BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"><HEAD><title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2008 No. 2838 (Cy. 252)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2008/wsi_20082838_we_1.html

[New search] [Help]


 

Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2008

Gwnaed

28 Hydref 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

31 Hydref 2008

Yn dod i rym

31 Rhagfyr 2008

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 60, 140(4) a 143(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 a pharagraffau 4 a 6 o Atodlen 8 iddi(1).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2008 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2008.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992

2.–(1) Diwygir Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992(2) fel a ganlyn parthed blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2008.

(2) Yn lle atodlen 4, rhoddir yr atodlen a osodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

Brian Gibbons

Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

28 Hydref 2008

Rheoliad 2

YR ATODLEN

"SCHEDULE 4

ADULT POPULATION FIGURES"

Billing authority area Prescribed figure
Blaenau Gwent 54,000
Bridgend 104,800
Caerphilly 132,600
Carmarthenshire 141,700
Cardiff 253,600
Ceredigion 64,000
Conwy 89,200
Denbighshire 76,800
Flintshire 117,800
Gwynedd 94,000
Isle of Anglesey 54,700
Merthyr Tydfil 43,100
Monmouthshire 69,100
Neath Port Talbot 108,400
Newport 107,400
Pembrokeshire 92,200
Powys 104,600
Rhondda Cynon Taf 182,400
Swansea 182,200
Torfaen 70,800
Vale of Glamorgan (The) 95,900
Wrexham 103,700

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn diwygio Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992 ("Rheoliadau 1992").

O dan Ran II o Atodlen 8 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 mae'n ofynnol i awdurdodau bilio (yng Nghymru, cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol) dalu symiau (a elwir yn gyfraniadau ardrethu annomestig) i Weinidogion Cymru. Mae Rheoliadau 1992 yn cynnwys rheolau ar gyfer cyfrifo'r cyfraniadau hynny ar gyfer awdurdodau bilio Cymru.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1992 drwy roi Atodlen 4 newydd yn lle'r un bresennol (Ffigurau Poblogaeth Oedolion).

(1)

1988 p.41. Cafodd y pwerau hyn eu datganoli, o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), gweler y cyfeiriad at Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 yn Atodlen 1. Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi, mae'r swyddogaethau hynny'n arferadwy gan Weinidogion Cymru. Back [1]

(2)

O.S. 1992/3238, a ddiwygiwyd gan O.S. 1993/1505, 1993/3077, 1994/547, 1994/1742, 1994/3125, 1995/3235, 1996/619, 1996/3018, 1997/3003, 1998/2962, 1999/3439 (W.47), 2000/3382 (W.220), 2001/3910 (W.322), 2002/3054 (W.289), 2003/321 (W.304), 2004/3232 (W.280), 2005/3345 (W.259), 2006/3347 (W.307) a 2007/3343 (W.295). Back [2]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2008/wsi_20082838_we_1.html