BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau Labelu Pysgod (Cymru) 2010 No. 797 (Cy. 78)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2010/wsi_20100797_we_1.html

[New search] [Help]


 

Rheoliadau Labelu Pysgod (Cymru) 2010

Gwnaed

15 Mawrth 2010

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

16 Mawrth 2010

Yn dod i rym

6 Ebrill 2010

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(e) ac (f), 17(2), 26(3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt(2).

Yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, maent wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(3), cafwyd ymgynghoriad cyhoeddus agored a thryloyw tra bu'r Rheoliadau hyn yn cael eu llunio a'u gwerthuso.

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Labelu Pysgod (Cymru) 2010.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 6 Ebrill 2010.

Dehongli

2. Yn y Rheoliadau hyn–

ac mae i unrhyw ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn yr un ystyr ag a roddir i'r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn Rheoliad 104/2000 neu Reoliad 2065/2001.

Tramgwyddau sy'n ymwneud â hysbysu defnyddwyr

3.–(1) Bydd unrhyw berson sydd, yn groes i Erthygl 4.1 o Reoliad 104/2000 (gwybodaeth i ddefnyddwyr) o'i darllen ynghyd â Rheoliad 2065/2001, yn cynnig ar gyfer eu hadwerthu i'r defnyddiwr terfynol unrhyw un o'r cynhyrchion y mae'r Erthygl honno yn gymwys iddynt yn euog o dramgwydd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.

(2) Bydd unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio ag Erthygl 8 o Reoliad 2065/2001 (olrhain a rheoli) yn euog o dramgwydd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol.

Rhestrau o ddynodiadau masnachol

4.–(1) O ran Cymru, y rhestr o ddynodiadau masnachol y mae'n ofynnol i'r Deyrnas Unedig ei llunio a'i chyhoeddi o dan Erthygl 4.2 o Reoliad 104/2000 yw'r un a nodir yn y tabl yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn fel y'i darllenir gyda'r nodiadau iddo, ac yn unol â hynny, y dynodiadau masnachol a bennir yn yr Atodlen honno yw'r enwau a ragnodir gan y gyfraith at ddibenion rheoliadau 6(1), 7 ac 8(a) o Reoliadau Labelu Bwyd 1996 i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru(6).

(2) Mewn perthynas â rhywogaeth a gynhwysir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn ac mewn rhestr a gyhoeddwyd yn Saesneg o dan Erthygl 4.2 o Reoliad 104/2000 sy'n cael effaith mewn Aelod-wladwriaeth arall neu mewn rhan arall o'r Deyrnas Unedig, bydd y dynodiad masnachol ar gyfer y rhywogaeth honno yn y rhestr sy'n cael effaith yn yr Aelod-wladwriaeth arall honno neu'r rhan honno o'r Deyrnas Unedig yn un amgen i'r dynodiad masnachol ar gyfer y rhywogaeth honno a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn ac maent yn enwau a ragnodir gan y gyfraith at y dibenion a bennir ym mharagraff (1).

Hepgor cyfeirio at y dull cynhyrchu

5. Yn yr achos a ddisgrifir yn Erthygl 4.2 o Reoliad 2065/2001 (sefyllfa lle y mae'n amlwg oddi wrth y dynodiad masnachol a chylch y ddalfa fod y rhywogaeth yn cael ei dal yn y môr) ni fydd yn groes i Erthygl 4.1 o Reoliad 104/2000 i gynnig ar gyfer ei adwerthu i'r defnyddiwr terfynol gynnyrch y mae'r Erthygl honno yn gymwys iddo heb fod y cynnyrch wedi'i farcio neu wedi'i labelu â'r dull cynhyrchu.

Meintiau bach o gynhyrchion

6.–(1) At ddibenion Erthygl 4.1 o Reoliad 104/2000 o'i darllen ynghyd ag Erthygl 7 o Reoliad 2065/2001, rhaid i'r meintiau bach o gynhyrchion y caniateir eu gwerthu'n uniongyrchol i ddefnyddwyr fod yn gynhyrchion na fydd eu gwerth yn uwch nag 20 Ewro am bob pryniant.

(2) At ddibenion y Rheoliad hwn, bernir bod y cyfeiriad at 20 Ewro yn gyfeiriad at werth cyfatebol y nifer hwnnw o Ewros mewn sterling, wedi'u trosi drwy gyfeirio at y gyfradd drosi a gyhoeddir yn flynyddol ar ddiwrnod gwaith cyntaf y mis Medi blaenorol yng nghyfres C o Gyfnodolyn Swyddogol y Cymunedau Ewropeaidd neu, os na chyhoeddir cyfradd ynddo ar y diwrnod hwnnw, y gyfradd a gyhoeddir ynddo gyntaf ar ôl hynny.

Gwybodaeth ychwanegol sy'n ymwneud â chylch y ddalfa

7. Caiff y mynegiad o gylch y ddalfa sy'n ofynnol o dan Erthygl 4.1(c) o Reoliad 104/2000, os yw'r amgylchiadau a ddisgrifir yn Erthygl 5.1(c) o Reoliad 2065/2001 yn gymwys, fynegi'r amryw Aelod-wladwriaethau neu drydydd gwledydd y cafodd y cynnyrch ei ffermio ynddynt.

Dynodiadau masnachol dros dro

8.–(1) At ddibenion Erthygl 2 o Reoliad 2065/2001 (dynodiadau masnachol dros dro), yr Asiantaeth Safonau Bwyd yw'r awdurdod cymwys.

