BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"><HEAD><title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Sylfaenol) a (Rhestri Cyflawnwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2008 No. 1425 (Cy. 147)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2008/wsi_20081425_we_1.html

[New search] [Help]


 

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Sylfaenol) a (Rhestri Cyflawnwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2008

Gwnaed

3 Mehefin 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

4 Mehefin 2008

Yn dod i rym

1 Gorffennaf 2008

Go to Explanatory Note

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 47, 49, 63 a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1) drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

RHAN 1 Cyffredinol

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Sylfaenol) a (Rhestri Cyflawnwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2008.

(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Gorffennaf 2008.

(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(4) Yn y Rheoliadau hyn–

ystyr "y Rheoliadau Contractau GMC" ("the GMS Contracts Regulations") yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2004(2); ac

ystyr "y Rheoliadau Rhestri Cyflawnwyr" ("the Performers Lists Regulations") yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Rhestri Cyflawnwyr) (Cymru) 2004(3).

RHAN 2 Diwygio'r Rheoliadau Contractau GMC

Diwygio rheoliad 2 o'r Rheoliadau Contractau GMC

2. Yn y diffiniad o "CCT", hepgorer y geiriau ", including any such certificate awarded in pursuance of the competent authority functions of the Postgraduate Medical Education and Training Board specified in article 20(3)(a) of that Order".

Diwygio rheoliad 5 o'r Rheoliadau Contractau GMC

3. Yn rheoliad 5 (amod cyffedinol sy'n ymwneud â phob contract) o'r Rheoliadau Contractau GMC, ym mharagraff (2)(i)(ii), ar ôl "Insolvency Act 1986" mewnosoder "or Schedule 2A to the Insolvency (Northern Ireland) Order 1989"(4).

Diwygio Atodlen 6 i'r Rheoliadau Contractau GMC

4. Yn Atodlen 6 (telerau contractiol eraill) i'r Rheoliadau Contractau GMC–

(a) ym mharagraff 15 (cais am gynnwys person ar restr cleifion)–

(i) yn lle is-baragraff (4)(b), rhodder–

"(b) on behalf of any adult who lacks the capacity to make such an application, or to authorise such an application to be made on their behalf, by a relative of that person, the primary carer of that person, a donee of a lasting power of attorney granted by that person or a deputy appointed for that person by the court under the provisions of the Mental Capacity Act 2005(5).", a

(ii) yn is-baragraff (6)(b), yn lle "incapable adult", rhodder "an adult who lacks capacity";

(b) ym mharagraff 17(3) (sy'n ymwneud â gwrthod ceisiadau gan bersonau am gael eu cynnwys yn y rhestr o gleifion neu am gael eu derbyn fel preswylwyr dros dro), yn lle "incapable adult", rhodder "an adult who lacks capacity";

(c) ym mharagraff 18(1)(a) (sy'n ymwneud ag ymarferydd o ddewis y claf), yn lle "incapable adult", rhodder "an adult who lacks capacity";

(ch) yn lle paragraff 19(5)(b) (sy'n ymwneud â thynnu enw oddi ar y rhestr ar gais y claf), rhodder–

"(b) in the case of an adult patient who lacks the capacity to make the relevant request or receive the relevant advice, information or notification, a relative of that person, the primary carer of that person, a donee of a lasting power of attorney granted by that person or a deputy appointed for that person by the court under the provisions of the Mental Capacity Act 2005.";

(d) ym mharagraff 52 (cymwysterau cyflawnwyr)–

(i) yn is-baragraff (2)(b), hepgorer yr "or" terfynol,

(ii) yn is-baragraff (2)(c)(ii) yn lle "two" rhodder "three",

(iii) ar ôl is-baragraff (2)(c), ychwaneger y canlynol–

"(d) a medical practitioner who is already included in the medical performers list of another primary care organisation and who has submitted an application to a Local Health Board in accordance with regulation 4A of the National Health Service (Performers Lists) (Wales) Regulations 2004 until the first of the following events arises–

(i) the Local Health Board notifies him or her of its decision on that application; or

(ii) the end of a period of three months, starting with the date on which the application was submitted; or

(e) a medical practitioner, who–

(i) is not a GP Registrar;

(ii) is undertaking a programme of post-registration supervised clinical practice supervised by the Postgraduate Medical Education and Training Board ("a post-registration programme");

