[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Gorchymyn Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2009 No. 728 (Cy. 64) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20090728_we_1.html |
[New search] [Help]
Gwnaed
18 Mawrth 2009
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 40 a 44(3) a (5) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1.–(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2009.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2. 6 Ebrill 2009 yw'r diwrnod penodedig i ddarpariaethau canlynol y Ddeddf ddod i rym –
(a) adran 30 (symud y cyfyngiad ar wrando cais am ryddhau gorchymyn amddiffyn brys);
(b) adran 35 (estyn y cyfnod a ganiateir i wneud rheoliadau o dan adran 45 neu 46 o Ddeddf Plant 2004(2)); ac
(c) adran 42 ac Atodlen 4 (diddymu) i'r graddau y maent yn ymwneud รข diddymu adran 45(9) o Ddeddf Plant 1989(3).
Gwenda Thomas
O dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.
18 Mawrth 2009
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn adrannau 30, 35 a 42 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008 ac Atodlen 4 iddi i rym ar 6 Ebrill 2009 i'r graddau a bennir yn y Gorchymyn hwn.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Dygwyd y darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008 i rym o ran Cymru gan Orchymyn Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.
Darpariaeth | Dyddiad Cychwyn | O.S. Rhif |
---|---|---|
Adran 31 | 1 Ebrill 2009 | 2009/268 (C.11) |
Adran 32 | 1 Ebrill 2009 | 2009/268 (C.11) |