BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau'r Byrddau Iechyd Lleol (Swyddogaethau a Gyfarwyddir) (Cymru) 2009 No. 1511 (Cy. 147) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20091511_we_1.html |
[New search] [Help]
Gwnaed
18 Mehefin 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
19 Mehefin 2009
Yn dod i rym
1 Hydref 2009
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 12, 203(9) a (10) a 204 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Byrddau Iechyd Lleol (Swyddogaethau a Gyfarwyddir) (Cymru) 2009.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Hydref 2009.
2.–(1) Yn y Rheoliadau hyn –
ystyr "Bwrdd Iechyd Lleol" ("Local Health Board") yw Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd yn unol ag adran 11(2) o'r Ddeddf(2);
ystyr "Byrddau Iechyd Lleol blaenorol" ("former Local Health Boards") yw'r ddau Fwrdd Iechyd Lleol ar hugain a sefydlwyd ar 10 Chwefror 2003 gan Orchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu) (Cymru) 2003(3);
ystyr "Deddf 1989" ("the 1989 Act") yw Deddf Plant 1989(4);
ystyr "y dyddiad perthnasol" ("the relevant date") yw 1 Hydref 2009;
ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;
ystyr "gofal parhaus" ("continuing care") yw gofal a ddarperir dros gyfnod estynedig o amser i berson er mwyn bodloni anghenion iechyd corfforol neu feddyliol sydd wedi digwydd o ganlyniad i salwch;
mae'r ymadrodd "Gorchymyn BILl" i'w ddehongli'n unol â'r ymadrodd "LHB Order" yn adran 11(2) o'r Ddeddf;
mae i'r ymadrodd "gwasanaethau deintyddol sylfaenol" yr ystyr sydd i'r ymadrodd "primary dental services" yn adran 56 o'r Ddeddf;
mae i'r ymadrodd "gwasanaethau fferyllol" yr ystyr sydd i'r ymadrodd "pharmaceutical services" yn adran 80(8) o'r Ddeddf;
mae i'r ymadrodd "gwasanaethau meddygol sylfaenol" yr ystyr sydd i'r ymadrodd "primary medical services" yn adran 41 o'r Ddeddf; ac
mae i'r ymadrodd "gwasanaethau offthalmig cyffredinol" yr ystyr sydd i'r ymadrodd "general ophthalmic services" yn adran 71(10) o'r Ddeddf.
(2) At ddibenion y Rheoliadau hyn, ac yn ddarostyngedig i reoliad 3, y personau sy'n preswylio fel arfer yn yr ardal y mae'r Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei sefydlu ar ei chyfer yw'r personau y mae Bwrdd Iechyd Lleol yn gyfrifol amdanynt mewn unrhyw flwyddyn.
(3) Yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddyd y gall Gweinidogion Cymru ei roi o ran unrhyw achos penodol neu ddosbarthau o achos, os oes amheuaeth o ran ble y mae person yn preswylio fel arfer at ddibenion paragraff (2) –
(a) mae'r person i'w drin fel pe bai'n preswylio fel arfer yn y cyfeiriad a roddwyd ganddo, yn gyfeiriad y mae'r person fel arfer yn preswylio ynddo, i'r person neu'r corff sy'n darparu gwasanaethau ar ei gyfer;
(b) os nad yw'r person yn rhoi unrhyw gyfeiriad o'r fath, mae ef i'w drin fel pe bai'n preswylio fel arfer yn y cyfeiriad y mae'n ei roi, yn gyfeiriad mwyaf diweddar y person, i'r person neu'r corff sy'n darparu gwasanaethau ar ei gyfer;
(c) os na ellir cadarnhau cyfeiriad arferol y person o dan is-baragraffau (a) a (b) uchod, mae ef i gael ei drin fel pe bai'n preswylio fel arfer yn yr ardal y mae'r person yn bresennol ynddi.
3.–(1) Mae Bwrdd Iechyd Lleol gwreiddiol yn parhau i fod yn gyfrifol am y personau a bennir ym mharagraff (3) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn yr ardal y sefydlwyd ef ar ei chyfer, yn yr amgylchiadau a nodir ym mharagraff (2).