(2) Rhaid i'r Asiantaeth Safonau Bwyd lunio a chyhoeddi rhestr o ddynodiadau masnachol dros dro a osodir yn unol ag Erthygl 2.

Gorfodi

9. Rhaid i bob awdurdod bwyd orfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn o fewn ei ardal.

Cymhwyso amryw ddarpariaethau Deddf Diogelwch Bwyd 1990

10. Bydd darpariaethau canlynol Deddf Diogelwch Bwyd 1990 ("y Ddeddf") yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad y dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu Ran o'r Ddeddf yn gyfeiriad at y Rheoliadau hyn ac at y darpariaethau hynny yn Rheoliad 104/2000 a Rheoliad 2065/2001 y mae'r Rheoliadau hyn yn ymwneud â hwy–

(a) adran 3 (rhagdybiaeth bod bwyd wedi'i fwriadu ar gyfer ei fwyta gan bobl);

(b) adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);

(c) adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy)(7) gyda'r addasiad bod is-adrannau (2) i (4) yn gymwys mewn perthynas â thramgwydd o dan reoliad 3(1) fel y maent yn gymwys mewn perthynas â thramgwydd o dan adran 14 neu 15;

(ch) adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);

(d) adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion);

(dd) adran 33(2) gyda'r addasiad y bernir bod y cyfeiriad at "any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above" yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad o'r fath a grybwyllir yn yr is-adran honno fel y'i cymhwysir gan baragraff (d);

(e) adran 35(1) (cosbi tramgwyddau)(8) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan baragraff (d);

(f) adran 35(2) a (3)(9) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan baragraff (dd);

(ff) adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol);

(g) adran 36A (tramgwyddau gan bartneriaethau Albanaidd)(10); ac

(ng) adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).

Dirymu

11. Dirymir y Rheoliadau canlynol–

(a) Rheoliadau Labelu Pysgod (Cymru) 2003(11); a

(b) Rheoliadau Labelu Pysgod (Diwygio) (Cymru) 2006(12).

Gwenda Thomas

Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

15 Mawrth 2010

Rheoliad 4

YR ATODLEN Dynodiadau Masnachol

1. Yn ddarostyngedig i baragraffau 2 a 3, y dynodiad masnachol ar gyfer unrhyw rywogaeth o bysgod a bennir yng ngholofn 2 o'r Tabl canlynol fydd enw a bennir ar gyfer y rhywogaeth honno yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 1.

2. Caniateir defnyddio enw arferol ar gyfer unrhyw rywogaeth o bysgod sydd wedi cael eu mygu neu gael eu rhoi drwy broses debyg, onid yw enw'r rhywogaeth yng ngholofn 2 o'r Tabl yn cael ei ddilyn gan seren. Yn yr achosion hynny, yr enw a ddefnyddir ar gyfer y bwyd pan fydd y pysgod wedi eu mygu fydd enw a bennir ar gyfer y rhywogaeth honno yng ngholofn 1 o'r Tabl a enwyd gyda'r geiriau "wedi'i fygu" neu "wedi'u mygu" ar ei ôl.

3. Ni fydd paragraff 1, o'i ddarllen ynghyd â'r Tabl, yn gymwys i bysgod a reoleiddir gan Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2136/89 sy'n gosod safonau marchnata cyffredin ar gyfer sardîns wedi'u preserfio a disgrifiadau masnachol ar gyfer sardîns wedi'u preserfio a chynhyrchion o fath sardîns wedi'u preserfio(13) (fel y'i diwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1181/2003(14) a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1345/2008(15)) neu Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1536/92 sy'n gosod safonau marchnata cyffredin ar gyfer tiwna a bonito wedi'u preserfio(16).

