BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2010 No. 363 (Cy. 45)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2010/wsi_20100363_we_1.html

[New search] [Help]


 

Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2010

Gwnaed

17 Chwefror 2010

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

19 Chwefror 2010

Yn dod i rym

15 Mawrth 2010

Mae Gweinidogion Cymru'n gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 17(1), 26(1)(a) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1), fel y'u darllenir gyda pharagraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2).

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i gyfeiriadau penodol mewn offerynnau statudol penodedig at Gyfarwyddeb 2009/39 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ddeunyddiau bwyd a fwriedir at ddefnydd maethol neilltuol(3) gael eu dehongli fel cyfeiriadau at y Gyfarwyddeb honno fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd.

Yn unol ag adran 48(4A) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Fel y mae Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, sy'n sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac sy'n gosod gweithdrefnau o ran materion sy'n ymwneud â diogelwch bwyd(4) yn ei gwneud yn ofynnol, cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi a gwerthuso'r Rheoliadau hyn.

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2010.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 15 Mawrth 2010.

Diwygio Rheoliadau Labelu Bwyd 1996

2.–(1) Diwygir Rheoliadau Labelu Bwyd 1996(5) yn unol â'r paragraffau canlynol i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru.

(2) Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli)–

(a) hepgorer y diffiniad o "Directive 89/398"(6);

(b) yn syth ar ôl y diffiniad o "Directive 2000/13" mewnosoder y diffiniad canlynol–

""Directive 2009/39" means Directive 2009/39/EC of the European Parliament and of the Council on foodstuffs intended for particular nutritional uses(7) as amended from time to time;".

(3) Yn rheoliad 3 (esemptiadau), yn lle is-baragraff (iv) o baragraff (1) rhodder yr is-baragraff canlynol-

"(iv) where applicable, the requirements of Directive 87/250, Directive 90/496, Directive 94/54, Directive 99/2 and Directive 2009/39 are met in respect of that food.".

Diwygio Rheoliadau Hysbysiadau o Farchnata Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Cymru) 2007

3.–(1) Diwygir Rheoliadau Hysbysiadau o Farchnata Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Cymru) 2007(8) yn unol â'r paragraffau a ganlyn.

(2) Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli), yn lle'r diffiniad o "y Gyfarwyddeb" ("the Directive") rhodder y diffiniad canlynol–

(3) Yn rheoliad 3 (cyfyngiad ar werthu)–

(a) yn lle paragraff (1) rhodder y paragraff canlynol–

"(1) Ni chaiff neb, mewn perthynas â chynnyrch bwyd DMN o fath neilltuol–

(a) sydd yn weithgynhyrchydd neu'n fewnforiwr y cyfeirir ato yn Erthygl 11 o'r Gyfarwyddeb, ond

(b) sydd wedi methu â chydymffurfio–

(i) â gofyniad i hysbysu'r awdurdod cymwys, fel y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) neu (b) o baragraff (1) o'r Erthygl honno, neu

(ii) â gofyniad i ddangos unrhyw beth i'r awdurdod cymwys, fel y cyfeirir ato yn is-baragraff (c) o baragraff (1) o'r Erthygl honno,

werthu cynnyrch bwyd DMN o'r math hwnnw."; a

(b) yn is-baragraff (b) o baragraff (2) yn lle "Erthygl 9" rhodder "Erthygl 11".

(4) Ym mharagraff (1) o reoliad 4 (datganiad), yn lle "Erthygl 1(2)" rhodder "Erthygl 1(2) a (3)".

Gwenda Thomas

Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.

