BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2008 No. 3100 (Cy. 274)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2008/wsi_20083100_we_1.html

[New search] [Help]


 

Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2008

Gwnaed

3 Rhagfyr 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

4 Rhagfyr 2008

Yn dod i rym

31 Rhagfyr 2008

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 20(6) a 63(1) o Ddeddf Aer Glân 1993(1), ac a freiniwyd bellach yng Ngweinidogion Cymru(2) drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2008 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2008.

(2) Mae'r rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Tanwyddau awdurdodedig at ddibenion Rhan III o Ddeddf Aer Glân 1993

2. Datgenir bod glo caled, glo lled-galed, trydan, nwy, gloeau stêm isel eu hanweddolrwydd a'r tanwyddau a ddisgrifir yn yr Atodlen yn danwyddau awdurdodedig at ddibenion Rhan III o Ddeddf Aer Glân 1993.

Dirymiadau ac arbedion

3.–(1) Dirymir Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2006(3).

(2) Bydd unrhyw danwydd a weithgynhyrchwyd cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, ac a oedd yn danwydd awdurdodedig adeg ei weithgynhyrchu, yn parhau i fod yn danwydd awdurdodedig er bod Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2006 wedi'u dirymu.

Jane Davidson

Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru

3 Rhagfyr 2008

Rheoliad 2

YR ATODLEN TANWYDDAU AWDURDODEDIG

1. Brics glo Aimcor Excel, a weithgynhyrchir gan Applied Industrial Materials UK Limited yn Newfield, County Durham, neu a weithgynhyrchir gan Oxbow Carbon & Minerals UK Limited yn Windsor House, Cornwall Road, Harrogate, North Yorkshire–

(a) sy'n cynnwys golosg petrolewm (sef rhyw 60 i 75 y cant o'r cyfanswm pwysau), glo isel ei anweddolrwydd a golosg adweithiol (sef rhyw 20 i 25 y cant o'r cyfanswm pwysau) a rhwymwr resin sy'n caledu pan fo'n oer (sef gweddill y pwysau);

(b) a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu;

(c) sy'n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd, yn pwyso 73 gram ar gyfartaledd; ac

(ch) nad ydynt yn cynnwys mwy na 2 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

2. Brics glo Aimcor Pureheat a weithgynhyrchir gan Applied Industrial Materials UK Limited yn Immingham, North East Lincolnshire, neu a weithgynhyrchir gan Oxbow Carbon & Minerals UK Limited yn Windsor House, Cornwall Road, Harrogate, North Yorkshire –

(a) sy'n cynnwys glo caled (sef rhyw 60 y cant o'r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef rhyw 25 y cant o'r cyfanswm pwysau) a rhwymwr (sef gweddill y pwysau);

(b) a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 250°C;

(c) sy'n frics glo ar siâp gobennydd gydag un llinell wedi'i hindentio ar un ochr a dwy linell wedi'u hindentio ar yr ochr arall ac sy'n pwyso 75 gram ar gyfartaledd; ac

(ch) nad ydynt yn cynnwys mwy na 2 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

3. Brics glo Ancit, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire–

(a) sy'n cynnwys glo caled (sef rhyw 60 i 95 y cant o'r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef rhyw 30 y cant o'r cyfanswm pwysau), glo meddal (sef rhyw 15 y cant o'r cyfanswm pwysau) a rhwymwr triagl ac asid ffosfforig neu rwymwr organig (sef gweddill y pwysau);

(b) a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 300°C;

(c) sy'n frics glo heb eu marcio ar siâp clustog sy'n pwyso 48 gram ar gyfartaledd; ac

(ch) nad ydynt yn cynnwys mwy na 2 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

4. Big K Lighting Fire Logs, a weithgynhyrchir gan Allspan BV yn Macroweg 4, 5804 CL Venray, Yr Iseldiroedd–

(a) sy'n cynnwys cwyr hydrin (sef rhyw 58 i 59 y cant o'r cyfanswm pwysau), a blawd llif pren caled (sef gweddill y pwysau);

(b) a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses triniaeth wres ac allwthio;

(c) sy'n foncyffion tân, rhyw 235 milimetr eu hyd a 80 milimetr eu dyfnder, gyda rhigolau ar hyd yr wynebau, ac sy'n pwyso 1.1 cilogram ar gyfartaledd; ac

(ch) nad ydynt yn cynnwys mwy na 0.1 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

5. Brics glo Black Diamond Gem, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire–

(a) sy'n cynnwys llwch glo caled (sef rhyw 20 i 30 y cant o'r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef rhyw 40 i 45 y cant o'r cyfanswm pwysau), glo meddal (sef rhyw 12 i 22 y cant o'r cyfanswm pwysau) a rhwymwr triagl ac asid ffosfforig (sef gweddill y pwysau);

