeddiad a rhaglenni astudio o ran hanes.

(3) Nid yw'r enghreifftiau a argreffir mewn llythrennau italig yn y ddogfen hanes (sy'n egluro'r rhaglenni astudio a ddisgrifir ynddi) yn ffurfio rhan o'r ddarpariaeth a wneir gan y Gorchymyn hwn.

Technoleg gwybodaeth a chyfathrebu

9.–(1) Daw darpariaethau'r Gorchymyn hwn i'r graddau y maent yn ymwneud â'r ddogfen technoleg gwybodaeth a chyfathrebu i rym ar–

(a) 1 Awst 2008 o ran disgyblion yn nhair blynedd gyntaf yr ail gyfnod allweddol ac yn nwy flynedd gyntaf y trydydd cyfnod allweddol; a

(b) 1 Awst 2009 o ran disgyblion ym mhedwaredd flwyddyn yr ail gyfnod allweddol ac yn nhrydedd flwyddyn y trydydd cyfnod allweddol.

(2) Y darpariaethau ynghylch y targed cyrhaeddiad a rhaglenni astudio a osodir yn y ddogfen technoleg gwybodaeth a chyfathrebu yn cael effaith at ddibenion pennu'r targed cyrhaeddiad a rhaglenni astudio o ran technoleg gwybodaeth a chyfathrebu.

(3) Nid yw'r enghreifftiau a argreffir mewn llythrennau italig yn y ddogfen technoleg gwybodaeth a chyfathrebu (sy'n egluro'r rhaglenni astudio a ddisgrifir ynddi) yn ffurfio rhan o'r ddarpariaeth a wneir gan y Gorchymyn hwn.

Mathemateg

10.–(1) Daw darpariaethau'r Gorchymyn hwn i'r graddau y maent yn ymwneud â'r ddogfen fathemateg i rym ar–

(a) 1 Awst 2008 o ran disgyblion yn nhair blynedd gyntaf yr ail gyfnod allweddol ac yn nwy flynedd gyntaf y trydydd cyfnod allweddol;

(b) 1 Awst 2009 o ran disgyblion ym mhedwaredd flwyddyn yr ail gyfnod allweddol ac yn nhrydedd flwyddyn y trydydd cyfnod allweddol;

(c) 1 Awst 2010 o ran disgyblion ym mlwyddyn gyntaf y pedwerydd cyfnod allweddol; ac

(ch) 1 Awst 2011 o ran disgyblion yn ail flwyddyn y pedwerydd cyfnod allweddol.

(2) Y darpariaethau ynghylch y targed cyrhaeddiad a rhaglenni astudio a osodir yn y ddogfen fathemateg yn cael effaith at ddibenion pennu'r targed cyrhaeddiad a rhaglenni astudio o ran mathemateg.

(3) Nid yw'r enghreifftiau a argreffir mewn llythrennau italig yn y ddogfen fathemateg (sy'n egluro'r rhaglenni astudio a ddisgrifir ynddi) yn ffurfio rhan o'r ddarpariaeth a wneir gan y Gorchymyn hwn.

Ieithoedd tramor modern

11.–(1) Daw darpariaethau'r Gorchymyn hwn i'r graddau y maent yn ymwneud â'r ddogfen ieithoedd tramor modern i rym ar–

(a) 1 Awst 2008 o ran disgyblion yn nwy flynedd gyntaf y trydydd cyfnod allweddol; a

(b) 1 Awst 2009 o ran disgyblion yn nhrydedd flwyddyn y trydydd cyfnod allweddol.

(2) Y darpariaethau ynghylch targedau cyrhaeddiad a rhaglenni astudio a osodir yn y ddogfen ieithoedd tramor modern yn cael effaith at ddibenion pennu'r targedau cyrhaeddiad a rhaglenni astudio o ran ieithoedd tramor modern.

(3) Nid yw'r enghreifftiau a argreffir mewn llythrennau italig yn y ddogfen ieithoedd tramor modern (sy'n egluro'r rhaglenni astudio a ddisgrifir ynddi) yn ffurfio rhan o'r ddarpariaeth a wneir gan y Gorchymyn hwn.

Cerddoriaeth

12.–(1) Daw darpariaethau'r Gorchymyn hwn i'r graddau y maent yn ymwneud â'r ddogfen gerddoriaeth i rym ar–

(a) 1 Awst 2008 o ran disgyblion yn nhair blynedd gyntaf yr ail gyfnod allweddol ac yn nwy flynedd gyntaf y trydydd cyfnod allweddol; a

(b) 1 Awst 2009 o ran disgyblion ym mhedwaredd flwyddyn yr ail gyfnod allweddol ac yn nhrydedd flwyddyn y trydydd cyfnod allweddol.

