BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru (Aelodaeth a Gweithdrefn) 2009 No. 1385 (Cy. 141)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20091385_we_1.html

[New search] [Help]


 

Rheoliadau Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru (Aelodaeth a Gweithdrefn) 2009

Gwnaed

9 Mehefin 2009

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

9 Mehefin 2009

Yn dod i rym

1 Awst 2009

Go to Explanatory Note

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1) a pharagraff 4 o Atodlen 3 iddi.

RHAN 1 Cyffredinol

Enwi, cychwyn a dehongli

1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru (Aelodaeth a Gweithdrefn) 2009 a deuant i rym ar 1 Awst 2009.

(2) Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall–

(3) Yn rheoliad 24–

(4) Onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall, mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at reoliad â Rhif yn gyfeiriad at y rheoliad sy'n dwyn Rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn, ac mae unrhyw gyfeiriad mewn rheoliad at baragraff â Rhif yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y rheoliad hwnnw.

RHAN II Aelodaeth

Mwyafswm nifer y cyfarwyddwyr

2.–(1) Mwyafswm nifer cyfarwyddwyr yr Ymddiriedolaeth fydd 11 heb gynnwys y cadeirydd.

(2) Ni chaniateir i'r Ymddiriedolaeth gael mwy na 6 chyfarwyddwyr anweithredol (heb gynnwys y cadeirydd), a dim mwy na 5 cyfarwyddwyr gweithredol.

Penodi cyfarwyddwyr

3.–(1) Bydd cyfarwyddwyr anweithredol yr Ymddiriedolaeth yn cael eu penodi gan Weinidogion Cymru yn unol â darpariaethau Atodlen 1.

(2) Bydd y cyfarwyddwyr gweithredol yn cael eu penodi gan y pwyllgor perthnasol.

Cyfarwyddwyr Gweithredol

4. Cyfarwyddwyr gweithredol yr Ymddiriedolaeth fydd–

(a) y prif swyddog;

(b) y prif swyddog cyllid;

(c) tri chyfarwyddwr arall a benodir gan yr Ymddiriedolaeth.

Cyfarwyddwyr Anweithredol

5.–(1) Bydd cyfarwyddwyr anweithredol yr Ymddiriedolaeth yn cynnwys–

(a) person a enwebir gan prifysgol yng Nghymru a chanddi arbenigedd addysgu neu ymchwilio ym maes iechyd cyhoeddus;

(b) person a enwebir gan awdurdod lleol neu awdurdodau lleol yng Nghymru;

(c) person sy'n un o gyflogeion neu'n un o aelodau corff sector gwirfoddol yng Nghymru;

(ch) person sy'n swyddog undeb llafur neu gorff arall sy'n cynrychioli cyflogeion ac sy'n cynrychioli staff yr Ymddiriedolaeth.

(2) Caiff Gweinidogion Cymru benderfynu ar yr awdurdod lleol neu'r awdurdodau lleol sy'n enwebu at ddibenion rheoliad 5(1)(b).

Personau i'w hystyried yn gyfarwyddwyr gweithredol

6.–(1) Mae person nad yw'n un o gyflogeion yr Ymddiriedolaeth–

(a) ond sy'n ddeiliad swydd mewn prifysgol a chanddi ysgol feddygol neu ddeintyddol, ac sydd hefyd yn gweithio i'r Ymddiriedolaeth; neu

(b) ond sydd ar secondiad gan ei gyflogwyr er mwyn iddo weithio i'r Ymddiriedolaeth;

er gwaethaf hynny, i'w ystyried, ar ei benodiad yn gyfarwyddwr, yn gyfarwyddwr gweithredol i'r Ymddiriedolaeth a benodwyd o dan reoliad 4(c) yn hytrach nag yn gyfarwyddwr anweithredol i'r Ymddiriedolaeth.

(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i'r cyfarwyddwr anweithredol y cyfeirir ato ym mharagraff (a) o reoliad 5(1).

Cyfarwyddwyr ar y cyd

7. Os caiff mwy nag un person eu penodi ar y cyd i swydd yn yr Ymddiriedolaeth sy'n gwneud y deiliad yn gymwys i fod yn gyfarwyddwr gweithredol neu y mae cyfarwyddwr gweithredol i'w benodi mewn perthynas â hi, bydd y personau hynny'n dod neu'n cael eu penodi yn gyfarwyddwr gweithredol ar y cyd, ac fe'u cyfrifir fel un person at ddibenion rheoliad 2.

Deiliadaeth swydd cadeirydd a chyfarwyddwyr

8.–(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 10, penodir cadeirydd yr Ymddiriedolaeth a chyfarwyddwyr anweithredol iddi am y cyfryw gyfnod, nad yw'n fwy na phedair blynedd, ag y byddo Gweinidogion Cymru'n ei bennu wrth iddynt wneud y penodiad.

(2) Yn ddarostyngedig i reoliad 9, bydd deiliadaeth swydd cyfarwyddwyr gweithredol, ac eithrio'r prif swyddog a'r prif swyddog cyllid, yn para am y cyfryw gyfnod ag y byddo'r pwyllgor perthnasol yn ei bennu wrth iddo wneud y penodiad.

