BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Gorchymyn Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cyfalaf Cychwynnol) (Cymru) (Diwygio) 2009 No. 1382 (Cy. 138)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20091382_we_1.html

[New search] [Help]


 

Gorchymyn Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cyfalaf Cychwynnol) (Cymru) (Diwygio) 2009

Gwnaed

8 Mehefin 2009

Yn dod i rym

9 Mehefin 2009

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 21 a 203(10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 a pharagraff 1 o Atodlen 4 2006 iddi(1) a chyda chydsyniad y Trysorlys yn unol â pharagraff 1(7) o Atodlen 4 i'r Ddeddf honno, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Enwi a Chychwyn

1.–(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cyfalaf Cychwynnol) (Cymru) (Diwygio) 2009 a daw i rym ar 9 Mehefin 2009.

Diwygio Cyfalaf Cychwynnol Ymddiriedolaethau GIG

2.–(1) Mae Gorchymyn Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cyfalaf Cychwynnol) (Cymru) 2009(2) wedi ei diwygio fel a ganlyn;

(2) Yn lle'r Atodlen i Orchymyn Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cyfalaf Cychwynnol) (Cymru) 2009, rhodder yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.

Edwina Hart

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.

8 Mehefin 2009

Erthygl 2

ATODLEN

Erthygl 2

"ATODLEN

Ymddiriedolaeth GIG Cyfalaf Cychwynnol
Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg(3) £484,807,000
Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cwm Taf(4) £277,694,000
Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Hywel Dda(5) £205,722,000
Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gogledd Cymru(6) £306,609,000

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn yn diwygio swm y cyfalaf cychwynnol a ddarparwyd ar gyfer Ymddiriedolaethau penodol o'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Ngorchymyn Ymddiriedolaethau Gwasanaethau Iechyd Gwladol (Cyfalaf Cychwynnol) (Cymru) 2009.

(1)

2006 p.42. Back [1]

(2)

O.S. 2009/1035 (Cy. 90). Back [2]

(3)

O.S. 2008/716 (Cy. 75). Back [3]

(4)

O.S. 2008/717 (Cy. 76). Back [4]

(5)

O.S. 2008/712 (Cy. 73). Back [5]

(6)

O.S. 2008/1648 (Cy. 160). Back [6]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20091382_we_1.html