BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau Deddf Plant 1989 (Diwygio Rheoliadau Amrywiol) (Rhif 2) (Cymru) 2009 No. 3265 (Cy. 286) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20093265_we_1.html |
[New search] [Help]
Gwnaed
9 Rhagfyr 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
10 Rhagfyr 2009
Yn dod i rym
20 Ionawr 2010
Mae Gweinidogion Cymru'n gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pŵer a roddwyd iddynt gan adrannau 79C a 104(4) o Ddeddf Plant 1989.(1)
1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Plant 1989 (Diwygio Rheoliadau Amrywiol) (Rhif 2) (Cymru) 2009 a deuant i rym ar 20 Ionawr 2010.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2.–(1) Diwygir Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2002 yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 2(1) yn y diffiniad o "corff" ("organisation") ar ôl "corff corfforaethol" ychwaneger "neu gymdeithas anghorfforedig".
(3) Yn rheoliad 4(2)(b)(i) ar ôl "un o'i swyddogion eraill" ychwaneger "os corff corfforaethol neu swyddog neu aelod o gorff llywodraethu pan fo'r corff yn gymdeithas anghorfforedig yw'r corff hwnnw".
(4) Ar ddiwedd Atodlen 3 ychwaneger–
"(14) Enw, cyfeiriad cartref a Rhif ffôn pob aelod cyfredol o bwyllgor neu gorff llywodraethu cymdeithas anghorfforedig."
3.–(1) Diwygir Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002 yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 2 yn y diffiniad o "organisation" ar ôl "corporate" ychwaneger "and, in the case of provision of day care only, a body corporate or unincorporated association".
(3) Dirymir rheoliad 17(1)(e) a (2).
(4) Yn rheoliad 17(1)(d) dileer y geiriau "except where paragraph (2) applies,".
(5) Yn Atodlen 7, paragraff 2(a), ar ôl "and" ychwaneger ", where the organisation is a body corporate,";
(6) Yn Atodlen 8, paragraff 5, rhodder "a corporate body" yn lle "an organisation".
4. Mae Rheoliadau Deddf Plant 1989 (Diwygio Rheoliadau Amrywiol) (Cymru) 2009(4) wedi eu dirymu.
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru.
9 Rhagfyr 2009
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Deddf Plant 1989 (Diwygio Rheoliadau Amrywiol) (Cymru) 2009 a oedd yn cynnwys gwallau drafftio.
Estynnwyd gan Ddeddf Plant 2004 ystyr "organisation" yn Neddf Plant 1989 i gynnwys cymdeithas anghorfforedig. Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i Reoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2002 ac i Reoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002 i roi effaith weinyddol i'r diwygiad hwnnw. Maent hefyd yn diwygio'r atodlen sy'n rhestru'r dogfennau a'r wybodaeth y mae'n ofynnol i geisydd sydd am gael ei gofrestru eu darparu pan fo person wedi ei benodi i fod â gofal am ofal dydd