Deiliadaeth swydd ac atal deiliadaeth swydd cyfarwyddwyr gweithredol

9.–(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 8(2), bydd cyfarwyddwr gweithredol i'r Ymddiriedolaeth yn ddeiliad swydd–

(a) os nad y cyfarwyddwr hwnnw yw'r prif swyddog neu'r prif swyddog cyllid, cyhyd ag y bydd yn ddeiliad swydd yn yr Ymddiriedolaeth;

(b) os y prif swyddog neu'r prif swyddog cyllid yw'r cyfarwyddwr hwnnw, cyhyd ag y bydd yn ddeiliad y swydd honno yn yr Ymddiriedolaeth.

(2) Os bydd y pwyllgor perthnasol o'r farn nad yw'n llesol i fuddiannau'r Ymddiriedolaeth fod cyfarwyddwr gweithredol i'r Ymddiriedolaeth ac eithrio'r prif swyddog neu'r prif swyddog cyllid yn parhau i fod yn ddeiliad swydd cyfarwyddwr bydd y pwyllgor perthnasol yn terfynu ei ddeiliadaeth swydd ar unwaith.

(3) Os bydd cyfarwyddwr gweithredol i'r Ymddiriedolaeth yn cael ei atal o'i swydd yn yr Ymddiriedolaeth bydd y cyfarwyddwr hwnnw'n cael ei atal rhag cyflawni ei swyddogaethau cyfarwyddwr am y cyfnod y bydd wedi ei atal.

(4) Caiff cyfarwyddwr gweithredol ac eithrio prif swyddog neu brif swyddog cyllid yr Ymddiriedolaeth ymddiswyddo o'i swydd ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod y cafodd ei benodi i'w weithio drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r pwyllgor perthnasol.

Terfynu deiliadaeth swydd cadeirydd a chyfarwyddwyr anweithredol

10.–(1) Caiff cadeirydd yr Ymddiriedolaeth neu gyfarwyddwr anweithredol iddi ymddiswyddo ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod y penodwyd ef i'w weithio drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru.

(2) Os bydd cyfarwyddwr anweithredol i'r Ymddiriedolaeth, yn ystod y cyfnod y bydd yn gyfarwyddwr, yn cael ei benodi'n gadeirydd yr Ymddiriedolaeth, bydd ei ddeiliadaeth o swydd cyfarwyddwr anweithredol yn dod i ben pan fydd ei benodiad i swydd cadeirydd yn dod yn effeithiol.

(3) Os bydd Gweinidogion Cymru o'r farn nad yw'n llesol i fuddiannau'r gwasanaeth iechyd i berson a gafodd ei benodi'n gadeirydd yr Ymddiriedolaeth neu'n gyfarwyddwr anweithredol iddi barhau i fod yn ddeiliad y swydd honno, caiff Gweinidogion Cymru derfynu deiliadaeth swydd y person hwnnw ar unwaith.

(4) Os nad yw cadeirydd yr Ymddiriedolaeth neu gyfarwyddwr anweithredol iddi wedi mynychu cyfarfod o'r Ymddiriedolaeth am gyfnod o chwe mis bydd Gweinidogion Cymru'n terfynu ei ddeiliadaeth swydd ar unwaith onid yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni–

(a) bod achos rhesymol dros yr absenoldeb; a

(b) y bydd y cadeirydd neu'r cyfarwyddwr anweithredol yn gallu mynychu cyfarfodydd o'r Ymddiriedolaeth o fewn y cyfryw gyfnod ag y mae Gweinidogion Cymru yn ei ystyried yn rhesymol.

(5) Os cafodd person ei benodi'n gadeirydd yr Ymddiriedolaeth neu'n gyfarwyddwr anweithredol iddi–

(a) os datgymhwysir y person hwnnw rhag cael ei benodi o dan reoliad 15 bydd Gweinidogion Cymru'n ysgrifennu ato ar unwaith i'w hysbysu ei fod wedi ei ddatgymhwyso; neu

(b) os daw i sylw Gweinidogion Cymru fod y person wedi'i ddatgymhwyso felly pan gafodd ei benodi, byddant yn datgan ar eu hunion na chafodd y person ei benodi'n briodol ac yn ysgrifennu at y person hwnnw i'w hysbysu o hynny,

a, phan ddaw'r hysbysiad hwnnw i law, bydd deiliadaeth swydd y person hwnnw, os oes un, yn cael ei therfynu a bydd y person hwnnw'n peidio â gweithredu fel cadeirydd neu gyfarwyddwr anweithredol.

(6) Rhaid i berson a benodir yn gadeirydd yr Ymddiriedolaeth neu'n gyfarwyddwr anweithredol iddi hysbysu'r Ymddiriedolaeth ar unwaith os datgymhwysir y person hwnnw rhag cael ei benodi o dan reoliad 15.

(7) Os ymddengys i Weinidogion Cymru fod cadeirydd yr Ymddiriedolaeth neu gyfarwyddwr anweithredol iddi wedi methu â chydymffurfio â rheoliad 24 (datgelu etc o ran buddiant ariannol) cânt derfynu deiliadaeth swydd y person hwnnw ar unwaith.