(2) Y darpariaethau ynghylch y targed cyrhaeddiad a rhaglenni astudio a osodir yn y ddogfen gerddoriaeth yn cael effaith at ddibenion pennu'r targed cyrhaeddiad a rhaglenni astudio o ran cerddoriaeth.

(3) Nid yw'r enghreifftiau a argreffir mewn llythrennau italig yn y ddogfen gerddoriaeth (sy'n egluro'r rhaglenni astudio a ddisgrifir ynddi) yn ffurfio rhan o'r ddarpariaeth a wneir gan y Gorchymyn hwn.

Addysg gorfforol

13.–(1) Daw darpariaethau'r Gorchymyn hwn i'r graddau y maent yn ymwneud â'r ddogfen addysg gorfforol i rym ar–

(a) 1 Awst 2008 o ran disgyblion yn nhair blynedd gyntaf yr ail gyfnod allweddol ac yn nwy flynedd gyntaf y trydydd cyfnod allweddol;

(b) 1 Awst 2009 o ran disgyblion ym mhedwaredd flwyddyn yr ail gyfnod allweddol, yn nhrydedd flwyddyn y trydydd cyfnod allweddol ac ym mlwyddyn gyntaf y pedwerydd cyfnod allweddol; ac

(c) 1 Awst 2010 o ran disgyblion yn ail flwyddyn y pedwerydd cyfnod allweddol.

(2) Y darpariaethau ynghylch y targed cyrhaeddiad a rhaglenni astudio a osodir yn y ddogfen addysg gorfforol yn cael effaith at ddibenion pennu'r targed cyrhaeddiad a rhaglenni astudio o ran addysg gorfforol.

(3) Nid yw'r enghreifftiau a argreffir mewn llythrennau italig yn y ddogfen addysg gorfforol (sy'n egluro'r rhaglenni astudio a ddisgrifir ynddi) yn ffurfio rhan o'r ddarpariaeth a wneir gan y Gorchymyn hwn.

Gwyddoniaeth

14.–(1) Daw darpariaethau'r Gorchymyn hwn i'r graddau y maent yn ymwneud â'r ddogfen wyddoniaeth i rym ar–

(a) 1 Awst 2008 o ran disgyblion yn nhair blynedd gyntaf yr ail gyfnod allweddol, yn nwy flynedd gyntaf y trydydd cyfnod allweddol ac yn y pedwerydd cyfnod allweddol; a

(b) 1 Awst 2009 o ran disgyblion ym mhedwaredd flwyddyn yr ail gyfnod allweddol ac yn nhrydedd flwyddyn y trydydd cyfnod allweddol.

(2) Y darpariaethau ynghylch y targed cyrhaeddiad a rhaglenni astudio a osodir yn y ddogfen wyddoniaeth yn cael effaith at ddibenion pennu'r targed cyrhaeddiad a rhaglenni astudio o ran gwyddoniaeth.

(3) Nid yw'r enghreifftiau a argreffir mewn llythrennau italig yn y ddogfen wyddoniaeth (sy'n egluro'r rhaglenni astudio a ddisgrifir ynddi) yn ffurfio rhan o'r ddarpariaeth a wneir gan y Gorchymyn hwn.

Cymraeg

15.–(1) Daw darpariaethau'r Gorchymyn hwn i'r graddau y maent yn ymwneud â'r rhan honno o'r ddogfen Gymraeg sy'n dwyn y teitl "Cymraeg" i rym ar–

(a) 1 Awst 2008 o ran disgyblion yn nhair blynedd gyntaf yr ail gyfnod allweddol ac yn nwy flynedd gyntaf y trydydd cyfnod allweddol;

(b) 1 Awst 2009 o ran disgyblion ym mhedwaredd flwyddyn yr ail gyfnod allweddol ac yn nhrydedd flwyddyn y trydydd cyfnod allweddol;

(c) 1 Awst 2010 o ran disgyblion ym mlwyddyn gyntaf y pedwerydd cyfnod allweddol; ac

(ch) 1 Awst 2011 o ran disgyblion yn ail flwyddyn y pedwerydd cyfnod allweddol.

