BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau Wyau a Chywion (Cymru) 2010 No. 1671 (Cy. 158) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2010/wsi_20101671_we_1.html |
[New search] [Help]
Gwnaed
22 Mehefin 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
25 Mehefin 2010
Yn dod i rym
16 Gorffennaf 2010
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) o ran polisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer diben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, ac mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru yn hwylus i unrhyw gyfeiriad at y Rheoliadau canlynol gael ei ddehongli fel cyfeiriad at y Rheoliadau hynny fel y'u diwygir o bryd i'w gilydd–
(a) Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007(3) sy'n sefydlu trefniadaeth gyffredin o farchnadoedd amaethyddol ac sy'n gosod darpariaethau penodol ar gyfer cynhyrchion amaethyddol penodol (y Rheoliad Sengl CMO);
(b) Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008(4) sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 1234/2007 o ran safonau marchnata ar gyfer wyau; ac
(c) Rheoliad y Comisiwn (EC) 617/2008(5) sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 1234/2007 o ran safonau marchnata ar gyfer wyau deor a chywion dofednod buarth fferm.
I'r graddau y gwneir y Rheoliadau hyn wrth arfer pwerau o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(6), mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd fel sy'n ofynnol gan adran 48(4A)(7) o'r Ddeddf honno.
Ymgynghorwyd yn agored a thryloyw â'r cyhoedd wrth baratoi'r Rheoliadau canlynol yn unol â gofynion Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor(8) sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd.
Yn unol â hyn, mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan–
1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Wyau a Chywion (Cymru) 2010 a deuant i rym ar 16 Gorffennaf 2010.
(2) Maent yn gymwys o ran Cymru.
2. Dirymir Rheoliadau Wyau a Chywion (Cymru) 2009(16).
3.–(1) Yn y Rheoliadau hyn–
ystyr "awdurdod bwyd" ("food authority") yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol;
ystyr "awdurdod gorfodi" ("enforcement authority") yw awdurdod sy'n arfer swyddogaeth a roddir iddo gan reoliad 17;
mae i "canolfan becynnu" yr ystyr a roddir i "packing centre" gan is-baragraff (q) o ail baragraff Erthygl 1 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008;
ystyr "cosb" ("penalty") yw'r swm a bennir mewn hysbysiad cosb;
ystyr "Cyfarwyddeb y Cyngor 1999/74/EC" ("Council Directive 1999/74/EC") yw Cyfarwyddeb y Cyngor 1999/74/EC(17) sy'n gosod y safonau gofynnol ar gyfer amddiffyn ieir dodwy;
ystyr "Cyfarwyddeb 2000/13/EC" ("Directive 2000/13/EC") yw Cyfarwyddeb 2000/13/EC(18) Senedd Ewrop a'r Cyngor ar gyd-ddynesiad cyfreithiau'r Aelod-wladwriaethau sy'n ymwneud â labelu, cyflwyno a hysbysebu deunydd bwyd;
mae i "cywion" yr ystyr a roddir i "chicks" gan Erthygl 1(2) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 617/2008;
mae i "defnyddiwr terfynol" yr ystyr a roddir i "final consumer" gan is-baragraff (r) o ail baragraff Erthygl 1 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008;
mae i "deorfa" yr ystyr a roddir i "hatchery" gan Erthygl 1(3)(c) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 617/2008;
ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;
ystyr "gwerthu o dŷ i dŷ" ("door-to-door selling") yw gwerthu yn ystod ymweliad digymell gan gynhyrchydd â chartref y defnyddiwr terfynol, neu â chartref person arall, neu â gweithle'r defnyddiwr terfynol;
ystyr "hysbysiad cosb" ("penalty notice") yw hysbysiad sy'n cynnig y cyfle, drwy dalu swm penodedig yn unol â'r Rheoliadau hyn, i ymryddhau o fod yn agored i gollfarn am y tramgwydd cosb y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef;
ystyr "marchnad" ("market") yw–
marchnad neu ffair y caffaelwyd yr hawl i'w chynnal yn rhinwedd grant (gan gynnwys grant tybiedig), neu y caffaelwyd neu sefydlwyd yn rhinwedd deddfiad neu is-ddeddfwriaeth; a
marchnad dros dro–
sy'n cynnwys ymgynulliad o brynwyr a gwerthwyr eitemau, ac a gynhelir rywfodd heblaw mewn adeilad neu a gynhelir ar briffordd, heb ddim llai na phum bwth, stondin, cerbyd (symudadwy ai peidio) neu safleoedd y gwerthir yr eitemau ohonynt; a
y rhoddwyd ar ei chyfer unrhyw hysbysiad sy'n ofynnol o dan adran 37(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982(19);
ystyr "marchnad gyhoeddus leol" ("local public market"), mewn perthynas ag wyau a ddodwyir mewn safle cynhyrchu, yw–
marchnad gyhoeddus sydd o fewn radiws o 80 cilometr o ffin y safle cynhyrchu; neu
pan fo marchnad gyhoeddus yn rhannol o fewn radiws o 80 cilometr o ffin y safle cynhyrchu ac yn rhannol y tu allan i radiws o 80 cilometr o ffin y safle cynhyrchu, y cyfan o'r farchnad honno;
ystyr "rhanbarth" ("region") yw rhanbarth etholiadol o fewn ystyr adran 1(2)(b) o Ddeddf Etholiadau Senedd Ewrop 2002:
ystyr "rhanbarth cynhyrchu" ("region of production") mewn perthynas ag wyau sy'n cael eu marchnata gan gynhyrchydd yn uniongyrchol i'r defnyddwyr terfynol drwy werthu o dŷ i dŷ neu mewn marchnad gyhoeddus leol yw–
pan fo'r safle cynhyrchu lle cynhyrchir yr wyau hynny o fewn un rhanbarth–
yr ardal o fewn radiws o 80 cilometr o ffin y safle cynhyrchu; a
unrhyw ran o'r rhanbarth hwnnw sydd y tu allan i'r radiws hwnnw o 80 cilometr o ffin y safle cynhyrchu; a
pan fo'r safle cynhyrchu lle cynhyrchir yr wyau hynny yn rhannol mewn un rhanbarth ac yn rhannol mewn un neu ragor o ranbarthau eraill–
yr ardal sy'n cynnwys yr ardal o fewn radiws o 80 cilometr o ffin y safle cynhyrchu; a
unrhyw ran o'r rhanbarth mwyaf y mae'r safle wedi ei leoli ynddo, sydd y tu allan i'r radiws o 80 cilometr o ffin y safle cynhyrchu;
ystyr "Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003" ("Regulation (EC) No 2160/2003") yw Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003(20) Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reoli Salmonella a chyfryngau milheintiol penodedig eraill a gludir mewn bwyd;
ystyr "y Rheoliad Sengl CMO" ("Single CMO Regulation") yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 sy'n sefydlu trefniadaeth gyffredin o farchnadoedd amaethyddol ac sy'n gosod darpariaethau penodol ar gyfer cynhyrchion amaethyddol penodol (y Rheoliad Sengl CMO), fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd;
ystyr "Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008" ("Commission Regulation (EC) No 589/2008") yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 1234/2007 o ran safonau marchnata ar gyfer wyau, fel y'i diwygiwyd o bryd i'w gilydd;
ystyr "Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 617/2008" ("Commission Regulation (EC) No 617/2008") yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 617/2008 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 1234/2007 o ran safonau marchnata ar gyfer wyau deor a chywion dofednod buarth fferm, fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd;
mae i "safle cynhyrchu" yr ystyr a roddir i "production site" gan is-baragraff (p) o ail baragraff Erthygl 1 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008;
mae i "sefydliad bridio" yr ystyr a roddir i "breeding establishment" gan Erthygl 1(3)(b) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 617/2008;
mae i "sefydliad bridio pedigri" yr ystyr a roddir i "pedigree breeding establishment" gan Erthygl 1(3)(a) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 617/2008;
ystyr "swyddog" ("officer")–
mewn perthynas â chorff corfforaethol yw cyfarwyddwr, aelod o'r pwyllgor rheoli, prif weithredwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog arall cyffelyb o'r corff; a
mewn perthynas â chorff anghorfforedig, yw unrhyw aelod o'i gorff llywodraethu, neu brif weithredwr, rheolwr neu swyddog cyffelyb o'r corff;
ystyr "swyddog awdurdodedig" ("authorised officer") yw unrhyw berson a awdurdodwyd yn ysgrifenedig gan awdurdod gorfodi i weithredu mewn cysylltiad â materion sy'n codi o dan neu mewn perthynas â'r Ddeddf neu â'r Rheoliadau hyn;
ystyr "tramgwydd cosb" ("penalty offence") yw tramgwydd y caniateir rhoi hysbysiad cosb ar ei gyfer o dan reoliad 30;
mae i "wyau" yr ystyr a roddir i "eggs" yn is-baragraff (k) o ail baragraff Erthygl 1 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008; ac
mae i "wyau deor" yr ystyr a roddir i "eggs for hatching" gan Erthygl 1(1) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 617/2008.
(2) Mae i unrhyw ymadrodd nas diffinnir ym mharagraff (1), ond a ddefnyddir yn Rhan 2 o'r Rheoliadau hyn neu yn Atodlen 1 iddynt, ac y defnyddir yr ymadrodd Saesneg sy'n cyfateb iddo yn Rhan C o Atodiad XIV i'r Rheoliad Sengl CMO, yr un ystyr yn y darpariaethau hynny yn y Rheoliadau hyn ag y sydd i'r ymadrodd Saesneg cyfatebol yn y Rheoliad Sengl CMO.
(3) Mae i unrhyw ymadrodd nas diffinnir ym mharagraff (1), ond a ddefnyddir yn Rhannau 3 neu 4 o'r Rheoliadau hyn, neu yn Atodlen 2 iddynt, ac y defnyddir yr ymadrodd Saesneg sy'n cyfateb iddo yn Rhan A o Atodiad XIV i'r Rheoliad Sengl CMO neu yn Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008, yr un ystyr yn y darpariaethau hynny yn y Rheoliadau hyn ag y sydd i'r ymadrodd Saesneg cyfatebol yn y Rheoliad CE lle y'i defnyddir.
(4) Mae i unrhyw ymadrodd nas diffinnir ym mharagraff (1), ond a ddefnyddir yn Atodlen 3 i'r Rheoliadau hyn, ac y defnyddir yr ymadrodd Saesneg sy'n cyfateb iddo yn Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003, yr ystyr sydd i'r ymadrodd Saesneg cyfatebol yn Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003.
(5) Ystyr unrhyw gyfeiriad at fynd yn groes i unrhyw ddarpariaeth a grybwyllir yn Atodlen 1, neu at fethiant i gydymffurfio â darpariaeth o'r fath, yw mynd yn groes i'r canlynol neu fethiant i gydymffurfio â'r canlynol–
(a) unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliad Sengl CMO a grybwyllir yng ngholofn 1 yn Rhan 1 o Atodlen 1, fel y'i darllenir ar y cyd ag unrhyw ddarpariaeth a grybwyllir mewn unrhyw gofnod cyfatebol yng ngholofn 2 yn y Rhan honno; neu
(b) unrhyw ddarpariaeth yn Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 617/2008 a grybwyllir yng ngholofn 1 yn Rhan 2 o Atodlen 1, fel y'i darllenir ar y cyd ag unrhyw ddarpariaeth a grybwyllir mewn unrhyw gofnod cyfatebol yng ngholofn 2 yn y Rhan honno.
(6) Ystyr unrhyw gyfeiriad at fynd yn groes i unrhyw ddarpariaeth a grybwyllir yn Atodlen 2, neu fethiant i gydymffurfio â darpariaeth o'r fath, yw mynd yn groes i'r canlynol, neu fethiant i gydymffurfio â'r canlynol–
(a) unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliad Sengl CMO a grybwyllir yng ngholofn 1 yn Rhan 1 o Atodlen 2, fel y'i darllenir ar y cyd ag unrhyw ddarpariaeth a grybwyllir mewn unrhyw gofnod cyfatebol yng ngholofn 2 yn y Rhan honno; neu
(b) unrhyw ddarpariaeth yn Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 a grybwyllir yng ngholofn 1 yn Rhan 2 o Atodlen 2, fel y'i darllenir ar y cyd ag unrhyw ddarpariaeth a grybwyllir mewn unrhyw gofnod cyfatebol yng ngholofn 2 yn y Rhan honno.
(7) Ystyr unrhyw gyfeiriad at fynd yn groes i unrhyw ddarpariaeth a grybwyllir yn Atodlen 3, neu fethiant i gydymffurfio â darpariaeth o'r fath, yw mynd yn groes i, neu fethiant i gydymffurfio ag, unrhyw ddarpariaeth o Reoliad (EC) Rhif 2160/2003 a grybwyllir yng ngholofn 1 o Atodlen 3, fel y'i darllenir ar y cyd ag unrhyw ddarpariaeth a grybwyllir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2 o'r Atodlen honno.