(8) Os bydd unrhyw un o'r cyfarwyddwyr anweithredol y cyfeirir yn y drefn isod atynt–

(a) ym mharagraff (c) o reoliad 5(1) yn peidio â bod yn un o aelodau neu o gyflogeion corff gwirfoddol yng Nghymru;

(b) ym mharagraff (ch) o reoliad 5(1) yn peidio â bod yn swyddog i'r undeb llafur neu'r corff sy'n cynrychioli cyflogeion

bydd Gweinidogion Cymru'n terfynu ei benodiad yn gyfarwyddwr anweithredol.

Atal cadeirydd a chyfarwyddwyr anweithredol o'u swyddi

11.–(1) Caiff Gweinidogion Cymru atal penodai rhag cyflawni swyddogaethau'r penodai fel cadeirydd neu gyfarwyddwr tra bydd Gweinidogion Cymru'n ystyried–

(a) p'un ai i symud y person o'r swydd o dan reoliad 10(3) neu (7); neu

(b) p'un a yw'r person wedi ei ddatgymhwyso rhag cael ei benodi o dan reoliad 15, neu p'un a oedd wedi ei ddatgymhwyso felly ar yr adeg y'i penodwyd.

(2) Bydd Gweinidogion Cymru'n hysbysu person a gafodd ei atal o dan baragraff (1) o'r penderfyniad i'w atal, a bydd y penderfyniad yn dod yn effeithiol pan ddaw'r cyfryw hysbysiad i law.

(3) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) a (5), ni fydd cyfnod atal o swydd o dan baragraff (1) yn fwy na chwe mis.

(4) Caiff Gweinidogion Cymru adolygu ataliad ar unrhyw adeg a byddant yn adolygu ataliad ar ôl tri mis os gofynnir iddynt wneud hynny gan y sawl a gafodd ei atal.

(5) Pan fyddant yn adolygu ataliad, caiff Gweinidogion Cymru–

(a) dirymu'r ataliad, ac yn y cyfryw achos bydd yr ataliad yn peidio â bod yn effeithiol; neu

(b) atal y penodai rhag cyflawni swyddogaethau'r penodai fel cadeirydd neu gyfarwyddwr am gyfnod o ddim mwy na chwe mis o'r dyddiad y daw'r cyfnod atal presennol i ben.

Atal: effaith ar fwyafswm nifer y cyfarwyddwyr ac ar gyfarfodydd

12.–(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan gaiff penodai ei atal o dan reoliad 11.

(2) Os yw'r rheoliad hwn yn gymwys –

(a) ystyr cyfeiriadau ym mharagraffau 2(2) a 3(5) o Atodlen 2 at nifer cyfan y cyfarwyddwyr yw nifer cyfan y cyfarwyddwyr heb gynnwys unrhyw gyfarwyddwyr sydd wedi eu hatal o dan reoliad 11;

(b) ystyr cyfeiriadau ym mharagraff 2(3) o Atodlen 2 at gyfarwyddwr yw cyfeiriadau at gyfarwyddwr ac eithrio cyfarwyddwr sydd wedi ei atal o dan reoliad 11.

Atal cadeirydd: penodi is-gadeirydd

13.–(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo cadeirydd yr Ymddiriedolaeth yn cael ei atal o dan reoliad 11.

(2) Os bydd is-gadeirydd wedi ei benodi o dan reoliad 18 (penodi is-gadeirydd), bydd y penodiad hwnnw'n peidio â bod yn effeithiol o'r adeg y caiff y cadeirydd ei atal.

(3) At ddiben galluogi trafodion yr Ymddiriedolaeth i gael eu cynnal yn absenoldeb y cadeirydd, caiff Gweinidogion Cymru benodi cyfarwyddwr anweithredol i'r Ymddiriedolaeth i fod yn is-gadeirydd.

(4) Rhaid i benodiad is-gadeirydd o dan baragraff (3) fod am y cyfryw gyfnod, nad yw'n fwy na'r byrraf o'r canlynol–

(a) cyfnod atal y cadeirydd; a

(b) gweddill tymor y cyfarwyddwr anweithredol yn gyfarwyddwr i'r Ymddiriedolaeth,

ag y byddo Gweinidogion Cymru'n ei bennu wrth wneud y penodiad.

(5) Pan fo'r cyfnod y mae person wedi ei benodi i'w weithio yn swydd is-gadeirydd yn dod i ben, caiff Gweinidogion Cymru ailbenodi'r person, neu benodi cyfarwyddwr anweithredol arall, yn is-gadeirydd yn unol â pharagraff (3).

(6) Caiff unrhyw berson a benodwyd o dan baragraff (3) ymddiswyddo o swydd is-gadeirydd ar unrhyw adeg drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru.

(7) Caiff Gweinidogion Cymru derfynu penodiad person i swydd is-gadeirydd o dan baragraff (3) os yw Gweinidogion Cymru o'r farn y byddai'n llesol i fuddiannau'r Ymddiriedolaeth fod cyfarwyddwr anweithredol arall i'r Ymddiriedolaeth yn cael ei wneud yn is-gadeirydd.

