BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau Gofal Iechyd Preifat a Gwirfoddol (Cymru) (Diwygio) 2009 No. 3258 (Cy. 285)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20093258_we_1.html

[New search] [Help]


 

Rheoliadau Gofal Iechyd Preifat a Gwirfoddol (Cymru) (Diwygio) 2009

Gwnaed Tachwedd

8 Rhagfyr 2009

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

10 Rhagfyr 2009

Yn dod i rym

1 Chwefror 2010

Mae Gweinidogion Cymru, wrth arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 22(1), 22(2)(c), 22(2)(d), 22(5)(a) ac 118A o Ddeddf Safonau Gofal 2000(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2) yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal Iechyd Preifat a Gwirfoddol (Cymru) (Diwygio) 2009 a deuant i rym ar 1 Chwefror 2010.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Gofal Iechyd Preifat a Gwirfoddol (Cymru) 2002(3)

2.–(1) Diwygir Rheoliadau Gofal Iechyd Preifat a Gwirfoddol (Cymru) 2002 fel a ganlyn:–

(2) Ar ôl rheoliad 24(1) mewnosoder rheoliad 24(1A) newydd fel a ganlyn:–

"24(1A)–(1) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau-

(a) nad yw ysbyty annibynnol sy'n darparu triniaeth a nyrsio i gleifion ag anabledd dysgu, y rhagwelir y bydd eu triniaeth a nyrsio yn ymestyn y tu hwnt i gyfnod o 12 mis, ac y darperir llety dros nos iddynt yn y sefydliad hwnnw, yn fwy na 10 o welyau, ac os yw'n rhesymol ymarferol, fe'u darperir mewn dwy neu fwy o unedau.

(b) nad yw ysbyty annibynnol sy'n darparu triniaeth a nyrsio i gleifion ag afiechyd meddwl (gan gynnwys y rheiny mewn llety diogel o lefel isel neu ganolig) ac hefyd i gleifion ag anabledd dysgu, y rhagwelir y bydd eu triniaeth a nyrsio yn ymestyn y tu hwnt i gyfnod o 12 mis, ac y darperir llety dros nos iddynt yn fwy na 15 o welyau, ac os yw'n rhesymol ymarferol, fe'u darperir mewn dwy neu fwy o unedau.

(c) na fydd ysbyty annibynnol arall wedi ei leoli yn agos iawn at ysbyty annibynnol o'r math ag a grybwyllir yn is-baragraffau (a) neu (b) yn y fath fodd ag y gellid ei ystyried yn luosogiad o'r ysbyty annibynnol, ac y byddai felly yn effeithio ar resymeg a bwriad y cyfyngiadau ar y nifer o gleifion mewn ysbytai annibynnol yn ôl darpariaeth y rheoliad hwn.

Darpariaethau Trosiannol

3.–(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i bob cais newydd gan ysbytai annibynnol i gofrestru ysbyty annibynnol, neu i amrywio cofrestriad ysbyty annibynnol gyda Gweinidogion Cymru sy'n cael ei wneud ar 1 Chwefror 2010 neu wedi hynny.

(2) Ni fydd angen i geisiadau a wneir cyn 1 Chwefror 2010, y gall Gweinidogion Cymru yn rhesymol benderfynu arnynt erbyn 1 Mai 2010, fodloni gofynion y rheoliadau hyn.

(3) Bydd yn rhaid i unrhyw geisiadau a wneir cyn 1 Chwefror 2010 na all Gweinidogion Cymru yn rhesymol benderfynu arnynt erbyn 1 Mai 2010 fodloni gofynion y Rheoliadau hyn.

Edwina Hart

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

8 Rhagfyr 2009

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 24 (Ffitrwydd y safleoedd) o Reoliadau Gofal Iechyd Preifat a Gwirfoddol (Cymru) 2002 drwy fewnosod rheoliad 24 (1A) newydd.

Diwygir y Rheoliadau er mwyn gosod terfyn ar y nifer o welyau y caiff ysbyty annibynnol eu darparu pan fo triniaeth a nyrsio tymor hir yn cael eu darparu i bersonau gydag anabledd dysgu, yn ogystal â rhai sydd ag afiechyd meddwl.

Mae hefyd yn ofynnol nad oes unrhyw ysbyty annibynnol arall wedi ei leoli yn agos iawn i ysbyty annibynnol arall yn y fath fodd ag y gellid ei ystyried yn luosogiad o'r ysbyty annibynnol gwreiddiol, ac y byddai felly yn effeithio ar y rhesymeg a'r bwriad o gyfyngu ar y nifer o gleifion mewn ysbytai annibynnol yn ôl darpariaeth y rheoliadau hyn.

Bydd darpariaethau trosiannol yn gymwys ar gyfer dyfodiad y Rheoliadau hyn i rym.

(1)

2000 p.14 Back [1]

(2)

Yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Back [2]

(3)

2002/325 (Cy.35). Back [3]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20093258_we_1.html