BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Arolygu Mewnforio) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2009 No. 3140 (Cy. 273)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20093140_we_1.html

[New search] [Help]


 

Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Arolygu Mewnforio) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2009

Gwnaed

30 Tachwedd 2009

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

2 Rhagfyr 2009

Yn dod i rym

1 Ionawr 2010

Mae Gweinidogion Cymru, gyda chydsyniad y Trysorlys, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 56 o Ddeddf Cyllid 1973(1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt hwy gan adran 59(5) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006(2).

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Arolygu Mewnforio) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2009.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 1 Ionawr 2010.

Diwygiadau i Reoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Arolygu Mewnforio) (Cymru) (Rhif 2) 2006

2.–(1) Diwygir Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Arolygu Mewnforio) (Cymru) (Rhif 2) 2006(3) yn unol â'r rheoliad hwn.

(2) Yn lle Atodlen 2, rhodder–

"ATODLEN 2 FFIOEDD AROLYGU MEWNFORIO (CYFRADDAU GOSTYNGOL)

Genws Nifer Gwlad tarddiad Ffi Ffi (oriau gwaith heb fod yn ystod y dydd)
Blodau wedi eu torri
Dianthus Fesul llwyth
– hyd at 20,000 o nifer Colombia £0.39 £0.59
Ecuador £1.98 £2.97
Kenya, Twrci £3.31 £4.96
Israel £6.62 £9.93
– am bob 1,000 o unedau ychwanegol neu ran o hynny Colombia £0.003 £0.004
Ecuador £0.01 £0.02
Kenya, Twrci £0.02 £0.03
Israel £0.05 £0.07
– uchafbris Colombia £3.71 £4.76
Ecuador £15.88 £23.83
Kenya, Twrci £26.48 £39.72
Israel £52.96 £79.44
Rosa Fesul llwyth
– hyd at 20,000 o nifer Ecuador £0.39 £0.59
Colombia £0.66 £0.99
Ethiopia, Kenya £1.32 £1.98
Tanzania £1.98 £2.97
Zambia £6.62 £9.93
– am bob 1,000 o unedau ychwanegol neu ran o hynny Ecuador £0.003 £0.004
Colombia £0.005 £0.007
Ethiopia, Kenya £0.01 £0.015
Tanzania £0.01 £0.02
Zambia £0.05 £0.07
– uchafbris Ecuador £3.17 £4.76
Colombia £5.30 £7.94
Ethiopia, Kenya £10.59 £15.88
Tanzania £15.88 £23.83
Zambia £52.96 £79.44
Ffrwythau
Citrus Fesul llwyth
– hyd at 25,000 kg o bwysau Twrci £0.39 £0.59
Moroco £0.66 £0.99
Israel, Uruguay, UDA £1.98 £2.97
Yr Aifft, Mecsico £3.31 £4.96
Periw £4.63 £6.95
Honduras £6.62 £9.93
– am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny Twrci £0.01 £0.02
Moroco £0.02 £0.03
Israel, Uruguay, UDA £0.07 £0.11
Yr Aifft, Mecsico £0.13 £0.19
Periw £0.18 £0.27
Honduras £0.26 £0.39
Malus Fesul llwyth
– hyd at 25,000 kg o bwysau Chile £0.92 £1.39
Yr Ariannin, Seland Newydd, De Affrica £1.32 £1.98
Brasil £1.98 £2.97
Tsieina, UDA £3.31 £4.96
– am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny Chile £0.03 £0.05
Yr Ariannin, Seland Newydd, De Affrica £0.05 £0.07
Brasil £0.07 £0.11
Tsieina, UDA £0.13 £0.19
Mangifera Fesul llwyth
– hyd at 25,000 kg o bwysau Brasil £1.32 £1.98
– am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny Brasil £0.05 £0.07
Passiflora Fesul llwyth
– hyd at 25,000 kg o bwysau Colombia, Kenya £1.32 £1.98
Zimbabwe £4.63 £6.95
De Affrica £6.62 £9.93
– am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny Colombia, Kenya £1.32 £1.98
Zimbabwe £0.18 £0.27
De Affrica £0.26 £0.39
Prunus Fesul llwyth
– hyd at 25,000 kg o bwysau Chile, De Affrica, Twrci £1.32 £1.98
Yr Ariannin £4.63 £6.95
UDA £6.62 £9.93
– am bob, 1,000kg ychwanegol neu ran o hynny Chile, De Affrica, Twrci £0.05 £0.07
Yr Ariannin £0.18 £0.27
UDA £0.26 £0.39
Psidium Fesul llwyth
– hyd at 25,000 kg o bwysau Brasil £9.93 £14.89
– am bob, 1,000kg ychwanegol neu ran o hynny Brasil £0.39 £0.58
Pyrus Fesul llwyth
– hyd at 25,000 kg o bwysau