(8) Os–

(a) bydd person yn ymddiswyddo o swydd is-gadeirydd o dan baragraff (6); neu

(b) bydd Gweinidogion Cymru'n terfynu penodiad person i swydd is-gadeirydd o dan baragraff (7),

caiff Gweinidogion Cymru benodi cyfarwyddwr anweithredol arall yn is-gadeirydd yn unol â pharagraff (3).

Cymhwystra ar gyfer ailbenodi

14.–(1) Yn ddarostyngedig i baragraff 3 a rheoliad 16 bydd cadeirydd yr Ymddiriedolaeth neu gyfarwyddwr anweithredol iddi yn gymwys i'w ailbenodi ar ddiwedd cyfnod ei ddeiliadaeth swydd.

(2) Bydd cyfarwyddwr gweithredol i'r Ymddiriedolaeth a benodwyd o dan reoliad 4(3) ac y mae rheoliad 6 yn gymwys iddo yn gymwys i'w ailbenodi ar ddiwedd cyfnod ei ddeiliadaeth swydd.

(3) Ni chaiff person ddal swydd cyfarwyddwr anweithredol am gyfanswm cyfnod o fwy nag wyth mlynedd.

Datgymhwyso rhag penodi cadeirydd a chyfarwyddwyr anweithredol

15.–(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 16 datgymhwysir person rhag cael ei benodi'n gadeirydd yr Ymddiriedolaeth neu'n gyfarwyddwr anweithredol iddi–

(a) os yw'r person hwnnw o fewn y pum mlynedd flaenorol wedi ei gollfarnu yn y Deyrnas Unedig, unrhyw un o Ynysoedd y Sianel neu ar Ynys Manaw o unrhyw dramgwydd a bod dedfryd o garchar (p'un ai wedi ei gohirio ai peidio) wedi ei phasio arno am gyfnod o ddim llai na thri mis heb yr opsiwn o ddirwy; neu

(b) os yw'r person hwnnw'n ddarostyngedig i orchymyn cyfyngiadau methdalu neu orchymyn cyfyngiadau methdalu dros dro neu os bydd wedi gwneud compownd neu drefniant gyda chredydwyr; neu

(c) os cafodd y person hwnnw ei ddiswyddo, ac eithrio oherwydd colli swyddi, o unrhyw gyflogaeth am dâl gyda chorff gwasanaeth iechyd; neu

(ch) os yw'r person hwnnw'n berson y mae ei ddeiliadaeth swydd fel cadeirydd corff gwasanaeth iechyd, neu fel aelod ohono, neu fel cyfarwyddwr neu lywodraethwr iddo wedi ei therfynu oherwydd nad yw ei benodiad yn llesol i fuddiannau'r gwasanaeth Iechyd neu'r corff gwasanaeth iechyd dan sylw, am beidio â mynychu cyfarfodydd neu am beidio â datgelu buddiant ariannol; neu

(d) os yw'r person hwnnw'n gadeirydd corff gwasanaeth iechyd ac eithrio ymddiriedolaeth sefydledig GIG, neu'n aelod ohono, neu'n gyfarwyddwr neu gyflogai iddo; neu

(dd) os yw'r person hwnnw'n gadeirydd ymddiriedolaeth sefydledig GIG neu'n gyfarwyddwr neu gyflogai iddi; neu

(e) os y person hwnnw yw cadeirydd Rheolydd Annibynnol Ymddiriedolaethau Sefydledig GIG neu os yw'n aelod arall ohono.

(2) At ddibenion paragraff (1)(a), bernir mai'r dyddiad collfarnu yw'r dyddiad y mae'r cyfnod arferol a ganiateir ar gyfer gwneud apêl neu gais ynghylch y gollfarn yn dod i ben neu, os gwneir apêl neu gais o'r fath, y dyddiad y penderfynir yn derfynol ar yr apêl neu'r cais neu'r dyddiad y rhoddir y gorau iddi neu iddo, neu'r dyddiad y metha'r apêl neu'r cais oherwydd na chaiff ei herlyn neu ei erlyn.

(3) At ddibenion paragraff (1)(c), ni chaiff person ei drin fel pe bai wedi bod mewn cyflogaeth am dâl dim ond oherwydd ei fod yn gadeirydd, yn aelod neu'n gyfarwyddwr neu, yn achos ymddiriedolaeth sefydledig GIG, oherwydd ei fod yn gadeirydd y corff gwasanaeth iechyd dan sylw, neu'n llywodraethwr neu gyfarwyddwr anweithredol iddo.

(4) Ni fydd person yn cael ei ddatgymhwyso gan baragraff (1)(d) rhag bod yn gadeirydd yr Ymddiriedolaeth neu'n gyfarwyddwr anweithredol iddi yn ystod y cyfnod rhwng y dyddiad sefydlu a'r dyddiad gweithredol yn rhinwedd bod yn gadeirydd ymddiriedolaeth GIG arall neu'n gyfarwyddwr anweithredol iddi.

Diwedd datgymhwysiad

16.–(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), os yw person yn cael ei ddatgymhwyso o dan reoliad 15(1)(c) (cyflogeion a ddiswyddir) caiff y person hwnnw, ar ôl i gyfnod nad yw'n llai na dwy flynedd ddod i ben, wneud cais ysgrifenedig i Weinidogion Cymru i ddileu'r datgymhwysiad a chaiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo y bydd y datgymhwysiad yn dod i ben.