(2) Dyma'r amgylchiadau–
(a) ar neu ar ôl 1 Gorffennaf 2007
(i) bod y Bwrdd Iechyd Lleol gwreiddiol wedi gwneud trefniant wrth arfer ei swyddogaethau, neu
(ii) bod awdurdod lleol wedi gwneud trefniant
y darperir gwasanaethau, yn rhinwedd y trefniant hwnnw, ar gyfer person y mae paragraff (3) yn gymwys iddo, sy'n golygu neu'n cynnwys darparu llety sydd wedi ei leoli yn ardal Bwrdd Iechyd Lleol arall neu Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol; a
(b) bod y person drwy hynny'n byw yn y llety.
(3) Mae'r paragraff hwn yn gymwys
(a) i berson sydd o dan 18 oed ac
(i) sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol o fewn ystyr adran 22(1) o Ddeddf 1989,
(ii) sy'n blentyn perthnasol o fewn ystyr adran 23A o Ddeddf 1989,
(iii) sy'n gymwys i gael cyngor a chymorth o dan adran 24(1A) neu adran 24(1B) o Ddeddf 1989,
(iv) sydd wedi ei leoli mewn ysgol yn unol â datganiad o anghenion addysgol arbennig a wnaed o dan adran 324 o Ddeddf Addysg 1996(5) ac sy'n enwi'r ysgol, neu
(v) y mae arno angen llety er mwyn bodloni anghenion gofal parhaus; a
(b) i berson o dan 21 oed a oedd, yn union cyn ei ben-blwydd yn ddeunaw oed, yn berson a oedd yn dod o fewn un o is-gategorïau is-baragraff (a).
(4) Nid yw cyfrifoldeb Bwrdd Iechyd Lleol gwreiddiol o dan y rheoliad hwn yn ymestyn i'w swyddogaethau mewn perthynas â gwasanaethau meddygol sylfaenol, gwasanaethau deintyddol sylfaenol, gwasanaethau fferyllol a gwasanaethau offthalmig cyffredinol.
(5) Yn y rheoliad hwn ystyr "Bwrdd Iechyd Lleol gwreiddiol" ("Local Health Board of origin") yw'r Bwrdd Iechyd Lleol a wnaeth y trefniant o dan is-baragraff (2)(a)(i) neu'r Bwrdd Iechyd Lleol sy'n cyfateb i ardal ddaearyddol yr awdurdod lleol a wnaeth y trefniant o dan is-baragraff (2)(a)(ii).
4.–(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 5, ac yn ddarostyngedig i unrhyw waharddiadau neu gyfyngiadau mewn Gorchymyn BILl, y swyddogaethau i'w harfer gan Fwrdd Iechyd Lleol o'r dyddiad perthnasol yw:
(a) swyddogaethau Awdurdodau Iechyd blaenorol yng Nghymru a drosglwyddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Awdurdodau Iechyd (Trosglwyddo Swyddogaethau, Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau a Diddymu) (Cymru) 2003(6) ac y cyfarwyddwyd Byrddau Iechyd Lleol blaenorol gan Reoliadau'r Byrddau Iechyd Lleol (Swyddogaethau) (Cymru) 2003(7) i'w harfer ar 1 Ebrill 2003; a
(b) swyddogaethau Gweinidogion Cymru, i'r graddau nad ydynt yn swyddogaethau o dan is-baragraff (a), fel a bennir yn yr Atodlen.
(2) Mae'r swyddogaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(a) yn benodol yn cynnwys y cyfryw swyddogaethau ag a bennir yn yr Atodlen ond nid ydynt wedi eu cyfyngu iddynt.
5. Nid oes dim yn y Rheoliadau hyn i'w gymryd fel pe bai'n rhoi cyfarwyddiadau ynghylch arfer unrhyw swyddogaethau a roddwyd i Weinidogion Cymru neu a freiniwyd ynddynt mewn cysylltiad ag –
(a) gwneud unrhyw Orchymyn neu Reoliadau; neu
(b) rhoi unrhyw gyfarwyddiadau.