4.–(1) Mae'r Rhan hon yn gymwys i wyau deor a chywion y mae pwynt I(1) o Ran C o Atodiad XIV i'r Rheoliad Sengl CMO a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 617/2008 yn gymwys iddynt.
(2) Ond nid yw'n gymwys i sefydliadau a deorfeydd o'r math y cyfeirir ato ym mhwynt I(2) o Ran C o Atodiad XIV i'r Rheoliad Sengl CMO.
5. Mae person yn euog o dramgwydd os yw'n mynd yn groes i unrhyw ddarpariaeth a grybwyllir yn Atodlen 1, neu'n methu â chydymffurfio â darpariaeth o'r fath.
6.–(1) Dynodwyd Gweinidogion Cymru yn asiantaeth gymwys at ddiben Erthygl 2(1) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 617/2008 (cofrestru sefydliadau bridio pedigri, sefydliadau bridio eraill a deorfeydd).
(2) Os gwneir cais i Weinidogion Cymru yn unol ag Erthygl 2(1) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 617/2008, rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad i'r ceisydd i'w hysbysu o'r materion a grybwyllir ym mharagraff (3), o fewn cyfnod o 28 diwrnod sy'n cychwyn ar y diwrnod sy'n dilyn y diwrnod pan fo Gweinidogion Cymru'n cael y cais.
(3) Y materion yw–
(a) penderfyniad Gweinidogion Cymru ar y cais;
(b) y rhesymau dros unrhyw wrthodiad i ganiatáu'r cais; ac
(c) yn achos unrhyw wrthodiad i ganiatáu'r cais, yr hawl i apelio a roddir gan reoliad 23 o'r Rheoliadau hyn.
(4) Os na fodlonir Gweinidogion Cymru y dylid caniatáu'r cais, yna (cyn penderfynu'n derfynol a ddylid gwrthod y cais ai peidio), cânt roi hysbysiad i'r ceisydd i'w hysbysu o'r rhesymau dros hynny, ac-
(a) os nad yw Gweinidogion Cymru'n fodlon bod y data a ddarparwyd i gefnogi'r cais yn ddigonol, cânt ofyn i'r ceisydd ddarparu rhagor o ddata;
(b) os nad yw Gweinidogion Cymru'n fodlon y cydymffurfir ar ôl cofrestru'r sefydliad hwnnw â'r holl ddarpariaethau a grybwyllir yn Atodlen 1 ac sy'n berthnasol i'r math o sefydliad sydd i'w gofrestru, caiff Gweinidogion Cymru ofyn i'r ceisydd gymryd camau penodedig i sicrhau y cydymffurfir â'r darpariaethau hynny; ac
(c) caiff Gweinidogion Cymru roi cyfle i'r ceisydd ddarparu ar eu cyfer esboniadau llafar neu ysgrifenedig mewn cysylltiad â'r cais.
(5) Os bydd Gweinidogion Cymru'n penderfynu tynnu'n ôl cofrestriad sefydliad bridio pedigri, sefydliad bridio arall neu ddeorfa oherwydd mynd yn groes i unrhyw ddarpariaeth a grybwyllir yn Atodlen 1 neu oherwydd methiant i gydymffurfio â darpariaeth o'r fath, rhaid iddynt roi hysbysiad i'r person sy'n cynnal busnes yn y sefydliad dan sylw ("P") i'w hysbysu o'r materion a grybwyllir ym mharagraff (6).
(6) Y materion yw–
(a) penderfyniad Gweinidogion Cymru i dynnu'n ôl y cofrestriad;
(b) y dyddiad y bydd tynnu'n ôl y cofrestriad yn effeithiol;
(c) y rhesymau dros dynnu'n ôl y cofrestriad; ac
(ch) yr hawl i apelio a roddir gan reoliad 23 o'r Rheoliadau hyn.
(7) Os bydd Gweinidogion Cymru â'u bryd ar dynnu'n ôl cofrestriad sefydliad bridio pedigri, sefydliad bridio arall neu ddeorfa, oherwydd mynd yn groes i unrhyw ddarpariaeth a grybwyllir yn Atodlen 1 neu fethiant i gydymffurfio â darpariaeth o'r fath, yna caiff Gweinidogion Cymru (cyn penderfynu'n derfynol a ddylid tynnu'n ôl y cofrestriad ai peidio) roi hysbysiad i P i'w hysbysu bod Gweinidogion Cymru â'u bryd ar dynnu'n ôl y cofrestriad, gan roi'r rhesymau dros wneud hynny, ac–
(a) os yw'r mynd yn groes i unrhyw ddarpariaeth a grybwyllir yn Atodlen 1 neu'r methiant i gydymffurfio â darpariaeth o'r fath, yn parhau, caiff Gweinidogion Cymru ofyn i P gymryd camau penodedig i sicrhau y cydymffurfir â'r ddarpariaeth; a
(b) caiff Gweinidogion Cymru roi cyfle i P ddarparu esboniadau llafar neu ysgrifenedig i Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â'r mater.
(8) Pan fo Gweinidogion Cymru'n rhoi hysbysiad i geisydd o dan baragraff (4), neu i P o dan baragraff (7), rhaid iddynt bennu terfyn amser yn yr hysbysiad, erbyn pryd y bydd rhaid cymryd unrhyw gamau a grybwyllir yn yr hysbysiad.
(9) Caniateir estyn unrhyw derfyn amser a bennir gan Weinidogion Cymru o dan y rheoliad hwn, unwaith neu nifer o weithiau.
(10) At y diben o gyfrifo'r terfyn amser o 28 diwrnod a grybwyllir ym mharagraff (2), rhaid peidio â chyfrif unrhyw gyfnod o amser a ganiateir gan Weinidogion Cymru i'r ceisydd gymryd unrhyw gamau a grybwyllir mewn hysbysiad o dan baragraff (4).
7.–(1) Caniateir i wyau deor gael eu marcio ag unrhyw farc du haniaethol, ac eithrio smotyn, yn hytrach na chael eu marcio â rhif adnabod y sefydliad cynhyrchu (a fyddai, fel arall, yn ofynnol o dan Erthygl 3(2) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 617/2008) os cydymffurfir â'r amodau a grybwyllir ym mharagraff (2).
(2) Yr amodau yw–
(a) bod y marc yn annileadwy, y gellir ei weld yn eglur, a bod ei arwynebedd yn 10 mm2 o leiaf: a
(b) bod yr wyau'n cael eu marcio cyn eu rhoi yn y deorydd, naill ai yn y sefydliad cynhyrchu neu mewn deorfa.
8.–(1) Mae'r Rhan hon yn gymwys i wyau y mae pwynt I(1) o Ran A o Atodiad XIV i'r Rheoliad Sengl CMO a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 yn gymwys (wyau yn eu plisgyn ar gyfer eu bwyta, a gynhyrchir gan ieir o'r rhywogaeth Gallus gallus).
(2) Ond nid yw'n gymwys i'r canlynol–
(a) gwerthu wyau y mae pwynt I(1) o Ran A o Atodiad XIV i'r Rheoliad Sengl CMO a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 yn gymwys iddynt, pan werthir yr wyau heb unrhyw raddio o ran ansawdd na phwysau, yn uniongyrchol i'r defnyddiwr terfynol gan y cynhyrchydd–
(i) ar y safle cynhyrchu; neu
(ii) drwy werthu o dŷ i dŷ yn y rhanbarth cynhyrchu; neu
(b) ac eithrio mor bell ag y mae'n ymwneud â'r gofyniad a osodir gan bwynt III(3) o Ran A o Atodiad XIV i'r Rheoliad Sengl CMO, i werthu wyau y mae pwynt I(1) o Ran A o Atodiad XIV i'r Rheoliad Sengl CMO a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 yn gymwys iddynt, pan werthir yr wyau heb unrhyw raddio o ran ansawdd na phwysau, yn uniongyrchol i'r defnyddiwr terfynol gan y cynhyrchydd mewn marchnad gyhoeddus leol yn y rhanbarth cynhyrchu.
9. Mae person yn euog o dramgwydd os yw'n mynd yn groes i unrhyw ddarpariaeth a grybwyllir yn Atodlen 2, neu'n methu â chydymffurfio â darpariaeth o'r fath.
10.–(1) Dynodwyd Gweinidogion Cymru yn awdurdod cymwys at ddiben is-baragraff cyntaf Erthygl 5(2) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 (awdurdodi ymgymeriadau yn ganolfannau pecynnu i raddio wyau).
(2) Os gwneir cais i Weinidogion Cymru o dan is-baragraff cyntaf Erthygl 5(2) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 am awdurdodi ymgymeriad yn ganolfan pecynnu i raddio wyau, rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad i'r ceisydd i'w hysbysu o'r materion a grybwyllir ym mharagraff (3), o fewn cyfnod o 28 diwrnod sy'n cychwyn ar y diwrnod sy'n dilyn y diwrnod pan fo Gweinidogion Cymru'n cael y cais.
(3) Y materion yw–
(a) penderfyniad Gweinidogion Cymru ar y cais;
(b) y rhesymau dros unrhyw wrthodiad i ganiatáu awdurdodiad; ac
(c) yn achos unrhyw wrthodiad i ganiatáu awdurdodiad, yr hawl i apelio a roddir gan reoliad 23 o'r Rheoliadau hyn.
(4) Os na fodlonir Gweinidogion Cymru y dylid caniatáu'r cais, yna (cyn penderfynu'n derfynol a ddylid gwrthod y cais ai peidio), cânt roi hysbysiad i'r ceisydd i'w hysbysu o'r rhesymau dros hynny, ac-
(a) os nad yw Gweinidogion Cymru'n fodlon bod y data a ddarparwyd i gefnogi'r cais yn ddigonol, cânt ofyn i'r ceisydd ddarparu rhagor o ddata;
(b) os nad yw Gweinidogion Cymru'n fodlon y bodlonwyd y gofynion a grybwyllir yn is-baragraff cyntaf Erthygl 5(2) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 ac sy'n berthnasol i'r math o ganolfan becynnu sydd i'w hawdurdodi, cânt ofyn i'r ceisydd gydymffurfio ag unrhyw ofyniad nad yw eto wedi ei fodloni; ac
(c) caiff Gweinidogion Cymru roi cyfle i'r ceisydd ddarparu ar eu cyfer esboniadau llafar neu ysgrifenedig mewn cysylltiad â'r cais.
(5) Os bydd Gweinidogion Cymru'n penderfynu tynnu'n ôl awdurdodiad canolfan becynnu i raddio wyau oherwydd methiant i gydymffurfio ag unrhyw un neu rai o'r gofynion a grybwyllir yn is-baragraff cyntaf Erthygl 5(2) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008, rhaid iddynt roi hysbysiad i'r person sy'n cynnal busnes yn y ganolfan becynnu ("P") i'w hysbysu o'r materion a grybwyllir ym mharagraff (6) o fewn cyfnod o 28 diwrnod, sy'n cychwyn ar y diwrnod y gwneir y penderfyniad.
(6) Y materion yw–
(a) penderfyniad Gweinidogion Cymru i dynnu'n ôl yr awdurdodiad;
(b) y dyddiad y mae tynnu'n ôl yr awdurdodiad i fod yn effeithiol;
(c) y rhesymau dros dynnu'n ôl yr awdurdodiad; ac
(ch) yr hawl i apelio a roddir gan reoliad 23 o'r Rheoliadau hyn.
(7) Os bydd Gweinidogion Cymru â'u bryd ar dynnu'n ôl awdurdodiad canolfan becynnu i raddio wyau oherwydd methiant i gydymffurfio ag unrhyw un neu rai o'r gofynion a grybwyllir yn is-baragraff cyntaf Erthygl 5(2) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008, yna caiff Gweinidogion Cymru (cyn penderfynu'n derfynol a ddylid tynnu'n ôl yr awdurdodiad ai peidio) roi hysbysiad i P i'w hysbysu bod Gweinidogion Cymru â'u bryd ar dynnu'n ôl yr awdurdodiad, gan roi'r rhesymau dros wneud hynny, ac–
(a) os yw'r methiant i gydymffurfio ag unrhyw un neu rai o'r gofynion a grybwyllir yn is-baragraff cyntaf Erthygl 5(2) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 yn parhau, caiff Gweinidogion Cymru ofyn i P gymryd camau penodedig i sicrhau y cydymffurfir â'r gofynion hynny; a
(b) caiff Gweinidogion Cymru roi cyfle i P ddarparu ar eu cyfer esboniadau llafar neu ysgrifenedig mewn cysylltiad â'r mater.
(8) Pan fo Gweinidogion Cymru'n rhoi hysbysiad i geisydd o dan baragraff (4), neu i P o dan baragraff (7), rhaid iddynt bennu terfyn amser yn yr hysbysiad, erbyn pryd y bydd rhaid cymryd unrhyw gamau a bennir yn yr hysbysiad.
