BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Gorchymyn Pwyllgor Defnyddwyr Trafnidiaeth Gyhoeddus Cymru (Sefydlu) 2009 No. 2816 (Cy. 243)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20092816_we_1.html

[New search] [Help]


 

Gorchymyn Pwyllgor Defnyddwyr Trafnidiaeth Gyhoeddus Cymru (Sefydlu) 2009

Gwnaed

20 Hydref 2009

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

22 Hydref 2009

Yn dod i rym

16 Tachwedd 2009

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 8, 9 a 10 o Ddeddf Trafnidiaeth (Cymru) 2006(1), ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Pwyllgor Defnyddwyr Trafnidiaeth Gyhoeddus Cymru (Sefydlu) 2009. Daw'r Cynllun hwn i rym ar 16 Tachwedd 2009 ac mae'n gymwys o ran Cymru .

Dehongli

2. Yn y Gorchymyn hwn–

Sefydlu Pwyllgor Defnyddwyr Trafnidiaeth Gyhoeddus Cymru

3. At ddibenion cyflawni'r swyddogaethau a ragnodir gan adran 9 o Ddeddf Trafnidiaeth (Cymru) 2006, ar y dyddiad pan ddaw'r Gorchymyn hwn i rym, fe sefydlir corff corfforaethol o'r enw Pwyllgor Defnyddwyr Trafnidiaeth Gyhoeddus Cymru ("y Pwyllgor").

Cyfansoddiad y Pwyllgor ac aelodaeth ohono

4.–(1) Y mae'r Pwyllgor i gynnwys–

(a) cadeirydd, a benodir yn unol â pharagraff (2):

(b) o leiaf 8 ond dim mwy nac 11 o aelodau eraill, a benodir yn unol â pharagraff (2); ac

(c) 1 aelod ychwanegol, a'r person hwn fydd y person a benodir o bryd i'w gilydd gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn unol ag adran 125 o Ddeddf Trafnidiaeth 1985(3) i gynrychioli lles Cymru ar y Pwyllgor Ymgynghorol ar Gludiant Pobl Anabl(4).

(2) Penodir y cadeirydd ac aelodau'r Pwyllgor, ac eithrio'r aelod a benodir yn unol ag is-baragraff (1)(c), gan Weinidogion Cymru drwy'r Cod Ymarfer ar Benodiadau Cyhoeddus.

(3) Bydd o leiaf 2 o'r aelodau a benodir yn unol â pharagraff (2) uchod yn bobl anabl yn ystyr adran 1(2) o Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995(5).

(4) Bydd y cadeirydd neu aelodau eraill o'r Pwyllgor a benodir yn unol â pharagraff (2) uchod:

(a) yn cael eu penodi am y cyfnod a bennir yn yr offeryn penodi ar eu cyfer;

(b) yn cael ymddiswyddo fel aelod neu gadeirydd, drwy hysbysu Gweinidogion Cymru yn ysgrifenedig;

(c) mewn agweddau eraill yn dal ac yn gadael y swydd yn unol â thelerau eu penodiad; ac

(ch) yn addas, pan fyddant yn peidio â dal y swydd, i'w hail-benodi iddi.

(5) Caiff Gweinidogion Cymru symud aelod o'r swydd os ydynt wedi'u bodloni fod yr aelod hwnnw–

(a) heb esgus rhesymol, heb gydymffurfio â thelerau'r penodiad;

(b) mewn modd arall yn anabl neu heb fod yn ffit i wneud swyddogaethau aelod neu yn anaddas i ddal i fod yn aelod.

Lwfansau a threuliau i aelodau'r Pwyllgor

5. Telir i'r cadeirydd ac aelodau eraill y Pwyllgor y lwfansau a'r treuliau ag y penderfynir arnynt gan Weinidogion Cymru.

Staff

6. Caiff y Pwyllgor, gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru, benodi'r cyflogeion y mae'n ystyried bod eu hangen ar y fath delerau ac amodau ag y caiff, gyda chydsyniad, benderfynu arnynt.

