BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau Traffordd yr M4 (Cyffordd 24, Cyfnewidfa Coldra, Casnewydd) (Terfyn Cyflymder 40 MYA) 2010 No. 71 (Cy. 17)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2010/wsi_20100071_we_1.html

[New search] [Help]


 

Rheoliadau Traffordd yr M4 (Cyffordd 24, Cyfnewidfa Coldra, Casnewydd) (Terfyn Cyflymder 40 MYA) 2010

Gwnaed

14 Ionawr 2010

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

15 Ionawr 2010

Yn dod i rym

15 Chwefror 2010

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 17(2) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984(1), ac ar ôl ymgynghori â'r cyrff cynrychioliadol y barnwyd eu bod yn addas yn unol ag adran 134(2) o'r Ddeddf honno(2), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi, cychwyn a dehongli

1. Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 15 Chwefror 2010 a'u henw yw Rheoliadau Traffordd yr M4 (Cyffordd 24, Cyfnewidfa Coldra, Casnewydd) (Terfyn Cyflymder 40 MYA) 2010.

2. Yn y Rheoliadau hyn–

Gosod terfyn cyflymder

3. Ni chaiff neb yrru unrhyw gerbyd yn gyflymach na 40 milltir yr awr ar y darnau o'r ffordd wrth Gyffordd 24 Traffordd yr M4, Cyfnewidfa Coldra, yn Ninas Casnewydd a ddisgrifir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.

Ieuan Wyn Jones

Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru

14 Ionawr 2010

YR ATODLEN Darnau o slipffyrdd Traffordd yr M4 wrth Gyffordd 24, Cyfnewidfa Coldra yn Ninas Casnewydd

Y FFORDD YMADAEL TUA'R DWYRAIN

Y darn hwnnw o'r ffordd ymadael tua'r dwyrain sy'n ymestyn o bwynt 123 o fetrau i'r gorllewin o'i chyffordd â cherbytffordd gylchredol Cyfnewidfa Coldra hyd at bwynt lle mae'n uno â cherbytffordd gylchredol Cyfnewidfa Coldra.

Y FFORDD YMUNO TUA'R DWYRAIN

Y darn hwnnw o'r ffordd ymuno tua'r dwyrain sy'n ymestyn o bwynt wrth ei chyffordd â cherbytffordd gylchredol Cyfnewidfa Coldra hyd at bwynt 25 o fetrau i'r dwyrain o'i chyffordd â cherbytffordd gylchredol Cyfnewidfa Coldra.

Y FFORDD YMADAEL TUA'R GORLLEWIN

Y darn hwnnw o'r ffordd ymadael tua'r gorllewin sy'n ymestyn o bwynt 114 o fetrau i'r gorllewin o'r pwynt lle mae'n gwyro oddi ar brif gerbytffordd Traffordd yr M4 hyd at bwynt wrth ei chyffordd â cherbytffordd Cyfnewidfa Coldra.

Y FFORDD YMADAEL TUA'R GORLLEWIN (Y LÔN AR WAHÅN)

Y darn hwnnw o'r ffordd ar wahân i ymadael tua'r gorllewin sy'n ymestyn o bwynt 114 o fetrau i'r gorllewin o'r pwynt lle mae'n gwyro oddi ar brif gerbytffordd Traffordd yr M4 hyd at bwynt lle mae'n uno â cherbytffordd Ffordd Ddosbarthu Ddeheuol yr A48.

Y FFORDD YMUNO TUA'R GORLLEWIN

Y darn hwnnw o'r ffordd ymuno tua'r gorllewin sy'n ymestyn o bwynt wrth ei chyffordd â cherbytffordd gylchredol Cyfnewidfa Coldra hyd at bwynt 6 metr i'r gorllewin o'i chyffordd â cherbytffordd gylchredol Cyfnewidfa Coldra.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gosod terfyn cyflymder uchaf o 40 milltir yr awr (yn lle'r terfyn cyflymder cyffredinol o 70 milltir yr awr a osodir ar draffyrdd gan Reoliadau Traffig Traffyrdd (Terfyn Cyflymder) 1974 (O.S. 1974/502)) ar y darnau o draffordd yr M4 a bennir yn y Rheoliadau hyn.

(1)

1984 p.27. Yn rhinwedd O.S. 1999/672, erthygl 2 ac Atodlen 1, a pharagraff 30 o Atodlen 11 i Deddf Llywodraeth Cymru 2006, mae'r pwerau hyn bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru o ran Cymru. Back [1]

(2)

Amnewidiwyd adran 134(2) gan Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 (p.22), Atodlen 8, paragraff 77. Back [2]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2010/wsi_20100071_we_1.html