(b) a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 300°C;

(c) sy'n frics glo ar siâp gobennydd wedi'u marcio â dwy linell gyfochrog sydd wedi'u hindentio ac yn rhedeg yn lledredol o amgylch y fricsen ac sy'n pwyso 160 gram ar gyfartaledd; ac

(ch) nad ydynt yn cynnwys mwy na 1.5 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

6. Bord na Móna Firelogs, a weithgynhyrchir gan Bord na Móna Fuels Limited, Newbridge, County Kildare, Gweriniaeth Iwerddon–

(a) sy'n cynnwys cwyr hydrin (sef rhyw 55 y cant o'r cyfanswm pwysau) a blawd llif pren caled (sef gweddill y pwysau);

(b) a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses triniaeth wres ac allwthio;

(c) sy'n foncyffion tân, rhyw 255 milimetr eu hyd a 75 milimetr eu diamedr, a chyda rhigolau ar hyd un wyneb hydredol, yn pwyso 1.3 cilogram (net) ar gyfartaledd; ac

(ch) nad ydynt yn cynnwys mwy na 0.1 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

7. Brics glo Bord na Móna Firepak (sy'n cael eu marchnata hefyd fel brics glo Arigna Special) a weithgynhyrchir gan Bord na Móna Fuels Limited, Newbridge, County Kildare, Gweriniaeth Iwerddon–

(a) sy'n cynnwys glo caled (sef rhyw 50 y cant o'r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef rhyw 20 i 40 y cant o'r cyfanswm pwysau), glo meddal (sef rhyw 10 i 30 y cant o'r cyfanswm pwysau) a rhwymwr sydd wedi'i seilio ar starts (sef gweddill y pwysau);

(b) a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres;

(c) sy'n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd, yn pwyso 50 gram ar gyfartaledd; ac

(ch) nad ydynt yn cynnwys mwy nag 1.5 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

8. Brics glo Briteflame, a weithgynhyrchir gan Maxibrite Limited ar Ystad Ddiwydiannol Mwyndy, Llantrisant, Rhondda Cynon Taf–

(a) sy'n cynnwys glo meddal (sef rhyw 10 i 15 y cant o'r pwysau cyfan), golosg petrolewm (sef rhyw 10 i 15 y cant o'r pwysau cyfan), llwch glo caled (sef rhyw 70 i 80 y cant o'r pwysau cyfan) a rhwymwr starts (sef gweddill y pwysau);

(b) a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 260°C;

(c) sy'n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd, yn pwyso 140 gram ar gyfartaledd; ac

(ch) nad ydynt yn cynnwys mwy nag 1.9 y cant o sylffwr pan fyddant yn sych.

9. Bryant and May Firelogs a weithgynhyrchir gan Swedish Match yn Kostenetz, Bwlgaria–

(a) sy'n cynnwys cwyr paraffin (sef rhyw 50 y cant o'r cyfanswm pwysau), pren poplys mâl (sef rhyw 25 y cant o'r cyfanswm pwysau), blawd gwenith (sef rhyw 15 y cant o'r cyfanswm pwysau), solidau cyneuadwy ar wasgar mewn cwyr paraffin ar ffurf jel (sef rhyw 1 y cant o'r cyfanswm pwysau) a dwr, cyfryngau chwyddo a chadwolyn (sef gweddill y pwysau);

(b) a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys eu hallwthio;

(c) y mae iddynt drawstoriadau cwadrant o ryw 80 milimetr o radiws, ac sy'n rhyw 265 milimetr o hyd gyda stribyn cynnau ar hyd un ymyl, ac sy'n pwyso rhyw 1.15 cilogram; ac

(ch) nad ydynt yn cynnwys mwy nag 0.1 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

10. Brics glo Charglow, a weithgynhyrchir gan Polchar Spolka z organiczona odpowiedzialnoscia, Police, Zachodniopomorskie, Gwlad Pwyl–

(a) sy'n cynnwys golosg glo meddal (sef rhyw 45 i 95 y cant o'r cyfanswm pwysau), glo caled (sef rhyw 0 i 20 y cant o'r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef rhyw 0 i 20 y cant o'r cyfanswm pwysau), glo meddal (sef rhyw 0 i 10 y cant o'r cyfanswm pwysau) a rhwymwr organig (sef gweddill y pwysau);

(b) a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 110°C;

(c) sy'n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd, yn pwyso 100 gram ar gyfartaledd; ac

(ch) nad ydynt yn cynnwys mwy na 1.5 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

11. Coalite a weithgynhyrchir gan Coalite Products Limited yn Bolsover, ger Chesterfield, Derbyshire ac yn Grimethorpe, South Yorkshire drwy ddefnyddio proses carboneiddio tymheredd isel.

