BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Dosbarthau Rhagnodedig ar Anheddau) (Cymru) (Diwygio) 2010 No. 612 (Cy. 58)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2010/wsi_20100612_we_1.html

[New search] [Help]


 

Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Dosbarthau Rhagnodedig ar Anheddau) (Cymru) (Diwygio) 2010

Gwnaed

4 Mawrth 2010

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

5 Mawrth 2010

Yn dod i rym

1 Ebrill 2010

Mae Gweinidogion Cymru, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 12, 113 a 116 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2):

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Dosbarthau Rhagnodedig ar Anheddau) (Cymru) (Diwygio) 2010 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2010.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau

2.–(1) Diwygir Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Dosbarthau Rhagnodedig ar Anheddau) (Cymru) 1998(3) yn unol â pharagraff (2).

(2) Yn rheoliad 2 (dehongli) yn lle'r diffiniad o "qualifying person" rhodder–

""qualifying person" means a person who is liable for the council tax in respect of a dwelling on a particular day, whether or not jointly with any other person, or who would be liable for the council tax in respect of a dwelling on a particular day if that dwelling did not fall within Class O of the Council Tax (Exempt Dwellings) Order 1992(4);".

Carl Sargeant

Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

4 Mawrth 2010

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Gwnaed y Rheoliadau hyn yn unol ag adran 12 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio darpariaethau penodol yn Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Dosbarthau Rhagnodedig ar Anheddau) (Cymru) 1998, i ddarparu bod personél y lluoedd arfog, pan yw'n ofynnol eu bod yn byw mewn llety a ddarperir gan y Weinyddiaeth Amddiffyn er mwyn cyflawni dyletswyddau'u swyddi, yn dod o fewn y diffiniad o rai sydd â'u hanheddau'n berthynol i'w swyddi. Effaith hyn, pan fo gan y personau hynny ail gartref yng Nghymru ac yn atebol i dalu'r dreth gyngor arno, yw rhwystro'r awdurdod bilio ar gyfer yr ardal y lleolir yr ail gartref ynddi rhag lleihau'r disgownt ar yr annedd honno islaw 50%.

Ni pharatowyd asesiad effaith rheoleiddiol llawn ar gyfer yr offeryn hwn, gan nad yw'n effeithio ar gostau busnesau, elusennau na chyrff gwirfoddol.

(1)

1992 p.14. Back [1]

(2)

Trosglwyddwyd y swyddogaethau hyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) a breiniwyd hwy bellach yng Ngweinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Back [2]

(3)

O.S. 1998/105. Back [3]

(4)

O.S. 1992/558. Back [4]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2010/wsi_20100612_we_1.html