6. Dirymir y Rheoliadau a ganlyn –
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Swyddogaethau Awdurdodau Iechyd a Threfniadau Gweinyddol) 1996 (O.S. 1996/708);
Rheoliadau'r Byrddau Iechyd Lleol (Swyddogaethau) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/150 (Cy.20));
Rheoliadau'r Byrddau Iechyd Lleol (Swyddogaethau) (Diwygio) 2003 (O.S. 2003/816 (Cy.101));
Rheoliadau Bwrdd Iechyd Lleol Powys (Swyddogaethau Ychwanegol) 2003 (O.S. 2003/815 (Cy.100)); a
Rheoliadau'r Byrddau Iechyd Lleol (Swyddogaethau) (Cymru) (Diwygio) 2007 (O.S. 2007/315 (Cy.29)).
7. Gwneir y diwygiadau canlyniadol a ganlyn–
(a) ym mharagraff 16 o Ran 2 o Atodlen 2 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Darpariaethau Canlyniadol) 2006(8)–
(i) yn lle "Local Health Boards (Functions) (Wales) Regulations 2003" rhodder "Local Health Boards (Directed Functions) (Wales) Regulations 2009",
(ii) yn is-baragraff (c) yn lle "3(1)" rhodder "4",
(iii) dileer is-baragraff (d); a
(b) yn y Cyfarwyddiadau i Fwrdd Iechyd Lleol Caerdydd, Bwrdd Iechyd Lleol Abertawe a Bwrdd Iechyd Lleol Sir Fynwy (2006) a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2006, yng nghyfarwyddyd 2(1) yn lle "Rheoliadau'r Byrddau Iechyd Lleol (Swyddogaethau) (Cymru) 2003" rhodder "Rheoliadau'r Byrddau Iechyd Lleol (Swyddogaethau a Gyfarwyddir) (Cymru) 2009".
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
18 Mehefin 2009
Rheoliad 4
(1) | (2) |
---|---|
DEDDFIAD | CYNNWYS |
Deddf Gwasanaethau Iechyd ac Iechyd Cyhoeddus 1968 (p.46) | |
adran 63(1), (5) a (6) | Darparu ar gyfer hyfforddi swyddogion Byrddau Iechyd Lleol a phersonau eraill a gyflogir neu sy'n arfaethu cael eu cyflogi mewn gweithgareddau sy'n gysylltiedig ag iechyd neu les. |
adran 64(1) | Rhoi cymorth ariannol i gyrff gwirfoddol |
Deddf Cleifion Cronig a Phersonau Anabl 1970 (p.44) | |
adran 17 | Darpariaethau mewn cysylltiad â gwahanu cleifion iau oddi wrth gleifion hŷn yn yr ysbyty. |
Deddf Iechyd Meddwl 1983 (p.20) | |
adran 12(2) | Cymeradwyo ymarferwyr meddygol am fod ganddynt brofiad arbennig mewn gwneud diagnosis o neu drin anhwylder meddyliol. |
Deddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988 (p.48) | |
adran 48 | Gwneud deunydd hawlfraint sydd ar gael i'r cyhoedd. |
Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) | |
adran 18 | Pennu symiau dangosol costau cyffuriau a meddyginiaethau. |
Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (p.43) | |
adran 45 | Rhoi a chadw yn eu lle drefniadau at ddibenion monitro ansawdd gofal iechyd a'i wella. |
adran 47(4) | Cymryd i ystyriaeth y safonau a geir mewn datganiadau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru. |
Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p.42) | |
adran 1 | Darparu gwasanaethau yn unol â'r Ddeddf neu sicrhau eu bod yn cael eu darparu. |
adran 2 | Darparu gwasanaethau yr ystyrir eu bod yn briodol ar gyfer cyflawni dyletswyddau a osodir ar Weinidogion Cymru a gwneud unrhyw beth arall a fwriedir i hwyluso cyflawni'r cyfryw ddyletswyddau. |
adran 3(1)(a) a (b) | Darparu llety mewn ysbyty a llety arall. |