(9) Caniateir estyn unrhyw derfyn amser a bennir gan Weinidogion Cymru o dan y rheoliad hwn, unwaith neu nifer o weithiau.
(10) At y diben o gyfrifo'r terfyn amser o 28 diwrnod a grybwyllir ym mharagraff (2), rhaid peidio â chyfrif unrhyw gyfnod o amser a roddir gan Weinidogion Cymru i'r ceisydd gymryd unrhyw gamau a grybwyllir mewn hysbysiad o dan baragraff (4).
11.–(1) Nid yw'r ddarpariaeth yn ail is-baragraff pwynt III(1) o Ran A o Atodiad XIV i'r Rheoliad Sengl CMO (sy'n ei gwneud yn ofynnol i wyau Dosbarth B gael eu marcio) yn gymwys os yw wyau Dosbarth B i'w marchnata yn y Deyrnas Unedig yn unig.
(2) Nid yw'r ddarpariaeth yn is-baragraff cyntaf pwynt III(3) o Ran A o Atodiad XIV i'r Rheoliad Sengl CMO (sy'n ei gwneud yn ofynnol i wyau a werthir gan gynhyrchydd i ddefnyddiwr terfynol mewn marchnad gyhoeddus leol yn y rhanbarth cynhyrchu gael eu marcio'n unol â phwynt III(1) o Ran A o Atodiad XIV i'r Rheoliad Sengl CMO) yn gymwys yn achos cynhyrchydd sy'n cadw hyd at 50 o ieir dodwy os nodir enw a chyfeiriad y cynhyrchydd yn y man gwerthu.
(3) Ond nid yw paragraffau (1) a (2) yn gymwys i wyau y mae'n rhaid eu hystyried yn wyau Dosbarth B yn rhinwedd paragraff (a) o'r ail is-baragraff o bwynt 2 o Ran D o Atodiad II i Reoliad (EC) Rhif 2160/2003.
12. At ddiben paragraff (b) o'r ail is-baragraff o bwynt 1 o Atodiad II i Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 (sy'n gosod y gofynion sylfaenol y mae angen eu bodloni er mwyn i wyau gael eu marchnata fel wyau buarth), awdurdodir pori da byw ar libartau awyr agored y mae gan ieir dodwy fynediad iddynt.
13.–(1) Trwy randdirymiad o ddarpariaethau pwynt 1 yn Atodiad II i Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008, caniateir i wyau y mae paragraff (2) yn gymwys iddynt gael eu marchnata fel wyau buarth.
(2) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i wyau–
(a) a gynhyrchwyd mewn system gynhyrchu nad yw'n cydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o'r amodau a grybwyllir ym mharagraff (3); a
(b) a gynhyrchwyd mewn sefydliad–
(i) a chanddo lai na 350 o ieir dodwy ar yr adeg pan gynhyrchir yr wyau;
(ii) sy'n magu ieir dodwy sy'n bridio ar yr adeg pan gynhyrchir yr wyau; neu
(iii) sy'n magu ieir dodwy sy'n bridio a chanddo lai na 350 o ieir dodwy ar y pryd.
(3) Yr amodau yw'r amodau yn narpariaethau canlynol Erthygl 4(1) o Gyfarwyddeb y Cyngor 1999/74/EC–
(a) yr ail frawddeg o bwynt 1(d);
(b) pwynt 1(e);
(c) pwynt 2;
(ch) pwynt 3(a)(i); a
(d) pwynt 3(b)(i).
(4) Mater i berson sy'n bwriadu dibynnu ar baragraff (1) er mwyn marchnata wyau fel wyau buarth yw profi bod yr wyau yn rhai y mae paragraff (2) yn gymwys iddynt.
14.–(1) Trwy randdirymiad o ddarpariaethau pwynt 2 yn Atodiad II i Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008, caniateir i wyau y mae paragraff (2) yn gymwys iddynt gael eu marchnata fel wyau sgubor.
(2) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i wyau–
(a) a gynhyrchwyd mewn system gynhyrchu nad yw'n cydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o'r amodau a grybwyllir ym mharagraff (3); a
(b) a gynhyrchwyd mewn sefydliad–
(i) a chanddo lai na 350 o ieir dodwy ar yr adeg pan gynhyrchir yr wyau;
(ii) sy'n magu ieir dodwy sy'n bridio ar yr adeg pan gynhyrchir yr wyau; neu
(iii) sy'n magu ieir dodwy sy'n bridio a chanddo lai na 350 o ieir dodwy ar y pryd.
(3) Yr amodau yw'r amodau yn narpariaethau canlynol Erthygl 4(1) o Gyfarwyddeb y Cyngor 1999/74/EC–
(a) yr ail frawddeg o bwynt 1(d);
(b) pwynt 1(e);
(c) pwynt 2;
(ch) pwynt 3(a)(i); a
(d) pwynt 3(b)(i).
(4) Mater i berson sy'n bwriadu dibynnu ar baragraff (1) er mwyn marchnata wyau fel wyau sgubor yw profi bod yr wyau yn rhai y mae paragraff (2) yn gymwys iddynt.
15. Mae'r Rhan hon yn gymwys i wyau y mae Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003 yn gymwys iddynt fel y'i darllenir ar y cyd â'r eithriad yn Erthygl 1(3) o Reoliad (EC) Rhif 2160/2003.
16. Mae person yn euog o dramgwydd os yw'n mynd yn groes i unrhyw ddarpariaeth a grybwyllir yn Atodlen 3, neu'n methu â chydymffurfio â darpariaeth o'r fath.
17.–(1) Rhaid i bob awdurdod bwyd–
(a) gorfodi'r darpariaethau a grybwyllir yn Atodlen 2, fel y'i darllenir gyda rheoliad 9, a'r darpariaethau a grybwyllir yn Atodlen 3, fel y'i darllenir gyda rheoliad 16, i'r graddau y maent yn ymwneud ag–
(i) manwerthu wyau o fewn ei ardal;
(ii) gwerthu wyau i arlwywr mawr yn ei ardal; a
(iii) defnyddio wyau o fewn ei ardal;
(b) gorfodi darpariaethau rheoliad 20(3) a (4) yn achos cyfarwyddyd a roddir gan swyddog awdurdodedig a awdurdodir gan yr awdurdod bwyd ("swyddog awdurdod bwyd");
(c) gorfodi darpariaethau rheoliad 20(6) yn achos pecyn neu gynhwysydd a ddiogelir gan swyddog awdurdod bwyd;
(ch) gorfodi darpariaethau rheoliad 20(11) a (12) yn achos ymyrryd ag unrhyw eitem neu offer cyfrifiadurol, neu eu symud ymaith, yn groes i delerau hysbysiad a roddwyd gan swyddog awdurdod bwyd;
(d) gorfodi darpariaethau rheoliad 22(3) yn achos hysbysiad cydymffurfio a roddir gan swyddog awdurdod bwyd;
(dd) gorfodi darpariaethau rheoliad 22(7) yn achos hysbysiad cydymffurfio a roddir gan swyddog awdurdod bwyd; a
(e) gorfodi darpariaethau rheoliad 26 yn achos rhwystro swyddog awdurdod bwyd.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru orfodi'r darpariaethau a grybwyllir yn Atodlen 2, fel y'i darllenir gyda rheoliad 9, a'r darpariaethau a grybwyllir yn Atodlen 3, fel y'i darllenir gyda rheoliad 16, i'r graddau y maent yn gymwys i fanwerthu wyau, gwerthu wyau i arlwywr mawr neu ddefnyddio wyau.
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru–
(a) gorfodi'r darpariaethau a grybwyllir yn Atodlen 1, fel y'i darllenir gyda rheoliad 5;
(b) gorfodi'r darpariaethau a grybwyllir yn Atodlen 2, fel y'i darllenir gyda rheoliad 9, a'r darpariaethau a grybwyllir yn Atodlen 3, fel y'i darllenir gyda rheoliad 16, i'r graddau nad ydynt yn gymwys i fanwerthu wyau, gwerthu wyau i arlwywr mawr neu ddefnyddio wyau;
(c) gorfodi darpariaethau rheoliad 20(3) a (4) yn achos cyfarwyddyd a roddir gan swyddog awdurdodedig a awdurdodir gan Weinidogion Cymru ("swyddog Gweinidogion Cymru");
(ch) gorfodi darpariaethau rheoliad 20(6) yn achos pecyn neu gynhwysydd a ddiogelir gan swyddog Gweinidogion Cymru;
(d) gorfodi darpariaethau rheoliad 20(11) a (12) yn achos ymyrryd ag unrhyw eitem neu offer cyfrifiadurol, neu eu symud ymaith, yn groes i delerau hysbysiad a roddwyd gan swyddog Gweinidogion Cymru;
(dd) gorfodi darpariaethau rheoliad 22(3) yn achos hysbysiad cydymffurfio a roddir gan swyddog Gweinidogion Cymru;
(e) gorfodi darpariaethau rheoliad 22(7) yn achos hysbysiad cydymffurfio a roddir gan swyddog Gweinidogion Cymru;
(f) gorfodi darpariaethau rheoliad 24(4); ac
(ff) gorfodi darpariaethau rheoliad 26 yn achos rhwystro swyddog Gweinidogion Cymru.
(4) Yn y rheoliad hwn–
ystyr "manwerthu" ("retail sale") yw unrhyw werthu ac eithrio gwerthu cynnyrch ar gyfer ei ddefnyddio neu ei ailwerthu wrth fasnachu neu gynnal busnes; ac
mae "gwerthu" ("sale") yn cynnwys meddu ar gynnyrch ar gyfer ei werthu, ei gynnig, ei arddangos a'i hysbysebu ar gyfer gwerthu.
18.–(1) Rhaid i Weinidogion Cymru roi i unrhyw awdurdod bwyd pa bynnag gymorth a gwybodaeth y gofynnir amdanynt yn rhesymol at y diben o'i gynorthwyo i gyflawni ei ddyletswyddau o dan y Rheoliadau hyn, a chaiff Gweinidogion Cymru rannu unrhyw wybodaeth arall a ddaw i'w meddiant gydag unrhyw awdurdod bwyd (hyd yn oed os na ofynnir am yr wybodaeth gan yr awdurdod) at y diben o gynorthwyo'r awdurdod i gyflawni'r dyletswyddau hynny.
(2) Ym mharagraff (1), ystyr "gwybodaeth" ("information") yw gwybodaeth a ddaw i feddiant Gweinidogion Cymru fel yr awdurdod cymwys dynodedig o dan reoliad 6(1), yr awdurdod cymwys dynodedig o dan reoliad 10(1) neu fel awdurdod gorfodi.
(3) Caiff Gweinidogion Cymru ddefnyddio'r wybodaeth a ddaw i'w meddiant fel yr awdurdod cymwys dynodedig o dan reoliad 6(1), neu fel yr awdurdod cymwys dynodedig o dan reoliad 10(1), at y diben o'u cynorthwyo i gyflawni eu dyletswyddau fel awdurdod gorfodi o dan y Rheoliadau hyn.
(4) Caiff Gweinidogion Cymru ddefnyddio'r wybodaeth a ddaw i'w meddiant fel awdurdod gorfodi o dan y Rheoliadau hyn at y diben o'u cynorthwyo i gyflawni eu dyletswyddau fel yr awdurdod cymwys dynodedig o dan reoliad 6(1), neu fel yr awdurdod cymwys dynodedig o dan reoliad 10(1).
(5) Rhaid i bob awdurdod bwyd roi i unrhyw awdurdod bwyd arall neu i Weinidogion Cymru pa bynnag gymorth a gwybodaeth y gofynnir amdanynt yn rhesymol at y diben o gynorthwyo gyda chyflawni dyletswyddau'r awdurdod bwyd arall neu Weinidogion Cymru o dan y Rheoliadau hyn, a chaiff pob awdurdod bwyd rannu unrhyw wybodaeth arall a ddaw i'w feddiant fel awdurdod gorfodi gydag unrhyw awdurdod bwyd arall neu gyda Gweinidogion Cymru (hyd yn oed os na ofynnir am yr wybodaeth honno gan yr awdurdod na chan Weinidogion Cymru) at y diben o gynorthwyo i gyflawni eu dyletswyddau o dan y Rheoliadau hyn.
(6) Ym mharagraff (5) ystyr "gwybodaeth" ("information") yw gwybodaeth a ddaw i feddiant awdurdod bwyd fel awdurdod gorfodi.
19.–(1) Caiff swyddog awdurdodedig fynd i mewn i unrhyw fangre ar unrhyw adeg resymol at y diben o sicrhau y cydymffurfir â darpariaethau'r Rheoliadau hyn.