Colofn 1 Colofn 2
Dynodiad masnachol Rhywogaeth o bysgod
Pysgod môr
Asgell edafog Polynemus tetradactylum
Baracwda Pob rhywogaeth o Sphyraena
Baramwndi Lates calcarifer
Blaiddbennog Chirocentrus dorab
Blaidd môr Pob rhywogaeth o'r teulu Ariidae
Bonito Pob rhywogaeth o Auxis
Pob rhywogaeth o Euthynnus, ac eithrio Euthynnus (Katsuwonus) pelamis
Pob rhywogaeth o Sarda
Gellir defnyddio'r dynodiad masnachol canlynol hefyd mewn perthynas â physgod o'r rhywogaeth a restrir gyferbyn ag ef yng Ngholofn 2:
Macrell Roche Auxis rochei
Brithyll y graig neu Codyn hir Ophiodon elongatus
Brwyniad Pob rhywogaeth o'r teulu Engraulidae
Brwyniad Conwy neu Môr-frithyll neu Perl neu Gwyniedyn Ebrill Pob rhywogaeth o Osmerus
Cegddu Pob rhywogaeth o Merluccius
Gellir defnyddio'r dynodiad masnachol canlynol hefyd mewn perthynas â physgod o'r rhywogaethau a restrir gyferbyn ag ef yng Ngholofn 2:
Cegddu'r Penrhyn Merluccius capensis
Merluccius paradoxus
Cegddu gwyn Urophycis tenuis
Cipiwr Pob rhywogaeth o'r teulu Lutjanidae
Gellir defnyddio'r dynodiad masnachol canlynol hefyd mewn perthynas â physgod o'r rhywogaethau a restrir gyferbyn ag ef yng Ngholofn 2:
Pysgodyn job Pob rhywogaeth o Aphareus
Pob rhywogaeth o Aprion
Pob rhywogaeth o Pristipomoides
Cobia Rachycentron canadum
Codyn asgell hir Laemonema longipes
Codyn Ebrill Trisopterus minutus
Codyn llwyd Trisopterus luscus
Corbenfras neu Hadog Melanogrammus aeglefinus
Corbennog Sprattus sprattus mewn tun
Noder hefyd y cofnodion ar Sild neu Pennog Norwy, Corbennog a Silod mân
Cornbig neu Pigbysg neu Carrai fôr neu Môr-nodwydd Pob rhywogaeth pysgod môr o'r teulu Belonidae
Chwitlin glas neu Celog Pollachius virens
Chwyrnwr Pob rhywogaeth o Triglidae
Peristedion cataphractum
Draenogyn môr Dicentrarchus labrax
Draenogyn môr brych Dicentrarchus punctatus
Draenogyn môr Japan Lateolabrax japonicus
Draenog môr oren Hoplostethus atlanticus
Draenogyn môr rhesog Morone saxatilis
Draenogyn tywod torpedo Diplectrum maximum
Draenogyn môr y De Paralabrax callaensis
Drymiwr Pob rhywogaeth o'r teulu Sciaenidae
Gellir defnyddio'r dynodiadau masnachol canlynol hefyd mewn perthynas â physgod o'r rhywogaethau a restrir gyferbyn â hwy yng Ngholofn 2:
Drymiwr y De Argyrosomus hololepidotus
Drymiwr brenhinol Argyrosomus regius
Ffleimbysgodyn Pob rhywogaeth o'r teulu Acanthuridae
Grwper Pob rhywogaeth o Mycteroperca
Pob rhywogaeth o Epinephelus
Gweinbysgodyn Pob rhywogaeth o'r teulu Trichiuridae
Gellir defnyddio'r dynodiadau masnachol canlynol hefyd mewn perthynas â physgod o'r rhywogaethau a restrir gyferbyn â hwy yng Ngholofn 2:
Gweinbysgodyn du Aphanopus carbo
Gweinbysgodyn arian Lepidopus caudatus
Gwiwerbysgodyn Pob rhywogaeth o'r teulu Holocentridae
Gwrachen Pob rhywogaeth o'r teulu Labridae
Gwyniad môr neu Swtan neu Chwitlyn gwyn Merlangius merlangus
Hanner-pig Pob rhywogaeth o'r teulu Hemiramphidae
Hilsa Tenualosa ilisha
Hoci Macruronus novaezelandiae
Hoci Chile Macruronus magellanicus
Honos Pob rhywogaeth o Molva ac eithrio Molva dypterygia
Honos glas Molva dypterygia
Hwylbysgodyn Pob rhywogaeth o Istiophorus
Hyrddyn (llwyd) Pob rhywogaeth o'r teulu Mugilidae
Iâr fôr neu Pysgodyn clytsiwr Cyclopterus lumpus
Lleden Affrica Solea senegalensis
Lleden Alaska Pleuronectes quadrituberculatus
Lleden betral Eopsetta jordani
Lleden Califfornia Parophrys vetulus
Lleden chwithig neu Lleden wadn Solea solea
Lleden dannedd blaenllym Atheresthes stomias
Lleden dywod Limanda limanda
Lleden dywod felen Limanda ferruginea
Lleden dywod y Môr Tawel Citharichthys sordidus
Lleden esgyll hirion Glyptocephalus zachirus
Lleden Fair Pob rhywogaeth o Lepidorhombus
Lleden fannog Scophthalmus rhombus
Lleden felen Limanda aspera
Lleden fraith Paralichthys woolmani
Lleden fwd neu Lleden llaid neu Lleden ddu Platichthys flesus
Lleden Ffrengig neu Lleden Fawr Hippoglossus hippoglossus
Hippoglossus stenolepis
Lleden y gaeaf Pseudopleuronectes americanus
Lleden goch neu Lleden frech Pleuronectes platessa
Lleden gennog Hippoglossoides platessoides
Lleden graig y gogledd Lepidopsetta polyxystra
Lleden y graig Lepidopsetta bilineata
Lleden India Psettodes erumei
Lleden lefn Microstomus kitt
Lleden y Môr Tawel Microstomus pacificus
Lleden pen rhaw Hippoglossoides elassodon
Lleden wrach Glyptocephalus cynoglossus
Lleden ymenyn Isopsetta isolepis
Lleden yr Ynys Las Reinhardtius hippoglossoides
Lledrbysg Lichia amia
Lloerbysg Periw Selene peruviana
Llygaid mawr Pob rhywogaeth o Priacanthus
Llymrïen Ammodytes tobianus
