BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2009 No. 2939 (Cy. 256)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20092939_we_1.html

[New search] [Help]


 

Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2009

Gwnaed

2 Tachwedd 2009

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

5 Tachwedd 2009

Yn dod i rym

27 Tachwedd 2009

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(a) ac 17(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2009, ac y maent yn dod i rym ar 27 Tachwedd 2009.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2009

2.–(1) Diwygir Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2009(2) fel a ganlyn.

(2) Yn nhestun Cymraeg rheoliad 2(1), yn lle "Rhif XXX/2008" rhodder "Rhif 124/2009".

Gwenda Thomas

Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

2 Tachwedd 2009

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2009 ("y Prif Reoliadau") yn dirymu ac yn ailddeddfu gyda newidiadau Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2007 (O.S. 2007/840 (Cy.73), fel y'i diwygiwyd).

Mae'r Prif Reoliadau, yn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1881/2006 sy'n pennu'r lefelau uchaf a ganiateir ("LUGau") o halogion mewn deunyddiau bwyd (OJ Rhif L364, 20.12.2006, t.5).

Maent yn darparu hefyd ar gyfer gweithredu a gorfodi Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 124/2009 (OJ Rhif L40, 11.2.2009, t.7) sy'n ymwneud â'r LUGau o ychwanegion penodol at fwyd anifeiliaid y gellir eu cael o dan amgylchiadau penodedig mewn bwyd.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 2(1) o'r Prif Reoliadau, i gywiro gwall argraffyddol yn y testun Cymraeg.

(1)

1990 p. 16. Diwygiwyd adrannau 16 a 17 gan Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p.28), ("Deddf 1999").

Trosglwyddwyd swyddogaethau, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/1972) fel y'i darllenir gydag adran 40(3) Ddeddf 1999. Mae swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru bellach wedi'u breinio yng Ngweinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Back [1]

(2)

O.S. 2009/1386 (Cy.142). Back [2]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20092939_we_1.html