(2) Caiff y swyddog awdurdodedig fynd â'r canlynol ag ef–
(a) unrhyw bersonau eraill sydd yn ei farn ef yn angenrheidiol; ac
(b) unrhyw gynrychiolydd y Comisiwn Ewropeaidd.
(3) Rhaid i swyddog awdurdodedig beidio ag arfer y pwerau o dan baragraff (1) neu (2) ac eithrio ar ôl cyflwyno, os gofynnir iddo wneud hynny, dogfen a ddilyswyd yn briodol ac sy'n dangos awdurdod y swyddog.
(4) Nid oes hawl i fynnu cael mynediad i unrhyw fangre a ddefnyddir yn unig fel tŷ annedd preifat, ac eithrio ar ôl rhoi rhybudd, 24 awr ymlaen llaw, i'r meddiannydd o'r bwriad i fynd i mewn, neu pan eir i mewn yn unol â gwarant a roddwyd o dan y rheoliad hwn.
(5) Os yw ynad heddwch, ar sail gwybodaeth ysgrifenedig a roddir ar lw, wedi ei fodloni ynglŷn â'r materion a grybwyllir ym mharagraff (6), caiff lofnodi gwarant sy'n caniatáu i swyddog awdurdodedig fynd i mewn i unrhyw fangre, gan ddefnyddio grym rhesymol pe bai angen.
(6) Y materion yw–
(a) bod sail rhesymol i gredu bod Amod A neu B wedi ei fodloni; a
(b) bod Amod C, CH neu D wedi ei fodloni.
(7) Amod A yw fod eitemau yn y fangre o'r math a grybwyllir yn rheoliad 20(1)(a) neu ddogfennau a chofnodion o'r math a grybwyllir yn rheoliad 20(1)(d), a bod eu harchwilio'n debygol o ddatgelu tystiolaeth o fynd yn groes i'r Rheoliadau hyn, neu o fethiant i gydymffurfio â hwy.
(8) Amod B yw fod mynd yn groes i'r Rheoliadau hyn, neu o fethiant i gydymffurfio â hwy wedi digwydd, yn digwydd neu ar fin digwydd yn y fangre honno.
(9) Amod C yw fod mynediad i'r fangre wedi ei wrthod, neu'n debygol o gael ei wrthod a'r meddiannydd wedi ei hysbysu (naill ai ar lafar neu mewn ysgrifen) y gellir gwneud cais am warant.
(10) Amod CH yw fod mynediad i'r fangre wedi ei wrthod, neu'n debygol o gael ei wrthod, a phe hysbysid y meddiannydd y gellid gwneud cais am warant o dan y rheoliad hwn, gallai hynny danseilio'r diben o fynd i mewn.
(11) Amod D yw fod y fangre heb feddiannydd, neu fod y meddiannydd yn absennol dros dro, ac y gallai aros iddo ddychwelyd danseilio'r diben o fynd i mewn.
(12) Mae gwarant a roddir o dan baragraff (5)–
(a) yn ddilys am un mis, sy'n cychwyn gyda'r diwrnod y rhoddir y warant; a
(b) rhaid dangos y warant i'w harchwilio gan y person (os oes un) y mae'n ymddangos i'r swyddog ei fod yn feddiannydd y fangre, neu'r person sy'n gofalu amdani.
(13) Rhaid i swyddog awdurdodedig sy'n mynd i mewn i unrhyw fangre sydd heb feddiannydd, neu sydd â'i meddiannydd yn absennol dros dro, adael y fangre wedi ei diogelu mor effeithiol rhag mynediad diawdurdod ag yr oedd cyn i'r swyddog ddod yno.
(14) Caiff swyddog awdurdodedig wneud archwiliad ar gais Aelod-wladwriaeth arall neu'r Comisiwn Ewropeaidd.
20.–(1) Caiff swyddog awdurdodedig ("S") sy'n mynd i mewn i fangre o dan reoliad 19–
(a) archwilio'r fangre, ac unrhyw offer, peiriannau neu gyfarpar sydd yn y fangre honno, ac unrhyw rai o'r eitemau canlynol a ddarganfyddir yn y fangre honno–
(i) wyau;
(ii) wyau deor;
(iii) pecynnau neu gynwysyddion eraill ar gyfer wyau, wyau deor neu gywion; a
(iv) labeli sy'n ymwneud ag wyau, wyau deor neu gywion;
(b) chwilio'r fangre;
(c) cymryd samplau;
(ch) cynnal unrhyw ymholiadau, archwiliadau neu brofion;
(d) sicrhau mynediad i unrhyw ddogfennau neu gofnodion (ym mha bynnag ffurf y'u cedwir) sy'n ymwneud â materion o fewn cwmpas y Rheoliadau hyn, eu harchwilio a'u copïo, a'u symud oddi yno i alluogi eu copïo;
(dd) sicrhau mynediad i, ac archwilio a gwirio gweithrediad, a'r data a gynhwysir mewn, unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw ddyfais storio electronig neu gyfarpar cysylltiedig ("offer cyfrifiadurol"), a ddefnyddir neu a ddefnyddiwyd mewn cysylltiad â'r dogfennau neu gofnodion a grybwyllir yn is-baragraff (d), gan gynnwys data mewn perthynas â ffeiliau a ddilëwyd a logiau gweithgarwch; ac at y diben hwnnw, caiff S ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson sy'n gofalu am yr offer cyfrifiadurol, neu rywfodd arall yn ymwneud â'u gweithredu, yn rhoi i S pa bynnag gymorth (gan gynnwys darparu enwau defnyddwyr a chyfrineiriau) ag a fynnir yn rhesymol gan S, ac yn ystod y gwiriadau, caiff S adfer data a gedwir yn yr offer cyfrifiadurol; ac
(e) pan gedwir dogfen neu gofnod a grybwyllir yn is-baragraff (d) drwy gyfrwng gyfrifiadur, ei gwneud yn ofynnol bod y cofnod yn cael ei baratoi mewn ffurf sy'n caniatáu ei gludo ymaith.
(2) Caiff S roi cyfarwyddyd ("cyfarwyddyd rheoliad 20(2)") i berson ("P"), sy'n ymddangos i S ei fod â gofal o'r eitemau neu'r mangreoedd a grybwyllir isod, bod rhaid gadael y canlynol heb ymyrryd â hwy cyhyd ag y bo'n angenrheidiol yn rhesymol at ddibenion unrhyw archwiliad neu ymchwiliad–
(a) unrhyw un neu ragor o'r eitemau a grybwyllir ym mharagraff (1)(a)(i) i (iv);
(b) unrhyw ddogfen neu gofnod a grybwyllir ym mharagraff (1)(d);
(c) unrhyw offer cyfrifiadurol a grybwyllir ym mharagraff (1)(dd); ac
(ch) unrhyw fangre y darganfyddir unrhyw rai o'r eitemau hynny arni neu ynddi.
(3) Mae P yn euog o dramgwydd os yw'n methu â chydymffurfio â chyfarwyddyd rheoliad 20(2) a roddir iddo gan S.
(4) Mae person arall, ac eithrio S a P, sy'n gwybod am gyfarwyddyd rheoliad 20(2) yn euog o dramgwydd os yw (er na roddwyd y cyfarwyddyd iddo ef) yn ymyrryd ag unrhyw eitem neu fangre yn groes i delerau'r cyfarwyddyd.
(5) Os na chynhelir archwiliad neu ymchwiliad ar unwaith ar ôl rhoi cyfarwyddyd o dan baragraff (2), caiff S osod tâp ar y pecynnau neu gynwysyddion ar gyfer wyau neu wyau deor sy'n destun y cyfarwyddyd hwnnw, neu eu gwneud yn ddiogel rywfodd arall, hyd nes cynnal archwiliad neu ymchwiliad.
(6) Mae person sy'n gwybod bod pecynnau neu gynwysyddion ar gyfer wyau neu wyau deor wedi eu tapio neu'u diogelu rhywfodd arall gan S (yn unol â pharagraff (5)) yn euog o dramgwydd os yw'n ymyrryd ag unrhyw un o'r pecynnau neu'r cynwysyddion hynny, oni chaiff ei awdurdodi i wneud hynny, mewn ysgrifen, gan S.
(7) Caiff S ymafael mewn, a chadw, unrhyw eitem o'r math a grybwyllir ym mharagraff (1)(a)(i) i (iv), neu ddogfen neu gofnod a grybwyllir ym mharagraff (1)(d), os oes rheswm ganddo i gredu y gallai fod eu hangen fel tystiolaeth mewn achos o dan y Rheoliadau hyn.
(8) Caiff S ymafael mewn unrhyw eitem o'r math a ddisgrifir ym mharagraff (1)(a)(i) i (iv) fel un sy'n agored i'w dinistrio, os yw S o'r farn yn rhesymol ei bod yn mynd yn groes i unrhyw ddarpariaeth o'r Rheoliadau hyn.
(9) Caiff S ymafael mewn unrhyw offer cyfrifiadurol at y diben o gopïo dogfennau neu gofnodion o'r math a grybwyllir ym mharagraff (1)(d), a gwirio gweithrediad, a'r data a gynhwysir mewn, unrhyw offer cyfrifiadurol a ddefnyddir neu a ddefnyddiwyd mewn cysylltiad â'r dogfennau neu'r cofnodion hynny (ac wrth wneud hynny caiff adfer data), ar yr amod y'u dychwelir cyn gynted ag y bo'n ymarferol, a beth bynnag o fewn cyfnod o 28 diwrnod, sy'n cychwyn gyda'r diwrnod yr ymafaelir yn yr offer.
(10) Os na all S symud ymaith eitem neu offer cyfrifiadurol yr ymafaelir ynddi neu ynddynt o dan baragraff (7), (8) neu (9) ar unwaith, caiff–
(a) marcio'r eitem neu offer mewn unrhyw ffordd y tybio'n briodol; a
(b) rhoi i'r person ("P") sy'n ymddangos iddo ei fod â gofal o'r eitem neu offer cyfrifiadurol hysbysiad ("hysbysiad rheoliad 20(10)") sy'n–
(i) nodi manylion adnabod yr eitem neu'r offer cyfrifiadurol;
(ii) ei gwneud yn ofynnol nad oes neb yn ymyrryd â'r eitem neu'r offer cyfrifiadurol hyd nes ei chesglir neu eu cesglir gan S; a
(iii) gwahardd symud yr eitem neu'r offer cyfrifiadurol o'r fangre lle ei darganfuwyd neu eu darganfuwyd, hyd nes ei chesglir neu eu cesglir gan S.
(11) Mae P yn euog o dramgwydd os yw'n methu â chydymffurfio â hysbysiad rheoliad 20(10) a roddir iddo gan S.
(12) Mae person arall, ac eithrio S a P, sy'n gwybod am hysbysiad rheoliad 20(10), yn euog o dramgwydd os yw (er na roddwyd yr hysbysiad iddo ef), yn symud ymaith neu'n ymyrryd ag eitem neu offer cyfrifiadurol, yn groes i delerau'r hysbysiad.
(13) Rhaid i S beidio ag arfer y pwerau o dan y rheoliad hwn ac eithrio ar ôl cyflwyno, os gofynnir iddo, dogfen a ddilyswyd yn briodol sy'n dangos ei awdurdod.
(14) Yn y rheoliad hwn mae "mangre" yn cynnwys unrhyw le ac unrhyw gerbyd, ôl-gerbyd, stondin neu adeiledd symudol.
21.–(1) Rhaid i swyddog awdurdodedig ("S") ddilyn y gweithdrefnau a bennir yn y rheoliad hwn os yw'n ymafael mewn unrhyw beth o dan reoliad 20(7), (8) neu (9).
(2) Rhaid i S roi i'r person y mae'n ymddangos i S ei fod â gofal o'r fangre yr ymafaelir yn yr eitem neu'r offer cyfrifiadurol ymafaeledig ynddi ("y fangre"), hysbysiad y mae'n rhaid iddo ddatgan–
(a) beth yr ymafaelodd S ynddo;
(b) pa bryd yr ymafaelodd S ynddo;
(c) ar ba sail yr ymafaelwyd yn yr eitem neu'r offer; ac
(ch) i ba gyfeiriad ac yn ystod pa gyfnod y gellir anfon hawliad am ddychwelyd yr eitem neu'r offer.
(3) Ond os yw'r fangre heb feddiannydd neu os yw'n ymddangos i S nad oes neb â gofal o'r fangre, rhaid i S osod hysbysiad ynghlwm wrth ran amlwg o'r fangre, neu wrth wrthrych amlwg ar y fangre, sy'n cynnwys yr wybodaeth a grybwyllir yn is-baragraffau (a) i (ch) o baragraff (2).
(4) Caiff person sydd â buddiant perchnogol yn yr eitem neu'r offer cyfrifiadurol ymafaeledig (gan gynnwys credydwr sydd â dyled wedi ei sicrhau ar yr eitem neu'r offer cyfrifiadurol) hysbysu'r awdurdod gorfodi o unrhyw hawliad na ddylid bod wedi ymafael yn yr eitem neu'r offer cyfrifiadurol ymafaeledig, gan ddatgan yn llawn y sail dros wneud yr hawliad.