12. Golosg a weithgynhyrchir gan–

(a) Coal Products Limited yn Cwm Coking Works, Llanilltud Faerdref, Pontypridd, Rhondda Cynon Taf, a'i werthu fel "Sunbrite";

(b) Monckton Coke & Chemical Company Limited yn Royston, ger Barnsley, South Yorkshire a'i werthu fel "Sunbrite" neu "Monckton Boiler Beans";

(c) Corus UK Limited yn Teesside Works, Redcar & Cleveland a'i werthu fel "Redcar Coke Nuts (Doubles)"; ac

(ch) Coal Products Limited yn Cwm Coking Works, Llanilltud Faerdref, Pontypridd, Rhondda Cynon Taf a'i werthu fel "Cwm Coke Doubles".

13. Cosycoke (sy'n cael ei farchnata hefyd fel Lionheart Crusader neu Sunbrite Plus) a weithgynhyrchir gan Monckton Coke & Chemical Company Limited yn Royston, ger Barnsley, South Yorkshire ac Aimcor Supercoke (sydd hefyd yn cael ei farchnata fel Supercoke), a weithgynhyrchir gan M & G Fuels Limited yn Hartlepool Docks, Hartlepool, sydd ym mhob achos–

(a) yn cynnwys golosg caled o faint penodol (sef rhyw 45 i 65 y cant o'r cyfanswm pwysau) a golosg petrolewm o faint penodol (sef gweddill y pwysau);

(b) wedi'i weithgynhyrchu o'r cyfansoddion hynny drwy eu cyfuno;

(c) sy'n hapsiapiau heb eu marcio; ac

(ch) nad ydynt yn cynnwys mwy na 2 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

14. Brics glo Dragonbrite, a weithgynhyrchir gan Tower Colliery Limited yn Aberdâr, Rhondda Cynon Taf–

(a) sy'n cynnwys llwch y twr (sef rhyw 95 y cant o gyfanswm y pwysau) a rhwymwr wedi ei seilio ar resin (sef gweddill y pwysau);

(b) a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a chaledu oer;

(c) sy'n frics glo ar siâp gobennydd, wedi eu marcio â'r llythyren "T" ar un ochr ac sy'n pwyso 50 gram ar gyfartaledd; ac

(ch) nad ydynt yn cynnwys mwy nag 1 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

15. Brics glo Dragonbrite, a weithgynhyrchir gan Tower Colliery Limited yn Aberdâr, Rhondda Cynon Taf–

(a) sy'n cynnwys llwch y twr (sef rhyw 95 y cant o gyfanswm y pwysau) a rhwymwr wedi ei seilio ar resin (sef gweddill y pwysau);

(b) a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a chaledu oer;

(c) sy'n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd, yn pwyso 100 gram ar gyfartaledd; ac

(ch) nad ydynt yn cynnwys mwy nag 1 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

16. Duraflame Firelogs, a weithgynhyrchir gan Paramelt B.V., Costerstraat 18, PO Box 86, 1700 AB Heerhugowaard, Yr Iseldiroedd–

(a) sy'n cynnwys cwyr petrolewm sydd wedi'i seilio ar fwynau (sef rhyw 55 y cant o'r cyfanswm pwysau) a ffibr pren caled mâl (sef rhyw 45 y cant o'r cyfanswm pwysau);

(b) a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses triniaeth wres ac allwthio;

(c) sy'n foncyffion tân rhyw 320 milimetr eu hyd, 90 milimetr eu huchder ac 85 milimetr eu lled, yn pwyso 1.45 cilogram ar gyfartaledd, ac

(ch) nad ydynt yn cynnwys mwy nag 0.1 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

17. Brics glo Ecoal, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire–

(a) sy'n cynnwys gronynnau glo caled (sef rhyw 40 i 65 y cant o'r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef rhyw 20 i 40 y cant o'r cyfanswm pwysau), cols (sef rhyw 0 i 10 y cant o'r cyfanswm pwysau), glo meddal (sef rhyw 0 i 20 y cant o'r cyfanswm pwysau), biomas (sef rhyw 5 i 20 y cant o'r cyfanswm pwysau) a rhwymwr triagl ac asid ffosfforig (sef gweddill y pwysau);

(b) a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu;

(c) sy'n frics glo chweochrog heb eu marcio ac sy'n pwyso 125 gram ar gyfartaledd; ac

(ch) nad ydynt yn cynnwys mwy na 2 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

18. Brics glo Ecobrite, a weithgynhyrchir gan Arigna Fuels Limited yn Arigna, Carrick-on-Shannon, County Roscommon, Gweriniaeth Iwerddon–

