[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Gorchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu a Diddymu) (Cymru) 2009 No. 778 (Cy. 66) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20090778_we_1.html |
[New search] [Help]
Gwnaed
24 Mawrth 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
25 Mawrth 2009
Yn dod i rym
1 Mehefin 2009
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 11, 203(9) a (10) a 204 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1) a pharagraffau 11 a 12 o Atodlen 2 iddi yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1.–(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu a Diddymu) (Cymru) 2009.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Mehefin 2009.
2. Yn y Gorchymyn hwn–
ystyr "ardal Bwrdd Iechyd Lleol" ("Local Health Board area") yw'r ardal o Gymru y sefydlir Bwrdd Iechyd Lleol o dan erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn ar ei chyfer;
ystyr "dyddiad diddymu" ("dissolution date") yw 1 Hydref 2009;
mae i'r ymadrodd "dyddiad gweithredol" yr ystyr a roddir i "operational date" ym mharagraff 11(2) o Atodlen 2 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;
ystyr "dyddiad sefydlu" ("establishment date") yw 1 Mehefin 2009; ac
ystyr "prif ardal llywodraeth leol" ("principal local government area") yw prif ardal llywodraeth leol yng Nghymru fel y'i disgrifir yn Rhannau I a II o Atodlen 4 i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(2).
3. Yn effeithiol o'r dyddiad sefydlu, sefydlir y chwe Bwrdd Iechyd Lleol a restrir yng ngholofn 1 yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn ac fe'u gelwir wrth yr enwau a bennir ar eu cyfer yn yr Atodlen honno.
4.–(1) Mae pob ardal Bwrdd Iechyd Lleol yn cyfateb i'r prif ardaloedd llywodraeth leol a bennir ar ei gyfer yng ngholofn 2 o Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn.
(2) Os yw'r prif ardaloedd llywodraeth leol a bennir ar gyfer Bwrdd Iechyd Lleol o dan baragraff (1) uchod yn cael eu hamrywio, yna mae ardal y Bwrdd Iechyd Lleol i gael ei hamrywio yn unol â hynny.
(3) Nid yw paragraff (2) uchod yn gymwys i'r weithred o greu prif ardal newydd llywodraeth leol, o ddiddymu prif ardal bresennol llywodraeth leol neu o uno dwy brif ardal llywodraeth leol neu fwy.
5.–(1) Dyddiad gweithredol pob Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlir o dan erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yw 1 Hydref 2009.
(2) Dyddiad cyfrifyddu pob Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlir o dan erthygl 3 i'r Gorchymyn hwn yw 31 Mawrth.
6. Rhwng dyddiad ei sefydlu a'i ddyddiad gweithredol, bydd gan bob Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlir o dan erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn y swyddogaethau a ganlyn–
(a) ymrwymo i gontractau'r GIG;
(b) ymrwymo i gontractau eraill gan gynnwys contractau cyflogaeth; ac
(c) gwneud y cyfryw bethau eraill ag sy'n rhesymol angenrheidiol i'w alluogi i ddechrau gweithredu'n foddhaol yn effeithiol o'r dyddiad gweithredol ymlaen.
7. Diddymir, yn effeithiol o'r dyddiad diddymu, yr un ar hugain o Fyrddau Iechyd Lleol a restrir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn ac a sefydlwyd gan Orchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu) (Cymru) 2003(3).
