BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"><HEAD><title lang="cy" xml:lang="cy">Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gogledd Cymru (Trosglwyddo Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau) 2008 No. 2443 (Cy. 215)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2008/wsi_20082443_we_1.html

[New search] [Help]


 

Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gogledd Cymru (Trosglwyddo Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau) 2008

Gwnaed

15 Medi 2008

Yn dod i rym

16 Medi 2008

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 203(9) a (10) a pharagraff 9(1) o Atodlen 3 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn hwn.

Enwi, cychwyn a dehongli

1.–(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gogledd Cymru (Trosglwyddo Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau) 2008 a daw i rym ar 16 Medi 2008.

(2) Yn y Gorchymyn hwn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall;

ystyr "y dyddiad trosglwyddo" ("the transfer date") yw 16 Medi 2008.

Trosglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau

2. Ar y dyddiad trosglwyddo trosglwyddir yr eiddo o'r enw Ysbyty Abergele (Rhif Cofrestrfa'r Tir CYM 324611) a phob hawl a rhwymedigaeth sydd ynghlwm wrth yr eiddo hwnnw o Weinidogion Cymru i Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gogledd Cymru.(2).

Edwina Hart

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

15 Medi 2008

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer trosglwyddo eiddo o'r enw Ysbyty Abergele oddi wrth Weinidogion Cymru i Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gogledd Cymru o 16 Medi 2008 ymlaen.

(1)

2006 p. 42. Back [1]

(2)

O.S. 2008/ 1648 (Cy. 160). Back [2]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2008/wsi_20082443_we_1.html