(iii) has notified the Local Health Board that he or she will be undertaking part or all of a post-registration programme in its area at least 24 hours before commencing any part of that programme taking place in the Local Health Board´s area; and

(iv) has, with that notification, provided the Local Health Board with evidence sufficient for it to satisfy itself that he or she is undergoing a post-registration programme,

but only in so far as any medical services that the medical practitioner performs constitute part of a post-registration programme." , a

(iv) yn is-baragraff (3) ar ôl "regulation 21(2)" mewnosoder "and "primary care organisation" has the meaning given in regulation 2";

(dd) ym mharagraff 56 (amodau ar gyfer hyfforddi a chyflogi)–

(i) yn is-baragraff (1) yn lle "(2) and (3)" rhodder "(2) to (4)",

(ii) yn is-baragraff (3)(b) yn lle "two" rhodder "three",

(iii) ar ôl is-baragraff (3) mewnosoder y canlynol–

"(4) Where the prospective employee is a medical practitioner who is already included in the medical performers list of another primary care organisation and who has submitted an application to the Local Health Board in accordance with regulation 4A of the National Health Service (Performers Lists) (Wales) Regulations 2004, the requirements set out in sub-paragraph (1) shall apply with the modifications that–

(a) the name and address provided under sub-paragraph (1) may be the name and address of the Local Health Board on whose list the medical practitioner has applied for inclusion, provided that the name and address of the primary care organisation on whose list the medical practitioner is already included is provided in addition; and

(b) confirmation that the medical practitioner´s name appears on that list shall not be required until the first of the following events arises–

(i) the Local Health Board notifies the medical practitioner of its decision on that application, or

(ii) the end of a period of three months, starting with the date on which the Local Health Board receives the application.

(5) In this paragraph "primary care organisation" has the meaning given in regulation 2 of the National Health Service (Performers Lists) (Wales) Regulations 2004.";

(e) ym mharagraff 58(1) (sy'n ymwneud ag amodau ar gyfer cyflogi a chymryd pobl ymlaen), ar ôl y gair "contract", mewnosoder ", other than a medical practitioner falling within paragraph 52(2)(e),";

(f) ym mharagraff 91(b) (sy'n ymwneud â gwneud cwynion), yn lle "is incapable of making a complaint", rhodder "lacks the capacity to make a complaint";

(ff) ym mharagraff 111(2)(j)(ii) (sy'n ymwneud â seiliau eraill dros derfynu gan y Bwrdd Iechyd Lleol), ar ôl "Insolvency Act 1986" mewnosoder "or Schedule 2A to the Insolvency (Northern Ireland) Order 1989";

(g) ym mharagraffau 113(1) a (5) (sy'n ymwneud â therfynu contract gan y Bwrdd Iechyd Lleol: hysbysiadau adfer a hysbysiadau torcyfraith), yn lle "specified in paragraphs 109 to 112", rhodder "specified in paragraphs 109 to 112A";

(ng) yn lle paragraff 118(1) (sy'n ymwneud ag ymgynghori â'r Pwyllgor Meddygol Lleol), rhodder–

"(1) Whenever the Local Health Board is considering–

(a) terminating the contract pursuant to paragraph 110, 111, 112, 113(4) or (6) or 114;

(b) which of the alternative notices in writing available under the provisions of paragraph 112A it will serve; or

(c) imposing a contract sanction,

it shall, whenever it is reasonably practicable to do so, consult the Local Medical Committee for its area before it terminates the contract, serves a notice in writing or imposes a contract sanction.";

(h) ym mharagraff 119(1) (sy'n ymwneud â llywodraethu clinigol), ar ôl "effective system of clinical governance" mewnosoder "which shall include appropriate standard operating procedures in relation to the management and use of controlled drugs".

RHAN 3 Diwygio'r Rheoliadau Rhestri Cyflawnwyr

Diwygio rheoliad 4A o'r Rheoliadau Rhestri Cyflawnwyr

5. Yn rheoliad 4A(8)(b) (sy'n ymwneud â chais am gael ei gynnwys mewn rhestr cyflawnwyr gan gyflawnwr sydd eisoes wedi'i restru ar restr cyflawnwyr corff gofal sylfaenol), organisation), yn lle "2 months" rhodder "3 months".