Is-bwyllgorau

7.–(1) Caiff y Pwyllgor–

(a) sefydlu is-bwyllgorau o'r fath ag y dichon o bryd i'w gilydd ystyried fod eu hangen neu y byddai'n ddymunol eu cael;

(b) cyfeirio unrhyw fater ag y dichon o bryd i'w gilydd ei bennu at unrhyw is-bwyllgor o'r fath;

(c) dirprwyo unrhyw un o'i swyddogaethau i unrhyw is-bwyllgor o'r fath; ac

(ch) rheoli gweithdrefnau unrhyw is-bwyllgor o'r fath.

(2) Caiff y Pwyllgor benodi personau nad ydynt yn aelodau ohono i fod yn aelodau o unrhyw is-bwyllgor a sefydlir ganddo, cyn belled ag na fydd unrhyw is-bwyllgor o'r fath yn cynnwys neb ond y rheini nad ydynt yn aelodau o'r Pwyllgor.

(3) Bydd y Pwyllgor yn talu i berson a benodir felly y lwfansau a'r treuliau ag y caiff y Pwyllgor, gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru, benderfynu arnynt.

Trafodion

8.–(1) Caiff y Pwyllgor reoleiddio ei weithdrefnau ei hun, (gan gynnwys gwneud darpariaeth ar gyfer cworwm ei gyfarfodydd).

(2) Heb ragfarnu paragraff (1), mae Gweinidogion Cymru yn cadw'r hawl i gyfarwyddo'r Pwyllgor i gynnal unrhyw un o'i gyfarfodydd:

(a) yn gyhoeddus; a

(b) mewn lleoliad sydd i'w benderfynu o bryd i'w gilydd gan Weinidogion Cymru.

(3) Nid effeithir ar ddilysrwydd unrhyw drafodion gan y Pwyllgor gan–

(a) unrhyw ddiffyg ym mhenodiad unrhyw aelod o'r Pwyllgor; a

(b) unrhyw fwlch yn aelodaeth y Pwyllgor.

Adroddiadau

9.–(1) Cyn gynted ag y bo modd ar ddiwedd pob cyfnod perthnasol, rhaid i'r Pwyllgor gyflwyno adroddiad i Weinidogion Cymru ar arfer a chyflawni ei swyddogaethau yn ystod y flwyddyn honno.

(2) Ym mharagraff (1), ystyr "cyfnod perthnasol" yw–

(a) y cyfnod sy'n cychwyn ar 1 Ionawr 2010 ac sy'n dod i ben ar 31 Mawrth 2011; a

(b) wedi hynny pob cyfnod o 12 mis sy'n dod i ben ar 31 Mawrth.

Ieuan Wyn Jones

Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru

20 Hydref 2009

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Gorchymyn hwn yn sefydlu Pwyllgor Defnyddwyr Trafnidiaeth Gyhoeddus Cymru. Corff cynghori annibynnol i Weinidogion Cymru ar faterion trafnidiaeth gyhoeddus yw'r Pwyllgor.

Mae erthygl 4 yn gosod cyfansoddiad ac aelodaeth y Pwyllgor ac mae erthygl 5 yn galluogi i aelodau gael eu talu y fath lwfansau a threuliau ag a benderfynir arnynt gan Weinidogion Cymru.

Mae erthygl 6 yn galluogi'r Pwyllgor i benodi staff, gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru.

Mae erthygl 7 yn galluogi'r Pwyllgor i sefydlu'r fath is-bwyllgorau ag y gwêl yn dda.

Mae erthygl 8 yn galluogi'r Pwyllgor i reoli ei drafodion ei hun ac yn darparu nad effeithir ar ddilysrwydd trafodion oherwydd diffyg ar benodiad aelodau neu oherwydd fod lleoedd gweigion ar y Pwyllgor.

Mae erthygl 9 yn darparu ar gyfer cyflwyno adroddiadau blynyddol y Pwyllgor i Weinidogion Cymru.

(1)

2006 p.5. Back [1]

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Back [2]

(3)

1985 (p.67). Back [3]

(4)

Mae'r Pwyllgor Ymgynghorol ar Gludiant Pobl Anabl yn gorff statudol a sefydlwyd gan adran 125 o Ddeddf Trafnidiaeth 1985. Back [4]

(5)

1995 (p.50). Back [5]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20092816_we_1.html