BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau Labelu Bwyd (Gwybodaeth Faethol) (Cymru) 2009 No. 2705 (Cy. 224)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20092705_we_1.html

[New search] [Help]


 

Rheoliadau Labelu Bwyd (Gwybodaeth Faethol) (Cymru) 2009

Gwnaed

4 Hydref 2009

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

6 Hydref 2009

Yn dod i rym

30 Hydref 2009

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(e), 17(1), (26)(1)(a) ac 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1), ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2).

Yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, maent wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd iddynt gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(3), cafwyd ymgynghoriad cyhoeddus agored a thryloyw tra'r oedd y Rheoliadau hyn yn cael eu llunio a'u gwerthuso.

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Labelu Bwyd (Gwybodaeth Faethol) (Cymru) 2009, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 30 Hydref 2009.

Diwygio Rheoliadau Labelu Bwyd 1996

2.–(1) Mae Rheoliadau Labelu Bwyd 1996(4) wedi'u diwygio'n unol â pharagraffau (2) i (4) a rheoliad 3.

(2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli)–

(a) yn y diffiniad o Gyfarwyddeb 90/496, ar ôl y geiriau "Commission Directive 2003/120/EC" mewnosoder "and Commission Directive 2008/100/EC"; a

(b) ar ôl y diffiniad o "fat" mewnosoder y canlynol–

(3) Yn Atodlen 6, Rhan II–

(a) yn lle'r cofnodion yn Nhabl A (fitaminau y caniateir i honiadau gael eu gwneud amdanynt) rhodder y cofnodion a welir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn; a

(b) yn lle'r cofnodion yn Nhabl B (mwynau y caniateir i honiadau gael eu gwneud amdanynt) rhodder y cofnodion a welir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn.

(4) Yn Atodlen 7, Rhan I, paragraff 5–

(a) ar ddiwedd is-baragraff (g), yn lle'r atalnod llawn, rhodder hanner colon; a

(b) ar ôl is-baragraff (g), ychwaneger yr is-baragraffau a ganlyn–

"(h) 1 gram of fibre is deemed to contribute 8kJ (2 kcal);

(i) 1 gram of erythritol is deemed to contribute 0kJ (0kcal).".

Darpariaeth drosiannol

3. Yn rheoliad 50 (darpariaeth drosiannol), ar ôl paragraff (15) ychwaneger y canlynol fel paragraff (16)–

"(16) In any proceedings for an offence under regulation 44(1)(b), it is a defence to prove that–

(a) the food concerned–

(i) if sold, was sold before 31 October 2012, and

(ii) if advertised for sale, was advertised for sale before 31 October 2012 but not on or after that date; and

(b) the matters constituting the alleged offence would not have constituted an offence under these Regulations if the amendments made by regulation 2 of the Food Labelling (Nutrition Information) (Wales) Regulations 2009(5) had not been in operation when the food was sold.".

Gwenda Thomas

Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

4 Hydref 2009

Rheoliad 2(3)(a)

ATODLEN 1

Tabl o'r cofnodion i'w rhoi yn lle'r cofnodion presennol yn Nhabl A (fitaminau y caniateir i honiadau gael eu gwneud amdanynt) yn Atodlen 6, Rhan II, i Reoliadau Labelu Bwyd 1996

Column 1 Column 2
Vitamin Recommended Daily Allowance
Vitamin A 800 μg
Vitamin D 5 μg
Vitamin E 12 mg
Vitamin K 75 μg
Vitamin C 80 mg
Thiamin 1.1 mg
Riboflavin 1.4 mg
Niacin 16 mg
Vitamin B6 1.4 mg
Folic acid 200 μg
Vitamin B12 2.5 μg
Biotin 50 μg
Pantothenic acid 6 mg

Rheoliad 2(3)(b)

ATODLEN 2

Tabl o'r cofnodion i'w rhoi yn lle'r cofnodion presennol yn Nhabl B (mwynau y caniateir i honiadau gael eu gwneud amdanynt) yn Atodlen 6, Rhan II, i Reoliadau Labelu Bwyd 1996

Column 1 Column 2
Vitamin Recommended Daily Allowance
Potassium 200 mg
Chloride 800 mg
Calcium 800 mg
Phosphorus 700 mg
Magnesium 375 mg
Iron 14 mg
Zinc 10 mg
Copper 1 mg
Manganese 2 mg
Fluoride 3.5 mg
Selenium 55 μg
Chromium 40 μg
Molybdenum 50 μg
Iodine 150 μg

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau Labelu Bwyd 1996 ("y prif Reoliadau") i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru. Mae'r prif Reoliadau yn rhychwantu Prydain Fawr gyfan.

2. Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu yng Nghymru Gyfarwyddeb y Comisiwn 2008/100/EC sy'n diwygio Cyfarwyddeb y Cyngor 90/496/EEC am labeli maeth ar gyfer deunyddiau bwyd o ran lwfansau dyddiol a argymhellir, ffactorau trosi ynni a diffiniadau (OJ Rhif L285, 29.10.2008, t.9) ("Cyfarwyddeb y Comisiwn").

3. Mae'r Rheoliadau yn gweithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn drwy ddiwygio'r prif Reoliadau yn y fath fodd ag i wneud y canlynol–

(a) cynnwys diffiniad o "fibre" (rheoliad 2(2));

(b) diwygio'r rhestrau o fitaminau a mwynau y caniateir gwneud honiadau maeth amdanynt, o ran y sylweddau sydd wedi'u cynnwys a'r lwfansau dyddiol a argymhellir (rheoliad 2(3) ac Atodlenni 1 a 2);

(c) darparu ffactorau trosi ar gyfer cyfrifo gwerth ynni ffibr ac erythritol (rheoliad 2(4)); ac

(ch) darparu ar gyfer cyfnod trosiannol i gyflwyno ynddo y darpariaethau newydd fesul cam (rheoliad 3).

4. Mae asesiad effaith rheoleiddiol llawn o effaith yr offeryn hwn ar gostau busnes ar gael oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Tŷ Southgate, Caerdydd CF10 1EW.

(1)

1990 p.16. Amnewidiwyd adran 1(1) a (2) (y diffiniad o "food") gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adrannau 17 a 48 gan baragraffau 12 a 21 yn ôl eu trefn o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28), ("Deddf 1999"). Diwygiwyd adran 48 hefyd gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adran 53(2) gan baragraff 19 o Atodlen 16 i Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (1994 p.40), Atodlen 6 i Ddeddf 1999 ac O.S. 2004/2990. Back [1]

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) ac Atodlen 11, paragraff 30 iddi. Back [2]

(3)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 575/2006 (OJ Rhif L100, 8.4.2006, p.3). Back [3]

(4)

O.S. 1996/1499, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan O.S. 2008/1268 (Cy.128). Diwygiwyd y diffiniad o Gyfarwyddeb 90/496 a pharagraff 5 Rhan I o Atodlen 7 ill dau o'r blaen o ran Cymru gan O.S. 2004/2558 (Cy.229). Back [4]

(5)

O.S. 2009/ 2705 (Cy.224). Back [5]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20092705_we_1.html