BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) (Diwygio) 2009 No. 2708 (Cy. 226)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20092708_we_1.html

[New search] [Help]


 

Rheoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) (Diwygio) 2009

Gwnaed

5 Hydref 2009

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

7 Hydref 2009

Yn dod i rym

2 Tachwedd 2009

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 72 a 138(7) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(1) a'r pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 19(3), 21(3), 34(5), 35(4) a (5), 36(4) a (5) a 210(7) o Ddeddf Addysg 2002(2), ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) (Diwygio) 2009 a deuant i rym ar 2 Tachwedd 2009.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dirymu

2. Dirymir rheoliad 5 o Reoliadau Addysg (Adolygu Strwythur Staffio) (Cymru) 2005(3).

Dehongli

3. Yn y Rheoliadau hyn–

Diwygio Rheoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2006

4. Ar ôl rheoliad 5 o Reoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2006(4) mewnosoder y testun canlynol:

"Dyletswyddau a hawlogaethau pennaeth

5A.–(1) Rhaid i'r corff llywodraethu sicrhau bod y pennaeth yn yr ysgol–

(a) yn cydymffurfio â'r dyletswyddau a osodir ar y pennaeth; a

(b) yn elwa ar unrhyw hawlogaeth a roddir i'r pennaeth

drwy unrhyw orchymyn o dan adran 122 o Ddeddf 2002 (cyflog ac amodau athrawon)(5).

(2) Wrth iddo gyflawni ei ddyletswydd o dan baragraff (1)(a), rhaid i'r corff llywodraethu roi sylw i'r dymunoldeb bod y pennaeth yn gallu cael cydbwysedd boddhaol rhwng yr amser y mae ei angen arno i gyflawni ei ddyletswyddau proffesiynol a'r amser y mae ei angen arno i ddilyn ei ddiddordebau personol y tu allan i'r gwaith.".

Jane Hutt

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

5 Hydref 2009

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2006 drwy gydgrynhoi'r darpariaethau sydd eisoes yn bodoli a thrwy osod dyletswyddau newydd ar gyrff llywodraethu.

Dirymir rheoliad 5 o Reoliadau Addysg (Adolygu Strwythur Staffio) (Cymru) 2005 a'i ailddatgan yn rheoliad 5A o rheoliadau 2006 gyda rhai diwygiadau. Gwelwyd Rheoliadau 2005 fel mesurau trosiannol a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2008 ac eithrio rheoliad 5. Yr oedd rheoliad 5 yn darparu bod yn rhaid i gorff llywodraethu wrth iddo reoli pennaeth roi sylw i'r dymunoldeb bod y pennaeth yn gallu cael cydbwysedd boddhaol rhwng gwaith a bywyd. Mae'r rheoliad 5A newydd yn sicrhau bod y ddyletswydd hon yn parhau.

Mae rheoliad 5A hefyd yn cynnwys dyletswydd newydd bod cyrff llywodraethu'n sicrhau bod penaethiaid yn cydymffurfio â'r dyletswyddau a osodir arnynt drwy orchmynion a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 122 o Ddeddf Addysg 2002. Gwelir y dyletswyddau hyn yn Nogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol.

(1)

1998 p. 31. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 72, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac yna i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Back [1]

(2)

2002 p.32. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Back [2]

(3)

O.S. 2005/1910 (Cy.153). Back [3]

(4)

O.S. 2006/873 (Cy.81). Back [4]

(5)

Caniateir i orchymyn o dan adran 122 gael ei wneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol. Back [5]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20092708_we_1.html