Llysywen Pob rhywogaeth o Anguilla
Llysywen fôr Pob rhywogaeth o Conger
Macrell Pob rhywogaeth o Scomber
Macrell India Pob rhywogaeth o Rastrelliger
Macrell neidraidd Pob rhywogaeth o'r teulu Gempylidae
Macrell Sbaen Pob rhywogaeth o Scomberomorus
Gellir defnyddio'r dynodiadau masnachol canlynol hefyd mewn perthynas â physgod o'r rhywogaethau a restrir gyferbyn â hwy yng Ngholofn 2:
Macrell frenhinol Scomberomorus cavalla
Macrell Sierra Scomberomorus sierra
Maelgi Lophius piscatorius
Lophius americanus
Lophiodes caulinaris
Lophius budegassa
Maelgi'r Penrhyn Lophius vomerinus
Maelgi'r Môr Tawel Lophius litulon
Mahi Mahi Coryphaena hippurus
Marchfacrell Pob rhywogaeth o Caranx
Pob rhywogaeth o Hemicaranx
Pob rhywogaeth o Seriola
Pob rhywogaeth o Trachurus
Pob rhywogaeth o Decapterus
Gellir defnyddio'r dynodiad masnachol canlynol hefyd mewn perthynas â physgod o'r rhywogaeth a restrir gyferbyn ag ef yng Ngholofn 2:
Marchfacrell felen Seriola lalandi
Marchfacrell streipen felen Sellaroides leptolepis
Marchfacrell y Penrhyn Genypterus capensis
Marlin Pob rhywogaeth o Makaira
Merfog Pob rhywogaeth o Brama
Pob rhywogaeth o Stromateus
Pob rhywogaeth o Pampus
Merfog du Spondyliosoma cantharus
Merfog esgyll edafog Pob rhywogaeth o Nemipterus
Merfog môr neu Porgi Pob rhywogaeth o'r teulu Sparidae ac eithrio Boops boops
Merlynbysgodyn Pob rhywogaeth o'r teulu Leiognathidae
Mingrwn neu Hyrddyn coch Pob rhywogaeth o'r teulu Mullidae
Morflaidd Pob rhywogaeth o Anarhichas
Morgath Pob rhywogaeth o'r teulu Rajidae
Gellir defnyddio'r dynodiad masnachol canlynol hefyd mewn perthynas â physgod o'r rhywogaeth a restrir gyferbyn ag ef yng Ngholofn 2:
Rocer Raja clavata
Morgi Pob rhywogaeth o Galeorhinus
Pob rhywogaeth o Mustelus
Pob rhywogaeth o Scyliorhinus
Galeus melastomus
Squalus acanthias
Morgi neu Siarc Carcharhinus falciformis
Carcharhinus limbatus
Carcharhinus plumbeus
Cetorrhinus maximus
Isurus oxyrinchus
Lamna nasus
Prionace glauca
Rhincodon typus
Gellir defnyddio'r dynodiadau masnachol canlynol hefyd mewn perthynas â physgod o'r rhywogaethau a restrir gyferbyn â hwy yng Ngholofn 2:
Heulgi Cetorrhinus maximus
Morfilgi Rhincodon typus
Morgi blaenddu Carcharhinus limbatus
Morgi sidanaidd Carcharhinus falciformis
Morgi traethell Carcharhinus plumbeus
Morgi trwynfain neu Maco Isurus oxyrinchus
Morgi trwynog neu Corgi môr Lamna nasus
Morgi glas Prionace glauca
Morlas Pollachius pollachius
Morlas Alaska Theragra chalcogramma
Môr-wiber neu Pryf traeth neu Diawl dan draed neu Pysgodyn bwyell Pob rhywogaeth o'r teulu clupea
Opa Pob rhywogaeth o Lampris
Oreo Allocyttus niger
Gellir defnyddio'r dynodiadau masnachol canlynol hefyd mewn perthynas â physgod o'r rhywogaethau a restrir gyferbyn â hwy yng Ngholofn 2: Pseudocyttus maculatus
Oreo du Allocyttus niger
Oreo llyfn Pseudocyttus maculatus
Parot môr Pob rhywogaeth o'r teulu Scaridae
Penfras neu Codyn neu Còd Gadus morhua
Penfras coch Pseudophycis bachus
Penfras glas Parapercis colias
Penfras y De Patagonotothen ramysai
Penfras saffrwm Eleginus gracilis
Penfras y Môr Tawel Gadus macrocephalus
Penfras Japan Pob rhywogaeth o'r teulu Leiognathidae
Penfras yr Ynys Las Gadus ogac
Pennog neu Ysgadenyn Clupea harengus
Noder hefyd y cofnodion ar gyfer Sild neu Pennog Norwy a Silod mân.
Pennog Mair Sardina pilchardus
Noder hefyd y cofnod ar gyfer Sardîn neu Pennog Mair
Pennog Mair De'r Iwerydd Sardinops sagax a ddaliwyd yn Ne'r Iwerydd
Pennog Mair y Môr Tawel Sardinops sagax a ddaliwyd yn y Môr Tawel
Picarel Spicara smaris
Pysgod arian Pob rhywogaeth o'r teulu Argentinidae
Pysgodyn cleddyf Xiphias gladius
Pysgodyn coch Pob rhywogaeth o Sebastes
Pob rhywogaeth o Helicolenus
Pysgodyn croen lledr Aluterus monoceros
Pysgodyn cwningen Pob rhywogaeth o'r teulu Siganidae
Pysgodyn darn arian Zeus faber
Pysgodyn glas Pomatomus saltatrix
Pysgodyn hedegog Pob rhywogaeth o'r teulu Exocoetidae
Pysgodyn iâ Dissostichus mawsoni
Dissostichus eleginoides
Pysgodyn iâ Patagoniad Patagonotothen ramsayi
Pysgodyn job - gweler y cofnod ar gyfer Cipiwr
Pysgodyn llaeth Chanos chanos
Pysgodyn llygad llo Boops boops
Pysgodyn madfall pen rhaw Pob rhywogaeth o'r teulu Platycephalidae
Pysgodyn Mair Pob rhywogaeth o'r teulu Elopidae
Pysgodyn Mwmbai Harpadon nehereus
Pysgodyn sabl Anoplopoma fimbria
Pysgodyn ystlys arian Pob rhywogaeth o'r teulu Atherinidae
Robalo Pob rhywogaeth o Centropomus
Rocer Raja clavata
Rhawbysgodyn Pob rhywogaeth o'r teulu Ephippidae
Rhedwr seithliw Elagatis bipinnulata
Sardîn neu Pennog Mair Sardina pilchardus bach
