BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (Cymru) 2009 No. 3097 (Cy. 270)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20093097_we_1.html

[New search] [Help]


RHAN 1 Cyflwyniad

Enwi a chychwyn

1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (Cymru) 2009 a deuant i rym ar 17 Rhagfyr 2009.

Dehongli

2. Yn y Rheoliadau hyn–

RHAN 2 Aelodaeth o'r cyd-bwyllgor

Aelodaeth o'r cyd-bwyllgor

3.–(1) Mae aelodau o'r cydbwyllgor yn cynnwys y prif weithredwyr ynghyd â'r canlynol–

(a) cadeirydd;

(b) is-gadeirydd a benodir gan y cyd-bwyllgor o blith aelodau Bwrdd Iechyd Lleol nad ydynt yn swyddogion;

(c) dau aelod nad ydynt yn swyddogion ac a benodir gan y cyd-bwyllgor o blith aelodau presennol Bwrdd Iechyd Lleol nad ydynt yn swyddogion; ac

(ch) swyddog-aelodau a gyflogir gan y Bwrdd Iechyd Lleol cynhaliol.

(2) Mae'r swyddog-aelodau'n cynnwys–

(a) cyfarwyddwr gwasanaethau arbenigol a thrydyddol;

(b) cyfarwyddwr meddygol gwasanaethau arbenigol a thrydyddol;

(c) cyfarwyddwr cyllid gwasanaethau arbenigol a thrydyddol; ac

(ch) nyrs-gyfarwyddwr gwasanaethau arbenigol a thrydyddol.

(3) Yn ychwanegol, bydd tri aelod cyswllt, sef Prif Weithredwyr Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre, Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ac Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Penodi'r cadeirydd, yr is-gadeirydd, yr aelodau nad ydynt yn swyddogion a'r swyddog-aelodau

4.–(1) Penodir y cadeirydd gan Weinidogion Cymru.

(2) Penodir yr is-gadeirydd a'r aelodau nad ydynt yn swyddogion gan y cyd-bwyllgor.

(3) Penodir y swyddog-aelodau gan y cyd-bwyllgor.

(4) Rhaid i'r penodiadau a wneir yn unol â pharagraff (1) fod yn unol â'r darpariaethau yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn.

(5) Pan fo'r cyd-bwyllgor yn penodi'r is-gadeirydd a'r aelodau nad ydynt yn swyddogion yn unol â pharagraff (2) a'r swyddog-aelodau yn unol â pharagraff (3), rhaid i'r penodiadau fod yn ddarostyngedig i reolau sefydlog sy'n ymwneud â'r cyd-bwyllgor.

(6) Pan fo cadeirydd yn cael ei benodi'n unol â pharagraff (1), rhaid rhoi sylw i'r angen i hyrwyddo amrywiaeth yn y rhychwant o bersonau y caniateir eu penodi.

Y gofynion o ran cymhwystra i fod yn aelodau o'r cyd-bwyllgor

5.–(1) Cyn y caniateir i unrhyw berson gael ei benodi'n gadeirydd y cyd-bwyllgor, rhaid iddo fodloni'r gofynion o ran cymhwystra yn Rhan 1 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn a pharhau i gyflawni'r gofynion tra bo'n dal y swydd honno.

(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), cyn y caniateir i unrhyw berson gael ei benodi'n swyddog-aelod o'r cyd-bwyllgor, rhaid iddo fodloni'r gofynion o ran cymhwystra yn Rhan 1 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn a pharhau i gyflawni'r gofynion tra bo'n dal y swydd honno.

(3) Yn ychwanegol at fodloni'r gofynion o ran cymhwystra yn Rhan 1 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn, rhaid i swyddog-aelod sy'n gyfarwyddwr meddygol gwasanaethau arbenigol a thrydyddol neu sy'n nyrs-gyfarwyddwr gwasanaethau arbenigol a thrydyddol y cyd-bwyllgor fodloni hefyd y gofynion perthnasol o ran cymhwystra yn Rhan 2 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn.

(4) Caiff unrhyw berson a benodir yn unol â rheoliad 4(2) i fod yn is-gadeirydd neu'n aelod nad yw'n swyddog neu sy'n aelod cyswllt o'r cyd-bwyllgor neu'n brif weithredwr y cyd-bwyllgor ddim ond dal swydd ar y cyd-bwyllgor cyhyd â'i fod yn parhau i ddal y swydd honno fel y bo'n briodol fel aelod presennol o Fwrdd Iechyd Lleol nad yw'n swyddog neu fel Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru neu Fwrdd Iechyd Lleol.

