BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"><HEAD><title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Cymru) 2008 No. 2364 (Cy. 203)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2008/wsi_20082364_we_1.html

[New search] [Help]


 

Rheoliadau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Cymru) 2008

Gwnaed

4 Medi 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

8 Medi 2008

Yn dod i rym

1 Hydref 2008

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 124 a 203 (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Cymru) 2008 sy'n dod i rym ar 1 Hydref 2008.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "y prif Reoliadau" ("the principal Regulations") yw Rheoliadau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) 1989(2).

Diwygio rheoliad 4 o'r Prif Reoliadau

2. Yn rheoliad 4 o'r prif Reoliadau (ymwelwyr tramor sy'n esempt rhag ffioedd)–

(a) ym mharagraff (1), ar ôl is-baragraff (p) mewnosoder–

Edwina Hart

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

4 Medi 2008

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) 1989 ("y prif Reoliadau"). Mae'r prif Reoliadau yn darparu ar gyfer codi ac adennill ffioedd mewn cysylltiad â gwasanaethau penodol a ddarperir o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 i bersonau penodol nad ydynt fel arfer yn preswylio yn y Deyrnas Unedig (ymwelwyr tramor).

Mae Rheoliad 2 yn diwygio rheoliad 4(1) o'r prif Reoliadau i fodloni rhwymedigaethau'r Deyrnas Unedig o ran triniaeth feddygol o dan Gonfensiwn Cyngor Ewrop ar Weithredu yn erbyn Masnachu mewn Pobl.

Effaith hyn yw estyn yr esemptiad rhag ffioedd i ymwelwyr tramor a nodir yn rheoliad 4 o'r prif Reoliadau i ddau ddosbarth o bobl. Yn gyntaf, i ymwelwyr tramor y mae gan y Deyrnas Unedig sail resymol i gredu eu bod yn ddioddefwyr o fewn ystyr Erthygl 4 o'r Confensiwn Cyngor Ewrop ar Weithredu yn erbyn Masnachu mewn Pobl (mae'r esemptiad yn gyfyngedig i'r cyfnod gwella ac ystyried a gydnabyddir yn Erthygl 13 o'r Confensiwn). Ac yn ail, y rhai a adnabuwyd fel dioddefwyr.

(1)

2006 p.42. Back [1]

(2)

1989/306 (fel y'i diwygiwyd). Back [2]

(3)

Confensiwn Cyngor Ewrop ar Weithredu yn erbyn Masnachu mewn Pobl 2005 (CETS Rhif 197). Back [3]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2008/wsi_20082364_we_1.html