BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2010 No. 893 (Cy. 92)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2010/wsi_20100893_we_1.html

[New search] [Help]


 

Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2010

Gwnaed

18 Mawrth 2010

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

23 Mawrth 2010

Yn dod i rym

13 Ebrill 2010

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(1).

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion yr adran honno mewn perthynas â mesurau sy'n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diod) gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol o ran bwyd(2).

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(3) cafwyd ymgynghoriad cyhoeddus agored a thryloyw tra'r oedd y Rheoliadau hyn yn cael eu paratoi.

Enwi a chychwyn

1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2010 a deuant i rym ar 13 Ebrill 2010.

Diwygio Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006

2.–(1) Mae Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006(4) wedi eu diwygio'n unol â'r paragraffau canlynol.

(2) Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli), yn lle'r cyfeiriadau at offerynnau'r UE sy'n ymddangos yn union ar ôl y diffiniad o "mangre", rhodder y cyfeiriadau canlynol yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor–

(3) Yn lle rheoliad 17 (tramgwyddau a chosbau) rhodder y rheoliad a ganlyn–

"Tramgwyddau a chosbau

17.–(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) i (8), bydd unrhyw berson sy'n mynd yn groes i unrhyw un o'r darpariaethau Cymunedol penodedig neu sy'n methu cydymffurfio ag unrhyw un neu rai ohonynt yn euog o dramgwydd.

(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn yn agored–

(a) o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na'r uchafswm statudol; neu

(b) o'i gollfarnu ar dditiad, i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na dwy flynedd, i ddirwy neu i'r ddau.

(3) Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan reoliad 15 yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol neu i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na thri mis, neu i'r ddau.

(4) Ar yr amod yr ydys wedi cydymffurfio â gofynion Atodlen 3, ni fernir bod person wedi mynd yn groes i Erthygl 4(2) o Reoliad 852/2004 neu wedi methu â chydymffurfio â hi, o'i darllen gyda pharagraff 4 o Bennod IV o Atodiad II i'r Rheoliad hwnnw (swmp-ddeunyddiau bwyd ar ffurf hylif, gronynnau neu bowdr i'w cludo mewn daliedyddion a/neu gynwysyddion/tanceri sydd wedi eu neilltuo ar gyfer cludo deunyddiau bwyd).

(5) Ar yr amod yr ydys wedi cydymffurfio â gofynion Atodlen 3A, ni fernir bod person wedi mynd yn groes i Erthygl 3(1) neu 4(1)(a) o Reoliad 853/2004 neu wedi methu â chydymffurfio ag un o'r Erthyglau hynny, o'i darllen yn y naill achos neu'r llall gyda pharagraff 5 o Bennod II o Adran I o Atodiad III i'r Rheoliad hwnnw (gweithredwyr busnes bwyd i sicrhau bod gan ladd-dai lle y mae carnolion domestig yn cael eu cigydda gyfleusterau cloadwy i storio cig y daliwyd gafael arno mewn oergell a chyfleusterau cloadwy ar wahân i storio cig y datganwyd ei fod yn anffit i'w fwyta gan bobl).

(6) Ar yr amod yr ydys wedi cydymffurfio â gofynion Atodlen 3B, ni fernir bod person wedi mynd yn groes i Erthygl 3(1) neu 4(1)(a) o Reoliad 853/2004 neu wedi methu â chydymffurfio ag un o'r Erthyglau hynny, o'i darllen yn y naill achos neu'r llall gyda pharagraff 5 o Bennod II o Adran II o Atodiad III i'r Rheoliad hwnnw (gweithredwyr busnes bwyd i sicrhau bod gan ladd-dai lle y mae dofednod neu lagomorffiaid yn cael eu cigydda gyfleusterau cloadwy i storio cig y daliwyd gafael arno mewn oergell a chyfleusterau cloadwy ar wahân i storio cig y datganwyd ei fod yn anffit i'w fwyta gan bobl).

(7) Ar yr amod yr ydys wedi cydymffurfio â gofynion Atodlen 3C, ni fernir bod person wedi mynd yn groes i Erthygl 3(1) neu 4(1)(a) o Reoliad 853/2004 neu wedi methu â chydymffurfio ag un o'r Erthyglau hynny, o'i darllen yn y naill achos neu'r llall gyda pharagraff 6 o Bennod II o Adran I o Atodiad III i'r Rheoliad hwnnw (gweithredwyr busnes bwyd i sicrhau bod gan ladd-dai lle y mae carnolion domestig yn cael eu cigydda le ar wahân gyda chyfleusterau priodol i olchi, glanhau a diheintio cyfryngau cludo da byw onid yw'r awdurdod cymwys yn caniatáu iddynt beidio â chael lleoedd o'r fath a bod lleoedd a chyfleusterau sydd wedi eu hawdurdodi'n swyddogol i'w cael wrth law).