adran 3(1)(c) | Darparu gwasanaethau meddygol, deintyddol ac offthalmig, a gwasanaethau nyrsio ac ambiwlans. |
adran 3(1)(d) | Darparu gwasanaethau neu gyfleusterau ar gyfer gofalu am ferched beichiog, merched sy'n bwydo ar y fron a phlant ifanc. |
adran 3(1)(e) | Darparu gwasanaethau neu gyfleusterau ar gyfer atal salwch, gofalu am bersonau sy'n dioddef o salwch ac am ôl-ofal personau sydd wedi dioddef o salwch. |
adran 3(1)(f) | Darparu gwasanaethau neu gyfleusterau eraill y mae eu hangen ar gyfer gwneud diagnosis o salwch a'i drin. |
adran 4 | Darparu gwasanaethau seiciatryddol tra diogel. |
adran 5 a pharagraffau 1 a 2 o Atodlen 1 | Darparu ar gyfer gwneud ymchwiliad meddygol ar ddisgyblion a'u trin. |
adran 5 a pharagraff 8 o Atodlen 1 | Trefnu ar gyfer rhoi cyngor ar atal cenhedlu, ar gyfer gwneud ymchwiliad meddygol ar bersonau sy'n gofyn am y cyfryw gyngor, ar gyfer trin y cyfryw bersonau ac ar gyfer cyflenwi sylweddau a dyfeisiau atal cenhedlu. |
adran 5 a pharagraffau 9 a 10 o Atodlen 1 | Darparu cerbydau (gan gynnwys cadeiriau olwyn) ar gyfer personau anabl. |
adran 5 a pharagraff 12 o Atodlen 1 | Darparu gwasanaeth microbiolegol ar gyfer rheoli lledaeniad clefydau heintus. |
adran 5 a pharagraff 13 o Atodlen 1 | Cynnal neu gynorthwyo personau, drwy gyfrwng grantiau neu fel arall, i ymchwilio i faterion sy'n ymwneud â salwch neu faterion eraill sy'n gysylltiedig â gwasanaeth a ddarperir o dan y Ddeddf. |
adran 6 | Darparu gwasanaethau y tu allan i Gymru. |
adran 10(1) a (2) | Trefnu gydag unrhyw berson neu gorff (gan gynnwys corff gwirfoddol) i'r person neu'r corff hwnnw ddarparu neu gynorthwyo i ddarparu unrhyw wasanaeth o dan y Ddeddf. |
adran 10(3) a (4) | Sicrhau bod cyfleusterau a gwasanaethau personau a gyflogir mewn cysylltiad â'r cyfryw gyfleusterau ar gael i bersonau neu gyrff penodol (gan gynnwys cyrff gwirfoddol). |
adran 10(5) | Cytuno telerau a thaliadau mewn cysylltiad â threfniadau a wneir o dan adran 10 o'r Ddeddf. |
adran 14(1) | Cyflawni swyddogaethau mewn perthynas â gwasanaethau meddygol sylfaenol a gwasanaethau deintyddol sylfaenol. |
adran 15 | Gweinyddu a rheoli gwasanaethau mewn perthynas â gwasanaethau meddygol sylfaenol, gwasanaethau deintyddol sylfaenol, gwasanaethau offthalmig cyffredinol a gwasanaethau fferyllol. |
adran 17 | Paratoi ac adolygu cynlluniau ar gyfer gwella iechyd pobl y mae'n gyfrifol amdanynt a darparu gofal iechyd ar gyfer y cyfryw bersonau. |
adran 38(1)–(4) | Cyflenwi nwyddau, gwasanaethau a chyfleusterau eraill i awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill a gwneud gwaith cynnal a chadw mewn cysylltiad ag unrhyw dir neu adeilad y mae awdurdod lleol yn gyfrifol am ei gynnal. |
adran 38(5) | Cyflenwi nwyddau, deunyddiau neu gyfleusterau eraill a ragnodir i bersonau sy'n darparu gwasanaethau meddygol cyffredinol, gwasanaethau deintyddol sylfaenol, gwasanaethau offthalmig cyffredinol neu wasanaethau fferyllol. |
adran 38(6) | Sicrhau bod unrhyw wasanaethau neu gyfleusterau eraill ar gael i awdurdodau lleol ynghyd â gwasanaethau personau a gyflogir a ddarperir fel rhan o'r gwasanaeth iechyd a gwasanaethau unrhyw ymarferydd meddygol neu ddeintyddol neu nyrs a gyflogir am resymau ac eithrio i ddarparu gwasanaethau sy'n rhan o'r gwasanaeth iechyd er mwyn galluogi awdurdodau lleol i gyflawni eu swyddogaethau mewn perthynas â gwasanaethau cymdeithasol, addysg ac iechyd cyhoeddus. |
