BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Gorchymyn Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (Diddymu) (Cymru) 2010 No. 823 (Cy. 86)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2010/wsi_20100823_we_1.html

[New search] [Help]


 

Gorchymyn Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (Diddymu) (Cymru) 2010

Gwnaed

16 Mawrth 2010

Yn dod i rym

1 Medi 2010

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 45D o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2) yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Yn unol â pharagraff 35(3), Tabl 1 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, gosodwyd drafft o'r Gorchymyn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe'i cymeradwywyd drwy benderfyniad y Cynulliad.

Enwi a chychwyn

1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (Diddymu) (Cymru) 2010 a daw i rym ar 1 Medi 2010.

Diddymu

2. Diddymir adrannau 45AB a 45AC(4) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(3) mewn perthynas â blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar 1 Ebrill 2011 neu wedi hynny.

Leighton Andrews

Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru

16 Mawrth 2010

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn diddymu adrannau 45AB a 45AC(4) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (Deddf 1998). Mewnosodwyd yr adrannau hynny gan Ddeddf Addysg 2005 ac roeddent yn ailddeddfu'r gofyniad ar awdurdodau lleol yng Nghymru i benderfynu ar eu cyllideb ysgolion yn flynyddol. Penderfynodd Gweinidogion Cymru ddefnyddio'u pwerau o dan adran 45AC o Ddeddf 1998 (fel y'i mewnosodwyd gan Ddeddf Addysg 2005) i'w gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol osod eu cyllideb ysgolion mewn rheoliadau yn hytrach na dibynnu ar adran 45AB o Ddeddf 1998. Fe ddiddymir, felly, y darpariaethau hynny yn Neddf 1998 sy'n cynnwys y gofyniad i osod cyllidebau ysgolion yn flynyddol.

(1)

1998 p.18. Mewnosodwyd adran 45D gan baragraff 5 o Atodlen 16 i Ddeddf Addysg 2005 (p.18). Back [1]

(2)

Yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Back [2]

(3)

Mewnosodwyd adrannau 45AB a 45AC(4) gan baragraff 4 o Atodlen 16 i Ddeddf Addysg 2005. Back [3]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2010/wsi_20100823_we_1.html