BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2009 No. 3105 (Cy. 271)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20093105_we_1.html

[New search] [Help]


 

Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2009

Gwnaed

26 Tachwedd 2009

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

27 Tachwedd 2009

Yn dod i rym

19 Rhagfyr 2009

Mae Gweinidogion Cymru'n gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(2), 17(2), 26(1)(a) a (2)(a) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1), ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2).

Yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, maent wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd iddynt gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(3), cafwyd ymgynghoriad cyhoeddus agored a thryloyw tra'r oedd y Rheoliadau hyn yn cael eu paratoi a'u gwerthuso.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2009, a deuant i rym ar 19 Rhagfyr 2009.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygiadau i Reoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2007

2. Mae Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2007(4) yn cael eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 9.

3. Yn rheoliad 2 (dehongli)–

(a) ym mharagraff (1)–

(i) ar ôl y diffiniad o "Rheoliad 2023/2006" ("Regulation 2023/2006") mewnosoder y diffiniad canlynol–

(ii) yn y diffiniad o "mewnforio" ("import") yn lle "Aelod-wladwriaeth" rhodder "Gwladwriaeth Ardal Economaidd Ewropeaidd"; a

(b) hepgorer paragraff (2).

4. Ar ôl rheoliad 4 (gorfodi Rheoliad 1935/2004) mewnosoder y canlynol fel rheoliad 4A–

"Gorfodi Rheoliad 450/2009

4A. Bydd unrhyw berson sy'n torri unrhyw un o'r darpariaethau canlynol o Reoliad 450/2009 yn euog o dramgwydd–

(a) Erthygl 4(f) (gwahardd rhoi ar y farchnad ddeunyddiau ac eitemau gweithredol a deallus nad ydynt yn cydymffurfio â'r gofynion labelu);

(b) Erthygl 11(1) a (2) (rheolau ychwanegol ar labelu), fel y'i darllenir gyda 4ydd indent Erthygl 14;

(c) Erthygl 12 (datganiad cydymffurfio); ac

(ch) Erthygl 13 (dogfennau ategol).".

5. Ar ôl rheoliad 6 (awdurdodau cymwys at ddibenion Rheoliad 1934/2004), mewnosoder y canlynol fel rheoliad 6A–

"Awdurdodau cymwys at ddibenion Rheoliad 450/2009

6A. Yr awdurdodau cymwys at ddibenion Erthygl 13 o Reoliad 450/2009 yw'r Asiantaeth Safonau Bwyd a'r awdurdod sydd â chyfrifoldeb dros orfodi yn unol â rheoliad 14(1).".

6. Ym mharagraff (2)(a) o reoliad 13 (tramgwyddau a chosbau), yn lle "rheoliad 4 neu 5" rhodder "rheoliad 4, 4A neu 5".

7. Yn lle rheoliad 14 (gorfodi) rhodder y canlynol-

"14.–(1) Rhaid i bob awdurdod bwyd yn ei ardal a phob awdurdod iechyd porthladd yn ei ranbarth weithredu a gorfodi–

(a) darpariaethau Rheoliad 1935/2004 a grybwyllir yn rheoliad 4;

(b) darpariaethau Rheoliad 450/2009 a grybwyllir yn rheoliad 4A; ac

(c) yn ddarostyngedig i baragraff (3), y Rheoliadau hyn.

(2) Caiff yr Asiantaeth Safonau Bwyd weithredu a gorfodi darpariaethau–

(a) Erthyglau 16(1) ac 17(2) o Reoliad 1935/2004; a

(b) Erthygl 13 o Reoliad 450/2009.

(3) Rhaid i bob awdurdod bwyd yn ei ardal weithredu a gorfodi darpariaethau Rheoliad 2023/2006 a grybwyllir yn rheoliad 5.".

8. Ym mharagraff (2) o reoliad 18 (amddiffyniadau cyffredinol), yn lle "reoliad 4 neu 13(1)(a)" rhodder "reoliad 4, 4A neu 13(1)(a)".