Diwygio rheoliad 13 o'r Rheoliadau Rhestri Cyflawnwyr

6. Yn rheoliad 13 o'r Rheoliadau Rhestri Cyflawnwyr (tynnu dros dro oddi ar restr)–

(a) ar ddechrau paragraff (9), mewnosoder "Except as provided in paragraph (9A),", a

(b) ar ôl paragraff (9) mewnosoder–

"(9A) For the purpose of an application by a performer who is suspended under these Regulations to be included in another performers list, he or she is to be treated as still included in the list from which he or she is suspended, notwithstanding that suspension.".

Diwygio rheoliad 22 o'r Rheoliadau Rhestri Cyflawnwyr

7. Yn rheoliad 22 o'r Rheoliadau Rhestri Cyflawnwyr–

(a) ym mharagraff (1), yn lle "(2) and (3), rhodder "(2) to (3)";

(b) ar ôl paragraff (2) mewnosoder y canlynol–

"(2A) A medical practitioner who falls within paragraph (2B) may perform primary medical services in the area of a Local Health Board, but only in so far as the performance of those services constitutes part of a programme of post-registration supervised clinical practice approved by the Board ("a post-registration programme").

(2B) A medical practitioner falls within this paragraph if he or she–

(a) is not a GP Registrar;

(b) is undertaking a post-registration programme;

(c) has notified the Local Health Board that he or she will be undertaking part or all of a post-registration programme in its area at least 24 hours before commencing any part of that programme taking place in the Local Health Board´s area; and

(d) has, with that notification, provided the Local Health Board with evidence sufficient for it to satisfy itself that he or she is undergoing a post-registration programme."; ac

(c) ym mharagraff (3) yn lle "2 months", rhodder "3 months".

Diwygio rheoliad 23A o'r Rheoliadau Rhestri Cyflawnwyr

8. Yn rheoliad 23A(4)(b) (sy'n ymwneud â chais am gael ei gynnwys mewn rhestr cyflawnwyr meddygol gan ymarferydd cyffredinol sydd eisoes wedi'i restru ar restr cyflawnwyr meddygol corff gofal sylfaenol), yn lle "2 months" rhodder "3 months".

Diwygio rheoliad 29 o'r Rheoliadau Rhestri Cyflawnwyr

9. Yn rheoliad 29(2) (sy'n ymwneud â'r rhestr cyflawnwyr deintyddol), yn lle "two months" rhodder "three months".

Edwina Hart

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

3 Mehefin 2008

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i Reoliadau penodol sy'n ymwneud â gwasanaethau meddygol sylfaenol ac i Reoliadau sy'n ei gwneud yn ofynnol bod cyflawnwyr gwasanaethau meddygol sylfaenol neu wasanaethau deintyddol sylfaenol yn cael eu cynnwys mewn rhestr cyflawnwyr a gynhelir gan Fwrdd Iechyd Lleol.

Mae Rhan 2 o'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) 2004 ("y Rheoliadau Contractau GMC"). Yn benodol, mae:

(a) yn gwneud diwygiadau i'r cyfeiriadau at "incapable adults", ac at y rhai y caniateir iddynt weithredu ar eu rhan, er mwyn adlewyrchu'r termau a ddefnyddir yn Neddf Galluedd Meddyliol 2005;

(b) yn gwneud diwygiadau i'r darpariaethau sy'n ymwneud â system llywodraethu clinigol y contractiwr er mwyn darparu bod rhaid i systemau o'r fath gynnwys gweithdrefnau gweithredu safonol mewn perthynas â rheoli a defnyddio cyffuriau a reolir; ac

(c) yn gwneud mân newidiadau i'r cyfyngiadau ar y rhai sy'n gymwys i gontractio i ddarparu gwasanaethau meddygol sylfaenol ac i'r darpariaethau sy'n ymwneud â chyflwyno hysbysiadau adfer a hysbysiadau torcyfraith.

Mae Rhan 3 o'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Rhestri Cyflawnwyr) (Cymru) 2004 ("y Rheoliadau Rhestri Cyflawnwyr"). Yn benodol:

(1)

2006 p. 42. Back [1]

(2)

O.S. 2004/478 (Cy.48). Back [2]

(3)

O.S. 2004/1020 (Cy. 117). Back [3]

(4)

O.S. 1989/2405 (G.I. 19). Back [4]

(5)

2005 p.9. Back [5]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2008/wsi_20081425_we_1.html