Deiliadaeth swydd cadeirydd

6.–(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw berson a benodir yn gadeirydd y cyd-bwyllgor.

(2) Yn ddarostyngedig i'r Rheoliadau hyn, bydd cadeirydd yn dal ac yn gadael swydd yn unol â thelerau ei benodiad.

(3) Caniateir i gadeirydd gael ei benodi am gyfnod nad yw'n hwy na phedair blynedd.

(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), caniateir i gadeirydd, pan fydd ei gyfnod yn ei swydd wedi dod i ben, gael ei ailbenodi'n unol â rheoliad 4(1).

(5) Ni chaiff person ddal swydd fel cadeirydd i'r cyd-bwyllgor am gyfnod cyfan o fwy nag wyth mlynedd.

Deiliadaeth swydd is-gadeirydd a deiliadaeth swydd aelodau nad ydynt yn swyddogion

7.–(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw berson a benodir yn is-gadeirydd y cyd-bwyllgor neu'n aelod o'r cyd-bwyllgor nad yw'n swyddog.

(2) Caniateir i is-gadeirydd ac aelod nad yw'n swyddog gael ei benodi am gyfnod nad yw'n hwy na dwy flynedd.

(3) Yn ddarostyngedig i reoliad 5(4) a pharagraff (4), caniateir i is-gadeirydd neu aelod nad yw'n swyddog, pan fydd ei gyfnod yn ei swydd wedi dod i ben, gael ei ailbenodi'n unol â rheoliad 4(2).

(4) Ni chaiff person ddal swydd fel is-gadeirydd y cyd-bwyllgor neu fel aelod o'r cyd-bwyllgor nad yw'n swyddog am gyfnod cyfan o fwy na phedair blynedd.

Terfynu penodiad cadeirydd

8.–(1) Caiff Gweinidogion Cymru symud cadeirydd o'i swydd ar unwaith os byddant yn penderfynu–

(a) nad yw er budd y gwasanaeth iechyd yng Nghymru; neu

(b) nad yw'n ffafriol i reoli da ar y cyd-bwyllgor,

i'r cadeirydd hwnnw barhau i ddal y swydd honno.

(2) Os daw i sylw Gweinidogion Cymru fod cadeirydd a benodwyd wedi dod yn anghymwys o dan Ran 1 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn, caiff Gweinidogion Cymru symud y cadeirydd hwnnw o'i swydd.

(3) Rhaid i gadeirydd a benodwyd hysbysu'r cyd-bwyllgor ar unwaith os daw'n anghymwys o dan Ran 1 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn.

(4) Os yw cadeirydd a benodwyd wedi methu â bod yn bresennol mewn unrhyw un o gyfarfodydd y cyd-bwyllgor am gyfnod o chwe mis neu fwy, caiff Gweinidogion Cymru symud y cadeirydd hwnnw o'i swydd oni chânt eu bodloni –

(a) bod achos rhesymol dros yr absenoldeb; a

(b) y bydd y cadeirydd yn gallu bod yn bresennol yn unrhyw gyfarfodydd o fewn unrhyw gyfnod y bydd Gweinidogion Cymru yn credu sy'n rhesymol.

(5) Caiff cadeirydd ymddiswyddo ar unrhyw bryd o'i swydd drwy roi hysbysiad mewn ysgrifen i Weinidogion Cymru a phob Bwrdd Iechyd Lleol ond bydd ei ymddiswyddiad yn ddarostyngedig i delerau ei benodiad.

Atal cadeirydd dros dro

9.–(1) Cyn penderfynu a ddylid symud cadeirydd o swydd o dan reoliad 8, caiff Gweinidogion Cymru atal dros dro ddeiliadaeth swydd y cadeirydd hwnnw am unrhyw gyfnod y maent yn credu ei fod yn rhesymol.

(2) Pan fo cadeirydd wedi ei atal dros dro yn unol â pharagraff (1), rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu'r cadeirydd hwnnw a phob Bwrdd Iechyd Lleol ar unwaith mewn ysgrifen, gan ddatgan y rhesymau dros ei atal dros dro.

