BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau Cynhyrchion Sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2009 No. 1088 (Cy. 96)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20091088_we_1.html

[New search] [Help]


 

Rheoliadau Cynhyrchion Sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2009

Gwnaed

27 Ebrill 2009

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

28 Ebrill 2009

Yn dod i rym

28 Mai 2009

Mae Gweinidogion Cymru wedi'u dynodi(1) at ddibenion gwneud Rheoliadau o dan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas รข pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, ac yn gwneud y Rheoliadau hyn o dan y pwerau a roddwyd gan yr adran honno.

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion Sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2009, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 28 Mai 2009.

Diwygio Rheoliadau Cynhyrchion Sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) 2007

2. Mae Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) 2007(3) wedi eu diwygio drwy roi'r paragraff a ganlyn yn lle paragraffau (7) ac (8) o reoliad 4–

"(7) Nid yw Rhan 3 (ac eithrio rheoliad 25) na Rhannau 4 i 9 yn gymwys o ran cynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid a bennir yn Erthygl 2 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 206/2009 ar gyflwyno llwythi personol o gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid i'r Gymuned(4).".

Dirymu

3. Mae Rheoliadau Cynhyrchion Sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2006(5) wedi eu dirymu.

Elin Jones

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

27 Ebrill 2009

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau Cynhyrchion Sy'n Dod o Anifeiliaid (Cymru) 2007 er mwyn cymryd i ystyriaeth y newidiadau mewn mewnforion personol a ganiateir o drydydd gwledydd a achoswyd gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 206/2009 ar gyflwyno llwythi personol o gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid i'r Gymuned.

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn dirymu Rheoliadau Cynhyrchion Sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2006.

Nid oes Asesiad Effaith Rheoleiddiol llawn wedi'i lunio ar gyfer yr offeryn hwn gan na ragwelir y bydd yr offeryn yn effeithio o gwbl ar fusnesau, elusennau na chyrff gwirfoddol.

(1)

O.S. 2005/2766, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2006/3329. Yn rhinwedd adran 162 a pharagraffau 28 a 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), mae swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn arferadwy gan Weinidogion Cymru. Back [1]

(2)

1972 p.68. Back [2]

(3)

O.S. 2007/376 (Cy.36) fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan O.S. 2009/392 (Cy.41). Back [3]

(4)

OJ Rhif L 77, 24.3.2009, t. 1. Back [4]

(5)

O.S. 2006/1349 (Cy.135). Back [5]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20091088_we_1.html