(8) Ar yr amod yr ydys wedi cydymffurfio â gofynion Atodlen 3Ch, ni fernir bod person wedi mynd yn groes i Erthygl 3(1) neu 4(1)(a) o Reoliad 853/2004 neu wedi methu â chydymffurfio ag un o'r Erthyglau hynny, o'i darllen yn y naill achos neu'r llall gyda pharagraff 6(b) o Bennod II o Adran II o Atodiad III i'r Rheoliad hwnnw (gweithredwyr busnes bwyd i sicrhau bod gan ladd-dai lle y mae dofednod neu lagomorffiaid yn cael eu cigydda le ar wahân gyda chyfleusterau priodol i olchi, glanhau a diheintio cyfryngau cludo onid oes lleoedd a chyfleusterau sydd wedi eu hawdurdodi'n swyddogol i'w cael wrth law).".

(4) Yn lle Atodlen 1 (diffiniadau o ddeddfwriaeth Gymunedol), rhodder yr Atodlen (diffiniadau o ddeddfwriaeth UE) a osodir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn.

(5) Yn union ar ôl Atodlen 3 (swmpgludo olewau hylifol neu frasterau hylifol ar longau mordwyol a swmpgludo siwgr crai dros y môr) mewnosoder yr Atodlenni a osodir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn.

Gwenda Thomas

Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

18 Mawrth 2010

Rheoliad 2(4)

ATODLEN 1 YR ATODLEN A RODDIR YN LLE ATODLEN 1 I REOLIADAU HYLENDID BWYD (CYMRU) 2006

"ATODLEN 1 DIFFINIADAU O DDEDDFWRIAETH UE

Ystyr "Penderfyniad 2006/766" ("Decision 2006/766") yw Penderfyniad y Comisiwn 2006/766/EC sy'n sefydlu'r rhestrau o drydydd gwledydd a thiriogaethau y caniateir mewnforio ohonynt folysgiaid deufalf, ecinodermiaid, tiwnigogion, gastropodau morol a chynhyrchion pysgodfeydd(5) fel y diwygiwyd y Penderfyniad hwnnw ddiwethaf gan Benderfyniad 2009/951;

ystyr "Penderfyniad 2009/951" ("Decision 2009/951") yw Penderfyniad y Comisiwn 2009/951/EU sy'n diwygio Atodiadau I a II i Benderfyniad 2006/766/EC yn sefydlu'r rhestrau o drydydd gwledydd a thiriogaethau y caniateir mewnforio ohonynt folysgiaid deufalf, ecinodermiaid, tiwnigogion, gastropodau morol a chynhyrchion pysgodfeydd(6);

ystyr "Cyfarwyddeb 2004/41" ("Directive 2004/41") yw Cyfarwyddeb 2004/41/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n diddymu rhai cyfarwyddebau ynglŷn â hylendid bwyd ac amodau iechyd ar gyfer cynhyrchu a rhoi ar y farchnad rhai cynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl ac sy'n diwygio Cyfarwyddebau'r Cyngor 89/662/EEC a 92/118/EEC a Phenderfyniad y Cyngor 95/408/EC(7);

ystyr "Rheoliad 178/2002" ("Regulation 178/2002") yw Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(8) fel y diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad 596/2009;

ystyr "Rheoliad 852/2004" ("Regulation 852/2004") yw Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar hylendid deunyddiau bwyd(9) fel y'i diwygiwyd gan Reoliad 219/2009 ac fel y'i darllenir gyda Rheoliad 2073/2005;

ystyr "Rheoliad 853/2004" ("Regulation 853/2004") yw Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n dod o anifeiliaid(10) fel y'i diwygiwyd gan Reoliad 2074/2005, Rheoliad 2076/2005, Rheoliad 1662/2006, Rheoliad 1791/2006, Rheoliad 1243/2007 a Rheoliad 219/2009 ac fel y'i darllenir gyda Chyfarwyddeb 2004/41, Rheoliad 1688/2005, Rheoliad 2074/2005 a Rheoliad 2076/2005;