(3) Ni chaiff cadeirydd y mae ei ddeiliadaeth swydd wedi ei atal dros dro o dan baragraff (1) gyflawni swyddogaethau cadeirydd.

Terfynu penodiad swyddog-aelodau

10.–(1) Caiff y cadeirydd, yr is-gadeirydd, yr aelodau nad ydynt yn swyddogion a'r prif weithredwyr symud swyddog-aelod o'i swydd ar unwaith–

(a) os ydynt o'r farn nad yw er budd y cyd-bwyllgor i berson sy'n swyddog-aelod barhau i ddal y swydd honno fel aelod; neu

(b) os ydynt, ar ôl cael eu hysbysu gan swyddog-aelodau yn unol â pharagraff (2), o'r farn nad yw er budd y cyd-bwyllgor i berson sy'n swyddog-aelod barhau i ddal ei swydd.

(2) Os yw'r holl swyddog-aelodau (ac eithrio swyddog-aelod sy'n destun hysbysiad o dan y paragraff hwn) o'r farn na ddylai person sy'n swyddog-aelod barhau i ddal swydd fel aelod, cânt hysbysu'r cyd-bwyllgor.

(3) Pan fo'r cadeirydd, yr is-gadeirydd, yr aelodau nad ydynt yn swyddogion a'r prif weithredwyr yn symud person o swydd yn unol â pharagraff (1) neu, ar ôl iddynt gael eu hysbysu gan y swyddog-aelodau yn unol â pharagraff (2), yn penderfynu na ddylai person barhau i ddal swydd, rhaid iddynt hysbysu pob Bwrdd Iechyd Lleol a Gweinidogion Cymru ar unwaith mewn ysgrifen, gan ddatgan y rhesymau dros eu penderfyniad.

(4) Pan fo person wedi ei benodi i fod yn swyddog-aelod, os daw i sylw'r cadeirydd, yr is-gadeirydd, unrhyw un o'r aelodau nad ydynt yn swyddogion neu'r prif weithredwyr fod y person hwnnw–

(a) wedi dod yn anghymwys i'w benodi o dan Ran 1, a phan fo'n gymwys, o dan Ran 2 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn; neu

(b) adeg ei benodi, yn anghymwys i gael ei benodi o dan Ran 1, a phan fo'n gymwys, o dan Ran 2 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn,

rhaid iddo hysbysu'r cyd-bwyllgor ar unwaith a rhaid i'r cadeirydd hysbysu'r swyddog-aelod hwnnw, pob Bwrdd Iechyd Lleol a Gweinidogion Cymru ar unwaith mewn ysgrifen o'r anghymhwystra hwnnw.

(5) Rhaid i swyddog-aelod hysbysu'r cyd-bwyllgor ar unwaith os daw'r aelod hwnnw'n anghymwys o dan Ran 1, a phan fo'n gymwys, o dan Ran 2 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn.

(6) Pan fo hysbysiad wedi ei roi yn unol â pharagraff (4), rhaid i'r cadeirydd, yr is-gadeirydd, yr aelodau nad ydynt yn swyddogion a'r prif weithredwyr symud y person hwnnw o'i swydd a bydd y person hwnnw'n peidio â gweithredu fel swyddog-aelod.

(7) Os yw'n ymddangos i'r cadeirydd, yr is-gadeirydd, yr aelodau nad ydynt yn swyddogion a'r prif weithredwyr fod swyddog-aelod wedi methu â chydymffurfio â rheoliad 17 o Reoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2009 (anabledd aelodau oherwydd buddiant ariannol), caniateir iddynt symud y person hwnnw o'i swydd a bydd y person hwnnw'n peidio â gweithredu fel swyddog-aelod.

(8) Pan fo swyddog-aelod wedi ei symud o'i swydd yn unol â pharagraffau (6) a (7), rhaid i'r cadeirydd hysbysu pob Bwrdd Iechyd Lleol a Gweinidogion Cymru o hynny ar unwaith.