adran 38(7) | Sicrhau bod gwasanaethau ymarferwyr ar gael i awdurdodau lleol er mwyn galluogi'r cyfryw awdurdodau i gyflawni eu swyddogaethau mewn perthynas â gwasanaethau cymdeithasol, addysg ac iechyd cyhoeddus. |
adran 39(1) a (2) | Darparu ar gyfer ymgynghori cyn sicrhau bod gwasanaethau unrhyw swyddog ar gael i awdurdod lleol. |
adran 39(4) a (5) | Cytuno telerau gwasanaethau a chyfleusterau a ddarperir o dan adran 38 o'r Ddeddf a'r ffioedd amdanynt. |
adran 39(6) | Pŵer pan gyflenwir nwyddau neu ddeunyddiau i'w prynu a'u storio a threfnu ar gyfer cyflenwi nwyddau neu ddeunyddiau gan drydydd partïon. |
adran 41(1) – (4) | Darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol. |
adran 42 | Gwneud contractau y darperir gwasanaethau meddygol sylfaenol oddi tanynt. |
adran 44 | Gwneud contractau gwasanaethau meddygol cyffredinol gyda phersonau cymwys. |
adran 50(1)–(5) sylfaenol. | Trefnu ar gyfer darparu gwasanaethau meddygol |
adran 51(1) | Gwneud trefniadau gyda phersonau cymwys o dan adran 50. |
adran 53 | Darparu cymorth a chefnogaeth mewn perthynas â gwasanaethau meddygol sylfaenol. |
adran 54(1) a (9) | Cydnabod Pwyllgorau Meddygol Lleol a dyrannu symiau o arian i Bwyllgorau. |
adran 55 | Sicrhau bod llety ar gael i'w ddefnyddio mewn cysylltiad â gwasanaethau meddygol sylfaenol. |
adran 56(1)–(4) | Darparu gwasanaethau deintyddol sylfaenol. |
adran 57 | Gwneud contractau gwasanaethau deintyddol cyffredinol. |
adran 59 | Gwneud contractau gwasanaethau deintyddol cyffredinol gyda phersonau cymwys. |
adran 64(1)–(5) | Trefnu ar gyfer darparu gwasanaethau deintyddol sylfaenol. |
adran 65(1) | Gwneud trefniadau gyda phersonau cymwys o dan adran 64. |
adran 67(1) a (3) | Swyddogaethau mewn perthynas ag iechyd cyhoeddus deintyddol. |
adran 68(1) a (2) | Darparu cymorth a chefnogaeth i unrhyw berson sy'n darparu gwasanaethau deintyddol sylfaenol. |
adran 69(1) a (9) | Cydnabod Pwyllgorau Deintyddol Lleol a dyrannu symiau o arian i Bwyllgorau. |
adran 70 | Sicrhau bod llety ar gael i'w ddefnyddio mewn cysylltiad â gwasanaethau deintyddol sylfaenol. |
adran 71(1) | Trefnu gwasanaethau offthalmig cyffredinol. |
adran 75 | Pan awdurdodir hynny, gwneud trefniadau eraill mewn perthynas â gwasanaethau offthalmig. |
adran 78(1), (7), (8) a (9) | Cydnabod Pwyllgorau Optegol Lleol a dyrannu symiau o arian i Bwyllgorau. |
adran 79 | Sicrhau bod llety ar gael i'w ddefnyddio mewn cysylltiad â darparu gwasanaethau offthalmig cyffredinol. |
adran 80 (1), (3) a (6) | Trefnu ar gyfer gwasanaethau fferyllol. |
adran 82 | Darparu a chyhoeddi manylion trefniadau mewn perthynas â gwasanaethau fferyllol ychwanegol. |
adran 87 | Pan awdurdodir hynny, gwneud trefniadau eraill mewn perthynas â gwasanaethau fferyllol. |
adran 90(1), (7), (8) a (9) | Cydnabod Pwyllgorau Fferyllol Lleol a dyrannu symiau o arian i Bwyllgorau. |
