[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"><HEAD><title lang="cy" xml:lang="cy">Gorchymyn Cŵn Gleision (Gwahardd eu Pysgota) (Cymru) 2008 No. 1438 (Cy. 150) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2008/wsi_20081438_we_1.html |
[New search] [Help]
Gwnaed
4 Mehefin 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
6 Mehefin 2008
Yn dod i rym
1 Gorffennaf 2008
1.–(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cŵn Gleision (Gwahardd eu Pysgota) (Cymru) 2008 a daw i rym ar 1 Gorffennaf 2008.
(2) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r erthygl hon, mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Nid yw'r Gorchymyn hwn yn gymwys i lestri pysgota–
(a) o fewn ystyr Erthygl 3(c) o Reoliad y Cyngor (EC) 2371/2002 ar gadwraeth a defnydd cynaliadwy o adnoddau pysgodfeydd o dan y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin(3), sydd wedi eu cofrestru mewn Aelod-wladwriaeth arall; neu
(b) sydd wedi eu cofrestru mewn trydedd wlad.
2. Yn y Gorchymyn hwn–
ystyr "ci glas" ("tope") yw'r rhywogaeth Galeorhinus galeus; ac
mae i "Cymru" yw'r ystyr a roddir i "Wales" gan adran 158(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006(4).
3.–(1) Gwaherddir pysgota am gŵn gleision (heblaw â gwialen a lein).
(2) Os cymerir cŵn gleision ar fwrdd cwch, caniateir eu cadw ar yr amod nad yw cyfanswm y pwysau byw dros 45 cilogram mewn diwrnod.
(3) Ym mharagraff (2), ystyr "pwysau byw" yw pwysau carcasau cŵn gleision wedi eu diberfeddu wedi eu lluosogi â ffactor o 1.125.
4. Gwaherddir trawslwytho cŵn gleision.
5. Ni chaiff unrhyw berson lanio yng Nghymru –
(a) cŵn gleision a ddaliwyd â gwialen a lein, neu
(b) cŵn gleision y torrwyd eu pennau.
6.–(1) At ddibenion gorfodi'r Gorchymyn hwn, caiff swyddog arfer y pwerau a ganlyn.
(2) Caiff swyddog fynd ar fwrdd cwch pysgota, gyda neu heb bersonau a bennwyd i gynorthwyo'r swyddog i arfer ei ddyletswyddau, ac at y diben hwnnw caiff ei gwneud yn ofynnol i'r cwch aros a gwneud unrhyw beth arall a fydd yn hwyluso mynd ar fwrdd y cwch.
(3) Caiff swyddog ei gwneud yn ofynnol bod meistr a phersonau eraill sydd ar fwrdd y cwch yn bresennol a chaiff wneud unrhyw archwiliad neu ymchwiliad y mae'n ymddangos i'r swyddog ei bod yn angenrheidiol ei wneud at ddiben gorfodi'r Gorchymyn hwn ac, yn enwedig–
(a) caiff archwilio unrhyw bysgodyn ar y cwch a chyfarpar y cwch, gan gynnwys yr offer pysgota, a'i gwneud yn ofynnol i bersonau ar fwrdd y cwch wneud unrhyw beth y mae'n ymddangos i'r swyddog ei bod yn angenrheidiol ei wneud i hwyluso'r archwiliad;
(b) caiff ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson ar fwrdd y cwch ddangos unrhyw ddogfen sy'n ymwneud â'r cwch, â'i waith pysgota neu â gwaith cysylltiedig neu â phersonau ar fwrdd y cwch, sydd yng ngafael neu ym meddiant y person hwnnw a chaiff gymryd copïau o'r cyfryw ddogfen;
(c) at ddibenion cael gwybod a yw'r meistr, perchennog neu siartrwr y cwch wedi cyflawni tramgwydd o dan adran 5 neu 6 o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967 fel y'i darllenir gyda'r Gorchymyn hwn, caiff chwilio'r cwch am y cyfrwy ddogfen a chaiff ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson ar fwrdd y cwch wneud unrhyw beth y mae'n ymddangos i'r swyddog ei bod yn angenrheidiol ei wneud at hwyluso'r chwiliad; ac
(ch) pan fo'r cwch yn un mewn perthynas ag ef y mae gan y swyddog reswm i amau bod y cyfryw dramgwydd wedi ei gyflawni, caiff, yn ddarostyngedig i baragraff (4), ymafael yn y cyfryw ddogfen a ddangoswyd i'r swyddog neu a gafwyd ar fwrdd y cwch a'i chadw'n gaeth at ddibenion galluogi i'r ddogfen gael ei defnyddio yn dystiolaeth mewn achos ar gyfer y tramgwydd.
(4) Nid oes dim ym mharagraff (3)(ch) yn galluogi'r swyddog i ymafael yn unrhyw ddogfen y mae'n ofynnol ei chario ar fwrdd y cwch a'i chadw'n gaeth ac eithrio tra bo'r cwch yn cael ei gadw'n gaeth mewn porthladd.
