BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"><HEAD><title lang="cy" xml:lang="cy">Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gogledd-ddwyrain Cymru (Diddymu) 2008 No. 1717 (Cy. 164)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2008/wsi_20081717_we_1.html

[New search] [Help]


 

Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gogledd-ddwyrain Cymru (Diddymu) 2008

Gwnaed

30 Mehefin 2008

Yn dod i rym

1 Gorffennaf 2008

Drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 204(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1) a pharagraff 28(1) o Atodlen 3 iddi, mae Gweinidogion Cymru, ar ôl cwblhau'r ymgynghoriad a ragnodwyd o dan baragraff 28(3) o Atodlen 3 i'r Ddeddf honno(2), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a chychwyn

1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gogledd-ddwyrain Cymru (Diddymu) 2008 a daw i rym ar 1 Gorffennaf 2008.

Diddymu Ymddiriedolaeth GIG

2. Diddymir drwy hyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gogledd-ddwyrain Cymru a sefydlwyd gan Orchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gogledd-ddwyrain Cymru (Sefydlu) 1998(3) ac, yn unol â hynny, dirymir y Gorchymyn hwnnw.

Edwina Hart

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

30 Mehefin 2008

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer diddymu Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gogledd Dwyrain Cymru ar 1 Gorffennaf 2008.

(1)

2006 p. 42. Back [1]

(2)

Rheoliadau Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ymgynghori ar Sefydlu a Diddymu) 1996, O.S. 1996/653, sy'n parhau i gael effaith yn rhinwedd paragraff 1(2) o Atodlen 2 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Darpariaethau Canlyniadol) 2006 p.43. Back [2]

(3)

O.S. 1998/3320. Back [3]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2008/wsi_20081717_we_1.html