adran 91 | Sicrhau bod llety ar gael i'w ddefnyddio mewn cysylltiad â darparu gwasanaethau fferyllol. |
adran 92 | Sefydlu cynlluniau peilot. |
adran 93 a pharagraffau 1,2,3,4,5 a 7 o Atodlen 6 | Gwneud cynlluniau peilot. |
adran 107 | Datgymhwyso ymarferwyr rhag cael eu cynnwys ar restr offthalmig neu fferyllol. |
adran 108 | Dileu ymarferwyr yn amodol. |
adran 110(1), (3), (4), (5), (6) ac (8) | Atal ymarferwyr dros dro. |
adran 111 | Atal ymarferwyr dros dro hyd oni chynhelir apêl. |
adran 113(1) a (3) | Adolygu penderfyniadau. |
adran 114(5) a (6) | Gwneud cais am amrywio ymarferwyr ar restri, am eu gorfodi ar restri ac am eu dileu'n amodol oddi ar restri. |
adran 115(4),(5) a (6) | Gwneud cais am ddatgymhwysiad cenedlaethol. |
adran 137 | Awdurdodi defnyddio llety mewn ysbytai, penderfynu i ba raddau y mae i fod ar gael a phenderfynu ac adennill ffioedd mewn cysylltiad â defnyddio llety o'r fath. |
adran 138 | Adennill treuliau sy'n daladwy gan gleifion a gyflogir. |
adran 159 | Caffael tir neu eiddo arall y mae ei angen at ddibenion y Ddeddf a defnyddio neu gynnal a chadw unrhyw eiddo yn rhinwedd y Ddeddf. |
adran 163(2)(b) | Bod yn gorff sy'n gyfrifol am ysbyty. |
adran 166 | Defnyddio unrhyw eiddo a freinir yng Ngweinidogion Cymru. |
adran 183 | Cynnwys y cyhoedd ac ymgynghori ynghylch cynllunio gwasanaethau a'u rhoi ar waith. |
adran 197 | Sicrhau bod cyfleusterau ar gael ar gyfer addysgu ac ymchwilio clinigol mewn cysylltiad â meddygaeth neu ddeintyddiaeth glinigol. |
adran 198 | Sicrhau bod llety neu gyfleusterau gwasanaeth iechyd ar gael at ddiben darparu gwasanaethau meddygol, deintyddol, fferyllol, offthalmig neu drin traed ar gael i gleifion preifat nad ydynt yn gleifion preswyl. |
adran 200(2), (4), (6), (7), (9) a (10) | Derbyn a chofrestru gwybodaeth mewn perthynas â genedigaethau a marwolaethau. |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu'r swyddogaethau a gyfarwyddir sy'n perthyn i Fyrddau Iechyd Lleol a sefydlwyd ar gyfer pob ardal yng Nghymru yn unol ag adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p.42) (gweler O.S. 2003/148 (Cy.18) ac O.S. 2009/778 (Cy.66)) (rheoliad 4 a'r Atodlen). Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan, Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr, Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf, Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda a Bwrdd Addysgu Iechyd Lleol Powys yw'r Byrddau Iechyd Lleol.
Mae Byrddau Iechyd Lleol yn gyfrifol am bersonau sy'n preswylio fel arfer yn eu hardal (rheoliad 2(2)). Mae Bwrdd Iechyd Lleol yn cadw'i gyfrifoldeb dros gategorïau penodol o blant sy'n dod o'i ardal ond a osodir wedyn y tu allan i'r ardal ac y byddai Bwrdd Iechyd Lleol arall yn dod yn gyfrifol amdanynt fel arall yn rhinwedd y ffaith bod y plant yn preswylio fel arfer yn ei ardal. Plant sy'n derbyn gofal gan awdurdodau lleol, plant sy'n gadael gofal awdurdodau lleol, plant sy'n preswylio mewn ysgol a enwir yn eu datganiad o anghenion addysgol arbennig a phlant a chanddynt anghenion iechyd sy'n parhau ac sydd, am unrhyw un neu rai o'r rhesymau hynny, yn cael eu gosod y tu allan i'w hardal yw'r plant o dan sylw (rheoliad 3).