ystyr "Rheoliad 854/2004" ("Regulation 854/2004") yw Rheoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau penodol ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl(11) fel y'i diwygiwyd gan Reoliad 882/2004, Rheoliad 2074/2005, Rheoliad 2076/2005, Rheoliad 1663/2006, Rheoliad 1791/2006 a Rheoliad 219/2009 ac fel y'i darllenir gyda Chyfarwyddeb 2004/41, Rheoliad 2074/2005, Rheoliad 2075/2005, Rheoliad 2076/2005 a Phenderfyniad 2006/766;

ystyr "Rheoliad 882/2004" ("Regulation 882/2004") yw Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reolaethau swyddogol a wneir i sicrhau bod cydymffurfedd â chyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid, iechyd anifeiliaid a rheoliadau lles anifeiliaid yn cael ei wirio(12) fel y diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad 596/2009 ac fel y'i darllenir gyda Rheoliad 2074/2005, Rheoliad 2076/2005, a Rheoliad 669/2009;

ystyr "Rheoliad 1688/2005" ("Regulation 1688/2005") yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1688/2005 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n ymwneud â gwarantau arbennig ynghylch salmonela ar gyfer traddodi cig ac wyau penodol i'r Ffindir a Sweden(13);

ystyr "Rheoliad 2073/2005" ("Regulation 2073/2005") yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2073/2005 ar feini prawf microbiolegol ar gyfer deunyddiau bwyd(14) fel y'i diwygiwyd gan Reoliad 1441/2007;

ystyr "Rheoliad 2074/2005" ("Regulation 2074/2005") yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2074/2005 sy'n gosod mesurau gweithredu ar gyfer rhai cynhyrchion o dan Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac ar gyfer trefniadaeth rheolaethau swyddogol o dan Reoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor a Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n rhanddirymu Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/2004(15) fel y'i diwygiwyd gan Reoliad 1664/2006, Rheoliad 1244/2007 a Rheoliad 1250/2008;

ystyr "Rheoliad 2075/2005" ("Regulation 2075/2005") yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2075/2005 sy'n gosod rheolau penodol ynghylch rheolaethau swyddogol ar gyfer Trichinella mewn cig(16) fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad 1245/2007;

ystyr "Rheoliad 2076/2005" ("Regulation 2076/2005") yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2076/2005 sy'n gosod trefniadau trosiannol ar gyfer gweithredu Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004, (EC) Rhif 854/2004 ac (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/2004(17) fel y'i diwygiwyd gan Reoliad 1666/2006, Rheoliad 479/2007, Rheoliad 1246/2007, Rheoliad 439/2008 a Rheoliad 146/2009;

ystyr "Rheoliad 1662/2006" ("Regulation 1662/2006") yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1662/2006 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n dod o anifeiliaid(18);

ystyr "Rheoliad 1663/2006" ("Regulation 1663/2006") yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1663/2006 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau penodol ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl(19);

ystyr "Rheoliad 1664/2006" ("Regulation 1664/2006") yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1664/2006 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2074/2005 o ran gweithredu mesurau ar gyfer rhai cynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl a diddymu rhai mesurau gweithredu(20);

ystyr "Rheoliad 1666/2006" ("Regulation 1666/2006") yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1666/2006 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2076/2005 sy'n gosod trefniadau trosiannol ar gyfer gweithredu Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004, (EC) Rhif 854/2004 ac (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor(21);

ystyr "Rheoliad 1791/2006" ("Regulation 1791/2006") yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1791/2006 sy'n addasu rhai Rheoliadau a Phenderfyniadau ym meysydd rhydd symudiad nwyddau, rhyddid i bersonau symud, cyfraith cwmnïau, polisi cystadleuaeth, amaethyddiaeth (gan gynnwys deddfwriaeth filfeddygol a ffytoiechydol), polisi trafnidiaeth, trethiant, ystadegaeth, ynni, yr amgylchedd, cydweithrediad ym meysydd cyfiawnder a materion cartref, undeb tollau, perthnasau allanol, polisi tramor a diogeledd cyffredin, a sefydliadau, oherwydd ymaelodi Bwlgaria a Romania(22);

ystyr "Rheoliad 479/2007" ("Regulation 479/2007") yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 479/2007 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2076/2005 sy'n gosod trefniadau trosiannol ar gyfer gweithredu Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004, (EC) Rhif 854/2004 ac (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac sy'n diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/2004(23);