Yr Ariannin,

De Affrica

£1.98 £2.97
Chile, Tsieina £4.63 £6.95
– am bob, 1,000kg ychwanegol neu ran o hynny

Yr Ariannin,

De Affrica

£0.07 £0.11
Chile, Tsieina £0.18 £0.27
Llysiau
Solanum melongena Fesul llwyth
– hyd at 25,000 kg o bwysau Twrci £1.32 £1.98
– am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny Twrci £0.05 £0.07

Os yw cyfanswm unrhyw ffi yn swm sy'n llai na £0.01, mae'r swm hwnnw i'w hepgor.".

Elin Jones

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

30 Tachwedd 2009

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Arolygu Mewnforio) (Cymru) (Rhif 2) 2006 (O.S. 2006/2832 (Cy.253)) ("y prif Reoliadau"). Mae'r prif Reoliadau yn rhoi ar waith Erthygl 13d o Gyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC (OJ Rhif L 169, 10.7.00, t.1) ("y Gyfarwyddeb"), sy'n ei gwneud yn ofynnol i Aelod-wladwriaethau godi ffioedd i dalu'r costau sy'n digwydd oherwydd gwiriadau dogfennol, gwiriadau adnabod a gwiriadau iechyd planhigion ar fewnforion penodol o ran planhigion, cynhyrchion planhigion a phethau eraill o drydydd gwledydd.

Mae'r Gyfarwyddeb yn cynnwys gweithdrefn (Erthyglau 3a(2), 13d(2) ac 18(2)) i osod cyfraddau arolygu gostyngol ar gyfer mewnforion o blanhigion a chynnyrch planhigion penodol ac ar gyfer codi ffioedd ar gyfradd ostyngol gymesur. Mae Atodlen 2 i'r prif Reoliadau yn gosod y ffioedd ar gyfer arolygiadau ar gyfraddau gostyngol ac mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r Atodlen honno er mwyn gosod y ffioedd sy'n cyfateb i'r cyfraddau arolygu diweddaraf. Mae'r newidiadau i'r ffioedd a wneir gan y Rheoliadau hyn, sydd wedi'u gosod ar gyfran o'r ffi safonol (a ddisgrifir yn Atodlen 1 i'r prif Reoliadau) sy'n cyfateb i gyfradd yr arolygiadau, yn seiliedig ar gyfraddau arolygu y cytunwyd arnynt ac a osodir isod:

Genws Gwlad tarddiad Cyfradd flaenorol yr arolygiadau Y ffi gychwynnol (4) Cyfradd newydd yr arolygiadau Y ffi gychwynnol, a bennir yn Atodlen 2
Blodau wedi eu torri
Dianthus Israel 35% £4.63 50% £6.62
Dianthus Kenya 10% £1.32 25% £3.31
Rosa India 50% £6.62 100%(5)
Rosa Uganda 50% £6.62 100%(5)
Rosa Zambia 25% £3.31 50% £6.62
Ffrwythau
Mangifera Brasil 5% £0.66 10% £1.32
Psidium Brasil 100% £13.24 75% £9.93
Prunus Yr Ariannin 25% £3.31 35% £4.63
Pyrus Yr Ariannin 25% £3.31 15% £1.98
Pyrus Tsieina 50% £6.62 35% £4.63
Citrus Honduras 75% £9.93 50% £6.62
Citrus Israel 25% £3.31 15% £1.98
Citrus Periw 25% £3.31 35% £4.63
Llysiau
Solanum melongena Twrci 15% £1.98 10% £1.32
(1)

1973 p.51. Back [1]

(2)

2006 p.32. Back [2]

(3)

O.S. 2006/2832 (Cy.253) fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan O.S. 2009/398 (Cy.43). Back [3]

(4)

Y ffi gychwynnol fesul llwyth ar gyfer blodau wedi eu torri (hyd at 20,000 o nifer) a ffrwythau a llysiau (hyd at 25,000 kg o bwysau). Gosodir ffioedd cyfatebol yn y Rheoliadau ar gyfer niferoedd ychwanegol, uchafswm y pris fesul llwyth ac ar gyfer oriau gwaith heb fod yn ystod y dydd. Back [4]

(5)

Mae llwythi sy'n ddarostyngedig i gyfradd arolygu o 100% wedi'u heithrio o'r cynllun cyfraddau arolygu gostyngol ac maent yn ddarostyngedig i'r ffioedd arolygu mewnforion a bennir yn Atodlen 1 i'r prif Reoliadau. Back [5]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20093140_we_1.html