(2) Os bydd Gweinidogion Cymru'n gwrthod cais i ddileu datgymhwysiad ni chaiff y person hwnnw wneud cais pellach hyd oni fydd cyfnod o ddwy flynedd ar ôl ddyddiad y cais wedi dod i ben.

(3) Os caiff person ei ddatgymhwyso o dan reoliad 15(1)(ch) (cadeiryddion a chyfarwyddwyr penodol y mae eu penodiadau wedi eu terfynu), bydd y datgymhwysiad yn dod i ben ar ddiwedd cyfnod o ddwy flynedd neu'r cyfryw gyfnod hwy ag y bydd Gweinidogion Cymru'n ei bennu pan fyddant yn terfynu ei gyfnod yn y swydd, ond caiff Gweinidogion Cymru, o fod cais yn cael ei wneud iddynt gan y person hwnnw, gwtogi'r cyfnod o ddatgymhwysiad.

RHAN III Cyfansoddiad a Thrafodion

Penodi is-gadeirydd

17.–(1) At ddiben galluogi trafodion yr Ymddiriedolaeth i gael eu cynnal yn absenoldeb y cadeirydd, caiff cyfarwyddwyr yr Ymddiriedolaeth benodi cyfarwyddwr anweithredol o'u plith i fod yn is-gadeirydd am y cyfryw gyfnod, nad yw'n hwy na gweddill ei dymor fel cyfarwyddwr anweithredol i'r Ymddiriedolaeth, ag y cânt ei bennu wrth ei benodi.

(2) Caiff unrhyw gyfarwyddwr anweithredol a benodir felly ymddiswyddo ar unrhyw adeg o swydd is-gadeirydd drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i gadeirydd yr Ymddiriedolaeth a, phan ddigwydd hynny, caiff cyfarwyddwyr yr Ymddiriedolaeth benodi cyfarwyddwr anweithredol arall yn is-gadeirydd yn unol â pharagraff (1).

(3) Nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo rheoliad 13 yn gymwys.

Pwerau is-gadeirydd

18. Os yw cadeirydd yr Ymddiriedolaeth wedi marw neu os nad yw mwyach yn ddeiliad y swydd am ryw reswm arall neu os nad yw wedi gallu cyflawni ei ddyletswyddau cadeirydd oherwydd salwch, oherwydd ei fod yn absennol o Gymru a Lloegr, oherwydd ei atal o dan reoliad 11 neu am unrhyw achos arall, bernir bod cyfeiriadau at y cadeirydd yn Atodlen 2 yn cynnwys cyfeiriadau at yr is-gadeirydd, tra nad oes cadeirydd neu tra na fydd y cadeirydd yn gallu cyflawni ei ddyletswyddau.

Penodi pwyllgorau ac is-bwyllgorau

19.–(1) Yn ddarostyngedig i reoliadau 21 a 22 caiff yr Ymddiriedolaeth benodi pwyllgorau i'r Ymddiriedolaeth sydd wedi eu cyfansoddi'n gyfan gwbl neu'n rhannol o gyfarwyddwyr neu'n gyfan gwbl neu'n rhannol o bersonau nad ydynt yn gyfarwyddwyr.

(2) Caiff pwyllgor a benodir o dan y rheoliad hwn benodi is-bwyllgorau sydd wedi eu cyfansoddi'n gyfan gwbl neu'n rhannol o aelodau o'r pwyllgor (p'un a ydynt yn cynnwys cyfarwyddwyr yr ymddiriedolaeth ai peidio) neu'n gyfan gwbl o bersonau nad ydynt yn aelodau o'r pwyllgor (p'un a ydynt yn cynnwys cyfarwyddwyr i'r ymddiriedolaeth ai peidio).

Trefniadau ar gyfer arfer swyddogaethau

20. Yn ddarostyngedig i reoliadau 21 a 22 caiff yr Ymddiriedolaeth wneud trefniadau ar gyfer arfer, ar ran yr Ymddiriedolaeth, unrhyw un neu rai o'i swyddogaethau gan bwyllgor neu is-bwyllgor a benodwyd yn rhinwedd rheoliad 19 yn ddarostyngedig i'r cyfryw gyfyngiadau ac amodau ag y gwêl yr Ymddiriedolaeth yn dda eu gosod.

Pwyllgor ar gyfer penodi prif swyddog yn gyfarwyddwr

21. Bydd yr Ymddiriedolaeth yn penodi pwyllgor y bydd cadeirydd yr ymddiriedolaeth a chyfarwyddwyr anweithredol i'r ymddiriedolaeth yr aelodau ohono, a phenodi'r prif swyddog yn gyfarwyddwr i'r Ymddiriedolaeth fydd ei swyddogaeth.

Pwyllgor ar gyfer penodi cyfarwyddwyr gweithredol ac eithrio'r prif swyddog

22. Bydd yr Ymddiriedolaeth yn penodi pwyllgor y bydd y cadeirydd, y cyfarwyddwyr anweithredol a'r prif swyddog yr aelodau ohono, a phenodi'r cyfarwyddwyr gweithredol ac eithrio'r prif swyddog fydd ei swyddogaeth.