Sardinela Pob rhywogaeth o Sardinella
Sêr-dremiwr Pob rhywogaeth o'r teulu Uranoscopidae
Sillago Pob rhywogaeth o'r teulu Sillaginidae
Sgipjac Euthynnus (Katsuwonus) pelamis
Sgorpion môr du Scorpaena porcus
Sild neu Pennog Norwy Clupea harengus bach mewn tun
Sprattus sprattus bach mewn tun
Noder hefyd y cofnodion ar gyfer Corbennog, Pennog neu Ysgadenyn, Corbennog a Silod mân
Silod mân Clupea harengus bach
Sprattus sprattus bach (ac eithrio mewn tun)
Noder hefyd y cofnodion ar gyfer Corbennog, Pennog neu Ysgadenyn, Sild neu Pennog Norwy a Corbennog.
Swtan glas Micromesistius poutassou
Swtan glas y De Micromesistius australis
Tarpon Pob rhywogaeth o'r teulu Megalopidae
Tiwna Pob rhywogaeth o Thunnus
Gellir defnyddio'r dynodiadau masnachol canlynol hefyd mewn perthynas â physgod o'r rhywogaethau a restrir gyferbyn â hwy yng Ngholofn 2:
Tiwna esgyll hirion neu Tiwna asgellog Thunnus alalunga
Tiwna melyn Thunnus albacares
Tiwna glas Thunnus thynnus
Tiwna glas y Môr Tawel Thunnus orientalis
Tiwna glas y De Thunnus maccoyii
Tiwna llygaid mawr Thunnus obesus
Torbwt neu Lleden y môr neu Tafod yr hydd neu Lleden arw neu Lleden chwith Psetta maxima
Torbwt cynffonfrych Psettodes belcheri
Wahŵ Acanthocybium solandri
Ymherodr Pob rhywogaeth o Lethrinus
Eogiaid a Physgod Dŵr Croyw
Aere - gweler y cofnod ar gyfer Cathbysg
Banspata - gweler y cofnod ar gyfer Cerpyn
Barfogyn - gweler y cofnod ar gyfer Cerpyn
Bata - gweler y cofnod ar gyfer Cerpyn
Batashi Pseudeutropius atherinoides
Batsia Eutropiichthys vacha
Boal - gweler y cofnod ar gyfer Cathbysg
Brithyll Salmo trutta trutta sydd wedi treulio'i fywyd cyfan mewn dŵr croyw
Brithyll gyddfgoch Oncorhynchus clarki clarki
Brithyll seithliw Oncorhynchus mykiss
Bwswri - gweler y cofnod ar gyfer Cathbysg
Cacila Xenentodon cancila
Calibws - gweler y cofnod ar gyfer Cerpyn
Cathbysg Pob rhywogaeth o'r teulu Clariidae
Pob rhywogaeth o'r teulu Siluridae
Pob rhywogaeth o'r teulu Ictaluridae
Pob rhywogaeth o'r teulu Bagridae
Pob rhywogaeth o'r teulu Pimelodidae
Gellir defnyddio'r dynodiadau masnachol canlynol hefyd mewn perthynas â physgod o'r rhywogaethau a restrir gyferbyn â hwy yng Ngholofn 2:
Cathbysg America Pob rhywogaeth o'r teulu Ictaluridae
Aere Sperata aor
Boal Wallago attu
Bwswri Mystus tengara
Gwlsia Mystus bleekeri
Magwr Clarias batrachus
Pabda Ompok pabda
Tengra Mystus vittatus
Catsiana neu Tambaci Colossoma macroponum
Cerpyn Pob rhywogaeth o'r teulu Cyprinidae
Gellir defnyddio'r dynodiadau masnachol canlynol hefyd mewn perthynas â physgod o'r rhywogaethau a restrir gyferbyn â hwy yng Ngholofn 2:
Banspata Danio devario
Barfogyn Barbus barbus
Bata Labeo bata
Merfog dŵr croyw Abramis brama
Tsielapata Salmostoma bacaila
Gania Labeo gonius
Calibws Labeo calbasu
Mowrala Amblypharyngodon mola
Pwnti Puntius sarana
Rhufell Rutilus rutilus
Rwhi Labeo rohita
Sgreten Tinca tinca
Cerpyn euraidd Anabas testudineus
Cesci Corica soborna
Chalisia Colisa fasciatus
Crydd yr afon Pob rhywogaeth o'r teulu Pangasiidae
Gellir defnyddio'r dynodiad masnachol canlynol hefyd mewn perthynas â physgod o'r rhywogaeth a restrir gyferbyn ag ef yng Ngholofn 2:
Crydd brenhinol yr afon Pangasianodon bocourti
Draenogyn afon Nîl Lates niloticus
Draenogyn ceg fawr Stizostedion lucioperca
Eog neu Salmon Salmo salar*
Eog cefngrwm Oncorhynchus gorbuscha*
Eog Ceta Oncorhynchus keta*
Eog coch Oncorhynchus nerka*
Eog cochlyd Oncorhynchus kisutch*
Eog y Môr Tawel Oncorhynchus tshawytscha*
Eog Japan Oncorhynchus masou masou*
Gania - gweler y cofnod ar gyfer Cerpyn
Gwlsia - gweler y cofnod ar gyfer Cathbysg
Gwyniad yr Arctig Coregonus autumnalis
Gwyniad Ewrop Coregonus albula
Largebaim neu Patabaim Pob rhywogaeth o'r teulu Mastacembelidae
Magwr - gweler y cofnod ar gyfer Cathbysg
Meni Nandus nandus
Merfog dŵr croyw - gweler y cofnod ar gyfer Cerpyn
Mowrala - gweler y cofnod ar gyfer Cerpyn
Pabda - gweler y cofnod ar gyfer Cathbysg
Pacw Piaractus mesopotamicus
Patabaim neu Largebaim Pob rhywogaeth o'r teulu Mastacembelidae
Penhwyad Esox lucius
Pwnti - gweler y cofnod ar gyfer Cerpyn
Pysgodyn pen neidr Pob rhywogaeth o'r teulu Channidae
Pysgodyn y frenhines Botia dario
Rwhi - gweler y cofnod ar gyfer Cerpyn
Rhufell - gweler y cofnod ar gyfer Cerpyn
Sgreten - gweler y cofnod ar gyfer Cerpyn
Siol Channa striata
Siwin Salmo trutta trutta sydd wedi treulio rhan o'i fywyd yn y môr
Taci Channa punctata
Tambaci neu Catsiama Colossoma macroponum
Tengra - gweler y cofnod ar gyfer Cathbysg
