BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau Anifeiliaid (Rheolwyr Milfeddygol Rhanbarthol) (Cymru) 2010 No. 619 (Cy. 61)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2010/wsi_20100619_we_1.html

[New search] [Help]


 

Rheoliadau Anifeiliaid (Rheolwyr Milfeddygol Rhanbarthol) (Cymru) 2010

Gwnaed

4 Mawrth 2010

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

8 Mawrth 2010

Yn dod i rym

1 Ebrill 2010

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, a thrwy arfer y pwerau a roddwyd gan yr adran honno, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi a chychwyn

1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Anifeiliaid (Rheolwyr Milfeddygol Rhanbarthol) (Cymru) 2010; maent yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 1 Ebrill 2010.

Diwygiadau i Reoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) 1996

2.–(1) Mae Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) 1996(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 1(2) mae'r diffiniad o "Divisional Veterinary Manager" wedi ei ddirymu.

(3) Yn rheoliadau 13(5) a (6) a 16(8), yn lle'r geiriau "appropriate Divisional Veterinary Manager", ym mhob man y maent yn ymddangos, rhodder "Welsh Ministers".

Diwygiad i Reoliadau Clwy'r Traed a'r Genau (Rheoli Brechu) (Cymru) 2006

3. Yn rheoliad 23(1) o Reoliadau Clwy'r Traed a'r Genau (Rheoli Brechu) (Cymru) 2006(4), yn lle "a'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol o Wasanaeth Milfeddygol y Llywodraeth" rhodder "a Gweinidogion Cymru".

Diwygiad i Reoliadau Ffliw Adar (Mesurau Atal) (Cymru) 2006

4. Yn rheoliad 13 o Reoliadau Ffliw Adar (Mesurau Atal) (Cymru) 2006(5), yn lle "ar unwaith y Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol a benodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer yr ardal lle mae'r aderyn hwnnw" rhodder "Gweinidogion Cymru ar unwaith".

Diwygiad i Reoliadau Ffliw Adar (Brechu) (Cymru) (Rhif 2) 2006

5. Yn lle rheoliad 11 o Reoliadau Ffliw Adar (Brechu) (Cymru) (Rhif 2) 2006(6) rhodder-

"11. Rhaid i unrhyw berson a ŵyr neu a dybia nad yw aderyn wedi ei frechu, fel sy'n ofynnol gan Weinidogion Cymru, eu hysbysu ar unwaith."

Diwygiad i Reoliadau'r Tafod Glas (Cymru) 2008

6.–(1) Mae Rheoliadau'r Tafod Glas (Cymru) 2008(7) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Mae rheoliad 8(3) wedi ei ddirymu.

(3) Yn rheoliadau 8(1)(a) a (2) ac 11(b) yn lle "hysbysu'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol" rhodder "hysbysu Gweinidogion Cymru".

Elin Jones

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

4 Mawrth 2010

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn disodli cyfeiriadau at "Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol" â chyfeiriadau at "Gweinidogion Cymru" ac, fel y bo'n briodol, yn disodli cyfeiriadau at "Divisional Veterinary Manager" â chyfeiriadau at "Welsh Ministers" yn–

(a) Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) 1996;

(b) Rheoliadau Clwy'r Traed a'r Genau (Rheoli Brechu) (Cymru) 2006;

(c) Rheoliadau Ffliw Adar (Mesurau Atal) (Cymru) 2006;

(ch) Rheoliadau Ffliw Adar (Brechu) (Cymru) (Rhif 2) 2006; a

(d) Rheoliadau'r Tafod Glas (Cymru) 2008.

Nid oes asesiad effaith rheoleiddiol wedi ei lunio ar gyfer y Rheoliadau hyn, gan na ragwelir y byddant yn effeithio o gwbl ar y sector preifat, y sector cyhoeddus na'r sector gwirfoddol.

(1)

O.S 2005/2766. Yn rhinwedd adrannau 59 a 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraffau 28 a 30 o Atodlen 11 iddi, mae swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn arferadwy gan Weinidogion Cymru. Back [1]

(2)

1972 p. 68. Back [2]

(3)

O.S. 1996/3124 y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn. Back [3]

(4)

O.S. 2006/180 (Cy. 31). Back [4]

(5)

O.S. 2006/2803 (Cy. 242). Back [5]

(6)

O.S. 2006/2932 (Cy. 265). Back [6]

(7)

O.S. 2008/1090 (Cy. 116). Back [7]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2010/wsi_20100619_we_1.html