Cyfarfodydd a Thrafodion

23.–(1) Rhaid cynnal cyfarfodydd a thrafodion yr Ymddiriedolaeth yn unol â'r rheolau a nodir yn Atodlen 2 ac â rheolau sefydlog a wnaed o dan baragraff (2).

(2) Yn ddarostyngedig i Atodlen 2 ac i reoliad 24 rhaid i'r Ymddiriedolaeth wneud rheolau sefydlog, y caiff eu hamrywio neu eu dirymu, ar gyfer rheoleiddio ei thrafodion a'i busnes a chaniateir gwneud darpariaeth yn y cyfryw reolau sefydlog ar gyfer eu hatal.

(3) Caiff yr Ymddiriedolaeth wneud, amrywio a dirymu rheolau sefydlog sy'n ymwneud â chworwm, trafodion a man cyfarfod pwyllgor neu is-bwyllgor ond, yn ddarostyngedig i reoliad 24 ac i unrhyw reolau sefydlog o'r fath, y cyfryw ag y byddo'r pwyllgor neu'r is-bwyllgor yn penderfynu arnynt fydd y cworwm, y trafodion a'r man cyfarfod.

(4) Ni fydd trafodion yr Ymddiriedolaeth yn annilys oherwydd bod unrhyw swydd aelod yn wag neu oherwydd unrhyw ddiffyg ym mhenodiad cyfarwyddwr.

Anallu cyfarwyddwyr i gyfrannu at drafodion oherwydd buddiant ariannol

24.–(1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol y rheoliad hwn, os oes gan gyfarwyddwr i'r Ymddiriedolaeth unrhyw fuddiant ariannol, boed uniongyrchol neu anuniongyrchol, mewn unrhyw gontract, contract arfaethedig neu fater arall a'i fod yn bresennol yn un o gyfarfodydd yr Ymddiriedolaeth pan roddir ystyriaeth i'r contract neu fater arall, rhaid i'r cyfarwyddwr hwnnw ddatgelu'r ffaith yn y cyfarfod ac mor fuan â phosibl ar ôl i'r cyfarfod ddechrau, a rhaid iddo beidio â chymryd rhan yn yr ystyriaeth a roddir i'r contract neu'r mater arall a'r drafodaeth arno, neu bleidleisio ar unrhyw gwestiwn mewn cysylltiad ag ef.

(2) Caiff Gweinidogion Cymru, yn ddarostyngedig i'r cyfryw amodau ag y byddo Gweinidogion Cymru'n gweld yn dda eu gosod, ddileu unrhyw anallu a osodir gan y rheoliad hwn, mewn unrhyw achos lle y mae'n ymddangos iddynt hwy y byddai er budd y gwasanaeth iechyd i'r anallu gael ei ddileu.

(3) Caiff yr Ymddiriedolaeth, drwy gyfrwng rheolau sefydlog a wnaed o dan reoliad 23, ddarparu ar gyfer gwahardd cyfarwyddwr rhag bod yn bresennol mewn cyfarfod o'r ymddiriedolaeth tra bydd unrhyw gontract, contract arfaethedig, neu fater arall y mae gan y cyfarwyddwr fuddiant ariannol ynddo, boed uniongyrchol neu anuniongyrchol, yn cael ei ystyried.

(4) Ni chaniateir trin unrhyw gydnabyddiaeth, iawndal nei lwfansau sy'n daladwy i gyfarwyddwr yn rhinwedd paragraff 11 o Atodlen 3 i'r Ddeddf fel buddiant ariannol at ddiben y rheoliad hwn.

(5) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (6), rhaid i gyfarwyddwr gael ei drin at ddibenion y rheoliad hwn fel pe bai ganddo'n anuniongyrchol fuddiant ariannol mewn contract, contract arfaethedig neu fater arall–

(a) os bod y cyfarwyddwr hwnnw, neu'r sawl a enwebir ganddo, yn gyfarwyddwr cwmni neu gorff arall, nad yw'n gorff cyhoeddus, y gwnaed y contract gydag ef neu yr arfaethir gwneud contract gydag ef neu y mae ganddo fuddiant ariannol yn y mater arall sy'n cael ei ystyried; neu

(b) os bod y cyfarwyddwr hwnnw'n bartner i, neu'n cael ei gyflogi gan, berson y gwnaed y contract gydag ef neu yr arfaethir gwneud y contract gydag ef, neu y mae ganddo fuddiant ariannol uniongyrchol yn y mater arall sy'n cael ei ystyried ac os bernir, yn achos personau priod neu bartneriaid sifil, fod buddiant un o'r pâr priod neu un o'r ddau bartner sifil at ddiben y rheoliad hwn hefyd yn fuddiant i'r llall.

