BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) (Diwygio) 2009 No. 2157 (Cy. 181)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20092157_we_1.html

[New search] [Help]


 

Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) (Diwygio) 2009

Gwnaed

1 Awst 2009

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

4 Awst 2009

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 22, 42(6) a 43(1) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(1), ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(2) yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) (Diwygio) 2009.

(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 1 Medi 2009.

(3) Mae rheoliadau 8 a 9 yn dod i rym ar 31 Awst 2009.

2. Yn y Rheoliadau hyn–

Diwygio'r Prif Reoliadau

3. Mae'r Prif Reoliadau wedi'u diwygio'n unol â Rheoliadau 4 i 7.

4. Yn rheoliad 18(3), yn lle "27,115 ewro" rhodder "28,200 ewro".

5. Yn rheoliad 19(3), yn lle "11,090 ewro" rhodder "13,450 ewro".

6. Yn rheoliad 20(3)–

(a) yn lle "A yw £2,402" rhodder "A yw £2,463"; a

(b) yn lle "mae B yn £49", rhodder "mae B yn £50".

7. Yn rheoliad 20(5), yn lle "B yw £99", rhodder "B yw £102".

Diwygio'r Rheoliadau Diwygio

8. Mae'r Rheoliadau Diwygio wedi'u diwygio'n unol â rheoliad 9.

9. Yn nhestun Cymraeg rheoliad 7(2), yn lle "17,640 ewro", rhodder "18,099 ewro".

Jane E. Hutt

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

1 Awst 2009

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) 2008 ("y Prif Reoliadau").

Mae'r Prif Reoliadau yn darparu ar gyfer cymorth i fyfyrwyr cymwys sy'n dilyn cyrsiau dynodedig ym maes addysg uwch yng Nghanolfan Bologna, Coleg Ewrop neu'r Athrofa Brifysgol Ewropeaidd.

Mae'r Prif Reoliadau yn darparu bod grant at ffioedd ar gael ar gyfer un myfyriwr cymwys yng Nghanolfan Bologna. Mae grant at ffioedd, grantiau at gostau byw a chostau eraill, lwfans myfyrwyr anabl a grant ar gyfer dibynyddion ar gael ar gyfer hyd at ddau fyfyriwr cymwys yng Ngholeg Ewrop. Mae grantiau at gostau byw a chostau eraill, lwfans myfyrwyr anabl a grant ar gyfer dibynyddion ar gael ar gyfer un myfyriwr cymwys yn yr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd.

Diwygiwyd y Prif Reoliadau gan Reoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2008 er mwyn iddynt fod yn gymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2009. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r symiau o gymorth penodol sy'n daladwy i fyfyrwyr am flwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2009.

Mae rheoliad 4 yn diwygio uchafswm y grant at ffioedd sy'n daladwy i fyfyriwr Canolfan Bologna.

Mae rheoliad 5 yn diwygio uchafswm y grant at ffioedd sy'n daladwy i fyfyriwr Coleg Ewrop.

Mae rheoliadau 6 a 7 yn diwygio'r ffigurau a ddefnyddir i gyfrifo'r grant at gostau byw a'r grant ar gyfer teithio sy'n daladwy i fyfyriwr Coleg Ewrop.

Mae rheoliadau 8 a 9 yn cywiro gwall teipograffyddol yn nhestun Cymraeg Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2008.

(1)

1998 p.30; diwygiwyd adran 22 gan Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21), adran 146 ac Atodlen 11, Deddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p.1), Atodlen 6, Deddf Cyllid 2003 (p.14), adran 147 a Deddf Addysg Uwch 2004 (p.8), adrannau 42 a 43 ac Atodlen 7. Back [1]

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (ac eithrio i'r graddau y maent yn ymwneud â gwneud unrhyw ddarpariaeth a awdurdodir gan is-adran (2)(a), (c) (j) neu (k), (3)(e) neu (f) neu (5) o adran 22) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 44 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 ac mae Gorchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1833 (Cy.149) (C.79)), fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Ddeddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) (Diwygio) 2006 (O.S. 2006/1660 (Cy.159) (C.56)), yn cyfeirio at hyn. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraffau 30(1) a 30(2)(a) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32). Back [2]

(3)

O.S. 2008/18 (Cy.7), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2008/1324 (Cy.137) ac O.S. 2008/3114 (Cy.276). Back [3]

(4)

O.S. 2008/3114 (Cy.276). Back [4]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20092157_we_1.html