(5) Rhaid anfon yr hawliad i'r cyfeiriad a bennir yn yr hysbysiad ymafael, o fewn cyfnod o 28 diwrnod ar ôl yr ymafaeliad, sy'n cychwyn gyda'r diwrnod yr ymafaelwyd yn yr eitem neu'r offer cyfrifiadurol ymafaeledig.
(6) Os na cheir hysbysiad o hawliad o fewn 28 diwrnod mewn perthynas ag eitem yr ymafaelwyd ynddi o dan reoliad 20(7), caiff yr awdurdod gorfodi gadw'r eitem ymafaeledig cyhyd â bo angen tra'n ei dal at ddibenion unrhyw ymchwiliad neu achos troseddol, neu i'w defnyddio fel tystiolaeth mewn treial.
(7) Os ceir hysbysiad o hawliad o fewn 28 diwrnod mewn perthynas ag eitem yr ymafaelwyd ynddi o dan reoliad 20(7), rhaid i'r awdurdod gorfodi–
(a) dychwelyd yr eitem ymafaeledig o fewn cyfnod o 14 diwrnod, sy'n cychwyn gyda'r diwrnod y cafwyd yr hawliad; neu
(b) cadw'r eitem ymafaeledig cyhyd â bo angen tra'n ei dal at ddibenion unrhyw ymchwiliad neu achos troseddol, neu i'w defnyddio fel tystiolaeth mewn treial, ond rhaid iddo hysbysu'r hawlydd bod yr eitem ymafaeledig yn cael ei chadw, ac o'r rheswm pam y caiff ei chadw, o fewn cyfnod o 14 diwrnod, sy'n cychwyn gyda'r diwrnod y cafwyd yr hawliad.
(8) Os na cheir hysbysiad o hawliad o fewn 28 diwrnod mewn perthynas ag eitem yr ymafaelwyd ynddi o dan reoliad 20(8), caiff yr awdurdod gorfodi–
(a) os yw'r awdurdod gorfodi'n penderfynu peidio â dinistrio'r eitem ymafaeledig, ond yn hytrach ei chadw at ddibenion unrhyw ymchwiliad neu achos troseddol, neu i'w defnyddio'n dystiolaeth mewn treial, gadw'r eitem ymafaeledig cyhyd ag y bo angen at un o'r dibenion hynny, ond rhaid i'r awdurdod gorfodi–
(i) hysbysu'r person perthnasol bod yr eitem ymafaeledig yn cael ei chadw, ac o'r rheswm pam y caiff ei chadw, o fewn cyfnod o 14 diwrnod o ddiwedd y cyfnod hawlio, sy'n cychwyn gyda'r diwrnod cyntaf ar ôl diwedd y cyfnod hawlio; neu
(ii) os na ŵyr yr awdurdod gorfodi pwy yw'r person perthnasol, ac os methir â darganfod hynny yn dilyn ymholiadau rhesymol gan yr awdurdod gorfodi, gosod hysbysiad ynghlwm wrth ran amlwg o'r fangre, neu ynghlwm wrth wrthrych amlwg ar y fangre, o fewn cyfnod o 14 diwrnod o ddiwedd y cyfnod hawlio, sy'n cychwyn gyda'r diwrnod cyntaf ar ôl diwedd y cyfnod hawlio, yn datgan bod yr eitem ymafaeledig yn cael ei chadw a'r rheswm pam y mae'n cael ei chadw; neu
(b) dinistrio'r eitem ymafaeledig o fewn cyfnod o 28 diwrnod, sy'n cychwyn gyda'r diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod hawlio o 28 diwrnod, os yw'n credu yn rhesymol bod yr eitem yn mynd yn groes i'r Rheoliadau hyn, ac–
(i) hysbysu'r person perthnasol bod yr eitem ymafaeledig wedi ei dinistrio, o fewn cyfnod o 14 diwrnod ar ôl ei dinistrio, sy'n cychwyn ar y diwrnod y dinistrir yr eitem (neu ddiwrnod olaf y dinistrio os yw dinistrio'r eitem yn digwydd ar fwy nag un diwrnod); neu
(ii) os na ŵyr yr awdurdod gorfodi pwy yw'r person perthnasol, ac os methir â darganfod hynny yn dilyn ymholiadau rhesymol gan yr awdurdod gorfodi, gosod hysbysiad ynghlwm wrth ran amlwg o'r fangre, neu ynghlwm wrth wrthrych amlwg ar y fangre, o fewn cyfnod o 14 diwrnod o ddinistrio'r eitem, sy'n cychwyn gyda'r diwrnod y dinistrir yr eitem (neu ddiwrnod olaf y dinistrio os yw dinistrio'r eitem yn digwydd ar fwy nag un diwrnod) yn datgan bod yr eitem ymafaeledig wedi ei dinistrio.
(9) Ym mharagraff (8) ystyr "person perthnasol" ("relevant person") yw–
(a) os yw'r awdurdod gorfodi'n gwybod enw person sydd â buddiant perchnogol yn yr eitem ymafaeledig, y person hwnnw, neu (os gŵyr yr awdurdod enwau mwy nag un person sydd â buddiant perchnogol yn yr eitem ymafaeledig) pob un o'r personau hynny; neu
(b) os na ŵyr yr awdurdod gorfodi enw unrhyw berson sydd â buddiant perchnogol yn yr eitem ymafaeledig, y person sy'n ymddangos i'r awdurdod gorfodi ei fod â gofal o'r fangre.
(10) Yn achos unrhyw eitem a ddinistrir o dan baragraff (8)(b), caiff yr awdurdod gorfodi adennill y costau canlynol fel dyled oddi ar unrhyw berson a oedd â buddiant perchnogol yn yr eitem yn union cyn ei dinistrio (ar wahân i gredydwr sydd â dyled wedi ei sicrhau ar yr eitem)–
(a) costau symud a chludo'r eitem o'r fangre i'r storfa lle'i cedwir;
(b) costau storio'r eitem am hyd at 28 diwrnod;
(c) unrhyw gostau ar gyfer symud a chludo'r eitem, os symudir hi o un storfa i storfa arall;
(ch) costau cludo'r eitem o'r storfa i'r man lle'i dinistrir; a
(d) costau dinistrio'r eitem.
(11) Os ceir hysbysiad o hawliad o fewn 28 diwrnod mewn perthynas ag eitem yr ymafaelwyd ynddi o dan reoliad 20(8), rhaid i'r awdurdod gorfodi–
(a) dychwelyd yr eitem ymafaeledig o fewn cyfnod o 14 diwrnod, sy'n cychwyn gyda'r diwrnod y cafwyd yr hawliad;
(b) os yw'r awdurdod gorfodi'n penderfynu peidio â dinistrio'r eitem ymafaeledig, ond yn hytrach ei chadw at ddibenion unrhyw ymchwiliad neu achos troseddol, neu i'w defnyddio'n dystiolaeth mewn treial, gadw'r eitem cyhyd ag y bo angen at un o'r dibenion hynny, ond rhaid i'r awdurdod gorfodi hysbysu'r hawlydd bod yr eitem ymafaeledig yn cael ei chadw, ac o'r rheswm pam y caiff ei chadw, o fewn cyfnod o 14 diwrnod o'r hawliad, sy'n cychwyn gyda'r diwrnod y cafwyd yr hawliad; neu
(c) o fewn cyfnod o 14 diwrnod o'r hawliad, sy'n cychwyn gyda'r diwrnod y cafwyd yr hawliad, cychwyn achos ("achos rheoliad 21(11)(c)") mewn llys ynadon, i geisio gorchymyn i'w awdurdodi i ddinistrio'r eitem.
(12) Mewn achos rheoliad 21(11)(c) caiff y llys ynadon–
(a) awdurdodi'r awdurdod gorfodi i ddinistrio'r eitem ymafaeledig;
(b) awdurdodi'r awdurdod gorfodi i gadw'r eitem at ddibenion unrhyw ymchwiliad neu achos troseddol, neu i'w defnyddio'n dystiolaeth mewn treial, am gyhyd ag y bo angen at un o'r dibenion hynny; neu
(c) gwneud yn ofynnol bod yr awdurdod gorfodi'n dychwelyd yr eitem at yr hawlydd, a gosod terfyn amser ar gyfer gwneud hynny.
(13) Os yw llys ynadon, mewn achos rheoliad 21(11)(c) yn awdurdodi'r awdurdod gorfodi i ddinistrio'r eitem ymafaeledig, caiff y llys hefyd orchymyn bod yr hawlydd (ond nid hawlydd sydd yn gredydwr â dyled wedi ei sicrhau ar yr eitem) yn talu pa rai bynnag o'r costau canlynol a bennir gan y llys–
(a) costau symud a chludo'r eitem o'r fangre i'r man lle'i storir;
(b) costau storio'r eitem am hyd at 28 diwrnod;
(c) unrhyw gostau ar gyfer symud a chludo'r eitem, os symudir hi o un storfa i storfa arall;
(ch) costau cludo'r eitem o'r storfa i'r man lle'i dinistrir; a
(d) costau dinistrio'r eitem.
(14) Os ceir hysbysiad o hawliad o fewn 28 diwrnod, yn achos unrhyw offer cyfrifiadurol yr ymafaelwyd ynddynt o dan reoliad 20(9), rhaid i'r awdurdod gorfodi–
(a) dychwelyd yr offer cyfrifiadurol ymafaeledig o fewn cyfnod o saith niwrnod o'r hawliad, sy'n dechrau ar y diwrnod y ceir yr hawliad neu, os yw'n fyrrach, o fewn gweddill y cyfnod hwyaf o 28 diwrnod y darperir ar ei gyfer yn rheoliad 20(9); neu
(b) cychwyn achos mewn llys ynadon o fewn cyfnod o saith niwrnod o'r hawliad, sy'n dechrau ar y diwrnod y ceir yr hawliad oni fydd saith niwrnod neu lai yn weddill cyn diwedd y cyfnod hwyaf o 28 diwrnod y darperir ar ei gyfer yn rheoliad 20(9), am orchymyn yn awdurdodi'r awdurdod gorfodi i gadw'r offer cyfrifiadurol ymafaeledig, yn unol â'r gofynion a bennir yn rheoliad 20(9).
(15) Os yw llys ynadon, yn achos unrhyw offer cyfrifiadurol yr ymafaelir ynddynt o dan reoliad 20(9), yn awdurdodi'r awdurdod gorfodi i gadw'r offer cyfrifiadurol ymafaeledig, caiff y llys osod amodau ynglŷn ag ar ba sail y ceir parhau i gadw'r offer, gan gynnwys pennu terfyn amser gyfer dychwelyd yr offer, sy'n fyrrach na'r cyfnod hwyaf o 28 diwrnod y darperir ar ei gyfer yn rheoliad 20(9).
(16) Mae'r weithdrefn mewn llys ynadon o dan y rheoliad hwn ar ffurf achwyniad ac y mae Deddf Llysoedd Ynadon 1980(21) yn gymwys i'r achosion.
22.–(1) Pan fo gan swyddog awdurdodedig ("S") sail resymol dros gredu bod unrhyw berson ("P") yn methu â chydymffurfio â'r Rheoliadau hyn, caiff S, drwy hysbysiad ("hysbysiad cydymffurfio rheoliad 22(1)"), ei gwneud yn ofynnol bod P yn cymryd pa bynnag gamau a bennir gan S (neu gamau sydd o leiaf yn gyfwerth â'r rheini), o fewn pa bynnag gyfnod a bennir gan S, i sicrhau nad yw'r methiant i gydymffurfio'n parhau neu'n digwydd drachefn.
(2) Rhaid i hysbysiad cydymffurfio rheoliad 22(1)–
(a) datgan y sail dros yr hyn y mae S yn ei gredu;
(b) pennu'r materion sy'n gyfystyr â methiant i gydymffurfio â'r Rheoliadau hyn;
(c) pennu'r hyn y mae'n rhaid i P roi'r gorau i'w wneud, neu'r camau y mae'n rhaid, ym marn S, i P eu cymryd er mwyn cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn;
(ch) gwneud yn ofynnol bod P yn rhoi'r gorau i gyflawni'r weithred a bennir yn yr hysbysiad, neu'n cymryd y camau a bennir yn yr hysbysiad, neu gamau sydd o leiaf gyfwerth â'r rheini, o fewn y cyfnod a grybwyllir yn yr hysbysiad;
(d) hysbysu P o'r hawl sydd ganddo, a roddir gan reoliad 23 i apelio i lys ynadon; ac
(dd) hysbysu P o'r cyfnod a ganiateir ar gyfer gwneud apêl o'r fath.
