BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"><HEAD><title lang="cy" xml:lang="cy">Gorchymyn Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (Amrywio Atodlen 5) (Cymru) 2008 No. 1927 (Cy. 183)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2008/wsi_20081927_we_1.html

[New search] [Help]


 

Gorchymyn Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (Amrywio Atodlen 5) (Cymru) 2008

Gwnaed

17 Gorffennaf 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

21 Gorffennaf 2008

Yn dod i rym

12 Awst 2008

Mae Gweinidogion Cymru–

(a) wedi cael sylwadaeth a gyflwynwyd iddynt gan gyrff cadwraeth Prydain Fawr yn gweithredu drwy'r Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur yn unol â Rhan 2 o Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006(1);

(b) yn unol ag adran 26(4)(a) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981(2), wedi rhoi i unrhyw awdurdod lleol yr effeithir arno ac unrhyw berson arall yr effeithir arno gyfle i gyflwyno gwrthwynebiadau neu sylwadaeth mewn cysylltiad â phwnc y Gorchymyn hwn; ac

(c) o'r farn bod yr anifeiliaid y cyfeirir atynt yn Erthyglau 2(a), (b), (c), (ch) a (d) o'r Gorchymyn hwn mewn perygl o ddarfod ym Mhrydain Fawr neu'n debygol o gael eu rhoi mewn perygl o'r fath oni chymerir mesurau ar gyfer eu cadwraeth.

Drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 22(3) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981(3), ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(4), mae Gweinidogion Cymru'n gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cychwyn, rhychwantu a chymhwyso

1.–(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (Amrywio Atodlen 5) (Cymru) 2008.

(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 12 Awst 2008.

(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn rhychwantu Cymru a Lloegr.

(4) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru(5).

Amrywio Atodlen 5

2. Yn Atodlen 5 i Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981(6) (anifeiliaid sy'n cael eu gwarchod)–

(a) yn y cofnod ynghylch "Seahorse, Short Snouted", ar ôl "England", mewnosoder "and Wales";

(b) yn y cofnod ynghylch "Seahorse, Spiny", ar ôl "England", mewnosoder "and Wales";

(c) yn y cofnod ynghylch "Shark, Angel", ar ôl "England", mewnosoder "and Wales";

(ch) yn y cofnod ynghylch "Snail, Roman", ar ôl "England", mewnosoder "and Wales";

(d) yn y cofnod ynghylch "Vole, Water", hepgorer "(in so far as this entry has effect with respect to Wales, in respect of section 9(4)(a) only)"; ac

(dd) yn Nodyn 2 ar ddiwedd yr Atodlen, ar ôl "In this Schedule "excluded waters" means the part of the territorial waters adjacent to England", mewnosoder "and Wales".

Jane Davidson

Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru

17 Gorffennaf 2008

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn amrywio Atodlen 5 i Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, sy'n rhestru'r anifeiliaid sy'n cael eu gwarchod o dan adran 9 o'r Ddeddf honno.

Mae erthyglau 2(a), (b), (c) ac (ch) yn ychwanegu pedwar anifail at Atodlen 5 fel y mae'n gymwys yng Nghymru. Rhoddir dwy amrywogaeth o forfeirch (y morfarch trwyn cwta a'r morfarch pigog) o dan warchodaeth gyffredinol o dan adran 9. Rhoddir y maelgi a'r falwen Rufeinig o dan warchodaeth gyfyngedig. Nid yw'r warchodaeth a roddir i'r maelgi yn gymwys i'r dyfroedd tiriogaethol hynny sydd rhwng 6 a 12 milltir morol o waelodlinau. Mae erthygl 2(d) yn rhoi'r llygoden ddŵr o dan warchodaeth gyffredinol yn lle'r warchodaeth gyfyngedig y rhoddwyd hi odani gynt.

Paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol ac mae copïau ar gael gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

(1)

2006 p.16. I gael y diffiniad o "the GB Conservation bodies" gweler adran 27(3A) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (p.69), a fewnosodwyd gan adran 105(1) o Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006 (p.16), a pharagraff 76(1) a (4) o Atodlen 11 iddi. Back [1]

(2)

1981 p.69. Back [2]

(3)

Diwygiwyd adran 22(3) gan adrannau 132 a 133 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (p.43), a pharagraff 11(1) a (5) o Atodlen 9 iddi, ac fe'i diwygiwyd ar ôl hynny gan adran 105(1) o Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006 (p.16), a pharagraffau 74(1) a (2) o Atodlen 11 iddi. Back [3]

(4)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 22(3) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 ac Atodlen 1 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny wedyn i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Back [4]

(5)

Yn rhinwedd adran 27(5) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (p.69), mae "Cymru" yn cynnwys y dyfroedd tiriogaethol sy'n gyfagos â Chymru. Back [5]

(6)

Mae Atodlen 5 wedi'i hamrywio (mewn perthynas â Chymru a Lloegr) gan O.S. 1988/288, 1989/906, 1991/367, 1992/2350, 1998/878, 2007/1843 a 2008/431. Back [6]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2008/wsi_20081927_we_1.html