Tilapia Pob rhywogaeth o Tilapia
Pob rhywogaeth o Oreochromis
Torgoch Pob rhywogaeth o Salvelinus
Tsiapila Gudusia chapra
Tsielapata - gweler y cofnod ar gyfer Cerpyn
Pysgod Cregyn
Berdysen neu Corgimwch Corgimychiaid cyfain (o faint sy'n cyfateb i lai na 397 ohonynt y cilo pan fyddant wedi'u coginio) neu gynffonnau (o faint sy'n cyfateb i lai na 1,323 y cilo pan fyddant wedi'u pilio a'u coginio) o–
Pob rhywogaeth o'r teulu Aristaeidae
Pob rhywogaeth o'r teulu Palaemonidae
Pob rhywogaeth o'r teulu Pandalidae
Pob rhywogaeth o'r teulu Penaeidae
Berdysen y tywod Pob rhywogaeth o Crangon
Cimwch Pob rhywogaeth o Homarus
Cimwch bach y Môr Tawel Metanephrops andamanicus
Metanephrops challengeri
Metanephrops thomsoni
Cimwch byrdew Pob rhywogaeth o'r teulu Galatheidae
Cimwch Cefnfor India Puerulus sewelli
Puerulus carinatus
Puerulus angulatus
Cimwch coch neu Siacar goch neu Cimwch Mair Pob rhywogaeth o Panulirus
Pob rhywogaeth o Palinurus
Pob rhywogaeth o Jasus
Cimwch Mair neu Cimwch coch neu Siacar goch Pob rhywogaeth o Panulirus
Pob rhywogaeth o Palinurus
Pob rhywogaeth o Jasus
Cimwch Norwy Nephrops norvegicus
Cimwch pen rhaw Pob rhywogaeth o'r teulu Scyllaridae
Cocosen Pob rhywogaeth o Cerastoderma
Cocosen fraith Glycymeris glycymeris
Corgimwch neu Berdysen Corgimychiaid cyfain (o faint sy'n cyfateb i lai na 397 ohonynt y cilo pan fyddant wedi'u coginio) neu gynffonnau (o faint sy'n cyfateb i lai na 1,323 y cilo pan fyddant wedi'u pilio a'u coginio) o–
Pob rhywogaeth o'r teulu Aristaeidae
Pob rhywogaeth o'r teulu Palaemonidae
Pob rhywogaeth o'r teulu Pandalidae
Pob rhywogaeth o'r teulu Penaeidae
Corgimwch Esop Pandalus montagui
Corgimwch mantis Squilla mantis
Corgimwch rhesog Parapenaeopsis hardwickii
Parapenaeopsis sculptilis
Penaeus esculentus
Penaeus japonicus
Penaeus kerathurus
Penaeus monodon
Penaeus semisulcatus
Cragen Aberffro neu Cragen fylchog Pecten maximus
Cragen Arch Pob rhywogaeth o'r teulu Arcidae
Cragen y dyfrgi Lutraria lutraria
Cragen foch fwyaf Pob rhywogaeth o Buccinum
Cragen Forwyn fwyaf Mercenaria mercenaria
Venus verrucosa
Cragen y Frenhines neu Cwin Chlamys (Aequipecten) opercularis
Cragen fylchog Pob rhywogaeth o'r teulu Pectinidae
Cragen fylchog neu Cragen Aberffro Pecten maximus
Cragen fylchog frodorol Tapes decussatus
Ruditapes decussatus
Venerupis decussa
Cragen fylchog yr Iwerydd Placopecten magellanicus
Cragen fylchog Manila Aristaeidae
Tapes philippinarum
Cragen gasgliad neu Morglust Pob rhywogaeth o Haliotis
Cragen las Pob rhywogaeth o'r teulu Mytilidae
Cragen noe Pob rhywogaeth o Spisula
Cranc Pob rhywogaeth o'r urdd Brachyura
Pob rhywogaeth o'r teulu Lithodidae
Cwin neu Cragen y Frenhines Chlamys (Aequipecten) opercularis
Cyllell fôr Pob rhywogaeth o Ensis a Solen
Draenog môr Pob rhywogaeth o'r teulu Echinidae
Encudd y tywod Pob rhywogaeth o Mya
Gwichiad Pob rhywogaeth o Littorina
Gwydwg Panopea abrupta
Llymarch neu Wystrysen Pob rhywogaeth o Crassostrea
Pob rhywogaeth o Ostrea
Gellir defnyddio'r dynodiadau masnachol canlynol hefyd mewn perthynas â physgod o'r rhywogaethau a restrir gyferbyn â hwy yng Ngholofn 2:
Llymarch Llydaw neu Wystrysen Llydaw Ostrea edulis
Gweler hefyd y cofnod am Wystrysen y Môr Tawel ac Wystrysen Portiwgal
Marchgorgimwch Pob rhywogaeth o'r teulu Aristaeidae
Pob rhywogaeth o'r teulu Palaemonidae
Pob rhywogaeth o'r teulu Penaeidae
Pan fo'r nifer yn llai na 123 y cilo (gyda'r pen/gyda'r gragen) neu'n llai na 198 y cilo (heb y pen/gyda'r gragen) neu'n llai na 242 y cilo (heb y pen/heb y gragen)
Môr-lawes flaenllym Nototodarus sloani
Nototodarus gouldi
Môr-lawes gyffredin neu Twyllwr du cyffredin neu Sgwid Pob rhywogaeth o Illex
Pob rhywogaeth o Loligo
Ommastrephes sagittatus
Octopws Pob rhywogaeth o Octopus
Sgwid neu Môr-lawes gyffredin neu Twyllwr du cyffredin Pob rhywogaeth o Loligo
Pob rhywogaeth o Illex
Ommastrephes sagittatus
Siacar Pob rhywogaeth o'r teulu Astacidae
Pob rhywogaeth o'r teulu Parastacidae
Pob rhywogaeth o'r teulu Austroastacidae
Pob rhywogaeth o'r teulu Cambaridae
Siacar goch neu Cimwch coch neu Cimwch Mair Pob rhywogaeth o Panulirus
Pob rhywogaeth o Jasus
Twyllwr du cyffredin neu Sgwid neu Môr-lawes gyffredin Pob rhywogaeth o Loligo
Pob rhywogaeth o Illex
Ommastrephes sagittatus
Wystrysen neu Llymarch Pob rhywogaeth o Crassostrea
Pob rhywogaeth o Ostrea
Wystrysen Llydaw neu Llymarch Llydaw Ostrea edulis
Wystrysen y Môr Tawel Crassostrea gigas
Wystrysen Portiwgal Crassostrea angulata
Ystifflog Pob rhywogaeth o Sepia
Rossia macrosoma

