BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau Tai Amlfeddiannaeth (Rheoli) (Cymru) 2009 No. 1915 (Cy. 174) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20091915_we_1.html |
[New search] [Help]
Gwnaed
16 Gorffennaf 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
20 Gorffennaf 2009
Yn dod i rym
10 Awst 2009
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tai Amlfeddiannaeth (Rheoli) (Cymru) 2009, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 10 Awst 2009.
2.–(1) Diwygier Rheoliadau Rheoli Tai Amlfeddiannaeth (Cymru) 2006(3) yn unol â pharagraff (2).
(2) Yn rheoliad 6 (dyletswydd rheolwr i gyflenwi a chynnal a chadw nwy a thrydan) yn lle paragraff (2) rhodder–
"(2) Ym mharagraff (1), ystyr "peiriannydd cydnabyddedig" ("recognised engineer") yw peiriannydd a gymeradwywyd o dan reoliad 3 o Reoliadau Diogelwch Nwy (Gosodiadau a Defnydd) 1998(4).".
3.–(1) Diwygier Rheoliadau Trwyddedu a Rheoli Tai Amlfeddiannaeth (Darpariaethau Ychwanegol) (Cymru) 2007(5) yn unol â pharagraff (2).
(2) Yn rheoliad 7 (dyletswydd rheolwr i gyflenwi a chynnal a chadw nwy a thrydan) yn lle paragraff (2) rhodder–
"(2) Ym mharagraff (1), ystyr "peiriannydd cydnabyddedig" ("recognised engineer") yw peiriannydd a gymeradwywyd o dan reoliad o Reoliadau Diogelwch Nwy (Gosodiadau a Defnydd) 1998.".
Jocelyn Davies
Y Dirprwy Weinidog dros Dai o dan awdurdod y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru
16 Gorffennaf 2009
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i dai amlfeddiannaeth (fel y'u diffinnir yn adrannau 254 i 259 o Ddeddf Tai 2004) yng Nghymru.
O dan Reoliadau Rheoli TaiAmlfeddiannaeth (Cymru) 2006 ("Rheoliadau 2006"), sy'n gymwys o ran bob tŷ amlfeddiannaeth ac eithrio'r rheini y mae adran 257 (tai amlfeddiannaeth: blociau o fflatiau penodol a droswyd) o Ddeddf Tai 2004 yn gymwys, mae'n ofynnol i reolwr tŷ amlfeddiannaeth gyflawni dyletswyddau penodol o ran rheoli'r tŷ amlfeddiannaeth. Un o'r dyletswyddau hynny yw rhoi i'r awdurdod tai lleol o fewn 7 o ddiwrnodauar 153 l derbyn cais ysgrifenedig oddi wrth yr awdurdod dystysgrif brawf cyfarpar nwy ddiweddaraf y mae'r rheolwr wedi ei chael ynghylchrhoi unrhywgyfarparnwy drwy brawf gan "beiriannydd cydnabyddedig" yn y tŷ amlfeddiannaeth. O dan Reoliadau Trwyddedu a Rheoli Tai Amlfeddiannaeth (Darpariaethau Ychwanegol) (Cymru) 2007 ("Rheoliadau2007")mae'r un ddyletswydd yn gymwys o ran rheolwyr tai amlfeddiannaeth y mae adran 257 o Ddeddf Tai 2004 yn gymwysiddynt.
Mae'r Rheoliadau hyn yn disodli'r diffiniad o "peiriannydd cydnabyddedig" yn Rheoliadau 2006 a Rheoliadau 2007. Mae'r diffiniad newydd yn cyfeirio at beiriannydd a gymeradwywyd o dan reoliad 3 o Reoliadau Diogelwch Nwy (Gosodiadau a Defnydd) 1998.
2004 p.34. Back [1]
Mae'r pwerau a roddir gan adran 234 o Ddeddf 2004 wedi'u breinio o ran Cymru yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Gweler y diffiniad o "appropriate national authority" yn adran 261(1) o Ddeddf 2004. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru o dan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi. Back [2]
O.S. 2006/1713 (Cy.175). Back [3]
O.S. 1998/2451. Back [4]
O.S. 2007/3229 (Cy.281). Back [5]