BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diwygiadau sy'n ymwneud â Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Cymru) 2010 No. 636 (Cy. 62)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2010/wsi_20100636_we_1.html

[New search] [Help]


 

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diwygiadau sy'n ymwneud â Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Cymru) 2010

Gwnaed

5 Mawrth 2010

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

9 Mawrth 2010

Yn dod i rym

1 Ebrill 2010

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 71, 128, 129 a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1).

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso

1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diwygiadau sy'n ymwneud â Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Cymru) 2010 sy'n dod i rym ar 1 Ebrill 2010.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3) Yn y Rheoliadau hyn–

Diwygio rheoliad 1 o'r Rheoliadau Optegol

2. Yn rheoliad 1(2) o'r Rheoliadau Optegol (enwi, cychwyn a dehongli), yn y diffiniad o "NHS sight test fee"–

(a) yn lle "£55.93" rhodder "£57.16"; a

(b) yn lle "£20.26" rhodder "£20.70".

Diwygio rheoliad 7 o Reoliadau 2009

3. Yn nhestun Cymraeg rheoliad 7 o Reoliadau 2009, ar ôl "Yn rheoliad 13(2)(l)(ii)" rhodder "o Reoliadau 1986".

Edwina Hart

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

5 Mawrth 2010

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997 ("y Rheoliadau Optegol") sy'n penderfynu lefel ffioedd profion golwg y GIG. Yn ogystal, mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diwygiadau sy'n ymwneud â Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Cymru) 2009 ("Rheoliadau 2009").

Mae rheoliad 2 yn diwygio rheoliad 1 o'r Rheoliadau Optegol er mwyn cyfeirio at gynnydd o 2.2% yn y ffioedd ar gyfer profion golwg GIG.

Mae rheoliad 3 o'r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 7 o Reoliadau 2009.

(1)

2006 p.42. Back [1]

(2)

O.S. 2009/589 (Cy.56). Back [2]

(3)

O.S. 1997/818 fel y'i diwygiwyd. Back [3]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2010/wsi_20100636_we_1.html