(9) Os bydd person sy'n swyddog-aelod wedi methu â bod yn bresennol mewn unrhyw un o gyfarfodydd y cyd-bwyllgor am gyfnod o chwe mis neu fwy, caiff y cadeirydd, yr is-gadeirydd, yr aelodau nad ydynt yn swyddogion a'r prif weithredwyr symud y person hwnnw o'i swydd oni chânt eu bodloni–

(a) bod achos rhesymol dros yr absenoldeb; a

(b) y bydd y person yn gallu bod yn bresennol mewn unrhyw gyfarfodydd o fewn unrhyw gyfnod y bydd y cadeirydd, yr is-gadeirydd, yr aelodau nad ydynt yn swyddogion a'r prif weithredwyr yn credu sy'n rhesymol.

Atal swyddog-aelodau dros dro

11.–(1) Cyn penderfynu a ddylid symud person o'i swydd yn unol â rheoliad 10, caiff y cadeirydd, yr is-gadeirydd, yr aelodau nad ydynt yn swyddogion a'r prif weithredwyr, os byddant yn credu ei bod yn briodol gwneud hynny, atal dros dro ddeiliadaeth swydd swyddog-aelod am unrhyw gyfnod y maent yn credu ei fod yn rhesymol.

(2) Pan fo swyddog-aelod wedi ei atal dros dro yn unol â pharagraff (1), rhaid i'r cadeirydd, yr is-gadeirydd, yr aelodau nad ydynt yn swyddogion a'r prif weithredwyr hysbysu'r aelod hwnnw, pob Bwrdd Iechyd Lleol a Gweinidogion Cymru ar unwaith mewn ysgrifen, gan ddatgan y rhesymau dros ei atal dros dro.

(3) Ni chaiff swyddog-aelod y mae ei ddeiliadaeth swydd wedi ei hatal dros dro gyflawni swyddogaethau unrhyw aelod o'r cyd-bwyllgor.

RHAN 3 Cyfarfodydd a thrafodion y cyd-bwyllgor

Cyfarfodydd a thrafodion

12.–(1) Rhaid i bob Bwrdd Iechyd Lleol gytuno ar y rheolau sefydlog ar gyfer rheoleiddio cyfarfodydd a thrafodion y cyd-bwyllgor.

(2) Rhaid i gyfarfodydd a thrafodion y cyd-bwyllgor gael eu cynnal yn unol â'r rheolau sefydlog sy'n ymwneud â'r cyd-bwyllgor.

(3) Ni chaiff aelodau cyswllt bleidleisio yn unrhyw un o gyfarfodydd neu drafodion y cyd-bwyllgor.

Pwerau is-gadeirydd

13. Pan fo cadeirydd yr is-bwyllgor–

(a) wedi marw;

(b) wedi peidio â dal ei swydd; neu

(c) yn analluog i gyflawni dyletswyddau'r cadeirydd oherwydd salwch, absenoldeb neu unrhyw achos arall,

caiff yr is-gadeirydd weithredu fel cadeirydd hyd nes y caiff cadeirydd newydd ei benodi neu hyd nes y bydd y cadeirydd presennol yn ailafael yn ei ddyletswyddau fel cadeirydd, yn ôl y digwydd.

Edwina Hart

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.

25 Tachwedd 2009

Rheoliad 4(1) a (4)

ATODLEN 1 Y GWEITHDREFNAU AR GYFER PENODI CADEIRYDD

1. Mae'r Atodlen hon yn gymwys i benodi cadeirydd y cyd-bwyllgor.

2. Rhaid i Weinidogion Cymru'n sicrhau bod trefniadau priodol wedi eu gwneud ar gyfer penodi'r cadeirydd a bod y trefniadau hynny'n cymryd i ystyriaeth –

(a) yr egwyddorion a osodir o bryd i'w gilydd gan y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus ar gyfer Penodiadau gan Weinidogion i Gyrff Cyhoeddus;

(b) ei bod yn ofynnol i'r penodi fod yn agored a thryloyw;

(c) ei bod yn ofynnol penodi drwy gystadleuaeth deg ac agored; ac

(ch) yr angen i sicrhau bod ymgeiswyr llwyddiannus yn bodloni'r gofynion ynghylch cymhwystra a nodir yn Rhan 1 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn.

Rheoliad 5(1), (2) a (3)

ATODLEN 2 Y GOFYNION O RAN CYMHWYSTRA

RHAN 1 Y gofynion o ran cymhwystra ar gyfer cadeirydd a swyddog-aelodau

Gofynion cyffredinol

1.–(1) Mae'r Rhan hon o'r Atodlen hon yn gymwys mewn perthynas â chymhwystra person i gael ei benodi'n gadeirydd a'n swyddog-aelod y cyd-bwyllgor.