(a) sy'n cynnwys gronynnau glo caled (sef rhyw 96 y cant o'r cyfanswm pwysau) a starts yn rhwymwr (sef gweddill y pwysau);

(b) a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 250°C;

(c) sy'n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd mewn dau faint sydd, ar gyfartaledd, yn pwyso 37 gram ar gyfartaledd yn achos y maint lleiaf a 48 gram yn achos y maint mwyaf; ac

(ch) nad ydynt yn cynnwys mwy nag 1.5 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

19. Brics glo Extracite, a weithgynhyrchir gan Sophia-Jacoba Handelsgesellschaft GmbH yn Hückelhoven, Yr Almaen–

(a) sy'n cynnwys llwch glo caled (sef rhyw 95.5 y cant o'r cyfanswm pwysau) a lleisw amoniwm lignosylffonad yn rhwymwr (sef gweddill y pwysau);

(b) a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 260°C;

(c) sy'n frics glo ariannaidd ar siâp clustog a'r llythrennau "S" a "J" wedi'u marcio arnynt ac sy'n pwyso 40 gram ar gyfartaledd; ac

(ch) sy'n cynnwys rhyw 1.2 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

20. Brics glo Fireglo, a weithgynhyrchir gan Les Combustibles de Normandie yn Caen, Ffrainc, a chan La Société Rouennaise de Défumage yn Rouen, Ffrainc–

(a) sy'n cynnwys llychau Cymreig wedi'u golchi (sef rhyw 92 y cant o'r cyfanswm pwysau) a rhwymwr pyg glo (sef gweddill y pwysau);

(b) a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 330°C;

(c) sy'n ofoidau â thair llinell ar un ochr a'r ochr arall yn llyfn ac sy'n pwyso 30 gram ar gyfartaledd; ac

(ch) nad ydynt yn cynnwys mwy na 0.8 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

21. Brics glo Homefire, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire–

(a) sy'n cynnwys gronynnau glo caled (sef rhyw 40 i 70 y cant o'r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef rhyw 20 i 45 y cant o'r cyfanswm pwysau), cols (sef rhyw 0 i 10 y cant o'r cyfanswm pwysau), glo meddal (sef rhyw 5 i 30 y cant o'r cyfanswm pwysau) a rhwymwr organig neu rwymwr triagl ac asid ffosfforig (sef gweddill y pwysau);

(b) a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu;

(c) sydd, fel brics glo gorffenedig, yn cynnwys nid llai na 9 y cant ac nid mwy na 15 y cant o fater anweddol o'r cyfanswm pwysau pan fyddant yn sych;

(ch) sy'n frics glo chweochrog heb eu marcio ac sy'n pwyso 140 gram ar gyfartaledd; ac

(d) nad ydynt yn cynnwys mwy na 2 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

22. Homefire Ovals, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire–

(a) sy'n cynnwys llwch glo caled (sef rhyw 57 y cant o'r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef rhyw 17 y cant o'r cyfanswm pwysau), glo meddal (sef rhyw 13 y cant o'r cyfanswm pwysau) a rhwymwr triagl ac asid ffosfforig (sef gweddill y pwysau);

(b) a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 300°C;

(c) sy'n frics glo ar siâp gobennydd wedi'u marcio â dwy linell gyfochrog sydd wedi'u hindentio ac yn rhedeg yn lledredol o amgylch y fricsen ac sy'n pwyso 135 gram ar gyfartaledd; ac

(ch) nad ydynt yn cynnwys mwy na 2 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

23. Homefire Ovals (R), a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire–

(a) sy'n cynnwys gronynnau glo caled (sef rhyw 50 i 75 y cant o'r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef rhyw 20 i 45 y cant o'r cyfanswm pwysau), glo meddal (sef rhyw 5 i 17 y cant o'r cyfanswm pwysau) a rhwymwr organig (sef gweddill y pwysau);

(b) a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu;

(c) sy'n frics glo ar siâp gobennydd wedi'u marcio â dwy linell gyfochrog sydd wedi'u hindentio ac yn rhedeg yn lledredol o amgylch y fricsen ac sy'n pwyso 130 gram ar gyfartaledd; ac

(ch) nad ydynt yn cynnwys mwy na 2 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

24. Island Lump ac Island Nuts, a weithgynhyrchir gan Unocal Refinery, California, Unol Daleithiau America–

(a) sy'n cynnwys golosg petrolewm;

(b) a weithgynhyrchwyd o'r golosg petrolewm drwy broses sy'n cynnwys triniaeth wres a chwistrellu stêm;

(c) sy'n hapsiapiau heb eu marcio ac sy'n pwyso 80 gram ar gyfartaledd (Island Lump) neu 30 gram ar gyfartaledd (Island Nuts); ac

(ch) nad ydynt yn cynnwys mwy na 2 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