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1. Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi Teitl I, Pennod 2 (gwybodaeth i'r defnyddiwr) o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 104/2000 ar gyd-drefniadaeth y marchnadoedd mewn cynhyrchion pysgodfeydd a chynhyrchion dyframaethu (OJ Rhif L17, 21.2.2000, t.22) fel y'i cymhwysir gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2065/2001 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 104/2000 ynglŷn â hysbysu defnyddwyr ynghylch cynhyrchion pysgodfeydd a chynhyrchion dyframaethu (OJ Rhif L278, 23.10.2001, t.6).

2. Mae Teitl I o Bennod 2 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 104/2000 yn gosod gofynion ynghylch darparu gwybodaeth am ddynodiad masnachol, dull cynhyrchu a chylch dalfa cynhyrchion pysgodfeydd a chynhyrchion dyframaethu penodol sy'n cael eu cynnig ar gyfer eu hadwerthu i'r defnyddiwr terfynol. Mae'n darparu ymhellach i Aelod-wladwriaethau lunio a chyhoeddi rhestr o ddynodiadau masnachol ar gyfer o leiaf y rhywogaethau a restrir yn Atodiadau I i IV o'r Rheoliad. Mae Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2065/2001 yn disgrifio'n fanylach yr wybodaeth sydd i'w darparu i ddefnyddwyr a'r esemptiadau y ceir eu caniatáu. Mae'n darparu hefyd ynglŷn â'r wybodaeth angenrheidiol sydd i'w darparu ym mhob cyfnod o'r broses farchnata.

