BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Blant sy'n cael eu Haddysg drwy Ddarpariaeth Amgen) (Cymru) 2009 No. 3355 (Cy. 294)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20093355_we_1.html

[New search] [Help]


 

Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Blant sy'n cael eu Haddysg drwy Ddarpariaeth Amgen) (Cymru) 2009

Gwnaed

17 Rhagfyr 2009

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

21 Rhagfyr 2009

Yn dod i rym

12 Ionawr 2010

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 537A, 537B a 569 o Ddeddf Addysg 1996(1), ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi a chychwyn

1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Blant sy'n cael eu Haddysg drwy Ddarpariaeth Amgen) (Cymru) 2009 a deuant i rym ar 12 Ionawr 2010.

Dehongli

2. Yn y Rheoliadau hyn–

Cymhwyso

3. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran–

(a) addysg a ariennir sy'n cael ei darparu o dan drefniadau a wnaed gan awdurdod lleol perthnasol;

(b) addysg sy'n cael ei darparu mewn ysgol annibynnol, ei threfnu a'i hariannu gan awdurdod addysg lleol yng Nghymru yn unol ag adran 19 o Ddeddf 1996 (addysg y cyfeirir ati yn y Rheoliadau hyn fel "addysg ysgol annibynnol a ariennir"); ac

(c) addysg sy'n cael ei darparu mewn uned cyfeirio disgyblion a'i hariannu gan awdurdod lleol perthnasol,

ac yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad at ddarpariaeth a ariennir yn gyfeiriad at y cyfryw addysg a ariennir, y cyfryw addysg ysgol annibynnol a ariennir a'r cyfryw addysg mewn uned cyfeirio disgyblion.

Gofyniad i ddarparu gwybodaeth am unigolion i Weinidogion Cymru

4. Cyn pen 14 diwrnod o gael cais ysgrifenedig oddi wrth Weinidogion Cymru, rhaid i berson sy'n darparu darpariaeth a ariennir ddarparu i Weinidogion Cymru y cyfryw wybodaeth am unigolion y cyfeirir ati yn Atodlen 1 ag y gofynnir amdani.

Gofyniad i ddarparu gwybodaeth am unigolion i'r awdurdod lleol perthnasol

5.–(1) At ddibenion adrannau 537A(2)(b) a 537B(2)(b), mae'r awdurdod lleol perthnasol yn berson rhagnodedig.

(2) Cyn pen 14 diwrnod o gael cais ysgrifenedig gan yr awdurdod lleol perthnasol, rhaid i berson sy'n darparu darpariaeth a ariennir ddarparu i'r awdurdod y cyfryw wybodaeth am unigolion y cyfeirir ati ym mharagraffau 1 i 6 o Atodlen 1 ag y gofynnir amdani.

Personau eraill y caniateir i wybodaeth am unigolion a gyflenwyd gael ei throsglwyddo iddynt hwy yn ychwanegol at yr awdurdod lleol perthnasol

6. At ddibenion adrannau 537A(3)(b) a 537(3)(b) o Ddeddf 1996, mae cwmnïau Gyrfa Cymru a sefydlwyd i ddarparu gwasanaethau gyrfaoedd yng Nghymru o dan adrannau 2, 8 a 10 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973(5) yn berson rhagnodedig.

Personau ychwanegol y caiff Gweinidogion Cymru ddarparu gwybodaeth am unigolion iddynt

7.–(1) At ddibenion adrannau 537A(4)(b) a 537B(4)(b) o Ddeddf 1996, person rhagnodedig yw unrhyw un o'r canlynol–

(a) yr awdurdod lleol perthnasol;

(b) Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru neu Her Majesty´s Chief Inspector of Education and Training in Wales; ac

(c) y cwmnïau Gyrfa Cymru a sefydlwyd i ddarparu gwasanaethau gyrfaoedd yng Nghymru o dan adrannau 2, 8 a 10 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973.