ystyr "Rheoliad 1243/2007" ("Regulation 1243/2007") yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1243/2007 sy'n diwygio Atodiad III i Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n dod o anifeiliaid(24);

ystyr "Rheoliad 1244/2007" ("Regulation 1244/2007") yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1244/2007 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2074/2005 sy'n ymwneud â gweithredu mesurau ar gyfer rhai cynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl ac yn gosod rheolau penodol ar reolaethau swyddogol ar gyfer arolygu cig(25);

ystyr "Rheoliad 1245/2007" ("Regulation 1245/2007") yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1245/2007 sy'n diwygio Atodiad I i Reoliad (EC) Rhif 2075/2005, ynghylch defnyddio pepsin hylifol i ganfod Trichinella mewn cig(26);

ystyr "Rheoliad 1246/2007" ("Regulation 1246/2007") yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1246/2007 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2076/2005 ynghylch ymestyn y cyfnod trosiannol a ganiateir i weithredwyr busnes bwyd sy'n mewnforio olew pysgod a fwriedir i'w fwyta gan bobl(27);

ystyr "Rheoliad 1441/2007" ("Regulation 1441/2007") yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1441/2007 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2073/2005 ar feini prawf microbiolegol ar gyfer deunyddiau bwyd(28);

ystyr "Rheoliad 439/2008" ("Regulation 439/2008") yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 439/2008 sy'n diwygio Atodiad II i Reoliad (EC) Rhif 2076/2005 sy'n ymwneud â mewnforio cynhyrchion pysgodfeydd o Fiji(29);

ystyr "Rheoliad 1250/2008" ("Regulation 1250/2008") yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1250/2008 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2074/2005 sy'n ymwneud â'r gofynion ardystio ynghylch mewnforio cynhyrchion pysgodfeydd, molysgiaid deufalf byw, ecinodermiaid, tiwnigogion a gastropodau morol a fwriedir i'w bwyta gan bobl(30);

ystyr "Rheoliad 146/2009" ("Regulation 146/2009") yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 146/2009 sy'n diwygio Atodiad II i Reoliad (EC) Rhif 2076/2005 sy'n ymwneud â mewnforio cynhyrchion pysgodfeydd o Gameroon(31);

ystyr "Rheoliad 219/2009" ("Regulation 219/2009") yw Rheoliad (EC) Rhif 219/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor yn addasu nifer o offerynnau yn ddarostyngedig i'r weithdrefn y cyfeirir ati yn Erthygl 251 o'r Cytuniad i Benderfyniad y Cyngor 1999/468/EC o ran y weithdrefn reoleiddiol gyda chraffu: Addasu i'r weithdrefn reoleiddiol gyda chraffu - Rhan Dau(32);

ystyr "Rheoliad 596/2009" ("Regulation 596/2009") yw Rheoliad (EC) Rhif 596/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor yn addasu nifer o offerynnau yn ddarostyngedig i'r weithdrefn y cyfeirir ati yn Erthygl 251 o'r Cytuniad i Benderfyniad y Cyngor 1999/468/EC o ran y weithdrefn reoleiddiol gyda chraffu: Addasu i'r weithdrefn reoleiddiol gyda chraffu - Rhan Pedwar(33); ac

ystyr "Rheoliad 669/2009" ("Regulation 669/2009") yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 669/2009 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ynghylch y cynnydd yn lefel y rheolaethau swyddogol ar fewnforio bwyd anifeiliaid a bwyd nad yw'n dod o anifeiliaid ac yn diwygio Penderfyniad 2006/504/EC(34).".

Rheoliad 2(5)

ATODLEN 2 YR ATODLENNI A FEWNOSODIR YN UNION AR ÔL ATODLEN 3 I REOLIADAU HYLENDID BWYD (CYMRU) 2006

Rheoliad 17(5)

"ATODLEN 3A GOFYNION Y CYFEIRIR ATYNT YN RHEOLIAD 17(5)

Y gofynion yw–

(a) bod y lladd-dy ar 31 Rhagfyr 2005 yn un a drwyddedwyd yn lladd-dy trwybwn isel o dan Reoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Arolygu) 1995(35);

(b) mai dim ond yn anaml y bydd cyflwr cig sy'n tarddu o garnolion domestig a gigyddwyd yn y lladd-dy yn ei gwneud yn angenrheidiol dal gafael ar y cig hwnnw ar ôl arolygiad post-mortem er mwyn i'r milfeddyg swyddogol wneud arolygiad pellach ohono;

