[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Cymru) 2009 No. 1512 (Cy. 148) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20091512_we_1.html |
[New search] [Help]
Gwnaed
18 Mehefin 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
19 Mehefin 2009
Yn dod i rym
15 Gorffennaf 2009
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 124 a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Cymru) 2009 a deuant i rym ar 15 Gorffennaf 2009.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "y prif Reoliadau" ("the principal Regulations") yw Rheoliadau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) 1989(2).
2. Yn rheoliad 4 o'r prif Reoliadau (ymwelwyr tramor sy'n esempt rhag ffioedd)–
(a) ym mharagraff (1), yn is-baragraff (c) dileer y geiriau "which has not yet been determined";
(b) ym mharagraff (1), yn lle is-baragraff (q) rhodder–
"(q) who is working outside the United Kingdom as a missionary for an organisation that is established in the United Kingdom, regardless of whether he–
(i) derives a salary or wage from the organisation, or
(ii) receives any type of funding or assistance from the organisation for the purposes of working overseas for the organisation; or
(r) who the competent authorities of the United Kingdom for the purposes of the Council of Europe Convention on Action Against Trafficking in Human Beings(3) (in this regulation "the Convention"),
(i) consider that there are reasonable grounds to believe is a victim within the meaning of Article 4 of the Convention, and the recovery and reflection period in relation to him under Article 13 of the Convention has not yet expired, or
(ii) have identified as a victim within the meaning of Article 4 of the Convention."; ac
(c) yn lle paragraff (4) rhodder–
"(4) No charge is to be made in respect of any services forming part of the health service provided for–
(a) in the case where sub-paragraph (g), (h), (i), (j), (q) or (r) of paragraph (1) applies to an overseas visitor, the spouse, civil partner or child of the overseas visitor; or
(b) in the case where any other sub-paragraph applies to an overseas visitor, the spouse, civil partner or child of the overseas visitor, if the spouse, civil partner or child lives on a permanent basis with the overseas visitor in the United Kingdom.".
3. Yn Atodlen 2 (gwledydd neu diriogaethau y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gwneud cytundeb cilyddol â hwy), hepgorer "Bulgaria", "Czech Republic", "Hungary", "Malta", "Poland", "Romania" a "Slovak Republic".
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
18 Mehefin 2009
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) 1989 ("y prif Reoliadau") sy'n darparu ar gyfer codi ac adennill ffioedd mewn cysylltiad â gwasanaethau penodol a ddarperir o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 i bersonau penodol nad ydynt fel arfer yn preswylio yn y Deyrnas Unedig (ymwelwyr tramor).
Mae rheoliad 2(a) yn diwygio rheoliad 4(1)(c) o'r prif Reoliadau fel na chodir tâl ar geisiwr lloches y mae ei gais am loches wedi methu a'r tâl hwnnw yn dâl am y gwasanaethau sy'n ffurfio rhan o'r gwasanaeth iechyd. Mae rheoliad 2(b) yn diwygio rheoliad 4(1) o'r prif Reoliadau i estyn yr esemptiad rhag taliadau i ymwelwyr tramor, i ymwelydd tramor sy'n genhadwr. Mae rheoliad 2(c) yn disodli rheoliad 4(4) o'r prif Reoliadau i ddarparu bod priod, partner sifil neu blentyn ymwelydd tramor y mae is-baragraff (g), (h), (i), (j), (q) neu (r) o baragraff (1) o reoliad 4 o'r prif Reoliadau yn gymwys hefyd yn esempt rhag taliadau. Er hynny, ym mhob achos arall sydd ar ôl, mae'n parhau i fod yn ofynnol bod priod, partner sifil neu blentyn ymwelydd tramor hefyd yn byw ar sail barhaol gyda'r ymwelydd tramor yn y Deyrnas Unedig er mwyn bod yn esempt rhag y taliadau.
Mae rheoliad 3 yn hepgor gwledydd penodol o'r rhestr yn Atodlen 2 i'r prif Reoliadau, gan fod y gwledydd hyn bellach yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd ac felly caiff ymwelwyr tramor o'r gwledydd hynny eu trin o dan reoliadau 4(1)(m), 4A(1) a 5 o'r prif Reoliadau.