25. Brics glo Jewel, a weithgynhyrchir gan Eldon Colliery Limited yn Newfield Works, Bishop Auckland, County Durham–

(a) sy'n cynnwys glo caled (sef rhyw 30 i 50 y cant o'r cyfanswm pwysau) a golosg petrolewm Long Beach (sef rhyw 50 i 70 y cant o'r cyfanswm pwysau) a rhwymwr carbohydrad (sef gweddill y pwysau);

(b) a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 150°C;

(c) sy'n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd, yn pwyso 33 gram ar gyfartaledd; ac

(ch) nad ydynt yn cynnwys mwy na 1.5 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

26. La Hacienda Easy Logs, a weithgynhyrchir gan Allspan BV yn Macroweg 4, 5804 CL Venray, Yr Iseldiroedd–

(a) sy'n cynnwys cwyr hydrin (sef rhyw 58 i 59 y cant o'r cyfanswm pwysau), a blawd llif pren caled (sef gweddill y pwysau);

(b) a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses triniaeth wres ac allwthio;

(c) sy'n foncyffion tân, rhyw 235 milimetr eu hyd a 80 milimetr eu dyfnder, gyda rhigolau ar hyd yr wynebau, ac sy'n pwyso 1.1 cilogram ar gyfartaledd; ac

(ch) nad ydynt yn cynnwys mwy na 0.1 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

27. Long Beach Lump nuts (a elwir fel arall yn LBL nuts), a weithgynhyrchir gan Aimcor Carbon Corporation yn Long Beach, California, Unol Daleithiau America neu a weithgynhyrchir gan Oxbow Carbon & Minerals LLC, 330 Golden Shore, Suite 210, Long Beach, California 90802, Unol Daleithiau America–

(a) sy'n cynnwys golosg petrolewm (sef rhyw 85 i 100 y cant o'r cyfanswm pwysau), calchfaen (sef rhyw 0 i 10 y cant o'r cyfanswm pwysau) a phyg tar glo (sef gweddill y pwysau);

(b) a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys triniaeth wres a chwistrellu stêm;

(c) sy'n hapsiapiau heb eu marcio; ac

(ch) nad ydynt yn cynnwys mwy na 2 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

28. Brics glo Maxibrite, a weithgynhyrchir gan Maxibrite Limited yn Llantrisant, Rhondda Cynon Taf–

(a) sy'n cynnwys gronynnau glo caled (sef rhyw 84 y cant o'r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef rhyw 12 y cant o'r cyfanswm pwysau) a starts yn rhwymwr (sef gweddill y pwysau);

(b) a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 250°C;

(c) sy'n frics ar siâp clustog wedi'u marcio â'r llythyren "M" ac sy'n pwyso 35 gram ar gyfartaledd; ac

(ch) nad ydynt yn cynnwys mwy na 2 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

29. Brics glo Multiheat, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire–

(a) sy'n cynnwys glo caled (sef rhyw 60 i 80 y cant o'r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef rhyw 10 i 30 y cant o'r cyfanswm pwysau) a rhwymwr triagl ac asid ffosfforig (sef gweddill y pwysau);

(b) a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 300°C;

(c) sy'n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd, yn pwyso naill ai 55 neu 80 gram ar gyfartaledd fesul bricsen; ac

(ch) nad ydynt yn cynnwys mwy na 2 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

30. Brics glo Newflame, a weithgynhyrchir gan Maxibrite Limited yn Llantrisant, Rhondda Cynon Taf–

(a) sy'n cynnwys gronynnau glo caled (sef rhyw 84 y cant o'r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef rhyw 12 y cant o'r cyfanswm pwysau) a starts yn rhwymwr (sef gweddill y pwysau);

(b) a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 260°C;

(c) sy'n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd, yn pwyso 78 gram ar gyfartaledd; ac

(ch) nad ydynt yn cynnwys mwy na 2 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

31. Optima Fire Logs, a weithgynhyrchir gan Allspan BV yn Macroweg 4, 5804 CL Venray, Yr Iseldiroedd–

(a) sy'n cynnwys cwyr hydrin (sef rhyw 58 i 59 y cant o'r cyfanswm pwysau), a blawd llif pren caled (sef gweddill y pwysau);

(b) a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses triniaeth wres ac allwthio;

(c) sy'n foncyffion tân, rhyw 235 milimetr eu hyd a 80 milimetr eu dyfnder, gyda rhigolau ar hyd yr wynebau, ac sy'n pwyso 1.1 cilogram ar gyfartaledd; ac

(ch) nad ydynt yn cynnwys mwy na 0.1 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