(5) Pan ymddangoso i swyddog fod unrhyw ddarpariaeth yn y Gorchymyn hwn wedi ei thorri ar unrhyw adeg, caiff y swyddog–
(a) cymryd, neu ei gwneud yn ofynnol i'r meistr gymryd, y cwch a'i griw i'r porthladd y mae'n ymddangos i'r swyddog mai ef yw'r porthladd cyfleus agosaf; a
(b) cadw'r cwch yn gaeth yn y porthladd, neu ei gwneud yn ofynnol i'r meistr ei gadw'n gaeth yno.
(6) Rhaid i swyddog sy'n cadw cwch yn gaeth neu'n ei gwneud yn ofynnol i gwch gael ei gadw'n gaeth gyflwyno i'r meistr hysbysiad ysgrifenedig yn datgan y cedwir y cwch yn gaeth neu y mae'n ofynnol cadw'r cwch yn gaeth hyd nes y tynnir yr hysbysiad yn ôl drwy gyflwyno i'r meistr hysbysiad ysgrifenedig arall a lofnodwyd gan swyddog.
(7) Yn yr erthygl hon, ystyr "swyddog" yw swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
4 Mehefin 2008
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yn gwahardd pysgota am gŵn gleision drwy ddefnyddio unrhyw ddull heblaw gwialen a lein. Caniateir cadw uchafswm o hyd at 45 cilogram mewn pwysau byw o gŵn gleision ar fwrdd cwch mewn diwrnod.
Mae erthygl 4 yn gwahardd trawslwytho cŵn gleision.
Mae erthygl 5 yn gwahardd glanio yng Nghymru gwn gleision a ddaliwyd â gwialen a lein neu gwn gleision y torrwyd eu pennau.
Mae erthygl 6 yn gosod pwerau swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig o ran y Gorchymyn hwn, yn ychwanegol at eu pwerau o dan Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967. Rhagnodir sancsiynau troseddol gan adrannau 5(1), 5(7), 6(5), 6(5A) ac 11 o'r Ddeddf honno.
Mae asesiad effaith rheoleiddiol llawn o'r effaith a gaiff yr offeryn hwn ar gael oddi wrth y Gangen Polisi Pysgodfeydd, Llawr 1, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
1967 p. 84. Amnewidiwyd adran 5(1) gan Ddeddf Pysgodfeydd 1981 (p. 29), adran 22(1). Diwygiwyd adran 5(6) gan Ddeddf Pysgodfeydd 1981, adran 22(2). Diwygiwyd adran 6(1) gan O.S. 1999/1820, erthygl 4, Atodlen 2, Rhan I, paragraff 43(1), (6)(a). Mewnosodwyd adran 6(1A) gan Ddeddf Pysgodfeydd 1981, adran 23(2) ac fe'i diwygiwyd gan O.S. 1999/1820, erthygl 4, Atodlen 2, Rhan I, paragraff 43(1), (2)(b). Amnewidiwyd adran 15(3) gan Ddeddf Pysgodfeydd Môr 1968 (p. 77), adran 22(1), Atodlen 1, Rhan II ac fe'i diwygiwyd gan Ddeddf Terfynau Pysgodfeydd 1976 (p. 86) adran 9(1), Atodlen 2, paragraff 16(1) ac fe'i diwygiwyd ymhellach gan O.S. 1999/1820, erthygl 4, Atodlen 2, Rhan I, paragraff 43(1), (2)(b). Gweler adran 22(2) o Ddeddf 1967 am ddiffiniadau o "the Ministers" at ddibenion adrannau 5, 6 a 15(3) o'r Ddeddf honno; diwygiwyd adran 22(2) gan Ddeddf Pysgodfeydd 1981, adrannau 19(2)(d) a 45(a), (b) ac (c) a 46(2), Atodlen 5, Rhan II a chan O.S. 1999/1820, Erthygl 4, Atodlen 2, paragraff 43(1), (12) a Rhan IV a chan Ddeddf Cyfansoddiad Gogledd Iwerddon 1973, adran 40, Atodlen 5, paragraff 8(1). Back [1]
Yn rhinwedd erthygl 2(a) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) trosglwyddwyd y swyddogaethau sy'n arferadwy o dan adrannau 5, 6 a 15 o Ddeddf 1967 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (fel y'i cyfansoddwyd o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38)) i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru (gan weithredu ar y cyd â'r Ysgrifennydd Gwladol o ran adran 15(3)). Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny o Gynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi. Back [2]
OJ Rhif L358, 31.12.2002, t.59, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) 865/2007 (OJ Rhif L192, 24.07.2007, t.1). Mae Erthygl 10 yn caniatáu mesurau, sy'n gymwys i lestri sy'n cyhwfan baner eu haelod-wladwriaeth eu hun, ar gyfer rheolaeth a chadwraeth stociau, yn ddarostyngedig i amodau penodol. Back [3]
2006 p.32. Back [4]