O 1 Hydref 2009 mae saith Bwrdd Iechyd Lleol yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau iechyd yng Nghymru ac maent yn arfer y swyddogaethau a oedd yn cael eu harfer yn flaenorol gan ddau ar hugain o Fyrddau Iechyd Lleol ar 30 Medi 2009 ynghyd â swyddogaethau eraill sy'n perthyn i Weinidogion Cymru gan gynnwys swyddogaethau penodol a oedd yn cael eu harfer gan Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Ar 1 Hydref 2009 diddymir saith Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol a oedd yn cyflenwi gwasanaethau ysbyty. Mae Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ac Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre yn parhau mewn bodolaeth.
Diddymwyd Awdurdodau Iechyd yng Nghymru yn effeithiol o 1 Ebrill 2003. O dan adran 27 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38) gwnaed gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru Orchymyn Awdurdodau Iechyd (Trosglwyddo Swyddogaethau, Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau a Diddymu) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/813 (Cy.98)) a oedd yn darparu bod holl swyddogaethau Awdurdodau Iechyd yng Nghymru, o 1 Ebrill 2003, wedi eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a bod pob Awdurdod Iechyd o'r fath wedi ei ddiddymu.
Daeth Rheoliadau'r Byrddau Iechyd Lleol (Swyddogaethau) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/150 (Cy.20)) i rym ar 1 Ebrill 2003. Gwnaed swyddogaethau Awdurdodau Iechyd yng Nghymru a oedd wedi eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn arferadwy (gyda rhai eithriadau penodol) gan (yn hytrach na chael eu trosglwyddo i) Fyrddau Iechyd Lleol. Ar 1 Ebrill 2003 roedd pob cyfeiriad at Awdurdodau Iechyd yng Nghymru, i'r graddau yr oeddent yn ymwneud â swyddogaethau Awdurdodau Iechyd, yn cael eu dehongli fel cyfeiriadau at Gynulliad Cenedlaethol Cymru, er na chawsant eu diwygio yn nhestun y ddeddfwriaeth.
Roedd darpariaethau niferus yn Neddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (p.49) y datganwyd oddi tanynt fod swyddogaethau'n arferadwy gan Awdurdodau Iechyd er nad oedd mwyach unrhyw Awdurdodau Iechyd yn bodoli, ac nad oedd pŵer i greu rhai newydd. Oherwydd hyn, pan gafodd deddfwriaeth y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ei chydgrynhoi, cafodd effaith Rheoliadau'r Byrddau Iechyd Lleol (Swyddogaethau) (Cymru) 2003 ei deddfu gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 ("y Ddeddf"). Mae'r Ddeddf yn darparu ar gyfer trin swyddogaethau a oedd yn arferadwy gan Fyrddau Iechyd Lleol yn rhinwedd Rheoliadau'r Byrddau Iechyd Lleol (Swyddogaethau) (Cymru) 2003 fel swyddogaethau Byrddau Iechyd Lleol at ddibenion y Ddeddf. Mae'r Rheoliadau hyn yn cyfarwyddo Byrddau Iechyd Lleol yn benodol i arfer y swyddogaethau hynny er eu bod yn ymddangos fel swyddogaethau Byrddau Iechyd Lleol ar wyneb y Ddeddf gan mai swyddogaethau Gweinidogion Cymru ydynt.
Mae Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Darpariaethau Canlyniadol) 2006 (p.43) yn darparu nad oes dim yn y Ddeddf yn rhinwedd Rheoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Swyddogaethau) (Cymru) 2003 yn effeithio ar bŵer Gweinidogion Cymru i arfer y swyddogaethau o dan y Rheoliadau hynny ac mae wedi cadw'r pŵer i ddirymu'r Rheoliadau hynny. Mae Rheoliadau'r Byrddau Iechyd Lleol (Swyddogaethau) (Cymru) 2003 yn cael eu dirymu ar 1 Hydref 2009 (rheoliad 6) ac adlewyrchir hyn mewn diwygiadau canlyniadol (rheoliad 7).