(3) Mae person yn euog o dramgwydd os yw'n methu â chydymffurfio â hysbysiad cydymffurfio rheoliad 22(1) a roddir iddo o dan baragraff (1).
(4) Os oes sail resymol gan S dros gredu nad yw unrhyw eitem a grybwyllir ym mharagraff (5) yn cydymffurfio, mewn unrhyw un neu ragor o ffyrdd, â'r gofynion a grybwyllir yn Atodlen 1, 2 neu 3, caiff S, drwy hysbysiad ("hysbysiad cydymffurfio rheoliad 22(4)"), roi cyfarwyddyd i'r person ("P") sy'n ymddangos i S ei fod â gofal o'r fangre lle y darganfyddir yr eitem berthnasol, i beidio â symud yr eitem berthnasol o'r fangre honno, oni roddir cyfarwyddyd fel arall mewn ysgrifen gan S, hyd nes bo'r eitem yn cydymffurfio â'r gofynion hynny.
(5) Yr eitemau yw–
(a) wyau;
(b) wyau deor;
(c) pecynnau neu gynwysyddion eraill ar gyfer wyau, wyau deor neu gywion; ac
(ch) labeli sy'n ymwneud ag wyau, wyau deor neu gywion.
(6) Rhaid i hysbysiad cydymffurfio rheoliad 22(4)–
(a) ddatgan y sail dros yr hyn y mae S yn ei gredu;
(b) pennu'r materion sy'n gyfystyr â methiant i gydymffurfio;
(c) pennu'r camau y mae'n rhaid, ym marn S, eu cymryd i sicrhau cydymffurfiaeth;
(ch) hysbysu P o'i hawl i apelio i lys ynadon; a
(d) hysbysu P o'r cyfnod a ganiateir ar gyfer gwneud apêl o'r fath.
(7) Mae P yn euog o dramgwydd os yw'n symud eitem, y mae hysbysiad cydymffurfio rheoliad 22(4) a roddwyd iddo gan S yn ymwneud â hi, o'r fangre lle'i darganfuwyd gan S, yn groes i delerau'r hysbysiad hwnnw, oni chaiff gyfarwyddyd ysgrifenedig i wneud hynny gan S.
(8) Mae person arall, ac eithrio S a P, sy'n gwybod am hysbysiad cydymffurfio rheoliad 22(4) yn euog o dramgwydd (er na roddwyd yr hysbysiad iddo ef) os yw'n symud eitem y mae'r hysbysiad yn ymwneud â hi o'r fangre lle'i darganfuwyd gan S, yn groes i delerau'r hysbysiad hwnnw, oni chaiff gyfarwyddyd ysgrifenedig i wneud hynny gan S.
23.–(1) Caiff unrhyw berson y mae penderfyniad a bennir ym mharagraff (2) yn ei dramgwyddo apelio i lys ynadon yn erbyn y penderfyniad hwnnw.
(2) Mae'r canlynol yn benderfyniad penodedig at ddiben paragraff (1)–
(a) penderfyniad gan Weinidogion Cymru i wrthod cofrestru sefydliad yn sefydliad bridio pedigri, yn sefydliad bridio arall neu'n ddeorfa o dan Erthygl 2(1) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 617/2008, neu i dynnu'n ôl y cyfryw gofrestriad;
(b) penderfyniad gan Weinidogion Cymru i wrthod awdurdodi ymgymeriad yn ganolfan becynnu i raddio wyau o dan is-baragraff cyntaf Erthygl 5(2) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008, neu i dynnu'n ôl y cyfryw awdurdodiad;
(c) penderfyniad gan swyddog awdurdodedig i osod hysbysiad cydymffurfio rheoliad 22(1); neu
(ch) penderfyniad gan swyddog awdurdodedig i osod hysbysiad cydymffurfio rheoliad 22(4).
(3) Mae adran 37(3), (5) a (6) o'r Ddeddf yn effeithiol mewn perthynas ag apêl o dan y rheoliad hwn fel y mae'n effeithiol mewn perthynas ag apêl o dan yr adran honno, ond gan hepgor–
(a) yn is-adran (3), y geiriau ", or an appeal to such a court for which provision is made by regulations under Part II of this Act,";
(b) is-adran (5)(b), a'r gair "or" sy'n dod yn union o'i blaen; ac
(c) yn is-adran (6)(a), y geiriau "or to the sheriff".
(4) Nid yw tynnu cofrestriad neu awdurdodiad yn ôl fel y cyfeirir ato ym mharagraff (2) yn cael effaith hyd nes daw'r amser ar gyfer apelio yn ei erbyn i ben, ac os cyflwynir apêl, hyd nes penderfynir yr apêl yn derfynol neu y'i tynnir yn ôl.
24.–(1) Caiff Gweinidogion Cymru, drwy hysbysiad, gyfarwyddo unrhyw berson, sy'n ymgymryd ag unrhyw weithgarwch a reoleiddir gan ddarpariaeth a grybwyllir yn Atodlen 1, 2 neu 3, i gydymffurfio ag unrhyw un neu rai o'r gofynion a grybwyllir ym mharagraff (2).
(2) Y gofynion yw–
(a) cadw pa bynnag gofnodion ag y bo'n ofynnol yn rhesymol gan Weinidogion Cymru at ddibenion gorfodi unrhyw ddarpariaeth o'r fath, neu beri eu bod yn cael eu cadw;
(b) darparu ar gyfer Gweinidogion Cymru pa bynnag wybodaeth sy'n deillio o'r cyfryw gofnodion ag y bo'n ofynnol gan Weinidogion Cymru, erbyn yr adegau a grybwyllir yn yr hysbysiad; ac
(c) dal gafael yn y cyfryw gofnodion am ba bynnag gyfnod y bo'n ofynnol yn rhesymol gan Weinidogion Cymru.
(3) Ond rhaid i Weinidogion Cymru beidio â rhoi cyfarwyddyd o dan baragraff (1) onid yw'r cofnodion y mae'r cyfarwyddyd yn ymwneud â hwy yn rhai o'r math a gedwir yn arferol yng nghwrs eu busnes gan bersonau sy'n ymgymryd ag unrhyw weithgarwch a reoleiddir gan ddarpariaeth a grybwyllir yn Atodlen 1, 2 neu 3 ac–
(a) oni roddir y cyfarwyddyd ar neu cyn 16 Ionawr 2010, a Gweinidogion Cymru yn rhesymol yn amau bod y person y rhoddir y cyfarwyddyd iddo wedi mynd yn groes i unrhyw ddarpariaeth a grybwyllir yn Atodlen 1, 2 neu 3, neu wedi methu â chydymffurfio â'r ddarpariaeth honno, ers i'r Rheoliadau hyn ddod i rym;
(b) oni roddir y cyfarwyddyd ar neu cyn 16 Ionawr 2010, a'r person y rhoddir y cyfarwyddyd iddo wedi ei gollfarnu o dramgwydd o dan reoliad 5, 9 neu 16 o'r Rheoliadau hyn, a Gweinidogion Cymru yn amau yn rhesymol bod y person hwnnw, ers iddo gael ei gollfarnu–
(i) wedi parhau i fynd yn groes i'r ddarpariaeth a grybwyllir yn Atodlen 1, 2 neu 3 y mae collfarn y person hwnnw yn ymwneud â hi, neu'n parhau i fethu â chydymffurfio â hi; neu
(ii) wedi mynd yn groes i ryw ddarpariaeth arall a grybwyllir yn Atodlen 1, 2 neu 3, neu wedi methu â chydymffurfio â hi;
(c) oni roddir y cyfarwyddyd ar neu ar ôl 17 Ionawr 2010, a Gweinidogion Cymru yn rhesymol yn amau bod y person y rhoddir y cyfarwyddyd iddo wedi mynd yn groes i unrhyw ddarpariaeth a grybwyllir yn Atodlen 1, 2 neu 3, neu wedi methu â chydymffurfio â hi o fewn y cyfnod o chwe mis yn union cyn i'r cyfarwyddyd gael ei roi; neu
(ch) oni roddir y cyfarwyddyd ar neu ar ôl 17 Ionawr 2010, a'r person y rhoddir y cyfarwyddyd iddo wedi ei gollfarnu o dramgwydd o dan reoliad 5, 9 neu 16 o'r Rheoliadau hyn o fewn y cyfnod o chwe mis yn union cyn i'r cyfarwyddyd gael ei roi, a Gweinidogion Cymru yn amau yn rhesymol bod y person hwnnw, ers iddo gael ei gollfarnu–
(i) wedi parhau i fynd yn groes i'r ddarpariaeth a grybwyllir yn Atodlen 1, 2 neu 3 y mae collfarn y person hwnnw yn ymwneud â hi, neu'n parhau i fethu â chydymffurfio â hi; neu
(ii) wedi mynd yn groes i ryw ddarpariaeth arall a grybwyllir yn Atodlen 1, 2 neu 3, neu wedi methu â chydymffurfio â hi.
(4) Mae person yn euog o dramgwydd os nad yw'n cydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir arno gan gyfarwyddyd a roddir gan Weinidogion Cymru o dan baragraff (1).
25.–(1) Rhaid i awdurdod gorfodi roi cyhoeddusrwydd i achosion pan fo eitemau yr ymafaelwyd ynddynt o dan reoliad 20(8) wedi eu dinistrio, a rhaid iddo wneud hynny ym mha bynnag fodd y gwêl yn briodol.
(2) Ond rhaid i'r awdurdod gorfodi beidio â rhoi cyhoeddusrwydd i ddinistrio unrhyw eitem yr ymafaelir ynddi o dan reoliad 20(8) os yw o'r farn y byddai'n amhriodol gwneud hynny.
(3) Rhaid i awdurdod gorfodi roi cyhoeddusrwydd i achosion pan roddir hysbysiadau cydymffurfio ganddo o dan reoliad 22, a rhaid iddo wneud hynny ym mha bynnag fodd y gwêl yn briodol.
(4) Ond rhaid i'r awdurdod gorfodi beidio â rhoi cyhoeddusrwydd i hysbysiad cydymffurfio a roddir ganddo o dan reoliad 22–
(a) cyn bo'r cyfnod ar gyfer apelio yn erbyn gosod yr hysbysiad cydymffurfio wedi dod i ben;
(b) yn ystod y cyfnod pan fo unrhyw apêl yn erbyn gosod yr hysbysiad cydymffurfio yn parhau;
(c) pan fo apêl yn erbyn gosod yr hysbysiad cydymffurfio wedi llwyddo; neu
(ch) mewn unrhyw achos arall pan fo'r awdurdod gorfodi o'r farn y byddai'n amhriodol gwneud hynny.
26. Mae person ("P") yn euog o dramgwydd os yw–
(a) yn rhwystro unrhyw berson ("S") sy'n gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith;
(b) yn methu â rhoi i S unrhyw gymorth neu wybodaeth y mae'n rhesymol i S ofyn amdano neu amdani gan P, ar gyfer cyflawni swyddogaethau S o dan y Rheoliadau hyn;
(c) yn rhoi unrhyw wybodaeth ffug neu gamarweiniol i S; neu
(ch) yn methu â dangos unrhyw gofnod pan ofynnir iddo wneud hynny gan S.
27. Mae person sy'n euog o dramgwydd o dan reoliad 5, 9, 16, 20(3), (4), (6), (11) neu (12), 22(3), (7) neu (8), 24(4) neu 26 yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.
28.–(1) Caniateir cychwyn achos am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn o fewn y cyfnod o un flwyddyn o'r dyddiad pryd y daeth tystiolaeth sy'n ddigonol ym marn yr erlynydd i gyfiawnhau dwyn yr achos i sylw'r erlynydd.
(2) Ond ni chaniateir cychwyn achos o'r fath yn rhinwedd paragraff (1) fwy na thair blynedd ar ôl cyflawni'r tramgwydd.
(3) At ddibenion y rheoliad hwn–
(a) mae tystysgrif a lofnodwyd gan yr erlynydd neu ar ei ran ac y nodir arni'r dyddiad pryd y daeth tystiolaeth sy'n ddigonol ym marn yr erlynydd i gyfiawnhau dwyn achos i sylw'r erlynydd yn dystiolaeth ddigamsyniol o'r ffaith honno; a
(b) rhaid barnu bod tystysgrif sy'n datgan y mater hwnnw ac yr honnir iddi gael ei llofnodi felly wedi ei llofnodi felly oni cheir prawf i'r gwrthwyneb.
29.–(1) Os profir bod tramgwydd a gyflawnir gan gorff corfforaethol (ac eithrio partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig neu bartneriaeth Albanaidd) wedi'i gyflawni drwy gydsyniad neu ymoddefiad, neu i'w briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran, swyddog o'r corff corfforaethol, neu berson sy'n honni gweithredu mewn swydd o'r fath, mae'r swyddog neu'r person hwnnw (yn ogystal â'r corff corfforaethol) yn euog o'r tramgwydd ac yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.
