BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau Gwerthuso Athrawon Ysgol (Cymru) (Diwygiad Rhif 2) 2009 No. 2864 (Cy. 251)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20092864_we_1.html

[New search] [Help]


 

Rheoliadau Gwerthuso Athrawon Ysgol (Cymru) (Diwygiad Rhif 2) 2009

Gwnaed

26 Hydref 2009

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

28 Hydref 2009

Yn dod i rym

24 Tachwedd 2009

Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 131 a 210 o Ddeddf Addysg 2002(1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Am fod y Rheoliadau hyn yn cywiro gwallau ac am nad ydynt yn codi pwyntiau o egwyddor newydd nid oedd Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol i ymgynghori ag unrhyw un neu unrhyw rai o'r personau a'r cyrff a restrir yn adran 131(7) o Ddeddf Addysg 2002.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwerthuso Athrawon Ysgol (Cymru) (Diwygiad Rhif 2) 2009 ac maent yn dod i rym ar 24 Tachwedd 2009.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio

2.–(1) Mae Rheoliadau Gwerthuso Athrawon Ysgol (Cymru) 2002(2) wedi'u diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 3(1):

(a) yn y diffiniad o "ysgol" ("school") mewnosoder ar y diwedd "neu ysgol feithrin a gynhelir";

(b) yn y diffiniad o "athro neu athrawes ysgol" ("school teacher") dileer "mewn dim mwy na dwy ysgol".

(3) Yn rheoliad 4(2) ar ôl "mewn dwy ysgol" mewnosoder "neu fwy", yn lle "perfformiad yn y ddwy ysgol" rhodder "perfformiad ym mhob un o'r ysgolion" ac yn lle "cyfeiriad at y ddwy ysgol" rhodder "cyfeiriad at bob un o'r ysgolion".

(4) Hepgorer rheoliad 4(3) ac yn ei le rhodder–

"(3) Pan fo awdurdod yn dirprwyo i athro neu athrawes ysgol rai o'r dyletswyddau neu'r holl ddyletswyddau a osodir ar werthuswr fel a ganiateir gan reoliad 36(2), dyletswydd corff llywodraethu a phennaeth yr ysgol yw arfer eu swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn gyda'r bwriad o sicrhau bod perfformiad yr athro neu'r athrawes ddigyswllt wrth iddo neu wrth iddi gyflawni ei ddyletswyddau neu ei dyletswyddau yn yr ysgol honno ac mewn ysgolion eraill yn cael ei werthuso'n rheolaidd yn unol â'r Rheoliadau hyn.".

(5) Yn rheoliad 22(4A) mewnosoder "a gynhelir" ar ôl "ysgol feithrin" ac yn lle "nac yn ddiweddarach na" rhodder "a dim hwyrach na".

(6) Yn rheoliad 22(4B) yn lle "reoli" rhodder "werthuso".

(7) Yn rheoliad 38(2) hepgorer "41" ac yn ei le rhodder "43" a hepgorer "caiff y" ac yn ei le rhodder "rhaid i'r".

(8) Yn rheoliad 43(8), hepgorer "(7)" ac yn ei le rhodder "(6)".

Jane E. Hutt

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru.

26 Hydref 2009

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn cywiro gwallau drafftio yn Rheoliadau Gwerthuso Athrawon Ysgol (Diwygio) (Cymru) 2009. Mae'r Rheoliadau hefyd yn gwneud dau ddiwygiad i wneud yn eglur bod athrawon a gyflogir mewn dwy ysgol neu fwy, os cyflogir hwy gan awdurdodau addysg lleol neu gan gyrff llywodraethu ysgolion, i'w gwerthuso ym mhob un o'r ysgolion.

(1)

2002 p. 32; rhoddwyd y pwerau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn Neddf Addysg 2002 a throsglwyddwyd hwy i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32). Back [1]

(2)

O.S. 2002/1394 (Cy. 137). Diwygiwyd Rheoliadau Gwerthuso Athrawon Ysgol (Cymru) 2002 gan Reoliadau Gwerthuso Athrawon Ysgol (Diwygio) (Cymru) 2009 (O.S. 2009/2159) (Cy. 183). Back [2]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20092864_we_1.html