BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Y Rheoliadau Meini Prawf Purdeb ar gyfer Lliwiau, Melysyddion ac Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Cymru) 2009 No. 1092 (Cy. 97)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20091092_we_1.html

[New search] [Help]


 

Y Rheoliadau Meini Prawf Purdeb ar gyfer Lliwiau, Melysyddion ac Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Cymru) 2009

Gwnaed

27 Ebrill 2009

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

29 Ebrill 2009

Yn dod i rym

25 Mai 2009

Mae Gweinidogion Cymru'n gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(a) ac 17(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1):

Yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd iddynt gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(2), cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi a gwerthuso'r Rheoliadau hyn.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Meini Prawf Purdeb ar gyfer Lliwiau, Melysyddion ac Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Cymru) 2009 a deuant i rym ar 25 Mai 2009.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd 1995

2.–(1) Diwygier Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd 1995(3) yn unol â pharagraff (2).

(2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli)–

(a) hepgorer y diffiniad o "Directive 95/45/EC" ac yn ei le rhodder y diffiniad canlynol–

""Directive 2008/128/EC" means Commission Directive 2008/128/EC laying down specific purity criteria concerning colours for use in foodstuffs(4);";

(b) yn y diffiniad o "permitted colour", yn lle'r ymadrodd "the annex to Directive 95/45/EC" rhodder yr ymadrodd "Annex 1 to Directive 2008/128/EC".

Diwygio Rheoliadau Melysyddion mewn Bwyd 1995

3.–(1) Diwygier Rheoliadau Melysyddion Mewn Bwyd 1995(5) yn unol â pharagraff (2).

(2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli) –

(a) hepgorer y diffiniad o "Directive 95/45/EC" ac yn ei le rhodder y diffiniad canlynol–

""Directive 2008/60/EC" means Commission Directive 2008/60/EC laying down specific purity criteria concerning sweeteners for use in foodstuffs(6);";

(b) yn y diffiniad o "permitted sweetener", yn lle'r ymadrodd "the annex to Directive 95/31/EC" rhodder yr ymadrodd "Annex 1 to Directive 2008/60/EC".

Diwygio Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995

4.–(1) Diwygier Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995(7) yn unol â pharagraff (2);

(2) Yn rheoliad 2 (dehongli)–

(a) hepgorer y diffiniad "Directive 96/77/EC" ac yn ei le rhodder y diffiniad canlynol–

""Directive 2008/84/EC" means Commission Directive 2008/84/EC laying down specific purity criteria on food additives other than colours and sweeteners(8) as that Directive was before the amendments made by Commission Directive 2009/10/EC(9);";

(b) yn y diffiniad o "purity criteria", yn is-baragraff (a) yn lle'r ymadrodd "the Annex to Directive 96/77/EC" rhodder yr ymadrodd "Annex I to Directive 2008/84/EC".

G. Thomas

Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.

27 Ebrill 2009

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gweithredu tair Cyfarwyddeb y Comisiwn sydd yn rhai newydd ("y Cyfarwyddebau newydd") sy'n cydgrynhoi rheolau presennol y Gymuned Ewropeaidd sy'n llywodraethu meini prawf purdeb ar gyfer lliwiau, melysyddion ac ychwanegion amrywiol eraill a ddefnyddir mewn bwydydd.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach, o ran Cymru, Reoliadau Lliwiau mewn Bwyd 1995 (O.S. 1995/3124 fel y'i diwygiwyd), Rheoliadau Melysyddion mewn Bwyd (O.S. 1995/3123 fel y'i diwygiwyd) a Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995 (O.S. 1995), fel y'i diwygiwyd.

Gweithredwyd y Cyfarwyddebau, y mae'r Cyfarwyddebau newydd yn eu disodli, drwy gyfeirio atynt mewn darpariaethau domestig, ac mae'r Rheoliadau hyn o'r herwydd yn diweddaru'r cyfeiriadau hynny.

Dyma'r Cyfarwyddebau newydd –

(a) Cyfarwyddeb y Comisiwn 2008/128/EC sy'n pennu meini prawf purdeb penodol sy'n ymwneud â lliwiau sydd i'w defnyddio mewn deunyddiau bwyd (OJ Rhif L6, 10.1.2009, t.20);

(b) Cyfarwyddeb y Comisiwn 2008/60/EC sy'n pennu meini prawf purdeb penodol sy'n ymwneud â melysyddion sydd i'w defnyddio mewn deunyddiau bwyd (OJ Rhif L158, 18.6.208, t.17); ac

(c) Cyfarwyddeb y Comisiwn 2008/84/EC sy'n pennu meini prawf purdeb penodol sy'n ymwneud ag ychwanegion bwyd ac eithrio lliwiau a melysyddion (OJ Rhif L253, 20.9.2008, t.1).

Ni luniwyd asesiad effaith llawn ar gyfer y Rheoliadau hyn, gan na ragwelir unrhyw effaith o gwbl ar y sector preifat na'r sector gwirfoddol.

(1)

1990 p.16, amnewidiwyd adran1(1) a (2) (y diffiniad o "bwyd") gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adrannau 17 a 48 gan baragraffau 12 a 21 yn ôl eu trefn o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28).

Cafodd adran 48 hefyd ei diwygio gan O.S. 2004/2990. Cafodd y swyddogaethau a oedd yn flaenorol yn arferadwy gan yr "Ysgrifennydd Gwladol", i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y'i darllenir ar y cyd ag adran 40(3) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28), ac yna trosglwyddwyd hwy i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p.32). Back [1]

(2)

OJ Rhif L131, 1.2.2002, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2002/2008 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor ynghylch nifer ac enwau Paneli Gwyddonol parhaol Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (OJ Rhif L60, 5.3.2008, t.17). Back [2]

(3)

O.S. 1995/3124. Yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 2007/579 (Cy.51). Back [3]

(4)

OJ Rhif L6, 10.1.2009, t.20. Back [4]

(5)

O.S. 1995/3123. Yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2005/1156 (Cy.73) ac O.S. 2008/138 (Cy.20). Back [5]

(6)

OJ Rhif L158, 18.6.2008, t.17. Back [6]

(7)

O.S. 1995/3187. Yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2002/329 (Cy. 42) ac O.S. 2008/138 (Cy.20). Back [7]

(8)

OJ Rhif L253, 20.9.2008, t.1. Back [8]

(9)

Cyfarwyddeb y Comisiwn 2009/10/EC sy'n diwygio Cyfarwyddeb 2008/84/EC sy'n pennu meini prawf purdeb penodol ar ychwanegion bwyd ac eithrio lliwiau a melysyddion (OJ Rhif L44, 13.02.2009, t.62). Back [9]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20091092_we_1.html