32. Brics glo Phurnacite, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire–

(a) sy'n cynnwys llwch glo caled (sef rhyw 65 i 85 y cant o'r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef rhyw 20 y cant o'r cyfanswm pwysau) a rhwymwr triagl ac asid ffosfforig (sef gweddill y pwysau);

(b) a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 300°C;

(c) sy'n frics glo ar siâp ofoidau â dwy linell gyfochrog yn rhedeg yn hydredol o amgylch y fricsen ac sy'n pwyso 40 gram ar gyfartaledd; ac

(ch) nad ydynt yn cynnwys mwy na 2 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

33. Pyrobloc Fire Logs, a weithgynhyrchir gan Allspan BV yn Macroweg 4, 5804 CL Venray, Yr Iseldiroedd–

(a) sy'n cynnwys cwyr hydrin (sef rhyw 58 i 59 y cant o'r cyfanswm pwysau), a blawd llif pren caled (sef gweddill y pwysau);

(b) a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses triniaeth wres ac allwthio;

(c) sy'n foncyffion tân, rhyw 265 milimetr eu hyd a 80 milimetr eu dyfnder, gyda rhigolau ar hyd yr wynebau, ac sy'n pwyso 1.3 cilogram ar gyfartaledd; ac

(ch) nad ydynt yn cynnwys mwy na 0.1 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

34. Safelight Firelogs, a weithgynhyrchir gan Advanced Natural Fuels Limited, yn Pocklington, East Riding of Yorkshire–

(a) sy'n cynnwys sglodion pren (sef rhyw 40 i 55 y cant o'r cyfanswm pwysau) a rhwymwr cwyr palmwydden (sef gweddill y pwysau);

(b) a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys gwasgu'r cynhwysion, ar ôl eu cymysgu, ar ryw 40°C i 50°C;

(c) sy'n foncyffion tân petryal caled â dwy agen ddofn sy'n gorgyffwrdd yn yr wyneb uchaf, un agen ddi-dor yn yr wyneb isaf, ac sy'n pwyso 1.8 cilogram ar gyfartaledd; ac

(ch) nad ydynt yn cynnwys mwy na 2 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

35. Brics glo Sovereign, a weithgynhyrchir gan Monckton Coke & Chemical Company Limited yn Royston, ger Barnsley, South Yorkshire–

(a) sy'n cynnwys glo caled (sef rhyw 75 y cant o'r cyfanswm pwysau), glo a golosg adweithiol (sef rhyw 21 y cant o'r cyfanswm pwysau) a rhwymwr resin sy'n caledu pan fo'n oer (sef gweddill y pwysau);

(b) a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys eu hallwthio;

(c) sy'n frics glo chweochrog heb eu marcio ac sy'n pwyso 130 gram ar gyfartaledd; ac

(ch) nad ydynt yn cynnwys mwy na 2 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

36. Brics glo Stoveheat Premium, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire–

(a) sy'n cynnwys llwch glo caled (sef rhyw 65 i 85 y cant o'r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef rhyw 20 y cant o'r cyfanswm pwysau) a rhwymwr triagl ac asid ffosfforig (sef gweddill y pwysau);

(b) a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 300°C;

(c) sy'n frics glo heb eu marcio ar siâp ofoidau ac sy'n pwyso 40 gram ar gyfartaledd, ac

(ch) nad ydynt yn cynnwys mwy na 2 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

37. Supabrite Coke Doubles, a weithgynhyrchir gan H. J. Banks and Company Limited yn Inkerman Road Depot, Tow Law, County Durham–

(a) sy'n cynnwys golosg metelegol (sef rhyw 40 i 60 y cant o'r cyfanswm pwysau) a golosg petrolewm (sef gweddill y pwysau);

(b) a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys eu cyfuno a'u sgrinio;

(c) sy'n hapsiapiau heb eu marcio; ac

(ch) nad ydynt yn cynnwys mwy na 1.95 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

38. Supacite briquettes, a weithgynhyrchir gan Maxibrite Limited yn Llantrisant, Rhondda Cynon Taf–

(a) sy'n cynnwys gronynnau glo caled (sef rhyw 84 y cant o'r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef rhyw 12 y cant o'r cyfanswm pwysau) a starts yn rhwymwr (sef gweddill y pwysau);

(b) a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 240°C;

(c) sy'n ofoidau heb eu marcio ac sy'n pwyso 45 gram ar gyfartaledd; ac

(ch) nad ydynt yn cynnwys mwy na 2 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

39. Brics glo Supertherm, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire–

(a) sy'n cynnwys cyfuniad (mewn cyfrannedd o 19:1) o lo caled a glo canolig ei anweddolrwydd (sef rhyw 93 y cant o'r cyfanswm pwysau) a rhwymwr organig sy'n caledu pan fo'n oer neu rwymwr triagl ac asid ffosfforig (sef gweddill y pwysau);