(c) pan fo arolygiad pellach o'r fath yn angenrheidiol ym marn y milfeddyg swyddogol, bod y cig o dan sylw yn cael ei ddifa neu fod gafael yn cael ei ddal arno mewn cyfleuster dal gafael amgen yng nghyffiniau'r lladd-dy;

(ch) pan fo cig yn cael ei gludo o'r lladd-dy i'r cyfleuster dal gafael amgen y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (c), rhaid ei farcio â'r geiriau 'detained meat' a rhaid bod gydag ef ddogfen sydd wedi ei llofnodi gan y milfeddyg swyddogol, sy'n datgan bod y cig yn gig y mae gafael yn cael ei ddal arno ac sy'n cynnwys yr wybodaeth a ganlyn–

(i) enw a chyfeiriad y lladd-dy gwreiddiol;

(ii) enw a chyfeiriad y cyfleuster dal gafael amgen;

(iii) nifer y carcasau neu'r darnau; a

(iv) rhywogaeth yr anifail; a

(d) nad oes unrhyw waith prosesu at ddibenion eu bwyta gan bobl yn cael ei wneud ar anifeiliaid buchol y mae'n ofynnol, yn unol â phwynt 2 Rhan I o Bennod A o Atodiad III i Reoliad TSE y Gymuned, eu profi i weld a oes BSE arnynt adeg eu cigydda neu anifeiliaid o deulu'r mochyn (anifeiliaid hela domestig a rhai a ffermir), uncarnolion a rhywogaethau eraill anifeiliaid a allai gael Trichinosis y mae'n ofynnol, o dan Erthygl 5 o Reoliad 854/2004 fel y'i darllenir gyda phwynt 1 Rhan C o Bennod IX Adran IV o Atodiad I i'r Rheoliad hwnnw, eu harchwilio i weld a oes Trichinosis arnynt, yn digwydd yn y lladd-dy.

Rheoliad 17(6)

ATODLEN 3B GOFYNION Y CYFEIRIR ATYNT YN RHEOLIAD 17(6)

Y gofynion yw–

(a) bod y lladd-dy ar 31 Rhagfyr 2005 yn un a drwyddedwyd yn lladd-dy trwybwn isel o dan Reoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela a Ffermir a Chig Cwningen (Hylendid ac Arolygu) 1995(42);

(b) mai dim ond yn anaml y bydd cyflwr cig sy'n tarddu o ddofednod neu lagomorffiaid a gigyddwyd yn y lladd-dy yn ei gwneud yn angenrheidiol dal gafael ar y cig hwnnw ar ôl arolygiad post-mortem er mwyn i'r milfeddyg swyddogol wneud arolygiad pellach ohono;

(c) pan fo arolygiad pellach o'r fath yn angenrheidiol ym marn y milfeddyg swyddogol, bod y cig o dan sylw yn cael ei ddifa neu fod gafael yn cael ei ddal arno mewn cyfleuster dal gafael amgen yng nghyffiniau'r lladd-dy; ac

(ch) pan fo cig yn cael ei gludo o'r lladd-dy i'r cyfleuster dal gafael amgen y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (c), rhaid ei farcio â'r geiriau 'detained meat' a rhaid bod gydag ef ddogfen sydd wedi ei llofnodi gan y milfeddyg swyddogol, sy'n datgan bod y cig yn gig y mae gafael yn cael ei ddal arno ac sy'n cynnwys yr wybodaeth a ganlyn–

(i) enw a chyfeiriad y lladd-dy gwreiddiol;

(ii) enw a chyfeiriad y cyfleuster dal gafael amgen;

(iii) nifer y carcasau neu'r darnau; a

(iv) rhywogaeth yr anifail.

