BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"><HEAD><title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau Cyfrannau Cyllideb Ysgolion (Dibenion Rhagnodedig a Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2008 No. 1866 (Cy. 178)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2008/wsi_20081866_we_1.html

[New search] [Help]


 

Rheoliadau Cyfrannau Cyllideb Ysgolion (Dibenion Rhagnodedig a Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2008

Gwnaed

11 Gorffennaf 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

16 Gorffennaf 2008

Yn dod i rym

31 Awst 2008

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 47 a 50(3)(b) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfrannau Cyllideb Ysgolion (Dibenion Rhagnodedig a Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2008, a deuant i rym ar 31 Awst 2008.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

2. Mae'r dibenion a ganlyn wedi eu rhagnodi fel dibenion y caiff corff llywodraethu ysgol a gynhelir wario ei gyfran o'r gyllideb arnynt –

(a) darparu addysgu i blant a phobl ifanc nad ydynt yn ddisgyblion cofrestredig yn yr ysgol;

(b) darparu deunyddiau dysgu, adnoddau addysgol, trafnidiaeth, prydau a llety ar gyfer plant a phobl ifanc nad ydynt yn ddisgyblion cofrestredig yn yr ysgol; ac

(c) mewn perthynas yn unig ag ysgolion meithrin a gynhelir, unrhyw ddarpariaeth addysgol neu arall a wneir ar gyfer plant ar fangre'r ysgol (gan gynnwys unrhyw ddarpariaeth o'r fath a wneir gan y corff llywodraethu o dan adran 27 o Ddeddf Addysg 2002(3)), neu gymorth gweinyddol a ddarperir ar gyfer ysgolion meithrin eraill a gynhelir yn ardal yr un awdurdod addysg lleol.

3. Mae'r dibenion hyn wedi eu rhagnodi yn ddarostyngedig i'r amod bod y corff llywodraethu yn cyflwyno i'r awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol, erbyn 30 Gorffennaf bob blwyddyn, ddatganiad sy'n gosod manylion y ddarpariaeth a wnaed yn y flwyddyn ariannol flaenorol yn unol â'r Rheoliadau hyn, a'r gwariant ar y ddarpariaeth honno.

4. Mae Rheoliadau Cyfrannau Cyllideb Ysgolion (Cymru) 2004(4) yn cael eu diwygio drwy ychwanegu'r paragraff a ganlyn ar ôl paragraff 36 o'r Atodlen i'r Rheoliadau hynny–

"37. Y fath eitemau o wariant ag a ragnodir gan reoliad 2 o Rheoliadau Cyfrannau Cyllideb Ysgolion (Dibenion Rhagnodedig a Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2008.".

Jane E. Hutt

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

11 Gorffennaf 2008

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae adran 50(3)(a) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 yn caniatáu i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir wario ei gyfran o'r gyllideb ar unrhyw ddiben sydd gan yr ysgol. Mae'r Rheoliadau hyn yn gosod dibenion ychwanegol y dichon corff llywodraethu wario ei gyfran o'r gyllideb arnynt. Y dibenion hynny yw darparu addysgu a gwasanaethau ac eitemau cysylltiedig i blant a phobl ifanc nad ydynt yn ddisgyblion cofrestredig yn yr ysgol, ac mewn perthynas yn unig ag ysgolion meithrin a gynhelir, darpariaeth addysgol neu arall ar gyfer plant sydd ar fangre'r ysgol a chymorth gweinyddol i ysgolion meithrin eraill a gynhelir. Rhaid i'r corff llywodraethu adrodd yn flynyddol i'w awdurdod addysg lleol ar wariant o'r fath. Gall ysgol felly ddarparu gwasanaethau addysgol i blant a phobl ifanc nad ydynt yn ddisgyblion cofrestredig yn yr ysgol gan ddefnyddio ei chyfran ei hun o'r gyllideb yn hytrach na gorfod hawlio symiau yn ôl oddi wrth ysgolion eraill.

Mae Rheoliadau Cyfrannau Cyllideb Ysgolion (Cymru) 2004 hefyd yn cael eu diwygio er mwyn caniatáu i awdurdodau lleol gynnwys symiau yng nghyfrannau cyllideb ysgolion a gynhelir mewn perthynas â darpariaeth a wneir yn unol â'r rheoliadau hyn.

(1)

1998 p.31. Diwygiwyd adran 47 gan baragraff 6 o Atodlen 16 i Ddeddf Addysg 2005 (p.18). Back [1]

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672 ac yna i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Back [2]

(3)

2002 p.32. Back [3]

(4)

O.S. 2004/2506 (Cy.224), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2005/2913, O.S. 2005/3238. Back [4]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2008/wsi_20081866_we_1.html