17 Chwefror 2010

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1. Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn diwygio Rheoliadau Labelu Bwyd 1996 (O.S. 1996/1499, fel y'i diwygiwyd eisoes) a Rheoliadau Hysbysiadau o Farchnata Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Cymru) 2007 (O.S. 2007/1040 (Cy. 100)) er mwyn adlewyrchu diddymu ac amnewid Cyfarwyddeb y Cyngor 89/398/EC ar gyd-ddynesiad cyfreithiau'r Aelod-wladwriaethau sy'n ymwneud â deunyddiau bwyd a fwriedir at ddefnydd maethol neilltuol (OJ Rhif L186, 30.6.1989, t.27) gan Gyfarwyddeb 2009/39/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ddeunyddiau bwyd a fwriedir at ddefnydd maethol neilltuol (OJ Rhif L124, 20.5.2009, t.21).

2. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Labelu Bwyd 1996 (sy'n rhychwantu Prydain Fawr i gyd), i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru, drwy hepgor y diffiniad o "Directive 89/398" o reoliad 2(1) a mewnosod diffiniad o "Directive 2009/39" yn y ddarpariaeth honno, a rhoi cyfeiriad at "Directive 2009/39" yn lle cyfeiriad at "Directive 89/398" yn rheoliad 3(1)(iv) (rheoliad 2).

3. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Hysbysiadau o Farchnata Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Cymru) 2007 drwy roi diffiniad diwygiedig o "y Gyfarwyddeb" yn lle'r diffiniad presennol o "y Gyfarwyddeb" yn rheoliad 2(1) fel bod y diffiniad yn cyfeirio at Gyfarwyddeb 2009/39/EC yn lle at Gyfarwyddeb 89/398/EEC a thrwy roi cyfeiriadau at ddarpariaethau penodol yng Nghyfarwyddeb 2009/39/EC yn lle'r cyfeiriadau presennol at ddarpariaethau penodol yng Nghyfarwyddeb 89/398/EEC yn rheoliadau 3 a 4 (rheoliad 3).

4. Nid oes asesiad effaith rheoleiddiol wedi ei baratoi ar gyfer yr offeryn hwn gan na ddisgwylir y bydd rhoi'r Rheoliadau hyn ar waith yn gosod unrhyw gostau ar ddefnyddwyr, busnesau neu awdurdodau gorfodi.

(1)

1990 p.16. Trosglwyddwyd swyddogaethau i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y'i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28) a throsglwyddwyd hwy wedi hynny i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi. Back [1]

(2)

1972 p.68. Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (2006 p.51). Back [2]

(3)

OJ Rhif L124, 20.5.2009, t.21. Back [3]

(4)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 596/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n addasu nifer o offerynnau'n ddarostyngedig i'r weithdrefn y cyfeirir ati yn Erthygl 251 o'r Cytuniad i Benderfyniad y Cyngor 1999/468/EC o ran y weithdrefn reoleiddio ynghyd â chraffu – Rhan Pedwar (OJ Rhif L188, 18.7.2009, t.14). Back [4]

(5)

O.S. 1996/1499, a ddiwygiwyd gan O.S. 1998/1398, O.S. 1999/747, O.S. 2001/1232 (Cy.66), O.S. 2001/1440 (Cy.102), O.S. 2003/832 (Cy.104), O.S. 2004/249 (Cy.26), O.S. 2004/1396 (Cy.141), O.S. 2004/2558 (Cy.229), O.S. 2004/3022 (Cy.261), O.S. 2005/1309 (Cy.91), O.S. 2007/2611 (Cy.222), O.S. 2008/1268 (Cy.128) ac O.S. 2009/2705 (Cy.224); mae offerynnau diwygio eraill i'w cael, ond nid oes yr un ohonynt yn berthnasol. Back [5]

(6)

Cyfarwyddeb y Cyngor 89/398/EEC ar gyd-ddynesiad cyfreithiau'r Aelod-wladwriaethau sy'n ymwneud â deunyddiau bwyd a fwriedir at ddefnydd maethol neilltuol (OJ Rhif L186, 30.6.1989, t.27). Back [6]

(7)

OJ Rhif L124, 20.5.2009, t.21. Back [7]

(8)

O.S. 2007/1040 (Cy.100). Back [8]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2010/wsi_20100363_we_1.html