BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru (Sefydlu) 2009 No. 2058 (Cy. 177)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20092058_we_1.html

[New search] [Help]


 

Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru (Sefydlu) 2009

Gwnaed

23 Gorffennaf 2009

Yn dod i rym

1 Awst 2009

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 18(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 a pharagraffau 5 a 7 o Atodlen 3 iddi(1), ac adran 25 o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993(2), ac ar ôl cwblhau'r ymgynghoriad a ragnodir o dan adran 18(3) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cychwyn a dehongli

1.–(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru (Sefydlu) 2009 a daw i rym ar 1 Awst 2009.

(2) Yn y Gorchymyn hwn–

Sefydlu'r ymddiriedolaeth

2. Sefydlir ymddiriedolaeth GIGo'r enw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru neu the Public Health Wales National Health Service Trust.

Natur a swyddogaethau'r ymddiriedolaeth

3.–(1) Sefydlir yr ymddiriedolaeth at y diben a bennir yn adran 18(1) o'r Ddeddf.

(2) Dyma swyddogaethau'r ymddiriedolaeth:

(a) darparu i'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru, neu mewn perthynas ag ef, a rheoli amrediad o wasanaethau iechyd cyhoeddus, diogelu iechyd, gwella gofal iechyd, cynghori ar iechyd, amddiffyn plant a labordy microbiolegol a gwasanaethau'n ymwneud â gwyliadwriaeth dros glefydau trosglwyddadwy, a'u hatal a'u rheoli;

(b) datblygu a chynnal trefniadau ar gyfer peri bod gwybodaeth ynghylch materion sy'n ymwneud â diogelu a gwella iechyd yng Nghymru ar gael i'r cyhoedd yng Nghymru; gwneud a chomisiynu ymchwil i faterion o'r fath a darparu a datblygu hyfforddiant mewn materion o'r fath;

(c) gwneud yn systematig y gwaith o gasglu, dadansoddi a lledaenu gwybodaeth ynghylch iechyd pobl Cymru, gan gynnwys yn enwedig fynychder achosion o gancr, eu marwoldeb a'u goroesiad; a chyffredinolrwydd anghysonderau cynhenid; ac

(ch) darparu, rheoli, monitro, gwerthuso a gwneud ymchwil i sgrinio cyflyrau iechyd a sgrinio materion ymwneud ag iechyd.

Cyfarwyddwyr yr ymddiriedolaeth

4. Mae gan yr ymddiriedolaeth, yn ychwanegol at y cadeirydd, 6 o gyfarwyddwyr anweithredol a 5 cyfarwyddwr gweithredol.

Dyddiad gweithredol a dyddiad cyfrifydda'r ymddiriedolaeth

5.–(1) Dyddiad gweithredol yr ymddiriedolaeth yw 1 Hydref 2009.

(2) Dyddiad cyfrifydda'r ymddiriedolaeth yw 31 Mawrth.

Swyddogaethau cyfyngedig cyn y dyddiad gweithredol

6. Rhwng dyddiad ei sefydlu a'i ddyddiad gweithredol mae gan yr ymddiriedolaeth y swyddogaethau canlynol–

(a) ymrwymo i gontractau GIG;

(b) ymrwymo i gontractau eraill gan gynnwys contractau cyflogaeth; ac

(c) gwneud y fath bethau eraill ag sydd yn rhesymol angenrheidiol i'w galluogi i ddechrau gweithredu yn foddhaol gydag effaith o'i ddyddiad gweithredol.

Edwina Hart

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

23 Gorffennaf 2009

Nodyn Esboniadol

(Nid y 'r nodyn h n yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Gorchymyn hwn yn sefydlu Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru, ymddiriedolaeth GIG y darperir ar ei chyfer yn adran 18 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006. Mae hefyd yn darparu ar gyfer swyddogaethau'r ymddiriedolaeth cyn ei dyddiad gweithredol (sef y dyddiad pan yw'n ymgymryd â'i holl swyddogaethau) (erthygl 6) ac ar ôl hynny (erthygl 3) ac mae'n pennu rhif y cyfarwyddwyr yr ymddiriedolaeth (erthygl 4) a dyddiad gweithredol a dyddiad cyfrifydda'r ymddiriedolaeth (erthygl 5).

(1)

2006 p.42. Back [1]

(2)

1993 p.38. Back [2]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20092058_we_1.html