(6) Ni fydd cyfarwyddwr yn cael ei drin fel pe bai ganddo fuddiant ariannol mewn unrhyw gontract, contract arfaethedig neu fater arall dim ond –

(a) oherwydd bod y cyfarwyddwr hwnnw'n aelod o gwmni neu gorff arall os nad oes ganddo fuddiant llesiannol mewn unrhyw warannau sy'n perthyn i'r cwmni hwnnw neu i gorff arall;

(b) o achos buddiant mewn unrhyw gwmni, corff neu berson y mae'n gysylltiedig ag ef fel a grybwyllir ym mharagraff (5) sydd mor bell neu ddi-nod fel na ellir yn rhesymol ystyried ei fod yn debygol o ddylanwadu ar gyfarwyddwr wrth iddo ystyried neu drafod unrhyw gwestiwn mewn cysylltiad â'r contract neu'r mater hwnnw neu wrth iddo bleidleisio arno.

(7) Os digwydd y canlynol–

(a) bod gan gyfarwyddwr fuddiant ariannol anuniongyrchol mewn contract neu fater arall dim ond oherwydd bod ganddo fuddiant llesiannol yng ngwarannau cwmni neu gorff arall; a

(b) nad yw cyfanswm gwerth enwol y gwarannau hynny'n fwy na £5,000 neu ganfed ran o gyfanswm gwerth enwol cyfalaf cyfranddaliadau a ddyroddwyd gan y cwmni neu'r corff, pa un bynnag yw'r lleiaf; ac

(c) bod y cyfalaf cyfranddaliadau yn perthyn i fwy nag un dosbarth, a bod cyfanswm gwerth enwol cyfranddaliadau unrhyw un dosbarth y mae ganddo fuddiant llesiannol ynddo heb fod yn fwy na chanfed ran o gyfanswm cyfalaf cyfranddaliadau a ddyroddwyd yn y dosbarth hwnnw,

ni fydd y rheoliad hwn yn gwahardd y cyfarwyddwr hwnnw rhag cymryd rhan mewn ystyriaeth o'r contract neu fater arall neu drafodaeth arno neu rhag pleidleisio ar unrhyw gwestiwn mewn cysylltiad ag ef heb ragfarnu fodd bynnag ei ddyletswydd i ddatgelu ei fuddiant.

(8) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i bwyllgor neu is-bwyllgor i'r Ymddiriedolaeth fel y mae'n gymwys i'r Ymddiriedolaeth ac mae'n gymwys i unrhyw aelod o unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor o'r fath (p'un a yw'r person hwnnw hefyd yn gyfarwyddwr i'r ymddiriedolaeth ai peidio) fel y mae'n gymwys i gyfarwyddwr i'r Ymddiriedolaeth.

Darpariaeth drosiannol

25. Rhwng y dyddiad sefydlu a'r dyddiad gweithredol mae paragraff 3(5) o Atodlen 2 yn gymwys fel pe bai'n darllen–

Diwygiadau canlyniadol

26.–(1) Yn rheoliad 1(2) o Reoliadau 1990 mewnosoder y diffiniad a ganlyn yn y man priodol–

""the Public Health Wales National Health Service Trust" means the NHS Trust established by the Public Health Wales National Health Service Trust (Establishment) Order 2009."

(2) Mewnosoder rheoliad ychwanegol yn Rheoliadau 1990 yn syth ar ôl rheoliad 1 o'r Rheoliadau hynny–

"The Public Health Wales National Health Service Trust

1A These Regulations do not apply to the Public Health Wales National Health Service Trust."

Edwina Hart

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

9 Mehefin 2009

Rheoliad 3(1)

ATODLEN 1 GWEITHDREFNAU AR GYFER PENODI'R CADEIRYDD A CHYFARWYDDWYR ANWEITHREDOL

1. Mae'r Atodlen hon yn gymwys i'r broses o ddewis a phenodi'r cadeirydd a chyfarwyddwyr anweithredol.

2. Bydd Gweinidogion Cymru'n sicrhau bod trefniadau priodol yn eu lle ar gyfer dewis a phenodi personau'n aelodau a bod y trefniadau hynny'n cymryd i ystyriaeth–

(a) yr egwyddorion a osodir o bryd i'w gilydd gan y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus ac yng Nghod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gyfer Penodiadau gan Weinidogion i Gyrff Cyhoeddus;

(b) y gofyniad am i'r broses o ddewis a phenodi fod yn agored a thryloyw; ac

(c) y gofyniad am i'r broses o ddewis a phenodi gynnwys cystadleuaeth deg ac agored.

Rheoliad 23(1)

ATODLEN 2 Rheolau ynghylch Cyfarfodydd a Thrafodion yr Ymddiriedolaeth

1. Cynhelir cyfarfod cyntaf yr Ymddiriedolaeth ar y cyfryw ddiwrnod ac yn y cyfryw fan ag y caiff y cadeirydd ei bennu a'r cadeirydd fydd yn gyfrifol am gynnull y cyfarfod.

2.–(1) Caiff y cadeirydd alw cyfarfod o'r Ymddiriedolaeth ar unrhyw adeg.

(2) Os bydd y cadeirydd yn gwrthod galw cyfarfod ar ôl i gais i'r perwyl hwnnw, a lofnodwyd gan draean o leiaf o nifer cyfan yr aelodau, gael ei gyflwyno iddo, neu os nad yw'n galw cyfarfod o fewn saith niwrnod ar ôl i gais o'r fath gael ei gyflwyno iddo, ac yntau heb fod wedi gwrthod felly, rhaid i'r cyfryw draean neu fwy o aelodau alw cyfarfod yn ddiymdroi.