(2) Categori rhagnodedig at ddibenion adrannau 537A(4)(c) a 537B(4)(c) o Ddeddf 1996 yw categori o bersonau sy'n ymchwilio i gyflawniadau addysgol plant ac y mae arnynt angen gwybodaeth am unigolion at y diben hwnnw.

Personau ychwanegol y caiff coladyddion gwybodaeth ddarparu gwybodaeth am unigolion iddynt

8.–(1) At ddibenion adrannau 537A(5)(b)(i) a 537B(5)(b)(i) o Ddeddf 1996, person rhagnodedig yw–

(a) yr awdurdod lleol perthnasol;

(b) Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru neu Her Majesty´s Chief Inspector of Education and Training in Wales.

(2) Categori rhagnodedig at ddibenion adrannau 537A(5)(b)(ii) a 537B(5)(b)(ii) o Ddeddf 1996 yw categori o bersonau sy'n ymchwilio i gyflawniadau addysgol plant ac y mae arnynt angen gwybodaeth am unigolion at y diben hwnnw.

Adroddiad i rieni

9.–(1) Rhaid i'r athro neu'r athrawes sydd â gofal dros uned cyfeirio disgyblion ac i berchennog ysgol annibynnol drefnu bod adroddiad ysgrifenedig sy'n cynnwys yr wybodaeth am unigolion a bennir yn Atodlen 2 ar gael bob blwyddyn ysgol i riant pob plentyn o oedran ysgol gorfodol y mae'n darparu darpariaeth a ariennir iddo.

(2) Mae rhiant pob plentyn o oedran ysgol gorfodol, y mae'r athro neu'r athrawes sydd â gofal dros uned cyfeirio disgyblion neu berchennog ysgol annibynnol yn darparu darpariaeth a ariennir iddo, yn berson rhagnodedig at ddibenion adran 537A(2)(b) o Ddeddf 1996.

(3) Nid oes dim yn y rheoliad hwn sy'n atal yr wybodaeth am unigolion a bennir yn Atodlen 2 rhag cael ei chynnwys mewn mwy nag un adroddiad ar yr amod, yn ddarostyngedig i baragraff (5), bod yn rhaid i ddarparwr y ddarpariaeth a ariennir anfon bob blwyddyn ysgol yr wybodaeth honno drwy'r post neu fel arall cyn diwedd tymor yr haf.

(4) Rhaid i'r cyfnod y mae adroddiad sy'n cynnwys yr wybodaeth am unigolion yn Atodlen 2 yn ymwneud ag ef ddechrau ym mhob achos ar ba ddyddiad bynnag yw'r diweddaraf o'r canlynol–

(a) y dyddiad y dechreuodd y person sy'n darparu'r ddarpariaeth a ariennir ddarparu addysg o'r fath i'r plentyn; neu

(b) diwedd y cyfnod yr oedd yr adroddiad diwethaf ar y materion hynny a wnaed yn unol â'r Rheoliadau hyn yn ymwneud ag ef.

(5) Pan na fo unrhyw un neu rai o'r manylion sy'n angenrheidiol i ddarparu'r wybodaeth a bennir ym mharagraffau 6, 7 neu 8 o Atodlen 2 yn dod i law darparwr y ddarpariaeth a ariennir tan ar ôl diwedd tymor yr haf, rhaid iddo drefnu bod yr wybodaeth honno ar gael cyn gynted ag y bo'n ymarferol a sut bynnag erbyn y 30 Medi canlynol fan bellaf.

Leighton Andrews

Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru

17 Rhagfyr 2009

rheoliadau 4 a 5

ATODLEN 1 Darparu gwybodaeth am unigolion i Weinidogion Cymru a'r awdurdod lleol perthnasol

1. Yr wybodaeth ganlynol am y plentyn–

(a) Rhif unigryw cyfredol y disgybl (os yw'n berthnasol);

(b) cyfenw;

(c) enw cyntaf y plentyn, neu bob enw cyntaf os oes mwy nag un;

(ch) enw canol y plentyn, neu bob enw canol os oes mwy nag un;

(d) rhyw;

(dd) dyddiad geni;

(e) grŵp ethnig a ffynhonnell yr wybodaeth hon;

(f) hunaniaeth genedlaethol a ffynhonnell yr wybodaeth hon; ac

(ff) grŵp blwyddyn y cwricwlwm cenedlaethol y câi'r plentyn ei addysgu ynddo petai'n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir.

