BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"><HEAD><title lang="cy" xml:lang="cy">Gorchymyn Cefnffordd Caerdydd i Lan Conwy (yr A470) (Gwelliant Penloyn i Dan Lan) 2008 No. 2701 (Cy. 241)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2008/wsi_20082701_we_1.html

[New search] [Help]


 

Gorchymyn Cefnffordd Caerdydd i Lan Conwy (yr A470) (Gwelliant Penloyn i Dan Lan) 2008

Wedi'i wneud

10 Hydref 2008

Yn dod i rym

30 Hydref 2008

Mae Gweinidogion Cymru, wrth arfer pwerau a roddir gan adran 10 o Ddeddf Priffyrdd 1980(1) a phob pwer galluogi arall(2), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

1. Daw'r priffyrdd newydd y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu eu hadeiladu ar hyd y llwybrau a ddisgrifir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn yn gefnffyrdd o'r dyddiad y daw'r Gorchymyn hwn i rym.

2. Mae llinellau canol y cefnffyrdd newydd yn cael eu dangos gan linellau duon trymion ar y plan a adneuwyd.

3. Bydd y darn o gefnffordd a ddisgrifir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn, ac a ddangosir â llinellau lletraws â stribedi bras ar y map a adneuwyd yn peidio â bod yn gefnffordd ac yn dod yn ffordd ddiddosbarth o'r dyddiad y bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn hysbysu Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy fod y cefnffyrdd newydd wedi'u hagor ar gyfer traffig trwodd.

4. Yn y Gorchymyn hwn:

5. Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 30 Hydref 2008 a'i enw yw "Gorchymyn Cefnffordd Caerdydd i Lan Conwy (yr A470) (Gwelliant Penloyn i Dan Lan) 2008"

Llofnodwyd o dan awdurdod y Gweinidog dros Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru.

S C Shouler

Cyfarwyddwr Cynllunio a Gweinyddu Trafnidiaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

10 Hydref 2008

ATODLEN 1 LLWYBRU'R CEFNFFYRDD NEWYDD

Dyma lwybrau'r cefnffyrdd newydd, sy'n llwybrau i'r gogledd o Lanrwst rhwng Penloyn a Than Lan ym Mwrdeistref Sirol Conwy:–

(1) llwybr oddeutu 0.14 cilometr o hyd, yn cychwyn wrth bwynt 390 o fetrau i'r de o ganol y gyffordd rhwng cefnffordd bresennol yr A470 a'r ffordd ddiddosbarth i Landdoged yn Nhan Lan (a ddangosir â'r llythyren A ar y plan a adneuwyd) ac yn ymestyn i gyfeiriad y gogledd at bwynt 250 o fetrau i'r de o ganol y gyffordd rhwng cefnffordd bresennol yr A470 a'r ffordd ddiddosbarth i Landdoged yn Nhan Lan (a ddangosir â'r llythyren B ar y plan a adneuwyd).

(2) llwybr oddeutu 0.79 cilometr o hyd, yn cychwyn wrth bwynt 110 o fetrau i'r de o ganol y gyffordd rhwng cefnffordd bresennol yr A470 a'r ffordd ddiddosbarth i Landdoged yn Nhan Lan (a ddangosir â'r llythyren C ar y plan a adneuwyd) ac yn ymestyn i gyfeiriad y gogledd at bwynt 680 o fetrau i'r gogledd o ganol y gyffordd rhwng cefnffordd bresennol yr A470 a'r ffordd ddiddosbarth i Landdoged yn Nhan Lan (a ddangosir â'r llythyren D ar y plan a adneuwyd).

ATODLEN 2 Y DARN O GEFNFFORDD SY'N PEIDIO Å BOD YN GEFNFFORDD

Y darn o gefnffordd sy'n peidio â bod yn gefnffordd yw'r darn hwnnw o gefnffordd yr A470 ym Mwrdeistref Sirol Conwy sydd oddeutu 0.79 cilometr o hyd ac sydd rhwng pwynt 110 o fetrau i'r de o ganol y gyffordd rhwng cefnffordd bresennol yr A470 a'r ffordd ddiddosbarth i Landdoged yn Nhan Lan (a ddangosir â'r llythrennau CC ar y plan a adneuwyd) ac yn ymestyn i gyfeiriad y gogledd at bwynt 680 o fetrau i'r gogledd o ganol y gyffordd rhwng cefnffordd bresennol yr A470 a'r ffordd ddiddosbarth i Landdoged yn Nhan Lan (a ddangosir â'r llythrennau DD ar y plan a adneuwyd).

(1)

1980 p.66. Back [1]

(2)

Yn rhinwedd O. S. 1999/672 erthygl 2 ac Atodlen 1, a pharagraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae'r pwerau hyn wedi'u trosglwyddo bellach i Weinidogion Cymru o ran Cymru. Back [2]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2008/wsi_20082701_we_1.html