(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4), (5), (6) ac (8), ni fydd person yn gymwys i gael ei benodi'n gadeirydd neu'n swyddog-aelod os yw–

(a) yn ystod y pum mlynedd blaenorol wedi ei gollfarnu yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw o unrhyw dramgwydd ac wedi cael dedfryd o garchar (p'un a yw wedi ei hatal ai peidio) am gyfnod nad yw'n llai na thri mis heb yr opsiwn o ddirwy;

(b) yn destun gorchymyn cyfyngu methdaliad neu orchymyn interim neu wedi gwneud compownd neu drefniant gyda'i gredydwyr;

(c) wedi ei ddiswyddo, ac eithrio oherwydd anghyflogaeth, o gyflogaeth am dâl gyda chorff gwasanaeth iechyd; neu

(ch) os yw ei aelodaeth fel cadeirydd, aelod neu gyfarwyddwr corff gwasanaeth iechyd, wedi ei therfynu am reswm ac eithrio anghyflogaeth, ymddiswyddiad gwirfoddol, ad-drefnu'r corff gwasanaeth iechyd, neu am fod cyfnod y swydd y penodwyd y person hwnnw iddi wedi dod i ben.

(3) At ddibenion paragraff (2)(a), bernir mai'r dyddiad collfarnu yw'r dyddiad y bydd y cyfnod a ganiateir yn gyffredinol ar gyfer gwneud apêl neu gais ynghylch y gollfarn yn dod i ben neu, os gwneir apêl neu gais o'r fath, y dyddiad y penderfynir yn derfynol ar yr apêl neu'r cais, neu'r dyddiad y rhoddir y gorau i'r naill neu'r llall, neu'r dyddiad y mae'r apêl yn methu am na chafodd ei dwyn yn ei blaen neu'r dyddiad y mae'r cais yn methu am na chafodd ei ddwyn yn ei flaen.

(4) At ddibenion paragraff (2)(c), nid yw person i'w drin fel un sydd wedi cael ei gyflogi am dâl a hynny ddim ond am ei fod wedi dal swydd aelod, aelod cyswllt neu gyfarwyddwr corff gwasanaeth iechyd.

(5) Pan fo person yn anghymwys oherwydd paragraff (2)(b)–

(a) os diddymir y methdaliad ar y sail na ddylai'r person fod wedi cael ei ddyfarnu'n fethdalwr neu ar y sail bod dyledion y person wedi cael eu talu'n llawn, bydd y person hwnnw'n gymwys i gael ei benodi'n gadeirydd neu'n swyddog-aelod ar ddyddiad y diddymiad;

(b) os caiff y person ei ryddhau o fethdaliad, bydd y person hwnnw'n gymwys i gael ei benodi'n gadeirydd neu'n swyddog-aelod ar ddyddiad y rhyddhau;

(c) os telir dyledion y person yn llawn, ac yntau wedi gwneud compownd neu drefniant gyda'i gredydwyr, bydd y person hwnnw'n gymwys i gael ei benodi'n gadeirydd neu'n swyddog-aelod ar y dyddiad y caiff y dyledion hynny eu talu'n llawn; ac

(ch) ar ôl gwneud compownd neu drefniant gyda'i gredydwyr, bydd y person yn dod yn gymwys i gael ei benodi'n gadeirydd neu'n swyddog-aelod ar derfyn pum mlynedd o'r dyddiad y cyflawnwyd telerau gweithred y compownd neu'r trefniant.

(6) Yn ddarostyngedig i baragraff (7), pan fo person yn anghymwys oherwydd paragraff (2)(c), caiff, ar derfyn dwy flynedd o ddyddiad y diswyddiad, wneud cais mewn ysgrifen i Weinidogion Cymru i ddileu'r anghymhwystra, a chaiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo bod yr anghymhwystra'n dod i ben.

(7) Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwrthod cais i ddileu anghymhwystra, ni chaiff y person hwnnw wneud cais pellach cyn pen dwy flynedd gan ddechrau ar ddyddiad y cais a bydd y paragraff hwn yn gymwys i unrhyw gais wedyn.

