BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau Addysg (Ardaloedd y Perthyn Disgyblion a Myfyrwyr iddynt) (Diwygio) (Cymru) 2009 No. 1338 (Cy. 123)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20091338_we_1.html

[New search] [Help]


 

Rheoliadau Addysg (Ardaloedd y Perthyn Disgyblion a Myfyrwyr iddynt) (Diwygio) (Cymru) 2009

Gwnaed

29 Mai 2009

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

2 Mehefin 2009

Yn dod i rym

24 Mehefin 2009

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 569(4) a 579(4) o Ddeddf Addysg 1996(1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt hwy(2) yn gwneud y Rheoliadau canlynol.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Ardaloedd y Perthyn Disgyblion a Myfyrwyr iddynt) (Diwygio) (Cymru) 2009 a deuant i rym ar 24 Mehefin 2009.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Addysg (Ardaloedd y Perthyn Disgyblion a Myfyrwyr iddynt) 1996(3)

2.–(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Ardaloedd y Perthyn Disgyblion a Myfyrwyr iddynt) 1996 fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 2(1), hepgorer–

""further education student" means a person in respect of whom provision for further education is made;".

(3) Yn rheoliad 2, ar ôl paragraff (3), mewnosoder–

"(4) These Regulations do not apply for the purposes of determining which authority´s area a child is in for the purposes of section 321(3)(4) of the Education Act 1996."

(4) Yn rheoliad 3(a), hepgorer–

(5) Hepgorer paragraff (b) o reoliad 3.

(6) Yn rheoliadau 4(2)(a), 5(2)(a) a 7(2)(a), yn lle "Part III of the Education Act 1993", rhodder "Part 4 of the Education Act 1996".

(7) Yn rheoliad 4(2)(b), yn lle "section 50(1) of the Education Act 1944", rhodder "section 514(1)(5) of the Education Act 1996".

(8) Yn rheoliadau 6(2)(b) a 7(2)(c), yn lle "section 298(1) of the Education Act 1993", rhodder "section 19(1)(6) of the Education Act 1996".

(9) Yn rheoliad 7(1), ar ôl y geiriau "other regulation", ychwaneger y geiriau "in these Regulations".

(10) Yn rheoliad 7(2), –

(a) hepgorer "or" ar ddiwedd is-baragraff (c), a

(b) hepgorer is-baragraff (d).

(11) Hepgorer rheoliadau 8, 9, 10 ac 11.

Jane Hutt

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

29 Mai 2009

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae Rheoliadau Addysg (Ardaloedd y Perthyn Disgyblion a Myfyrwyr iddynt) (Diwygio) (Cymru) 2009 yn diwygio Rheoliadau Addysg (Ardaloedd y Perthyn Disgyblion a Myfyrwyr iddynt) 1996(7) ("y Prif Reoliadau").

Mae rheoliadau 2(2), 2(4), 2(5), 2(10) a 2(11) yn dileu cyfeiriadau at fyfyrwyr addysg bellach yn rheoliadau 2(1) a 3(a) o'r Prif Reoliadau ac yn dirymu rheoliadau 3(b), 7(2)(d), 8, 9 a 10 o'r Rheoliadau hynny. Effaith hyn yw y bydd y Prif Reoliadau yn peidio â gwneud darpariaeth arbennig ynghylch yr ardaloedd y dylid trin myfyrwyr addysg bellach fel bod yn perthyn iddynt. Mae Rheoliad 2(11) hefyd yn dirymu rheoliad 11 o'r Prif Reoliadau sy'n gwneud darpariaeth i beri fod Rheoliadau Addysg (Ardaloedd y Perthyn Disgyblion a Myfyrwyr iddynt) 1989(8) yn parhau i fod yn gymwys i daliadau penodedig, gan nad oes ei hangen bellach.

Mae rheoliad 2(3) yn diwygio rheoliad 2 o'r Prif Reoliadau i ddarparu nad yw'r Rheoliadau hynny'n gymwys at ddibenion pennu'r awdurdod addysg sy'n gyfrifol am ddynodi, asesu, am wneud a chynnal a chadw datganiadau ac am gyflawni swyddogaethau eraill o dan Ran 4 o Ddeddf Addysg 1996 sy'n ymwneud â phlant ag anghenion addysgol arbennig.

Mae Rheoliadau 2(6) i (8) yn diwygio amryw o reoliadau yn y Prif Reoliadau drwy osod yn lle cyfeiriadau at ddeddfwriaeth nad yw mwyach yn bod gyfeiriadau at ddeddfwriaeth gyfredol.

Mae Rheoliad 2(9) yn diwygio rheoliad 7 o'r Prif Reoliadau i'w gwneud yn glir fod y rheoliad yn gymwys gan gau allan reoliadau eraill yn y Prif Reoliadau yn unig.

(1)

1996 p.56. Back [1]

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau yr Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adrannau hyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac yna i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32). Back [2]

(3)

O.S. 1996/615 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1997/597. Back [3]

(4)

Diwygir adran 321(3)(a) gan adran 140(1) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31) a pharagraff 76(a) o Atodlen 30 iddi, ac adran 215(1) o Ddeddf Addysg 2002 (p.32) a pharagraff 42 o Atodlen 21 iddi.

Mewnosodwyd adran 321(3)(b) gan adran 140(1) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 a pharagraff 76(b) o Atodlen 30 iddi, ac fe'i diwygiwyd gan adran 215(1) o Ddeddf Addysg 2002 a pharagraff 42 o Atodlen 21 iddi. Back [4]

(5)

Diwygir adran 514 gan adran 140(1) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 a pharagraff 135 o Atodlen 30 iddi. Back [5]

(6)

Diwygir adran 19(1) gan adran 47(2) a 57(4) o Ddeddf Addysg 1996 ac Atodlen 8 iddi. Back [6]

(7)

O.S. 1996/615 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1997/597. Back [7]

(8)

O.S. 1989/2037. Back [8]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20091338_we_1.html