Diwygiwyd Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 gan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (p.43) ("Deddf 2003") er mwyn cynnwys darpariaethau sydd bellach yn y Ddeddf. Cafodd diwygiadau Ddeddf 2003 yr effaith, yn rhannol, o ddiwygio testun cyfeiriadau at Awdurdodau Iechyd yn narpariaethau perthnasol Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977. Mewnosodwyd cyfeiriadau at Fyrddau Iechyd Lleol gan Ddeddf 2003 mewn cyfnod pan oedd Rheoliadau'r Byrddau Iechyd Lleol (Swyddogaethau) (Cymru) 2003 wedi dod i rym a diystyrwyd effaith y Rheoliadau hynny wrth ymdrin â chyfeiriadau at Awdurdodau Iechyd. Dylai cyfeiriadau yn Neddf 2003 fod wedi bod yn gyfeiriadau at swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac nid at swyddogaethau Byrddau Iechyd Lleol. Felly, cyfarwyddir Byrddau Iechyd Lleol i arfer y cyfryw swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn oherwydd mai swyddogaethau Gweinidogion Cymru ydynt er eu bod yn ymddangos ar wyneb y ddeddfwriaeth fel swyddogaethau Byrddau Iechyd Lleol.
Rhoddir swyddogaethau penodol i Fyrddau Iechyd Lleol y tu allan i'r Rheoliadau hyn. Gwnaed Gorchymyn Cyfeiriadau at Awdurdodau Iechyd 2007 (O.S. 2007/961 (Cy.85)) yn unol ag adran 75 o Ddeddf Iechyd 2006 (p.28) i newid cyfeiriadau at Awdurdodau Iechyd yn gyfeiriadau at Fyrddau Iechyd Lleol mewn deddfwriaeth nad yw'n ymwneud ag iechyd er mwyn adlewyrchu'r ffaith bod swyddogaethau penodol a oedd yn cael eu harfer yn flaenorol gan Awdurdodau Iechyd yn cael eu harfer gan Fyrddau Iechyd Lleol. Mae Byrddau Iechyd Lleol hefyd yn parhau i arfer swyddogaethau a roddwyd yn uniongyrchol i Fyrddau Iechyd Lleol mewn deddfwriaeth fel y rhai sydd yn Neddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (p.15), yn Neddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (p.17) a Deddf Iechyd 2006 a darpariaethau yn y Ddeddf a fewnosodwyd gan y Deddfau hynny.
Mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi ei baratoi mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
2006 p.42. Back [1]
Sefydlwyd Bwrdd Addysgu Iechyd Lleol Powys o dan Orchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/148 (Cy.18)) a sefydlwyd BILl Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, BILl Aneurin Bevan, BILl Prifysgol Betsi Cadwaladr, BILl Prifysgol Caerdydd a'r Fro, BILl Cwm Taf a BILl Hywel Dda o dan Orchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu a Diddymu) (Cymru) 2009 (O.S. 2009/778 (Cy. 66 )). Back [2]
O.S. 2003/148 (Cy.18). Back [3]
1989 p.41. Back [4]
1996 p.56. Back [5]
O.S. 2003/813 (Cy.98). Darparwyd gan y Gorchymyn hwn fod holl swyddogaethau Awdurdodau Iechyd yng Nghymru, o 1 Ebrill 2003, wedi cael eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a bod pob Awdurdod Iechyd o'r fath wedi ei ddiddymu. Back [6]
Darparwyd gan Reoliadau'r Byrddau Iechyd Lleol (Swyddogaethau) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/150 (Cy.20)) bod, o 1 Ebrill 2003, swyddogaethau Awdurdodau Iechyd blaenorol yng Nghymru, a gafodd eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag O.S. 2003/813 (Cy.98), wedi eu gwneud (yn ddarostyngedig i eithriadau penodol mewn perthynas â swyddogaethau comisiynu arbenigol) yn arferadwy gan Fyrddau Iechyd Lleol. Back [7]
2006 p.43. Back [8]