BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Gorchymyn Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (Cychwyn Rhif 5 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2010 No. 736 (Cy. 73) (C. 50)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2010/wsi_20100736_we_1.html

[New search] [Help]


 

Gorchymyn Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (Cychwyn Rhif 5 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2010

Gwnaed

10 Mawrth 2010

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 181 a 188(3) o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006(1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt(2), yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi a dehongli

1.–(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (Cychwyn Rhif 5 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2010.

(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr "Deddf 2006" ("the 2006 Act") yw Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006.

Diwrnodau penodedig

2. Mae darpariaethau canlynol Deddf 2006 yn dod i rym at y diben o wneud rheoliadau ar 15 Mawrth 2010:

(a) adran 57 (cyllido ysgolion) i'r graddau y mae'n ymwneud â'r darpariaethau a osodir ym mharagraff (b);

(b) paragraffau 3, 4 a 5 o Atodlen 5 (cyllido ysgolion a gynhelir).

3. Mae darpariaethau canlynol Deddf 2006 yn dod i rym ar 2 Ebrill 2010:

(a) adran 57 (cyllido ysgolion) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym;

(b) adran 184 (diddymiadau) i'r graddau y mae'n ymwneud â'r darpariaethau a nodir ym mharagraff (ch);

(c) Atodlen 5 (cyllido ysgolion a gynhelir) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym;

(ch) yn Rhan 6 o Atodlen 18, diddymu yn Neddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998–

(i) yn adran 17(6), y geiriau o "but" ymlaen,

(ii) adran 47A(6),

(iii) yn adran 48(4), y geiriau o "the approval" hyd at "and for",

(iv) yn Atodlen 14, paragraff 1(1) i (6), yn Atodlen 15, paragraffau 1(4) a (6), 2(5) a 3.

Darpariaeth drosiannol

4. Dim ond mewn perthynas â blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2011 neu ar ôl hynny y mae'r diwygiadau a wneir i adrannau 48 a 49 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, ac Atodlen 14 iddi, gan baragraffau 3 i 5 o Atodlen 5 i Ddeddf 2006 a'r diddymiad yn Rhan 6 o Atodlen 18 i Ddeddf 2006 o baragraff 1(1) i (6) o Atodlen 14 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, yn gymwys.

Leighton Andrews

Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru

10 Mawrth 2010

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn adran 57 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 ac Atodlen 5 iddi i rym at y diben o wneud rheoliadau ar 15 Mawrth 2010 ac yna'n llawn ar 2 Ebrill 2010 (ynghyd â diddymiadau cysylltiedig a wnaed gan adran 184 ac Atodlen 18).

Nodyn Orchymyn Cychwyn Blaenorol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae darpariaethau canlynol Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006 wedi'u dwyn i rym o ran Cymru drwy Orchmynion Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:

Y Ddarpariaeth Dyddiad Cychwyn Rhif O.S.
Adran 1 30 Mehefin 2008 2008/1429 (Cy.148)
Adran 4 1 Medi 2009 2009/1027 (Cy.89)
Adran 37(1) a (2)(a) 30 Mehefin 2008 2008/1429 (Cy.148)
Adran 38 1 Medi 2008 2008/1429 (Cy.148)
Adran 39 30 Mehefin 2008 2008/1429 (Cy.148)
Adran 40 1 Medi 2008 2008/1429 (Cy.148)
Adrannau 43–45 30 Mehefin 2008 2008/1429 (Cy.148)
Adran 47 30 Mehefin 2008 2008/1429 (Cy.148)
Adran 53 30 Mehefin 2008 2008/1429 (Cy.148)
Adran 55 9 Chwefror 2009 2009/49 (Cy.17)
Adran 89 yn rhannol 1 Ionawr 2010 2009/2545 (Cy.207)
Adran 96 yn rhannol 1 Ionawr 2010 2009/2545 (Cy.207)
Adran 156 30 Mehefin 2008 2008/1429 (Cy.148)
Adran 164 1 Medi 2009 2009/1027 (Cy.89)
Adran 166 30 Mehefin 2008 2008/1429 (Cy.148)
Adran 169 12 Hydref 2009 2009/2545 (Cy.207)
Adran 170 12 Hydref 2009 2009/2545 (Cy.207)
Adran 171 12 Hydref 2009 2009/2545 (Cy.207)
Adran 175 30 Mehefin 2008 2008/1429 (Cy.148)
Adran 184 yn rhannol 30 Mehefin 2008 2008/1429 (Cy.148)
Adran 184 yn rhannol 1 Medi 2008 2008/1429 (Cy.148)
Adran 184 yn rhannol 1 Medi 2009 2009/1027 (Cy.89)
Adran 184 yn rhannol 1 Ionawr 2010 2009/2545 (Cy.207)
Atodlen 17 30 Mehefin 2008 2008/1429 (Cy.148)
Atodlen 18 yn rhannol 30 Mehefin 2008 2008/1429 (Cy.148)
Atodlen 18 yn rhannol 1 Medi 2008 2008/1429 (Cy.148)
Atodlen 18 yn rhannol 1 Medi 2009 2009/1027 (Cy.89)
Atodlen 18 yn rhannol 1 Ionawr 2010 2009/2545 (Cy.207)

Mae amryw o ddarpariaethau Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006 wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Lloegr gan yr Offerynnau Statudol canlynol: O.S. 2006/2990 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2008/54, O.S. 2006/3400, O.S. 2007/935 (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2007/1271), O.S. 2007/1271, O.S. 2007/1801, O.S. 2007/3074 ac O.S. 2008/1971.

Gweler hefyd adran 188(1) a (2) ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym ar 8 Tachwedd 2006 (dyddiad y Cydsyniad Brenhinol) ac 8 Ionawr 2007 (ddeufis yn ddiweddarach).

(1)

2006 p.40. Diwygiwyd adran 181 gan adran 23 o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 (2008 mccc 2). Back [1]

(2)

Yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Back [2]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2010/wsi_20100736_we_1.html