BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"><HEAD><title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau Datgymhwyso rhag Gofalu am Blant (Cymru) (Diwygio) 2008 No. 2691 (Cy. 239)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2008/wsi_20082691_we_1.html

[New search] [Help]


 

Rheoliadau Datgymhwyso rhag Gofalu am Blant (Cymru) (Diwygio) 2008

Gwnaed

8 Hydref 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

10 Hydref 2008

Yn dod i rym

3 Tachwedd 2008

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 68(1) a (2), 79C (2) a (3), 79M (1)(c) a 104(4) o Ddeddf Plant 1989 a pharagraff 4 o Atodlen 9A iddi(1).

Enwi a chychwyn

1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Datgymhwyso rhag Gofalu am Blant (Cymru) (Diwygio) 2008 a deuant i rym ar 3 Tachwedd 2008.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Datgymhwyso rhag Gofalu am Blant (Cymru) 2004

2.–(1) Diwygir Rheoliadau Datgymhwyso rhag Gofalu am Blant (Cymru) 2004(2) yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.

(2) Yn rheoliad 3 (dehongli)–

(a) hepgorer y diffiniad o "Tribiwnlys"

(b) mewnosoder y diffiniad a ganlyn yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor –

(3) Yn Atodlen 1, Rhan 1, paragraffau 1 a 2 yn lle "Tribiwnlys", ym mhob man, rhodder "Tribiwnlys Haen Gyntaf".

Jane Hutt

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

8 Hydref 2008

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Datgymhwyso rhag Gofalu am Blant (Cymru) 2004 ("Rheoliadau 2004").

Mae Rheoliadau 2004 yn gwneud darpariaeth ar gyfer yr amgylchiadau pan fo person wedi'i ddatghymwyso rhag maethu plentyn yn breifat ac yn gosod categorïau o bersonau sydd wedi'u datghymwyso rhag cofrestru yng Nghymru fel gwarchodwyr plant neu ddarparwyr gofal dydd. Mae'r categorïau o bersonau sydd wedi'u datghymwyso fel hyn o dan Reoliadau 2004 yn cynnwys person a ddyfarnwyd yn euog o dramgwyddau a bennir yn yr Atodlen i Reoliadau 2004 ac eithrio pan fo'r person hwnnw wedi apelio yn erbyn ei orchymyn datgymhwyso a bod y corff yr apelir iddo wedi penderfynu nad yw'r person hwnnw i fod yn ddarostyngedig mwyach i'r gorchymyn datgymhwyso. O dan Reoliadau 2004 gwnaed apelau yn erbyn gorchmynion datgymhwyso i'r Tribiwnlys a sefydlwyd gan adran 9 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999 ("y Tribiwnlys").

Yn unol â Deddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodi 2007 trosglwyddwyd swyddogaethau presennol y Tribiwnlys i'r Tribiwnlys Haen Gyntaf ac mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2004 yn unol â hynny. Maent yn darparu y bydd unrhyw gyfeiriad at "y Tribiwnlys" yn Rheoliadau 2004 yn cael ei ddisodli gan gyfeiriad at y Tribiwnlys Haen Gyntaf ac mae'n mewnosod diffiniad o'r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn erthygl 3 o Reoliadau 2004.

(1)

1989 p.14. Cafodd swyddogaethau o dan adrannau 68(1) a (2), i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) a'u trosglwyddo wedi i Weinidogion Cymru drwy weithrediad paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adrannau 79C(2) a (3), 79M(1)(c) a 104(4) a pharagraff 4 o Atodlen 9A i Weinidogion Cymru drwy weithrediad paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Back [1]

(2)

O.S. 2004/2695 (Cy.235). Back [2]

(3)

2007 p.15. Back [3]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2008/wsi_20082691_we_1.html