BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau Prisio ar gyfer Ardrethu (Peiriannau a Pheirianwaith) (Cymru) (Diwygio) 2010 No. 146 (Cy. 21)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2010/wsi_20100146_we_1.html

[New search] [Help]


 

Rheoliadau Prisio ar gyfer Ardrethu (Peiriannau a Pheirianwaith) (Cymru) (Diwygio) 2010

Gwnaed

26 Ionwar 2010

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

28 Ionawr 2010

Yn dod i rym

1 Ebrill 2010

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 143(2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988(1) a pharagraff 2(8) o Atodlen 6 i'r Ddeddf honno, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2), yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Prisio ar gyfer Ardrethu (Peiriannau a Pheirianwaith) (Cymru) (Diwygio) 2010. Maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 1 Ebrill 2010.

Diwygio Rheoliadau Prisio ar gyfer Ardrethu (Peiriannau a Pheirianwaith) (Cymru) 2000

2. Diwygir Rheoliadau Prisio ar gyfer Ardrethu (Peiriannau a Pheirianwaith) (Cymru) 2000(3) drwy fewnosod, ar ôl rheoliad 2 (tybiaethau rhagnodedig am beiriannau a pheirianwaith), y canlynol-"

-�Tybiaethau rhagnodedig am beiriannau a pheirianwaith: prisio am 1 Ebrill 2010 a diwrnodau dilynol

2A-"(1) At ddibenion penderfynu gwerth ardrethol hereditament am unrhyw ddiwrnod ar neu ar ôl 1 Ebrill 2010, wrth gymhwyso darpariaethau is-baragraffau (1) i (7) o baragraff 2 o Atodlen 6 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988-"

(a) mewn perthynas â hereditament sydd â pheiriannau neu beirianwaith arno neu ynddo sy'n perthyn i unrhyw un o'r dosbarthiadau a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn, y tybiaethau rhagnodedig yw-"

(i) bod unrhyw beiriannau neu beirianwaith o'r fath yn rhan o'r hereditament ac eithrio i'r graddau y mae ganddynt allu microgynhyrchu, a

(ii) nad yw gwerth unrhyw beiriannau neu beirianwaith eraill yn cael effaith ar y rhent sydd i'w amcangyfrif yn unol â gofynion paragraff 2(1); a

(b) mewn perthynas ag unrhyw hereditament arall, y dybiaeth ragnodedig yw nad yw gwerth unrhyw beiriannau neu beirianwaith yn cael effaith ar y rhent sydd i'w amcangyfrif felly.

(2) Nid yw'r eithriad ym mharagraff (1)(a)(i) yn gymwys ac eithrio-"

(a) mewn perthynas ag unrhyw eitem o beiriannau neu beirianwaith-"

(i) a osodir ar neu ar ôl 1 Ebrill 2010, a

(ii) y mae gallu microgynhyrchu ganddi ar y diwrnod y'i gosodir; a

(b) yn ystod y cyfnod-"

(i) sy'n cychwyn ar y diwrnod y gosodir yr eitem o beiriannau neu beirianwaith, a

(ii) sy'n dod i ben ar y cynharaf o'r canlynol-"

(aa) y diwrnod cyntaf, ar ôl y diwrnod y gosodir yr eitem o beiriannau neu beirianwaith, pan fo rhestrau ardrethu i gael eu llunio at ddibenion adrannau 41(2) a 52(2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, a

(bb) y diwrnod pan fo'r eitem o beiriannau neu beirianwaith yn peidio â bod â gallu microgynhyrchu.

(3) Yn y rheoliad hwn, ystyr -�gallu microgynhyrchu-� yw gallu peiriannau neu beirianwaith i gael eu defnyddio i gynhyrchu trydan neu gynhyrchu gwres-"

(a) gan ddibynnu yn gyfan gwbl neu'n bennaf, wrth gynhyrchu trydan neu (yn ôl fel y digwydd) wrth gynhyrchu gwres, ar ffynhonnell ynni neu ar dechnoleg a grybwyllir yn adran 26(2) (dehongli) o Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd ac Ynni Cynaliadwy 2006; a

(b) pan nad yw gallu'r peiriannau neu beirianwaith i gynhyrchu trydan, neu (yn ôl fel y digwydd) i gynhyrchu gwres, yn fwy na'r gallu a grybwyllir yn adran 26(3) o'r Ddeddf honno.-�.

Carl Sargeant

Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

26 Ionawr 2010

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Prisio ar gyfer Ardrethu (Peiriannau a Pheirianwaith) (Cymru) 2000 (-�Rheoliadau 2000-�) drwy fewnosod rheoliad 2A newydd.

Mae rheoliad 2 o Reoliadau 2000 yn darparu bod y dosbarthiadau o beiriannau a pheirianwaith a restrir yn yr Atodlen i'w trin fel pe baent yn rhan o hereditament annomestig, ac felly yn berthnasol i werth yr hereditament at ddibenion ardrethu. Nid yw unrhyw beiriannau a pheirianwaith eraill sy'n bresennol yn yr hereditament yn berthnasol i'w werth.

Yr un effaith yn fras sydd i'r rheoliad 2A newydd, a fydd yn gymwys ar gyfer prisiadau am ddiwrnodau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2010. Fodd bynnag, yn achos peiriannau a pheirianwaith sydd â gallu microgynhyrchu ond sydd fel arall yn berthnasol i werth yr hereditament, mae'n darparu hefyd na fydd y gallu hwnnw yn berthnasol i'r gwerth. Mae'r diffiniad o -�gallu microgynhyrchu-� at y dibenion hyn yn seiliedig ar y diffiniad o -�microgeneration capacity-� yn adran 26 o Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd ac Ynni Cynaliadwy 2006.

Mae'r ddarpariaeth newydd yn gymwys i unrhyw beiriannau a pheirianwaith a osodir ar neu ar ôl 1 Ebrill 2010, a bydd yn effeithiol rhwng y dyddiad gosod a'r dyddiad llunio pum-mlynedd cyntaf wedi hynny o restrau ardrethu hereditamentau annomestig. Effaith ymarferol hyn yw na fydd trethdalwyr sy'n gosod peiriannau a pheirianwaith â gallu microgynhyrchu yn gweld unrhyw gynnydd yn eu biliau ardrethi o ganlyniad i hynny tan yr ailbrisiad pum-mlynedd nesaf.

Ni pharatowyd asesiad effaith rheoleiddiol ar gyfer yr offeryn hwn oherwydd na ragwelir unrhyw effaith ar y sectorau busnes neu wirfoddol.

(1)

1988 p.41. Diwygiwyd paragraff 2(8) o Atodlen 6 gan baragraff 38(8) o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42). Diffinnir y term -�prescribed-� yng nghyd-destun gorchymyn neu reoliadau yn adran 146(6). Back [1]

(2)

Trosglwyddwyd y pwerau a roddir gan adran 143 o Ddeddf 1988 ac Atodlen 6 i'r Ddeddf honno, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru o dan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 i'r Ddeddf honno. Back [2]

(3)

O.S. 2000/1097 (Cy.75), y gwnaed diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn. Back [3]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2010/wsi_20100146_we_1.html