Rheoliad 17(7)

ATODLEN 3C GOFYNION Y CYFEIRIR ATYNT YN RHEOLIAD 17(7)

Y gofynion yw–

(a) bod y lladd-dy ar 31 Rhagfyr 2005 yn un a drwyddedwyd yn lladd-dy trwybwn isel o dan Reoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Arolygu) 1995(43);

(b) mai dim ond carnolion domestig sydd wedi eu cludo'n uniongyrchol o'r daliad gwreiddiol neu o farchnad y mae'r gweithredwr busnes bwyd yn y lladd-dy yn eu derbyn;

(c) bod y gweithredwr busnes bwyd sy'n gyfrifol am gludo'r carnolion domestig yn rhoi ymgymeriad ysgrifenedig i'r gweithredwr busnes bwyd yn y lladd-dy mai ef sydd i sicrhau bod y cyfryngau cludo yn cael eu glanhau ac, os yw'n angenrheidiol, yn cael eu diheintio ar ôl eu gwagio;

(ch) bod y gweithredwr busnes bwyd yn y lladd-dy yn cadw'r ymgymeriad y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (c) am flwyddyn; a

(d) bod y gweithredwr busnes bwyd yn y lladd-dy yn cydnabod wrth y milfeddyg swyddogol y gallai fod yn ofynnol iddo o dan reolau iechyd anifeiliaid ymatal rhag gweithredu yn y lladd-dy os byddai clefyd anifeiliaid yn brigo.

Rheoliad 17(8)

ATODLEN 3Ch GOFYNION Y CYFEIRIR ATYNT YN RHEOLIAD 17(8)

Y gofynion yw–

(a) bod y lladd-dy ar 31 Rhagfyr 2005 yn un a drwyddedwyd yn lladd-dy trwybwn isel o dan Reoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela a Ffermir a Chig Cwningen (Hylendid ac Arolygu) 1995(44);

(b) bod y gweithredwr busnes bwyd yn naliad gwreiddiol y dofednod neu'r lagomorffiaid yn eu cludo o'r daliad hwnnw yn uniongyrchol i'r lladd-dy ac yn rhoi ymgymeriad ysgrifenedig i'r gweithredwr busnes bwyd yn y lladd-dy mai ef sydd i sicrhau bod y cyfryngau cludo yn cael eu glanhau ac, os yw'n angenrheidiol, yn cael eu diheintio ar ôl eu gwagio;

(c) bod y gweithredwr busnes bwyd yn y lladd-dy yn cadw'r ymgymeriad y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (b) am flwyddyn; ac

(ch) bod y gweithredwr busnes bwyd yn y lladd-dy yn cydnabod wrth y milfeddyg swyddogol y gallai fod yn ofynnol iddo o dan reolau iechyd anifeiliaid ymatal rhag gweithredu yn y lladd-dy os byddai clefyd anifeiliaid yn brigo.".

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006 (O.S. 2006/31 (Cy.5), fel y'i diwygiwyd eisoes) drwy ddiweddaru'r diffiniadau o rai o offerynnau'r UE y cyfeirir atynt yn y Rheoliadau hynny a thrwy ddarparu, pan ydys wedi cydymffurfio â rhai gofynion, na fernir bod person wedi mynd yn groes i ddarpariaethau penodedig Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor neu ei fod wedi methu â chydymffurfio â hwy a hwnnw'n Rheoliad sy'n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n dod o anifeiliaid (OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.55; mae testun diwygiedig y Rheoliad hwnnw wedi ei osod bellach mewn Corigendwm, OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.22, y mae'n rhaid ei ddarllen gyda Chorigendwm pellach, OJ Rhif L204, 4.8.2007, t.26).

2. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006 i ddiweddaru'r diffiniadau o rai o offerynnau'r UE drwy–

(a) rhoi cyfeiriadau at offerynnau UE penodedig yn lle'r cyfeiriadau at offerynnau'r UE sy'n ymddangos ar hyn o bryd ar ôl y diffiniad o "mangre" ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli) (rheoliad 2(2)); a

(b) rhoi Atodlen 1 ddiwygiedig (diffiniadau o ddeddfwriaeth UE) yn lle'r Atodlen 1 bresennol (diffiniadau o ddeddfwriaeth Gymunedol) (rheoliad 2(4)).

3. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio hefyd Reoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006 i ddarparu, pan ydys wedi cydymffurfio â rhai gofynion, na fernir bod person wedi mynd yn groes i ddarpariaethau penodedig Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 neu ei fod wedi methu â chydymffurfio â hwy. Maent yn gwneud hynny drwy roi rheoliad 17 diwygiedig (tramgwyddau a chosbau) yn lle'r hen un a thrwy fewnosod Atodlenni 3A, 3B, 3C a 3Ch (rheoliad 2(3) a (5)).