8. Diwygir Gorchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu) (Cymru) 2003 yn unol ag erthygl 9.
9. Yn effeithiol o'r dyddiad diddymu, dileer yr Atodlen i Orchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu) (Cymru) 2003 (enwau byrddau iechyd lleol a phrif ardaloedd llywodraeth leol y maent yn cael eu sefydlu ar eu cyfer) a rhodder yn ei lle'r Atodlen yn Atodlen 3 i'r Gorchymyn hwn.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
24 Mawrth 2009
Erthyglau 3 a 4
Colofn 1 | Colofn 2 |
---|---|
Enwau Byrddau Iechyd Lleol a sefydlir o dan erthygl 3 | Prif ardaloedd llywodraeth leol y sefydlir y Bwrdd Iechyd Lleol ar eu cyfer |
1 Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan |
Casnewydd, Tor-faen, Sir Fynwy, Caerffili a Blaenau Gwent |
2 Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf |
Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf |
3 Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a'r Fro |
Caerdydd a Bro Morgannwg |
4 Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg |
Pen-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe |
5 Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda |
Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion |
6 Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr |
Sir y Fflint, Sir Ddinbych, Gwynedd, Wrecsam, Conwy ac Ynys Môn |
Erthygl 7
Byrddau Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan erthygl 3 o Orchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu) (Cymru) 2003 | |
---|---|
1 | Bwrdd Iechyd Lleol Ynys Môn |
2 | Bwrdd Iechyd Lleol Gwynedd |
3 | Bwrdd Iechyd Lleol Caerdydd |
4 | Bwrdd Iechyd Lleol Ceredigion |
5 | Bwrdd Iechyd Lleol Sir Gaerfyrddin |
6 | Bwrdd Iechyd Lleol Sir Ddinbych |
7 | Bwrdd Iechyd Lleol Sir y Fflint |
8 | Bwrdd Iechyd Lleol Sir Fynwy |
9 | Bwrdd Iechyd Lleol Sir Benfro |
10 | Bwrdd Iechyd Lleol Abertawe |
11 | Bwrdd Iechyd Lleol Conwy |
12 | Bwrdd Iechyd Lleol Blaenau Gwent |
13 | Bwrdd Iechyd Lleol Pen-y-bont ar Ogwr |
14 | Bwrdd Addysgu Iechyd Lleol Caerffili |
15 | Bwrdd Iechyd Lleol Merthyr Tudful |
16 | Bwrdd Iechyd Lleol Castell-nedd Port Talbot |
17 | Bwrdd Iechyd Lleol Casnewydd |
18 | Bwrdd Addysgu Iechyd Lleol Rhondda Cynon Taf |
19 | Bwrdd Iechyd Lleol Tor-faen |
20 | Bwrdd Iechyd Lleol Bro Morgannwg |
21 | Bwrdd Iechyd Lleol Wrecsam |
Erthyglau 8 a 9
Erthyglau 3 a 5
Enwau Byrddau Iechyd Lleol a sefydlir o dan erthygl 3 | Y brif ardal llywodraeth leol y sefydlir y Bwrdd Iechyd Lleol ar ei chyfer | |
---|---|---|
1 | Bwrdd Iechyd Lleol Addysgu Powys | Powys" |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yn sefydlu chwe Bwrdd Iechyd Lleol newydd fel y darperir ar eu cyfer yn adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (2006 p.42) ac mae erthygl 4 yn nodi'r ardaloedd y sefydlir hwy ar eu cyfer. Mae'r Gorchymyn hefyd yn darparu yn erthyglau 5 a 6 ar gyfer swyddogaethau dros dro Byrddau Iechyd Lleol rhwng dyddiad eu sefydlu a'u dyddiad gweithredol ac yn nodi eu dyddiad cyfrifyddu.
Mae erthygl 7 o'r Gorchymyn hwn yn dirymu ar 1 Hydref 2009 un ar hugain o'r ddau ar hugain o Fyrddau Iechyd Lleol yng Nghymru.
Mae erthyglau 8 a 9 o'r Gorchymyn hwn yn gwneud diwygiadau i'r Atodlen i Orchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu) (Cymru) 2003 (2003/148 (Cy.18)) ("Gorchymyn 2003") er mwyn dileu o'r Atodlen honno enwau un ar hugain o Fyrddau Iechyd Lleol a ddiddymir o dan erthygl 7 o'r Gorchymyn hwn. Bydd Bwrdd Iechyd Lleol Addysgu Powys yn parhau ar ei ffurf bresennol fel y'i sefydlwyd o dan Orchymyn 2003 ac mae'r diwygiadau a wneir o dan erthygl 9 yn adlewyrchu hyn.
Mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi'i baratoi mewn cysylltiad â'r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
Mewn perthynas ag aelodaeth a chyfansoddiad Byrddau Iechyd Lleol, gweler Rheoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2009 (O.S. 2009/779 (Cy.67)).