(b) a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu;

(c) sy'n ofoidau heb eu marcio ac sy'n pwyso 160 gram ar gyfartaledd; ac

(ch) nad ydynt yn cynnwys mwy na 1.5 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

40. Brics glo Supertherm II, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire–

(a) sy'n cynnwys glo caled (sef rhyw 36 i 51 y cant o'r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef rhyw 40 i 55 y cant o'r cyfanswm pwysau) a rhwymwr organig neu rwymwr triagl ac asid ffosfforig (sef gweddill y pwysau);

(b) a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu;

(c) sy'n ofoidau heb eu marcio ac sy'n pwyso 140 gram ar gyfartaledd; ac

(ch) nad ydynt yn cynnwys mwy na 2 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

41. Brics glo Taybrite (a elwir fel arall yn frics glo Surefire), a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire–

(a) sy'n cynnwys glo caled (sef rhyw 60 i 80 y cant o'r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef rhyw 10 i 30 y cant o'r cyfanswm pwysau) a rhwymwr triagl ac asid ffosfforig (sef gweddill y pwysau);

(b) a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 300°C;

(c) sy'n frics glo ar siâp gobennydd sydd wedi'u marcio ag un llinell wedi'i hindentio yn rhedeg yn hydredol ar hyd pob wyneb, yn gorwedd 10 milimetr oddi wrth y llinell gyfatebol neu heb eu marcio, ac sydd yn y naill achos a'r llall yn pwyso 80 gram ar gyfartaledd; ac

(ch) nad ydynt yn cynnwys mwy na 2 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

42. Brics glo Thermac, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire–

(a) sy'n cynnwys glo caled (sef rhyw 90 y cant o'r cyfanswm pwysau) a rhwymwr organig sy'n caledu pan fo'n oer (sef gweddill y pwysau);

(b) a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu;

(c) sy'n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd, yn pwyso 48 gram ar gyfartaledd; ac

(ch) nad ydynt yn cynnwys mwy na 1.5 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

43. Unicite, a weithgynhyrchir gan DJ Davies Fuels Ltd yn Blaenau Fuel Depot, Rhydaman, Sir Gaerfyrddin, neu a weithgynhyrchir gan A.I.Simson yn Cabby Latch, Logie by Kirriemuir, Angus–

(a) sy'n gymysgwch o'r gwahanol danwyddau a ganlyn–

(i) nytiau mawr glo caled, a

(ii) briciau tân Union fel a ddisgrifir yn is-baragraff (ch) a weithgynhyrchir gan RWE Power A.G. yn Cologne, yr Almaen (sef dim mwy nac oddeutu 40 i 42 y cant o gyfanswm pwysau Unicite);

(b) nad ydynt yn cynnwys mwy na 0.5 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau;

(c) y datgenir mai dim ond i'r graddau y mae cyfran y briciau tân Union a losgir wrth ddefnyddio Unicite heb fod uwchlaw yr ystod canranol a bennir yn is-baragraff (a) (ii) y mae'n danwydd awdurdodedig; , ac

(ch) i'r graddau y mae wedi'i gyfansoddi o'r briciau tân Union y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) (ii), rhaid iddo gynnwys lignit wedi'i gywasgu gyda phob bricsen dân yn mesur oddeutu 75 o filimetrau o led, 60 o filimetrau o uchter a 55 o filimetrau o drwch.

44. Boncyffion tân ZIP Cracklelog, boncyffion tân ZIP Crackle-log a boncyffion tân ZIP Crackling Log, a weithgynhyrchir gan Allspan B.V., Macroweg 4, 5804 CL Venray, Yr Iseldiroedd–

(a) sy'n cynnwys cwyr hydrin (sef rhyw 55 y cant o'r cyfanswm pwysau), blawd llif pren caled (sef rhyw 42 y cant o'r cyfanswm pwysau) a hadau clecian (sef rhyw 3.2 y cant o'r cyfanswm pwysau);

(b) a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses triniaeth wres ac allwthio;

(c) sy'n foncyffion tân, rhyw 235 milimetr eu hyd a 80 milimetr eu diamedr, gyda rhigolau ar hyd yr wynebau, ac sy'n pwyso 1.1 cilogram ar gyfartaledd, ac

(ch) nad ydynt yn cynnwys mwy na 0.1 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

45. ZIP Firelogs, a weithgynhyrchir gan Allspan B.V., Macroweg 4, 5804 CL Venray, Yr Iseldiroedd–

(a) sy'n cynnwys cwyr hydrin (sef rhyw 58 i 59 y cant o'r cyfanswm pwysau) a blawd llif pren caled (sef gweddill y pwysau);

(b) a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses triniaeth wres ac allwthio;