9. Yn rheoliad 21 (gweithredu amryfal ddarpariaethau o'r Ddeddf)–

(a) ym mharagraff (2), yn lle "Reoliad 1935/2004 neu, fel y bo'n briodol, at Reoliad 2023/2006." rhodder "Reoliad 1935/2004, Rheoliad 2023/2006 neu Reoliad 450/2009 fel y bo'n briodol."; a

(b) ym mharagraff (3), yn lle "Reoliad 1935/2004 neu, fel y bo'n briodol, at Reoliad 2023/2006," rhodder "Reoliad 1935/2004, Rheoliad 2023/2006 neu Reoliad 450/2009 fel y bo'n briodol".

Gwenda Thomas

Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

26 Tachwedd 2009

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2007 (O.S. 2007/3252 (Cy. 287), fel y'i diwygiwyd ynghynt gan O.S. 2008/1237 (Cy. 124), O.S. 2008/1682 (Cy. 162) ac O.S. 2009/481 (Cy. 49)) ("y prif Reoliadau") er mwyn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 450/2009 ar ddeunyddiau ac eitemau gweithredol a deallus y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd (OJ Rhif L135, 30.5.2009, t.3) ("Rheoliad 450/2009"). Mae'r Rheoliadau hefyd yn diwygio'r modd y diffinnir mewnforio yn y prif Reoliadau.

2. Yn fanwl, mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r prif Reoliadau drwy–

(a) mewnosod diffiniad o Reoliad 450/2009 (rheoliad 3(a)(i));

(b) diwygio'r diffiniad o "mewnforio" i gyfeirio at gynhyrchion sy'n dod o oddi allan i'r Ardal Economaidd Ewropeaidd (rheoliad 3(a)(ii));

(c) peri bod torri gofynion penodol yn Rheoliad 450/2009 (rheoliad 4) yn dramgwydd, gosod cosbau ar gyfer y cyfryw dramgwydd (rheoliad 6), a darparu ar gyfer amddiffyniad mewn amgylchiadau penodol (rheoliad 8);

(ch) penodi'r awdurdodau cymwys at ddibenion darpariaethau penodol yn Rheoliad 450/2009 (rheoliad 5);

(d) dynodi'r awdurdodau gorfodi at ddibenion darpariaethau penodol yn Rheoliad 450/2009 (rheoliad 7); ac

(dd) darparu bod darpariaethau penodol yn Neddf Diogelwch Bwyd 1990 yn gymwys at ddibenion gorfodi Rheoliad 450/2009 (rheoliad 9).

3. Ni luniwyd asesiad effaith llawn ar gyfer y Rheoliadau hyn, gan na ragwelir unrhyw effaith o gwbl ar y sector preifat na'r sector gwirfoddol.

(1)

1990 p.16, amnewidwyd adran 1(1) a (2) (y diffiniad o "food") gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adrannau 17 a 48 gan baragraffau 12 a 21 yn eu trefn o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28), "Deddf 1999". Diwygiwyd adran 48 hefyd gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adran 53(2) gan baragraff 19 o Atodlen 16 i Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (1994 p.40), Atodlen 6 i Ddeddf 1999 ac O.S. 2004/2990. Back [1]

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau "the Ministers" i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y'i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf 1999, a'u trosglwyddo wedi hynny i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p.32). Back [2]

(3)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 596/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n addasu nifer o offerynnau yn ddarostyngedig i'r weithdrefn y cyfeirir ati yn Erthygl 251 o'r Cytuniad i Benderfyniad y Cyngor 1999/468 o ran y weithdrefn reoleiddiol gyda chraffu; Addasiad i'r weithdrefn reoleiddiol gyda chraffu – Rhan Pedwar (OJ Rhif L188, 18.7.2009, t.14). Back [3]

(4)

O.S. 2007/3252 (Cy. 287), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2008/1237 (Cy. 124), O.S. 2008/1682 (Cy. 162) ac O.S. 2009/481 (Cy. 49). Back [4]

(5)

OJ Rhif L135, 30.5.2009, t.3. Back [5]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20093105_we_1.html