(8) Pan fo person yn anghymwys oherwydd paragraff (2) (ch), daw'r person hwnnw yn gymwys i'w benodi'n gadeirydd neu'n swyddog-aelod ar derfyn dwy flynedd o ddyddiad terfynu'r aelodaeth neu derfyn unrhyw gyfnod hirach a bennwyd gan y corff a derfynodd yr aelodaeth, ond caiff Gweinidogion Cymru, pan wneir cais iddynt mewn ysgrifen gan y person hwnnw, leihau cyfnod yr anghymhwystra.

RHAN 2 Y gofynion o ran cymhwystra ar gyfer categorïau penodol o swyddog-aelodau

Cyfarwyddwr Meddygol Gwasanaethau Arbenigol a Thrydyddol

2. I fod yn gymwys i gael ei benodi'n gyfarwyddwr meddygol yn rheoliad 3(2)(b), rhaid i berson fod wedi ei restru yng Nghofrestr Ymarferwyr Cyffredinol(4) neu yng Nghofrestr Arbenigwyr(5) y Cyngor Meddygol Cyffredinol.

Nyrs-gyfarwyddwr Gwasanaethau Arbenigol a Thrydyddol

3. I fod yn gymwys i gael ei benodi'n nyrs-gyfarwyddwr yn rheoliad 3(2)(ch), rhaid i berson fod wedi ei gynnwys ar y gofrestr a gedwir gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth(6).

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyfansoddiad ac aelodaeth Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru ("y cyd-bwyllgor") gan gynnwys ei weithdrefnau a'i drefniadau gweinyddol. Mae Cyfarwyddiadau Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (Cymru) 2009 a wnaed ar 1 Hydref 2009 yn darparu y bydd y saith Bwrdd Iechyd Lleol yng Nghymru yn gweithio ar y cyd i arfer swyddogaethau sy'n ymwneud â chynllunio a sicrhau gwasanaethau arbenigol a thrydyddol ac er mwyn arfer y swyddogaethau hynny ar y cyd, bydd y Byrddau Iechyd Lleol yn sefydlu'r cyd-bwyllgor cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl 1 Hydref 2009.

Mae Rhan 2 o'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer–

(a) cyfansoddiad ac aelodaeth y cyd-bwyllgor (rheoliad 3);

(b) penodi i'r cyd-bwyllgor gadeirydd, swyddog-aelodau, is-gadeirydd ac aelodau nad ydynt yn swyddogion (rheoliad 4);

(c) y gofynion o ran cymhwystra ar gyfer aelodau o'r cyd-bwyllgor (rheoliad 5 ac Atodlen 2); ac

(ch) deiliadaeth swydd yr aelodau o'r cyd-bwyllgor, terfynu penodiad yr aelodau hynny a'u hatal dros dro (rheoliadau 6 i 11).

Mae Rhan 3 yn cynnwys darpariaethau ynglŷn â chyfarfodydd a thrafodion y cyd-bwyllgor gan gynnwys pwerau'r is-gadeirydd (rheoliadau 12 a 13).

Mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi'i baratoi mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(1)

2006 p.42. Back [1]

(2)

O.S. 2009/779 (Cy.67). Back [2]

(3)

Sefydlwyd Bwrdd Iechyd Lleol Addysgu Powys o dan Orchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/148 (Cy.18)). Sefydlwyd Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan, Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf, Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda, Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr a Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a'r Fro o dan Orchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu a Diddymu) (Cymru) 2009 (O.S. 2009/778 (Cy.66)). Back [3]

(4)

Cedwir y Gofrestr Ymarferwyr Cyffredinol gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol o dan erthygl 10 o Orchymyn Ymarfer Meddygol Cyffredinol ac Arbenigol (Addysg, Hyfforddiant a Chymwysterau) 2003 (O.S. 2003/1250). Back [4]

(5)

Cedwir y Gofrestr Arbenigwyr gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol o dan erthygl 13 o Orchymyn Ymarfer Meddygol Cyffredinol ac Arbenigol (Addysg, Hyfforddiant a Chymwysterau) 2003 (O.S. 2003/1250). Back [5]

(6)

Mae'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth yn cadw cofrestr yn unol ag Erthygl 5 o Orchymyn Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth 2002 (O.S. 2002/253). Back [6]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20093097_we_1.html