3. Mae'r Rheoliadau hyn:

(a) yn darparu rhestr wedi'i diweddaru o'r dynodiadau masnachol y mae'n ofynnol i'r Deyrnas Unedig eu llunio (rheoliad 4 a'r Atodlen) ac yn darparu ymhellach ar gyfer caniatáu dynodiadau masnachol dros dro (rheoliad 8);

(b) yn darparu ar gyfer y rhanddirymiad yn Erthygl 4.2 o Reoliad (EC) Rhif 2065/2001 (yr amgylchiadau pan ganiateir i gynhyrchion pysgodfeydd gael eu gwerthu i'r defnyddiwr terfynol heb fod wedi'u marcio na'u labelu gyda'r dull cynhyrchu) (rheoliad 5);

(c) yn unol ag Erthygl 7 o Reoliad (EC) Rhif 2065/2001, yn penderfynu beth sy'n ffurfio "meintiau bach o gynhyrchion a werthir yn uniongyrchol i ddefnyddwyr" at ddibenion cymhwyso'r rhanddirymiad yn Erthygl 4.1 o Reoliad (EC) Rhif 104/2001 (rheoliad 6);

(ch) yn darparu y caiff y mynegiad o gylch y ddalfa sy'n ofynnol gan Erthygl 4.1(c) o Reoliad (EC) Rhif 104/2001, yn unol ag Erthygl 5(1)(c) o Reoliad (EC) Rhif 2065/2001, fynegi yr amrywiol Aelod-wladwriaethau neu drydydd gwledydd y cafodd y cynnyrch ei ffermio ynddynt (rheoliad 7);

(d) yn creu tramgwyddau a rhagnodi cosbau (rheoliad 3), yn pennu awdurdodau gorfodi (rheoliad 9) ac yn cymhwyso, gydag addasiadau, ddarpariaethau penodol yn Neddf Diogelwch Bwyd 1990 (rheoliad 10); ac

(dd) yn dirymu Rheoliadau Labelu Pysgod (Cymru) 2003 (O.S. 2003/635 (Cy.177)) a Rheoliadau Labelu Pysgod (Diwygio) (Cymru) 2006 (O.S. 2006/1339 (Cy.131)) (rheoliad 11).

Mae asesiad effaith rheoleiddiol llawn wedi'i wneud mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn ac mae ar gael gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW.

(1)

1996 p. 16. Amnewidiwyd adran 1(1) a (2) (diffiniad o "food") gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adrannau 17 a 18 gan baragraffau 12 a 21 yn eu trefn o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28), ("Deddf 1999"). Cafodd adran 48 hefyd ei diwygio gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adran 53(2) gan baragraff 19 o Atodlen 16 i Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (1994 p.40), Atodlen 6 i Ddeddf 1999 ac O.S. 2004/2990. Back [1]

(2)

Mae swyddogaethau a oedd gynt yn arferadwy gan "the Ministers" (sef, o ran Cymru a Lloegr ac yn gweithredu ar y cyd, y Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd a'r Ysgrifenyddion Gwladol a oedd yn eu trefn yn ymwneud ag iechyd yn Lloegr a bwyd a iechyd yng Nghymru ac o ran yr Alban, yr Ysgrifennydd Gwladol) bellach yn arferadwy o ran Lloegr gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn unol â pharagraff 8 o Atodlen 5 i Ddeddf 1999. Trosglwyddwyd swyddogaethau "the Ministers" i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y'i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf 1999 ac wedyn fe'u trosglwyddwyd i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran yr Alban i Weinidogion yr Alban gan adran 53 o Ddeddf yr Alban 1998 (1998 p.46) fel y'i darllenir gydag adran 40(2) o Ddeddf 1999. Back [2]

(3)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 596/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor yn addasu nifer o offerynnau yn ddarostyngedig i'r weithdrefn y cyfeirir ati yn Erthygl 251 o'r Cytuniad i Benderfyniad y Cyngor 1999/468/EC o ran y weithdrefn reoleiddiol gyda chraffu: Addasiad i'r weithdrefn reoleiddiol gyda chraffu – Rhan Pedwar (OJ Rhif L188, 18.07.2009, t.14). Back [3]

(4)

OJ Rhif L17, 21.1.2000, t.22. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw gan Ddeddf yr UE ynghylch amodau ymaelodi'r Weriniaeth Tsiec, etc. (OJ Rhif L236, 23.9.2003, t.33). Back [4]

(5)

OJ Rhif L278, 23.10.2001, t.6. Cywirwyd y Rheoliad hwnnw gan Gorigendwm (OJ Rhif L10, 12.1.2002, t.82 (2001/2065)) ac fe'i diwygiwyd gan Ddeddf yr UE ynghylch amodau ymaelodi'r Weriniaeth Tsiec etc. (OJ Rhif L236, 23.09.2003 t.33) a chan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1792/2006 (OJ Rhif L362, 20.12.2006 t.1). Back [5]

(6)

O.S. 1996/1499; mewnosodwyd rheoliad 6(4) (sy'n diffinio "prescribed by law" at ddibenion rheoliadau 6(1), 7 ac 8(a)) gan O.S. 1998/1398. Back [6]

(7)

Diwygwyd adran 21 gan O.S. 2004/3279. Back [7]

(8)

Diwygir adran 35(1) gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (2003 p.44), Atodlen 26, paragraff 42, o ddyddiad sydd i'w bennu. Back [8]

(9)

Diwygwyd adran 35(3) gan O.S. 2004/3279. Back [9]

(10)

Mewnosodwyd adran 36A gan Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28), Atodlen 5, paragraff 16. Back [10]

(11)

O.S. 2003/1635 (Cy.177). Back [11]

(12)

O.S. 2006/1339 (Cy.131). Back [12]

(13)

OJ Rhif L212, 22.7.1989, t.79. Back [13]

(14)

OJ Rhif L165, 3,7.2003, t.17. Back [14]

(15)

OJ Rhif L348, 24.12.2008, t.76. Back [15]

(16)

OJ Rhif L163, 17.6.1992, t.1. Back [16]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2010/wsi_20100797_we_1.html