(3) Cyn pob cyfarfod o'r Ymddiriedolaeth, rhaid i hysbysiad o'r cyfarfod, yn nodi'r busnes y bwriedir ei drafod ynddo, ac wedi ei lofnodi gan y cadeirydd neu gan swyddog i'r Ymddiriedolaeth a awdurdodwyd gan y cadeirydd i lofnodi ar ei ran, gael ei ddanfon i bob cyfarwyddwr neu ei anfon drwy'r post i breswylfa arferol y cyfryw gyfarwyddwr, fel ei fod ar gael i bob cyfarwyddwr ddeng niwrnod o leiaf cyn y cyfarfod.

(4) Ni fydd diffyg cyflwyno'r hysbysiad i unrhyw gyfarwyddwr yn effeithio ar ddilysrwydd cyfarfod.

(5) Yn achos cyfarfod sy'n cael ei alw gan gyfarwyddwyr yn niffyg y cadeirydd, rhaid i'r hysbysiad gael ei lofnodi gan y cyfarwyddwyr hynny ac ni chaiff unrhyw fusnes ei drafod yn y cyfarfod ac eithrio'r busnes a bennir yn yr hysbysiad.

3.–(1) Mewn unrhyw gyfarfod o'r Ymddiriedolaeth, y cadeirydd, os yw'n bresennol, fydd yn llywyddu.

(2) Os yw'r cadeirydd a'r is-gadeirydd (os o gwbl) yn absennol, bydd y cyfryw gyfarwyddwr anweithredol ag y byddo'r cyfarwyddwyr sy'n bresennol yn ei ddewis yn llywyddu.

(3) Rhaid i bob cwestiwn mewn cyfarfod gael ei benderfynu gan fwyafrif pleidleisiau'r cyfarwyddwyr sy'n bresennol ac sy'n pleidleisio ar y cwestiwn ac, os yw'r pleidleisiau'n gyfartal, bydd gan y person sy'n llywyddu ail bleidlais a fydd yn bleidlais fwrw.

(4) Rhaid cofnodi enwau'r cyfarwyddwyr sy'n bresennol yn y cyfarfod.

(5) Ni chaniateir trafod unrhyw fusnes mewn cyfarfod o'r Ymddiriedolaeth onid oes traean o nifer cyfan y cyfarwyddwyr yn bresennol gan gynnwys, ar neu ar ôl y dyddiad gweithredol, un cyfarwyddwr gweithredol a dau gyfarwyddwr anweithredol o leiaf.

(6) Rhaid llunio cofnodion trafodion cyfarfod a'u cyflwyno er mwyn cael cytundeb arnynt yn y cyfarfod nesaf sy'n dilyn, lle y cânt eu llofnodi gan y person sy'n llywyddu ynddo.

4. Os yw swydd cyfarwyddwr gweithredol yn cael ei rhannu rhwng mwy nag un person yn unol â rheoliad 7–

(a) bydd gan y ddau berson yr hawl i fynychu cyfarfodydd yr Ymddiriedolaeth;

(b) bydd y naill neu'r llall o'r personau hynny'n gymwys i bleidleisio os byddant yn cytuno â'i gilydd;

(c) os byddant yn anghytuno â'i gilydd ni fydd pleidlais yn cael ei bwrw;

(ch) caiff presenoldeb y naill berson neu'r llall neu'r naill berson a'r llall gyfrif fel un person at ddiben paragraff 3(5) o'r Atodlen hon.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer Aelodaeth a Gweithdrefnau Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru ("yr Ymddiriedolaeth").

Mae Rhan 2 y Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth–

(a) ar gyfer mwyafswm nifer y cyfarwyddwyr (rheoliad 2);

(b) ar gyfer penodi ac ailbenodi y cyfarwyddwyr (rheoliadau 3 a 14 ac Atodlen 1);

(c) mewn perthynas â chyfansoddiad ac aelodaeth yr Ymddiriedolaeth (rheoliadau 4 i 7);

(ch) mewn perthynas â deiliadaeth swydd y cyfarwyddwyr a'u hatal dros dro, terfynu deiliadaeth a datgymhwyso rhag penodi cyfarwyddwyr penodol (rheoliadau 8 i 15).

Mae Rhan 3 yn cynnwys darpariaethau mewn perthynas â throdion yr Ymddiriedolaeth gan gynnwys penodi'r is-gadeirydd, penodi pwyllgorau a gweithdrefnau ar gyfer cyfarfodydd.

Mae Rhan 4 yn nodi trefniadau trosiannol rhwng dyddiad sefydlu a dyddiad gweithredol yr Ymddiriedolaeth ac yn gwneud diwygiadau canlyniadol penodol.

Mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi'i baratoi mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

(1)

2006 p.42. Back [1]

(2)

2006 p. 41. Back [2]

(3)

O.S. 2006/552. Back [3]

(4)

1978 p.29. Back [4]

(5)

O.S. 1990/2024. Back [5]

(6)

1992 p. 52. Back [6]

(7)

O.S. 2009/2058 (Cy.177). Back [7]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20091385_we_1.html