(c) sy'n foncyffion tân, rhyw 265 milimetr eu hyd a 80 milimetr eu dyfnder, gyda rhigolau ar hyd yr wynebau, ac sy'n pwyso 1.3 cilogram ar gyfartaledd; ac

(ch) nad ydynt yn cynnwys mwy na 0.1 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

46. ZIP Firelogs, a weithgynhyrchir gan Allspan B.V., Macroweg 4, 5804 CL Venray, Yr Iseldiroedd–

(a) sy'n cynnwys cwyr hydrin (sef rhyw 58 i 59 y cant o'r cyfanswm pwysau) a blawd llif pren caled (sef gweddill y pwysau);

(b) a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses triniaeth wres ac allwthio;

(c) sy'n foncyffion tân, rhyw 235 milimetr eu hyd a 80 milimetr eu dyfnder, gyda rhigolau ar hyd yr wynebau, ac sy'n pwyso 1.1 cilogram ar gyfartaledd; ac

(ch) nad ydynt yn cynnwys mwy nag 0.1 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

47. ZIP Firelogs, a weithgynhyrchir gan Woodflame Moerdijk B.V., Apolloweg 4, Harbour No: M189A, 4782 SB Moerdijk, Yr Iseldiroedd–

(a) sy'n cynnwys cwyr hydrin (sef rhyw 55 i 60 y cant o'r cyfanswm pwysau) a blawd llif pren caled (sef gweddill y pwysau);

(b) a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses triniaeth wres ac allwthio;

(c) sy'n foncyffion tân rhyw 255 milimetr eu hyd a 75 milimetr eu diamedr, gyda rhigolau ar hyd un wyneb hydredol, ac sy'n pwyso 1.3 cilogram ar gyfartaledd, ac

(ch) nad ydynt yn cynnwys mwy na 0.1 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae adran 20 o Ddeddf Aer Glân 1993 ("Deddf 1993") yn darparu, pan fo simnai naill ai–

(a) yn simnai adeilad; neu

(b) yn simnai sy'n gwasanaethu ffwrnais bwyler sefydlog neu beiriannau diwydiannol,

fod meddiannydd yr adeilad, neu (yn ôl y digwydd) y person sy'n meddu ar y bwyler neu'r peiriannau yn euog o dramgwydd os yw'r simnai mewn ardal rheoli mwg ac yn gollwng mwg. Er hynny, mae'n amddiffyniad os gellir profi mai drwy ddefnyddio tanwydd awdurdodedig yn unig yr achoswyd y gollyngiad honedig.

Yng Nghymru, ystyr tanwydd awdurdodedig yw tanwydd y datgenir ei fod wedi'i awdurdodi drwy Reoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru.

Mae'r rheoliadau hyn yn pennu pob tanwydd sydd wedi'i awdurdodi i'w ddefnyddio yng Nghymru at ddibenion adran 20 o Ddeddf 1993. Maent yn dirymu ac yn cymryd lle Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2006 (O.S. 2006/2979) (Cy.270)).

Mae'r rhan fwyaf o'r tanwyddau yn y Rheoliadau hyn wedi bod yn danwyddau awdurdodedig o'r blaen. Er hynny, mae'r disgrifiad o frics glo Aimcor Excel, brics glo Aimcor Pureheat a Long Beach Lump nuts wedi cael eu hadolygu i adlewyrchu newidiadau yn eu gweithgynhyrchu.

Awdurdodir defnyddio'r canlynol am y tro cyntaf: Big K Instant Lighting Fire Logs, briciau glo Ecoal, La Hacienda Easy Logs, Optima Fire Logs, Pyrobloc Fire Logs, ac Unicite. Cafodd math arall o Zip Firelog hefyd ei awdurdodi am y tro cyntaf.

Mae darpariaeth arbed (gweler Rheoliad 3(2)) yn sicrhau y bydd tanwyddau awdurdodedig a weithgynhyrchwyd cyn dyfodiad y Rheoliadau hyn i rym yn parhau i fod yn danwyddau awdurdodedig. Bydd defnyddio tanwyddau o'r fath felly yn parhau i fod yn amddiffyniad yn erbyn unrhyw honiad bod mwg wedi'i ollwng yn anghyfreithlon, hynny yw, yn groes i adran 20 o Ddeddf 1993.

Cafodd asesiad effaith rheoleiddiol ei baratoi mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi ohono gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

(1)

1993 p.11. Back [1]

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau perthnasol yr Ysgrifennydd Gwladol i'r Cynulliad Cenedlaethol gan Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, ac Atodlen 1 iddo (O.S. 1999/672) a'u trosglwyddo wedi hynny i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi (p.32). Back [2]

(3)

O.S. 2006/2979 (Cy.270). Back [3]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2008/wsi_20083100_we_1.html