4. Mae'r rheoliad 17(5) newydd yn dweud, ar yr amod yr ydys wedi cydymffurfio â gofynion yr Atodlen 3A newydd, na fernir bod person wedi mynd yn groes i Erthygl 3(1) neu 4(1)(a) o Reoliad (EC) Rhif 853/2004 neu wedi methu â chydymffurfio â hi, o'i darllen yn y naill achos neu'r llall gyda pharagraff 5 o Bennod II o Adran I o Atodiad III i'r Rheoliad hwnnw (gweithredwyr busnesau bwyd i sicrhau bod gan ladd-dai lle y mae carnolion domestig yn cael eu cigydda gyfleusterau cloadwy i storio cig y daliwyd gafael arno mewn oergell a chyfleusterau cloadwy ar wahân i storio cig y datganwyd ei fod yn anffit i'w fwyta gan bobl).

5. Mae'r rheoliad 17(6) newydd yn dweud, ar yr amod yr ydys wedi cydymffurfio â gofynion yr Atodlen 3B newydd, na fernir bod person wedi mynd yn groes i Erthygl 3(1) neu 4(1)(a) o Reoliad (EC) Rhif 853/2004 neu wedi methu â chydymffurfio â hi, o'i darllen yn y naill achos neu'r llall gyda pharagraff 5 o Bennod II o Adran II o Atodiad III i'r Rheoliad hwnnw (gweithredwyr busnesau bwyd i sicrhau bod gan ladd-dai lle y mae dofednod neu lagomorffiaid yn cael eu cigydda gyfleusterau cloadwy i storio cig y daliwyd gafael arno mewn oergell a chyfleusterau cloadwy ar wahân i storio cig y datganwyd ei fod yn anffit i'w fwyta gan bobl).

6. Mae'r rheoliad 17(7) newydd yn dweud, ar yr amod yr ydys wedi cydymffurfio â gofynion yr Atodlen 3C newydd, na fernir bod person wedi mynd yn groes i Erthygl 3(1) neu 4(1)(a) o Reoliad (EC) Rhif 853/2004 neu wedi methu â chydymffurfio â hi, o'i darllen yn y naill achos neu'r llall gyda pharagraff 6 o Bennod II o Adran I o Atodiad III i'r Rheoliad hwnnw (gweithredwyr busnesau bwyd i sicrhau bod gan ladd-dai lle y mae carnolion domestig yn cael eu cigydda fan ar wahân gyda chyfleusterau priodol i lanhau, golchi a diheintio cyfryngau cludo ar gyfer da byw onid yw'r awdurdod cymwys yn caniatáu iddynt beidio â chael mannau o'r fath a bod mannau a chyfleusterau awdurdodedig swyddogol yn bodoli wrth law).

7. Mae'r rheoliad 17(8) newydd yn dweud, ar yr amod yr ydys wedi cydymffurfio â gofynion yr Atodlen 3Ch newydd, na fernir bod person wedi mynd yn groes i Erthygl 3(1) neu 4(1)(a) o Reoliad (EC) Rhif 853/2004 neu wedi methu â chydymffurfio â hi, o'i darllen yn y naill achos neu'r llall gyda pharagraff 6(b) o Bennod II o Adran II o Atodiad III i'r Rheoliad hwnnw (gweithredwyr busnesau bwyd i sicrhau bod gan ladd-dai lle y mae dofednod neu lagomorffiaid yn cael eu cigydda fan ar wahân gyda chyfleusterau priodol i lanhau, golchi a diheintio cyfryngau cludo onid oes mannau a chyfleusterau sydd wedi eu hawdurdodi'n swyddogol yn bodoli wrth law).

8. Mae asesiad effaith rheoleiddiol llawn wedi ei wneud mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn ac mae ar gael gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Tŷ Southgate, Caerdydd, CF10 1EW.

(1)

1972 p.68. Back [1]

(2)

O.S. 2005/1971. Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraffau 28 a 30 o Atodlen 11 iddi, mae swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan y dynodiad hwn yn arferadwy gan Weinidogion Cymru. Back [2]

(3)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 596/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor yn addasu nifer o offerynnau sy'n ddarostyngedig i'r weithdrefn y cyfeirir ati yn Erthygl 251 o'r Cytuniad i Benderfyniad y Cyngor 1999/468/EC ynghylch y weithdrefn reoleiddiol gyda chraffu: Addasu i'r weithdrefn reoleiddiol gyda chraffu – Rhan Pedwar (OJ Rhif L188, 18.7.2009, t.14). Back [3]

(4)

O.S. 2006/31 (Cy. 5), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2007/373 (Cy. 33). Back [4]