(2) Daw darpariaethau'r Gorchymyn hwn i'r graddau y maent yn ymwneud â'r rhan honno o'r ddogfen Gymraeg sy'n dwyn y teitl "Cymraeg ail iaith" i rym ar–

(a) 1 Awst 2008 o ran disgyblion yn nhair blynedd gyntaf yr ail gyfnod allweddol ac yn nwy flynedd gyntaf y trydydd cyfnod allweddol;

(b) 1 Awst 2009 o ran disgyblion ym mhedwaredd flwyddyn yr ail gyfnod allweddol, yn nhrydedd flwyddyn y trydydd cyfnod allweddol ac ym mlwyddyn gyntaf y pedwerydd cyfnod allweddol; ac

(c) 1 Awst 2010 o ran disgyblion yn ail flwyddyn y pedwerydd cyfnod allweddol.

(3) Y darpariaethau ynghylch targedau cyrhaeddiad a rhaglenni astudio a osodir yn y ddogfen Gymraeg yn cael effaith at ddibenion pennu'r targedau cyrhaeddiad a rhaglenni astudio o ran Cymraeg.

(4) Nid yw'r enghreifftiau a argreffir mewn llythrennau italig yn y ddogfen Gymraeg (sy'n egluro'r rhaglenni astudio a ddisgrifir ynddi) yn ffurfio rhan o'r ddarpariaeth a wneir gan y Gorchymyn hwn.

Jane Hutt

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru.

30 Mai 2008

(Erthygl 3)

YR ATODLEN Gorchmynion a ddirymir

1. At ddibenion erthygl 3(1) caiff y Gorchmynion canlynol eu dirymu –

(a) Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio mewn Addysg Gorfforol) (Cymru) 2000(15);

(b) Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio mewn Gwyddoniaeth) (Cymru) 2000(16);

(c) Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio mewn Mathemateg) (Cymru) 2000(17);

(ch) Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio mewn Cymraeg) 2000(18);

(d) Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio mewn Celf) (Cymru) 2000(19);

(dd) Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio mewn Saesneg) (Cymru) 2000(20);

(e) Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio mewn Daearyddiaeth) (Cymru) 2000(21);

(f) Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio mewn Hanes) (Cymru) 2000(22);

(g) Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio mewn Ieithoedd Tramor Modern) (Cymru) 2000(23);

(ff) Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio mewn Cerddoriaeth) (Cymru) 2000(24); ac

(ng) Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio mewn Technoleg) (Cymru) 2000(25).

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Diwygir Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru o 1 Awst 2008 ymlaen. Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi effaith gyfreithiol i'r rhaglenni astudio, sy'n gosod yr hyn y dylid ei addysgu i ddisgyblion a thargedau cyrhaeddiad ar eu cyfer. Nodir manylion ohonynt mewn deuddeg dogfen a elwir:

Mae'r Gorchymyn hwn hefyd yn gosod trefniadau ar gyfer cyflwyno'r Cwricwlwm Cenedlaethol diwygiedig fesul cam.

(1)

2002 p.32. Back [1]

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan yr adrannau hyn i Weinidogion Cymru o dan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Back [2]

(3)

ISBN Rhif 9780750444279. Back [3]

(4)

ISBN Rhif 9880750444255. Back [4]

(5)

ISBN Rhif 9780750444217. Back [5]

(6)

ISBN Rhif 9780750444248. Back [6]

(7)

ISBN Rhif 9780750444194. Back [7]

(8)

ISBN Rhif 9780750444262. Back [8]

(9)

ISBN Rhif 9780750444187. Back [9]

(10)

ISBN Rhif 9780750444231. Back [10]

(11)

ISBN Rhif 9780750444286. Back [11]

(12)

ISBN Rhif 9780750444170. Back [12]

(13)

ISBN Rhif 9780750444224. Back [13]

(14)

ISBN Rhif 9780750444200. Back [14]

(15)

2000/1098 (Cy.76). Back [15]

(16)

2000/1099 (Cy.77). Back [16]

(17)

2000/1100 (Cy.78). Back [17]

(18)

2000/1101 (Cy.79). Back [18]

(19)

2000/1153 (Cy.84). Back [19]

(20)

2000/1154 (Cy.85). Back [20]

(21)

2000/1155 (Cy.86). Back [21]

(22)

2000/1156 (Cy.87). Back [22]

(23)

2000/1157 (Cy.88). Back [23]

(24)

2000/1158 (Cy.89). Back [24]

(25)

2000/1159 (Cy.90). Back [25]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2008/wsi_20081409_we_1.html