BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) (Diwygio) 2009 No. 47 (Cy. 15) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20090047_we_1.html |
[New search] [Help]
Gwnaed
15 Ionawr 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
19 Ionawr 2009
Yn dod i rym
9 Chwefror 2009
Mae'r Rheoliadau hyn a'r rheoliadau y maent yn eu diwygio yn gwneud darpariaeth ar gyfer bwriad a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(1) ac ymddengys i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i'r cyfeiriadau, yn y rheoliadau y mae'r Rheoliadau hyn yn eu diwygio, at Gyfarwyddeb 2002/49/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor dyddiedig 25 Mehefin 2002(2) sy'n ymwneud ag asesu a rheoli sŵn amgylcheddol, gael eu dehongli fel cyfeiriadau at y Gyfarwyddeb honno fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd.
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â chamau'n ymwneud ag asesu, trafod a rheoli swn amgylcheddol(3). Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan yr adran honno a chan baragraff 1A o Atodlen 2 i'r Ddeddf honno.
1.–(1) O ran y Rheoliadau hyn–
(a) eu henw yw Rheoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) (Diwygio) 2009;
(b) deuant i rym ar 9 Chwefror 2009; ac
(c) maent yn gymwys o ran Cymru.
2. Diwygir Rheoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) 2006(4) fel a ganlyn.
3.–(1) Diwygir rheoliad 2(2) (dehongli) fel a ganlyn:
(2) Yn y lle priodol yn y diffiniadau, mewnosoder "ystyr "map sŵn cyfunol" ("consolidated noise map") yw map sŵn a lunnir yn unol â rheoliad 15(4);";
(3) Yn y diffiniad o "Cyfarwyddeb", ar ôl "25 Mehefin 2002" ac o flaen "sy'n ymwneud ag asesu a rheoli" mewnosoder "ac fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd;";
(4) Yn y fersiwn Saesneg yn unig, yn lle "major airport" ("prif faes awyr") rusuant to regulation 3" rhodder "major airport" ("prif faes awyr") pursuant to regulation 3;".
4.–(1) Diwygir rheoliad 3 (nodi ffynonellau sŵn) fel a ganlyn:
(2) Ym mharagraff (2) yn lle "Rhaid i'r Cynulliad nodi, a hynny ar ffurf rheoliadau a heb fod yn hwyrach na 31 Rhagfyr 2011, yr holl" rhodder "Heb fod yn hwyrach na 31 Rhagfyr 2011, rhaid i'r Cynulliad gyhoeddi mapiau'n nodi'r holl";
(3) Ym mharagraff (4) yn lle "rhaid i'r Cynulliad nodi, a hynny ar ffurf rheoliadau" rhodder "rhaid i'r Cynulliad gyhoeddi mapiau'n nodi'r holl".
(4) Ym mharagraff (3) yn lle "rheoliadau diweddaraf a gynhyrchir" rhodder "mapiau diweddaraf a gyhoeddir".
5. Yn lle rheoliad 13 (nodi ardaloedd tawel), rhodder–
"(1) Rhaid i ardaloedd tawel mewn crynodrefi cylch cyntaf gael eu nodi yn y cynlluniau gweithredu a lunnir o dan reoliad 17(1)(c).
(2) Rhaid i ardaloedd tawel mewn crynodrefi gael eu nodi yn y cynlluniau gweithredu a lunnir o dan reoliad 17(2)(c)".
6.–(1) Diwygir rheoliad 15 (cynlluniau gweithredu: gofynion cyffredinol) fel a ganlyn:
(2) Yn lle paragraff (1)(ch) rhodder "nodi ac ystyried blaenoriaethau gan roi sylw i ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 30(1)".
(3) Yn lle paragraff (4), rhodder–
"Caiff Gweinidogion Cymru lunio mapiau sŵn cyfunol mewn cysylltiad ag unrhyw ardal a geir mewn unrhyw fapiau sŵn strategol–
sy'n cael eu gwneud neu eu hadolygu yn unol â rheoliad 7, 11 neu 12 a'u mabwysiadu yn unol â rheoliad 23, a
sy'n ymwneud ag unrhyw ran o'r ardal y rhoddir ystyriaeth iddi yn y cynllun gweithredu."
7. Yn lle rheoliad 30(canllawiau), rhodder–
"(1) Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i awdurdod cymwys mewn cysylltiad ag arfer ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn.
(2) Rhaid i awdurdod cymwys, wrth iddo arfer unrhyw un neu rai o'i swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn, roi sylw i ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan baragraff 1.".
8. Dirymir rheoliad 14 o Reoliadau Swn Amgylcheddol (Cymru) 2006.
Jane Davidson
Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru
15 Ionawr 2009
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Swn Amgylcheddol (Cymru) 2006 (O.S. 2006/2629).
Mae rheoliad 3(2) yn mewnosod diffiniad o "map sŵn cyfunol" yn y rhestr o eiriau a thermau a ddefnyddir yn Rheoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) 2006 ("Rheoliadau 2006"). Mae rheoliad 3(3) yn diwygio'r diffiniad o "Cyfarwyddeb" yn rheoliad 2 o Reoliadau 2006 fel y bydd cyfeiriadau at y Gyfarwyddeb yn Rheoliadau 2006 i'w dehongli fel cyfeiriadau at y Gyfarwyddeb fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd yn unol â'r pŵer a gynhwysir ym mharagraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972. Mae rheoliad 3(4) yn gwneud mân gywiriad i'r diffiniad o "prif faes awyr" yn rheoliad 2.
Mae rheoliad 4 yn diwygio rheoliad 3 o Reoliadau 2006 fel bod y ffynonellau sŵn a restrir yn rheoliad 3 yn cael eu nodi o 2011 ymlaen drwy gyhoeddi mapiau.
Mae rheoliad 5 yn diwygio rheoliad 13 o Reoliadau 2006 fel y bydd yn ofynnol i ardaloedd tawel yn y crynodrefi cylch cyntaf a'r crynodrefi gael eu nodi yn y cynlluniau gweithredu ar gyfer y crynodrefi hynny.
Mae rheoliad 6(1) yn diwygio rheoliad 15(1)(ch) o Reoliadau 2006 fel y bydd yn rhaid i'r cynlluniau gweithredu a lunnir o dan Ran 4 o'r Rheoliadau nodi ac ystyried blaenoriaethau o ran canllawiau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 30(1). Mae rheoliad 6(2) yn diwygio rheoliad 15(4) o Reoliadau 2006 drwy wneud darpariaeth sy'n rhoi i Weinidogion Cymru y pŵer i wneud mapiau swn cyfunol.
Mae rheoliad 7 yn diwygio rheoliad 30 o Reoliadau 2006 drwy wneud darpariaeth sy'n rhoi i Weinidogion Cymru bŵer diwygiedig i ddyroddi canllawiau i awdurdodau cymwys, a thrwy osod dyletswydd ar awdurdodau cymwys i roi sylw i'r canllawiau hynny.
Mae asesiad effaith rheoleiddiol llawn o'r effaith y bydd yr offeryn hwn yn ei chael ar gostau busnes ac ar y sector gwirfoddol ar gael gan Y Gangen Ymbelydredd ac Atal Llygredd, Ynni a Diwydiant Cynaliadwy Cymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac mae wedi ei atodi i'r Memorandwm Esboniadol sydd ar gael ochr yn ochr â'r offeryn ar wefan OPSI.