(5)

OJ Rhif L320, 18.11.2006, t.53. Back [5]

(6)

OJ Rhif L328, 15.12.2009, t.70. Back [6]

(7)

OJ Rhif L157, 30.4.2004, t.33. Mae testun diwygiedig Cyfarwyddeb 2004/41/EC bellach wedi ei osod mewn Corigendwm (OJ Rhif L195, 2.6.2004, t.12). Back [7]

(8)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Back [8]

(9)

OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.1. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 bellach wedi ei osod mewn Corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.3) y mae'n rhaid ei ddarllen gyda Chorigendwm pellach (OJ Rhif L204, 4.8.2007, t.26). Back [9]

(10)

OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.55. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 bellach wedi ei osod mewn Corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.22) y mae'n rhaid ei ddarllen gyda Chorigendwm pellach (OJ Rhif L204, 4.8.2007, t.26). Back [10]

(11)

OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.206. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 854/2004 bellach wedi ei osod mewn Corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.83) y mae'n rhaid ei ddarllen gyda Chorigendwm pellach (OJ Rhif L204, 4.8.2007, t.26). Back [11]

(12)

OJ Rhif L165, 30.4.2004, t.1. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 bellach wedi ei osod mewn Corigendwm (OJ Rhif L191, 28.5.2004, t.1) y mae'n rhaid ei ddarllen gyda Chorigendwm pellach (OJ Rhif L204, 4.8.2007, t.29). Back [12]

(13)

OJ Rhif L271, 15.10.2005, t.17. Back [13]

(14)

OJ Rhif L338, 22.12.2005, t.1, fel y'i darllenir gyda'r corigenda yn OJ Rhif L278, 10.10.2006, t.32 ac OJ Rhif L283, 14.10.2006, t.62. Back [14]

(15)

OJ Rhif L338, 22.12.2005, t.27. Back [15]

(16)

OJ Rhif L338, 22.12.2005, t.60. Back [16]

(17)

OJ Rhif L338, 22.12.2005, t.83. Back [17]

(18)

OJ Rhif L320, 18.11.2006, t.1. Back [18]

(19)

OJ Rhif L320, 18.11.2006, t.11. Back [19]

(20)

OJ Rhif L320, 18.11.2006, t.13. Back [20]

(21)

OJ Rhif L320, 18.11.2006, t.47. Back [21]

(22)

OJ Rhif L363, 20.12.2006, t.1. Back [22]

(23)

OJ Rhif L111, 28.4.2007, t. 46. Back [23]

(24)

OJ Rhif L281, 25.10.2007, t.8. Back [24]

(25)

OJ Rhif L281, 25.10.2007, t.12. Back [25]

(26)

OJ Rhif L281, 25.10.2007, t.19. Back [26]

(27)

OJ Rhif L281, 25.10.2007, t.21. Back [27]

(28)

OJ Rhif L322, 7.12.2007, t.12. Back [28]

(29)

OJ Rhif L132, 22.5.2008, t.16. Back [29]

(30)

OJ Rhif L337, 16.12.2008, t.31. Back [30]

(31)

OJ Rhif L50, 21.2.2009, t.3. Back [31]

(32)

OJ Rhif L87, 31.3.2009, t.109. Back [32]

(33)

OJ Rhif L188, 18.7.2009, t.14. Back [33]

(34)

OJ Rhif L194, 25.7.2009, t.11. Back [34]

(35)

O.S. 1995/539, a ddirymwyd gan O.S. 2005/3292 (Cy. 252). Back [35]

(36)

OJ Rhif L147, 31.5.2001, t.1. Back [36]

(37)

OJ Rhif L87, 31.3.2009, t.155. Back [37]

(38)

OJ Rhif L155, 15.6.2007, t.74. Back [38]

(39)

OJ Rhif L172, 30.6.2007, t.84. Back [39]

(40)

OJ Rhif L256, 29.9.2009, t.35. Back [40]

(41)

OJ Rhif L35, 6.2.2010, t.21. Back [41]

(42)

O.S. 1995/540, a ddirymwyd gan O.S. 2005/3292 (Cy.252). Back [42]

(43)

O.S. 1995/539, a ddirymwyd gan O.S. 2005/3292 (Cy.252). Back [43]

(44)

O.S. 1995/540, a ddirymwyd gan O.S. 2005/3292 (Cy. 252). Back [44]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2010/wsi_20100893_we_1.html