2. Cod post y cartref lle mae'r plentyn fel arfer yn preswylio.

3. A yw'r plentyn, yn unol ag adran 512(3) a 512ZB(6) o Ddeddf 1996, wedi gwneud cais am gael prydau am ddim yn yr ysgol ac a gafwyd ei fod yn gymwys i'w cael.

4. A oes gan y plentyn anghenion addysgol arbennig ac, os felly, cadarnhad o–

(a) prif angen y plentyn ac unrhyw angen eilaidd a nodwyd; a

(b) pa lefel a pha fath o ddarpariaeth anghenion addysgol arbennig sy'n rhan o'r ymagwedd raddedig yn unol â "Cod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig Cymru", a ddyroddwyd o dan adran 313 o Ddeddf 1996 ac a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2002, sy'n cael ei gwneud i'r plentyn.

5. A yw'r plentyn yn blentyn sy'n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol perthnasol.

6. Y math o le a fynychir i gael darpariaeth a ariennir, hynny yw, a yw'r ddarpariaeth honno–

(a) mewn uned cyfeirio disgyblion;

(b) mewn ysgol annibynnol;

(c) mewn ysbyty (ac eithrio ysgol a sefydlwyd mewn ysbyty); neu

(ch) yn cael ei darparu mewn man nad yw'n un o'r rhai y cyfeiriwyd ato yn is-baragraffau (a) i (c), ac os felly, disgrifiad cryno o'r math o ddarpariaeth.

7. Y math o le a fynychir gan y plentyn i gael darpariaeth a ariennir yn unol â pharagraff 6, a nifer yr oriau o ddarpariaeth a ariennir a gafodd y plentyn yn yr wythnos cyn bod cais yn dod gan Weinidogion Cymru yn unol â rheoliad 4.

rheoliad 9

ATODLEN 2 Darparu gwybodaeth am unigolion i rieni'r plentyn

1. Manylion cryno am gyflawniadau yn yr holl bynciau a gweithgareddau sy'n rhan o'r cwricwlwm.

2. Sylwadau ar gynnydd cyffredinol y plentyn yn ystod y flwyddyn ysgol.

3. Manylion y trefniadau y caniateir i'r adroddiad gael ei drafod odanynt gydag athro neu athrawes y plentyn.

4. Crynodeb o gofnod presenoldeb y plentyn yn ystod y cyfnod y mae'r wybodaeth yn ymwneud ag ef sy'n dangos nifer yr absenoldebau awdurdodedig a'r absenoldebau na chafodd eu hawdurdodi (o fewn ystyr Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) 1995) a nifer y presenoldebau posibl.

5. Canlyniadau unrhyw asesiad athrawon.

6. Enw unrhyw bwnc y cofrestrwyd y plentyn ar ei gyfer mewn cysylltiad â chymhwyster allanol a gymeradwywyd a'r radd (os oedd un) a gafwyd.

7. Nifer cyfartalog y pwyntiau a sgoriwyd gan y plentyn mewn arholiadau pwnc o'r fath yr ymgofrestrodd ar eu cyfer.

8. Manylion unrhyw uned neu gredyd tuag at gymhwyster o'r fath a gafwyd gan y plentyn yn ystod y cyfnod y mae'r adroddiad yn ymwneud ag ef.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch cyflenwi gwybodaeth am blant sy'n cael addysg a ariennir gan awdurdod lleol y tu allan i ysgolion prif ffrwd, a honno'n addysg y cyfeirir ati fel arfer fel 'darpariaeth amgen'. Mae darpariaeth amgen yn cynnwys addysg nad yw mewn ysgol, addysg mewn ysgol annibynnol neu mewn uned cyfeirio disgyblion. O dan reoliadau 4 a 5 rhaid i ddarparwyr addysg o'r fath, os gofynnir iddynt wneud hynny, gyflenwi gwybodaeth am blant unigol i Weinidogion Cymru a'r awdurdod lleol sy'n ariannu'r addysg. Mae Atodlen 1 yn nodi'r eitemau gwybodaeth am unigolion sydd i'w cyflenwi.