(2) Pan fo materion corff corfforaethol yn cael eu rheoli gan ei aelodau, mae paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â gweithredoedd a diffyg gweithredoedd aelod, a pherson sy'n honni gweithredu mewn swydd o'r fath, mewn cysylltiad â swyddogaethau'r aelod o reoli, fel y mae'n gymwys i swyddog corff corfforaethol.
(3) Os profir bod tramgwydd a gyflawnir gan gorff anghorfforedig (ac eithrio partneriaeth anghorfforedig) wedi'i gyflawni drwy gydsyniad neu ymoddefiad, neu i'w briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran, unrhyw swyddog neu berson sy'n honni gweithredu mewn swydd o'r fath, mae'r swyddog neu'r person hwnnw (yn ogystal â'r corff anghorfforedig) yn euog o'r tramgwydd ac yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.
(4) Os profir bod tramgwydd a gyflawnir gan bartneriaeth (gan gynnwys partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig neu bartneriaeth Albanaidd) wedi'i gyflawni drwy gydsyniad neu ymoddefiad, neu i'w briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran partner, neu berson sy'n honni gweithredu mewn swydd o'r fath, mae'r partner neu'r person (yn ogystal â'r bartneriaeth) yn euog o'r tramgwydd ac yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.
(5) Yn y rheoliad hwn, ystyr "tramgwydd" ("offence") yw tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn.
30. Caiff awdurdod gorfodi roi hysbysiad cosb i berson ("P") os oes rheswm gan yr awdurdod i gredu bod P wedi cyflawni tramgwydd o dan reoliad 16 drwy fynd yn groes i ddarpariaeth o Reoliad (EC) Rhif 2160/2003 a grybwyllir yng ngholofn 1 o Atodlen 3, neu fethu â chydymffurfio â hi.
31. Rhaid i hysbysiad cosb a roddir gan awdurdod gorfodi–
(a) rhoi pa a bynnag fanylion sy'n angenrheidiol am yr amgylchiadau, yr honnir eu bod yn ffurfio'r tramgwydd cosb, i gyfleu gwybodaeth resymol am y tramgwydd;
(b) datgan swm y gosb;
(c) datgan yn ystod pa gyfnod, yn rhinwedd rheoliad 33, na chychwynnir achos ynglŷn â'r tramgwydd;
(ch) datgan i ba berson ac ym mha gyfeiriad y gellir talu'r gosb; a
(d) datgan rhaid peidio â thalu mewn arian parod.
32.–(1) Mae swm y gosb i'w benderfynu gan yr awdurdod gorfodi, a rhaid iddo beidio â bod yn llai na £100 nac yn fwy na £4,500.
(2) Caiff y ffactorau sydd i'w cymryd i ystyriaeth gan yr awdurdod gorfodi wrth benderfynu swm y gosb gynnwys un neu ragor o'r ffactorau a grybwyllir yn Atodlen 4 (ond nid ydynt yn gyfyngedig i'r ffactorau hynny).
33.–(1) Pan roddir hysbysiad cosb i berson ("P")-
(a) ni chaniateir dwyn achos yn erbyn P am y tramgwydd cosb y mae'r hysbysiad hwnnw'n ymwneud ag ef cyn diwedd y cyfnod o 28 diwrnod sy'n cychwyn gyda'r diwrnod y rhoddir yr hysbysiad iddo; a
(b) ni chaniateir collfarnu P am y tramgwydd os telir y gosb yn unol â rheoliad 34 cyn diwedd y cyfnod hwnnw.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys os tynnir y rhybudd cosb yn ôl yn unol â rheoliad 37.
34.–(1) Rhaid talu unrhyw gosb i'r person a grybwyllir yn yr hysbysiad cosb drwy anfon y tâl drwy'r post neu drwy ba bynnag ddull a grybwyllir yn yr hysbysiad.
(2) Rhaid i unrhyw gosb beidio â chael ei thalu mewn arian parod.
35. Mewn unrhyw achos, mae tystysgrif, yr honnir ei bod wedi ei llofnodi gan neu ar ran yr awdurdod gorfodi, sy'n datgan bod taliad mewn perthynas â hysbysiad cosb wedi ei gael neu heb ei gael ar neu cyn dyddiad a grybwyllir yn y dystysgrif,yn dystiolaeth o'r ffeithiau a ddatgenir.
36. Rhaid i unrhyw gosbau a delir i awdurdod gorfodi gael eu talu i Gronfa Gyfunol Cymru.
37.–(1) Caiff awdurdod gorfodi dynnu hysbysiad cosb yn ôl os oes rheswm gan yr awdurdod gorfodi i gredu na ddylid bod wedi ei roi (pa un ai i'r person a enwir yn yr hysbysiad cosb neu fel arall).
(2) Caiff awdurdod gorfodi dynnu hysbysiad cosb yn ôl drwy roi hysbysiad i'r person a enwir yn yr hysbysiad cosb, cyn neu ar ôl talu'r gosb.
(3) Pan fo awdurdod gorfodi yn tynnu hysbysiad cosb yn ôl, rhaid iddo ad-dalu unrhyw gosb a dalwyd o dan yr hysbysiad cosb, i'r person a enwir yn yr hysbysiad cosb, o fewn cyfnod o 28 diwrnod, sy'n cychwyn gyda'r diwrnod y rhoddir yr hysbysiad o dynnu'n ôl yr hysbysiad cosb.
38.–(1) Rhaid i unrhyw hysbysiad y mae'n ofynnol ei roi o dan y Rheoliadau hyn, i unrhyw berson, fod mewn ysgrifen, a gellir ei roi iddo–
(a) drwy ei ddanfon i'r person hwnnw;
(b) ei adael yn ei gyfeiriad priodol;
(c) ei anfon ato yn y cyfeiriad hwnnw drwy'r post rhagdaledig; neu
(ch) yn ddarostyngedig i baragraff (9), drwy ei anfon ato mewn cyfathrebiad electronig.
(2) Caniateir rhoi'r hysbysiad i gorff corfforaethol drwy ei roi i swyddog o'r corff hwnnw.
(3) Caniateir rhoi'r hysbysiad i bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, partneriaeth Albanaidd neu bartneriaeth anghorfforedig drwy ei roi i bartner neu i berson sydd â rheolaeth ar, neu sy'n rheoli, busnes y bartneriaeth.
(4) Caniateir rhoi'r hysbysiad i unrhyw gorff anghorfforedig arall drwy ei roi i swyddog y corff anghorfforedig.
(5) At ddibenion y rheoliad hwn, ac adran 7 o Ddeddf Dehongli 1978(22) (cyflwyno dogfennau drwy'r post) o ran y modd y'i cymhwysir i'r rheoliad hwn, cyfeiriad priodol unrhyw berson y rhoddir hysbysiad iddo yw–
(a) yn achos corff corfforaethol, cyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa'r corff;
(b) yn achos partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig neu bartneriaeth Albanaidd, cyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa'r bartneriaeth;
(c) yn achos partneriaeth anghorfforedig neu unrhyw gorff anghorfforedig arall, cyfeiriad prif swyddfa'r bartneriaeth neu'r corff;
(ch) yn achos person y rhoddir yr hysbysiad iddo gan ddibynnu ar unrhyw un o baragraffau (2), (3) neu (4), cyfeiriad priodol y corff corfforaethol, partneriaeth neu gorff anghorfforedig arall dan sylw; a
(d) mewn unrhyw achos arall, cyfeiriad hysbys diwethaf y person dan sylw.
(6) At ddibenion paragraff (5) mae'r cyfeiriadau at "y brif swyddfa" mewn perthynas â chwmni a gofrestrwyd y tu allan i'r Deyrnas Unedig, partneriaeth sy'n cynnal busnes y tu allan i'r Deyrnas Unedig, ac unrhyw gorff anghorfforedig arall sydd â'i brif swyddfa y tu allan i'r Deyrnas Unedig, yn cynnwys cyfeiriad, ym mhob achos, i'w prif swyddfa (os oes un) o fewn y Deyrnas Unedig.
(7) Mae paragraff (8) yn gymwys os yw person, sydd i gael hysbysiad o dan y Rheoliadau hyn, wedi pennu mai cyfeiriad o fewn y Deyrnas Unedig ("y cyfeiriad penodedig") sy'n wahanol i'w gyfeiriad priodol (fel y'i penderfynir o dan baragraff (5)) fydd y cyfeiriad lle y bydd ef, neu rywun ar ei ran, yn derbyn dogfennau o'r un disgrifiad â hysbysiad a roddir o dan y Rheoliadau hyn.
(8) Rhaid trin y cyfeiriad penodedig hefyd, at ddibenion y rheoliad hwn ac adran 7 o Ddeddf Dehongli 1978 yn y modd y'i cymhwysir i'r rheoliad hwn, fel cyfeiriad priodol y person.
(9) Os anfonir hysbysiad, sydd i'w roi i berson o dan y Rheoliadau hyn, mewn cyfathrebiad electronig gan awdurdod gorfodi, nid yw'r hysbysiad i'w drin fel pe bai wedi ei roi–
(a) onid yw'r person y rhoddir yr hysbysiad iddo wedi dynodi wrth yr awdurdod gorfodi ei fod yn fodlon cael hysbysiadau mewn cyfathrebiadau electronig ac wedi darparu cyfeiriad addas at y diben hwnnw; a
(b) onid anfonir yr hysbysiad i'r cyfeiriad a ddarparwyd gan y person hwnnw.
(10) Yn y rheoliad hwn–
nid yw "corff corfforaethol" ("body corporate") yn cynnwys partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig na phartneriaeth Albanaidd; ac
mae i "cyfathrebiad electronig" yr ystyr a roddir i "electronic communication" yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 2000(23).
39.–(1) Mae'r darpariaethau canlynol o'r Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiadau a grybwyllir ym mharagraff (2)–
adran 3 (rhagdybiaethau y bwriedir bwyd i'w fwyta gan bobl);
adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);
adran 21(24) (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy);
adran 29 (caffael samplau);
adran 30(8) (tystiolaeth ddogfennol);
adran 44 (diogelu swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll); ac
adran 46(1) (treuliau swyddogion awdurdodedig).
(2) Yr addasiadau yw–
(a) rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau a bennir ym mharagraff (1) at y Ddeddf (neu Ran o'r Ddeddf) fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn;
(b) rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau a bennir ym mharagraff (1) at swyddog awdurdodedig, swyddog awdurdod gorfodi, neu swyddog awdurdod bwyd fel cyfeiriad at swyddog awdurdodedig fel y'i diffinnir yn rheoliad 3(1) o'r Rheoliadau hyn;
(c) o ran adran 20, rhaid dehongli'r cyfeiriad at yr adran honno fel pe bai'n cynnwys cyfeiriad at yr adran honno fel y'i cymhwysir i'r Rheoliadau hyn gan baragraff (1);
(ch) o ran adran 21(2), yn lle'r geiriau "section 14 or 15 above" rhodder y geiriau "these Regulations";
(d) o ran adran 29–
(i) ym mharagraff (b)(ii), rhaid dehongli'r cyfeiriad at adran 32 fel pe bai'n cynnwys cyfeiriad at reoliad 20 o'r Rheoliadau hyn; a
(ii) ym mharagraff (d), hepgorer y geiriau "or of regulations or orders made under it";
(dd) o ran adran 30(8)(a), hepgorer y geiriau "under subsection (6) above"; ac
(e) o ran adran 44, rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad at awdurdod bwyd fel cyfeiriad at awdurdod gorfodi.