Mae rheoliad 6 yn caniatáu i Weinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol perthnasol, sydd wedi cael gwybodaeth am blant unigol yn unol â'r Rheoliadau hyn, drosglwyddo gwybodaeth o'r fath i gwmnïau Gyrfa Cymru. Mae rheoliad 7 yn nodi'r personau (yn ychwanegol at goladyddion gwybodaeth) y caniateir i Weinidogion Cymru gyflenwi gwybodaeth am blant unigol iddynt. Mae rheoliad 8 yn nodi'r personau (yn ychwanegol at Weinidogion Cymru, coladyddion gwybodaeth eraill a darparwyr y ddarpariaeth amgen) y caniateir i goladydd gwybodaeth gyflenwi gwybodaeth am unigolion iddynt.

Mae rheoliad 9 yn gwneud darpariaeth am yr adroddiad y mae'n ofynnol i athro neu athrawes sydd â gofal dros uned cyfeirio disgyblion ac i berchennog ysgol annibynnol anfon bob blwyddyn ysgol at rieni plant sy'n cael darpariaeth amgen. Mae Atodlen 2 yn nodi'r wybodaeth sydd i'w chynnwys yn yr adroddiadau.

(1)

1996 p.56. Cafodd adran 537A ei mewnosod gan adran 20 o Ddeddf Addysg 1997 (p.44), a'i hamnewid gan baragraff 153 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31). Mewnosodwyd adran 537B gan adran 164 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (p.40). Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 537A a 569 o Ddeddf Addysg 1996 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac yna i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Trosglwyddwyd swyddogaethau o dan adran 537B i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd adran 180 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 ac yna i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Back [1]

(2)

Mae adran 312 wedi ei diwygio gan adran 140(1) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31) a pharagraff 72 o Atodlen 30 iddi ac adran 195 a 215(1) o Ddeddf Addysg 2002, a pharagraffau 1 a 2 o Atodlen 18, a pharagraff 36 o Atodlen 21, i'r Ddeddf Addysg honno. Back [2]

(3)

O.S. 1995/2089, fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Diwygio) (Cymru) 1997 (O.S. 1997/2624), Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Diwygio) (Cymru) 2001 (O.S. 2001/1109 (Cy.53)), Rheoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Ysgolion a Gynhelir) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/3227 (Cy.308)), Rheoliadau Deddf Addysg 2002 (Darpariaethau Trosiannol a Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/2913 (Cy.210)). Back [3]

(4)

2000 p.21. Diddymwyd is-adrannau (7) ac (8) o adran 99 gan erthygl 1(1) o Orchymyn Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Diddymu'r Awdurdod) 2005 (O.S. 2005/3239 (Cy.244)). Back [4]

(5)

1973 (p.50). Amnewidiwyd adran 2 gan adran 25(1) o Ddeddf Cyflogaeth 1988 (p.19). Diddymwyd is-adrannau (4) a (6) o adran 8 gan Ran I o Atodlen 7 i Ddeddf Cyflogaeth 1989 (p.38). Amnewidiwyd adrannau 8 a 10 gan adran 45 o Ddeddf Diwygio Undebau Llafur a Hawliau Cyflogaeth 1993 (p.19). Back [5]

(6)

Wedi ei rhoi, ynghyd ag adrannau 512 a 512ZA yn lle adran 512, fel y cafodd honno ei deddfu'n wreiddiol gan adran 201 o Ddeddf Addysg 2002 (p.32). Mewnosodwyd paragraffau (a)(iia) a (b)(iia) o is-adran (4) gan baragraff 16(1) a (3) o Atodlen 3 i Ddeddf Diwygio Lles 2007 (p.5). Back [6]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20093355_we_1.html