40. Mae unrhyw awdurdod ysgrifenedig a roddwyd i unrhyw berson i weithredu mewn materion sy'n deillio o dan neu mewn perthynas â Rheoliadau Wyau (Safonau Marchnata) 1995(25) neu Reoliadau Wyau a Chywion (Cymru) 2009(26) yn effeithiol fel pe bai'n cyfeirio at y Rheoliadau hyn.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
22 Mehefin 2010
Rheoliad 5
Colofn 1 | Colofn 2 | Colofn 3 |
---|---|---|
Y ddarpariaeth berthnasol yn y Rheoliad Sengl CMO | Darpariaethau i'w darllen gyda darpariaethau'r Rheoliad Sengl CMO a grybwyllir yng ngholofn 1 | Y pwnc |
Erthygl 113(3), yr is-baragraff cyntaf, i'r graddau y mae'n ymwneud â marchnata wyau deor a chywion | Erthygl 116 o'r Rheoliad Sengl CMO a Rhan C o Atodiad XIV iddo, a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 617/2008 | Gwaharddiad ar farchnata wyau deor a chywion ac eithrio yn unol â'r safonau marchnata a osodir yn Rhan C o Atodiad XIV i'r Rheoliad Sengl CMO a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 617/2008. |
Pwynt II(1) o Ran C o Atodiad XIV | Erthygl 3(1) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 617/2008 | Marcio wyau deor. |
Pwynt II(2) o Ran C o Atodiad XIV | Erthygl 3(4) a (5) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 617/2008 | Cludo a phacio wyau deor. |
Pwynt II(3) o Ran C o Atodiad XIV | Erthygl 3(8) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 617/2008 | Mewnforio pecynnau o wyau deor o drydedd wlad. |
Pwynt III(1) o Ran C o Atodiad XIV | Erthygl 4(1) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 617/2008 | Pacio cywion yn ôl rhywogaeth, math a chategori o ddofednod. |
Pwynt III(2) o Ran C o Atodiad XIV | Erthygl 4(2) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 617/2008 | Cynnwys a marciau bocsys o gywion. |
Pwynt III(3) o Ran C o Atodiad XIV | Pwynt III(1) o Ran C o Atodiad XIV i'r Rheoliad Sengl CMO ac Erthygl 4(1) a (3) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 617/2008 | Mewnforio cywion o drydedd wlad. |
Colofn 1 | Colofn 2 | Colofn 3 |
---|---|---|
Darpariaeth berthnasol Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 617/2008 | Darpariaethau sydd i'w darllen gyda darpariaethau Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 617/2008 a grybwyllir yng ngholofn 1 | Y pwnc |
Erthygl 2(1) | Cofrestru sefydliadau bridio pedigri, sefydliadau bridio a deorfeydd. | |
Erthygl 3(1) | Erthygl 3(2) a (3) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 617/2008 | Marcio wyau deor fesul un. |
Erthygl 3(2) | Erthygl 3(3) a (5) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 617/2008 a rheoliad 7 | Marcio wyau deor yn y sefydliad cynhyrchu. |
Erthygl 3(4) | Erthygl 3(5) a (6) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 617/2008 ac Atodiad II iddo | Cludo wyau deor: gofynion pacio. |
Erthygl 3(6) | Erthygl 3(4) a (5) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 617/2008 | Rhif unigryw'r sefydliad cynhyrchu ar becynnau a chynwysyddion y cludir wyau deor ynddynt. |
Erthygl 3(7) | Erthygl 3(1), (2) a (3) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 617/2008 a rheoliad 7 | Gwaharddiad ar gludo neu fasnachu wyau deor rhwng Aelod- wladwriaethau onid ydynt wedi'u marcio'n gywir. |
Erthygl 3(8) | Marcio a phecynnau wyau deor a fewnforir. | |
Erthygl 4(1) | Pwynt III(1) o Ran C o Atodiad XIV i'r Rheoliad Sengl CMO ac Erthygl 4(2) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 617/2008 | Pacio cywion yn ôl rhywogaeth, math a chategori o ddofednod. |
Erthygl 4(2) | Pwynt III(2) o Ran C o Atodiad XIV i'r Rheoliad Sengl CMO ac Erthygl 4(1) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 617/2008 | Cynhwysiad a gofynion marcio sylfaenol ar gyfer pecynnau sy'n cynnwys cywion. |
Erthygl 4(3) | Pwynt III(3) o Ran C o Atodiad XIV i'r Rheoliad Sengl CMO ac Erthygl 4(1) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 617/2008 | Mewnforio cywion o drydydd gwledydd, gan gynnwys cynhwysiad a gofynion marcio sylfaenol ar gyfer pecynnau sy'n cynnwys cywion. |
Erthygl 5(1) | Dogfennau sy'n gorfod bod gyda sypiau o wyau deor a chywion. | |
Erthygl 5(2) | Erthygl 5(1) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 617/2008 | Gofynion arbennig o ran gwybodaeth sydd i'w darparu o ran dogfennau sy'n gorfod bod gyda sypiau o wyau deor a chywion a fewnforir o drydedd wlad. |
Erthygl 6 | Cadw cofrestri gan ddeorfeydd. | |
Erthygl 7 | Is-baragraff (h) o'r ail baragraff o Erthygl 1 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 | Cyfyngiad ar y defnydd o wyau a dynnwyd o ddeorydd. |
Erthygl 8(1) | Ymrwymiad ar ddeorfeydd i ddarparu adroddiadau misol. |
Rheoliad 9
Colofn 1 | Colofn 2 | Colofn 3 |
---|---|---|
Y ddarpariaeth berthnasol yn y Rheoliad Sengl CMO | Darpariaethau i'w darllen gyda darpariaethau'r Rheoliad Sengl CMO a grybwyllir yng ngholofn 1 | Y pwnc |
Erthygl 113(3), yr is-baragraff cyntaf, i'r graddau y mae'n ymwneud â marchnata wyau | Erthygl 116 o'r Rheoliad Sengl CMO a Rhan A o Atodiad XIV iddo, a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 | Gwaharddiad ar farchnata wyau ac eithrio yn unol â'r safonau marchnata a osodir yn Rhan A o Atodiad XIV i'r Rheoliad Sengl CMO a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008. |
Pwynt II(1) o Ran A o Atodiad XIV | Erthygl 2(1) a (4) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 | Graddio ansawdd wyau dosbarth A (neu ffres) ac wyau dosbarth B. |
Pwynt II(2) o Ran A o Atodiad XIV | Erthygl 4(1) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 | Graddio pwysau wyau dosbarth A. |
Pwynt II(3) o Ran A o Atodiad XIV | Gwaharddiad ar gyflenwi wyau dosbarth B ac eithrio i'r diwydiant bwyd a diwydiant nad yw'n ddiwydiant bwyd. | |
Pwynt III(1) o Ran A o Atodiad XIV, yr is-baragraff cyntaf | Erthyglau 9 ac 11 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 | Marcio wyau dosbarth A. |
Pwynt III(1) o Ran A o Atodiad XIV, yr ail is-baragraff | Erthyglau 9, 10 ac 11 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008, paragraffau (a) a (b) o'r ail is-baragraff o bwynt 2 o Ran D o Atodiad II i Reoliad (EC) Rhif 2160/2003, a rheoliad 11(1) | Marcio wyau dosbarth B. |
Pwynt III(2) o Ran A o Atodiad XIV | Pwynt III(1) o Ran A o Atodiad XIV i'r Rheoliad Sengl CMO | Y man lle caiff wyau eu marcio. |
Pwynt III(3) o Ran A o Atodiad XIV, yr is-baragraff cyntaf | Pwynt III(1) o Ran A o Atodiad XIV ac ail is-baragraff pwynt III(3) o Ran A o Atodiad XIV i'r Rheoliad Sengl CMO a rheoliad 11(2) | Marcio wyau a werthir gan gynhyrchydd i'r cwsmer terfynol mewn marchnad gyhoeddus leol. |
Pwynt IV(1) o Ran A o Atodiad XIV, y drydedd frawddeg | Erthygl 30(2) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 | Marcio wyau a fewnforir o drydedd wlad pan fo digon o warantau bod y rheolau a gymhwysir mewn perthynas â'r wyau hynny yn y drydedd wlad o dan sylw yn gyfwerth â deddfwriaeth Gymunedol. |
Pwynt IV(3) o Ran A o Atodiad XIV | Erthyglau 11 a 30(2) a (3) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 | Marcio wyau a fewnforir o drydedd wlad pan na fo digon o warantau wedi eu darparu bod y rheolau mewn perthynas â'r wyau hynny'n gyfwerth â deddfwriaeth Gymunedol. |
Colofn 1 | Colofn 2 | Colofn 3 |
---|---|---|
Darpariaeth berthnasol Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 | Darpariaethau sydd i'w darllen gyda darpariaethau Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 a grybwyllir yng ngholofn 1 | Y pwnc |
Erthygl 2(1) | Pwynt II(1) o Ran A o Atodiad XIV, y mewnoliad cyntaf, i'r Rheoliad Sengl CMO, paragraff (a) o'r ail is-baragraff o bwynt 2 o Ran D o Atodiad II i Reoliad (EC) Rhif 2160/2003 a rheoliad 16 fel y'i darllenir gyda'r cofnod yn Atodlen 3 yn ymwneud â pharagraff (a) o'r ail is-baragraff o bwynt 2 o Ran D o Atodiad II i Reoliad (EC) Rhif 2160/2003 | Nodweddion ansawdd wyau dosbarth A ac achosion pryd y mae'n rhaid i wyau sy'n bodloni'r nodweddion ansawdd hynny gael eu categoreiddio'n wyau dosbarth B. |
Erthygl 2(2) | Erthygl 3 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 | Gwahardd golchi a glanhau wyau dosbarth A cyn eu graddio neu ar ôl hynny. |
Erthygl 2(3) | Gwahardd trin wyau dosbarth A ar gyfer eu cadw ac oeri wyau mewn mangreoedd neu weithfeydd lle y cedwir y tymheredd drwy ddulliau artiffisial yn is na 5°C. | |
Erthygl 2(4) | Pwynt II(1) o Ran A o Atodiad XIV, yr ail fewnoliad, i'r Rheoliad Sengl CMO, paragraff (a) o'r ail is-baragraff o bwynt 2 o Ran D o Atodiad II i Reoliad (EC) Rhif 2160/2003 a rheoliad 16 fel y'i darllenir gyda'r cofnod yn Atodlen 3 yn ymwneud â pharagraff (a) o'r ail is-baragraff o bwynt 2 o Ran D o Atodiad II i Reoliad (EC) Rhif 2160/2003 | Nodweddion ansawdd wyau dosbarth B ac achosion pryd y mae'n rhaid i wyau sy'n bodloni nodweddion ansawdd wyau dosbarth A gael eu categoreiddio'n wyau dosbarth B. |
Erthygl 4(1) | Pwynt II(2) o Ran A o Atodiad XIV i'r Rheoliad Sengl CMO ac Erthygl 4(3) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 | Graddio wyau dosbarth A yn ôl eu pwysau. |
Erthygl 4(2) | Erthygl 4(1) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 a Chyfarwyddeb 2000/13/EC | Dangosiadau graddio yn ôl pwysau. |
Erthygl 4(3) | Erthygl 4(1) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 | Isafswm pwysau net mewn gramau a'r dangosiad 'eggs of different sizes' neu dermau cyfwerth i'w gosod ar wyneb allanol pecyn o wyau dosbarth A o wahanol feintiau. |
Erthygl 5(1), yr is-baragraff cyntaf | Graddio a phacio wyau a labelu pecynnau yn ôl canolfannau pecynnu. | |
Erthygl 5(3) | Canolfannau pecynnu i feddu ar y cyfarpar technegol angenrheidiol i sicrhau bod wyau'n cael eu trafod yn briodol. | |
Erthygl 6(1) | Wyau i'w graddio, i'w marcio ac i'w pecynnu o fewn 10 diwrnod i'w dodwy. | |
Erthygl 6(2) | Erthygl 14 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 | Wyau dosbarth A a gaiff eu marchnata fel wyau 'extra' neu 'extra fresh' i'w graddio, i'w marcio ac i'w pecynnu o fewn pedwar diwrnod i'w dodwy. |
Erthygl 6(3) | Erthyglau 12(1)(d) a 13 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 ac Erthygl 9(2) o Gyfarwyddeb 2000/13/EC | Pecynnau i'w marcio gyda dyddiad isafswm eu parhauster adeg eu pacio. |
Erthygl 7(1), yr is-baragraff cyntaf | Erthygl 7(1), yr ail is-baragraff, o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 | Cynhyrchwyr i nodi gwybodaeth benodol ar bob deunydd pacio ar gyfer cludo sy'n cynnwys wyau. |
Erthygl 7(2), yr is-baragraff cyntaf, y frawddeg gyntaf | Erthygl 7(1), ac Erthygl 7(2), yr ail is-baragraff, o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 | Cymhwyso'r wybodaeth a bennir yn Erthygl 7(1) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 i bob deunydd pacio ar gyfer cludo sy'n cynnwys wyau a chynnwys yr wybodaeth honno mewn dogfennau sy'n mynd gyda'r deunydd pacio. |
Erthygl 7(2), yr is-baragraff cyntaf, yr ail frawddeg | Erthygl 7(2), yr is-baragraff cyntaf, y frawddeg gyntaf, a'r ail is-baragraff, o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 | Gweithredwyr camau canol y broses i gadw copi o'r dogfennau a bennir ym mrawddeg gyntaf is-baragraff cyntaf Erthygl 7(2) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008. |
Erthygl 7(2), yr is-baragraff cyntaf, y drydedd frawddeg | Erthygl 7(2), yr is-baragraff cyntaf, y frawddeg gyntaf, a'r ail is-baragraff, o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 | Y ganolfan becynnu sy'n graddio wyau y mae'r dogfennau'n ymwneud â hwy i gadw'r dogfennau gwreiddiol y cyfeirir atynt ym mrawddeg gyntaf is baragraff cyntaf Erthygl 7(2) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008. |
Erthygl 7(3) | Erthygl 7(1) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 | Gwahardd addasu neu symud yr wybodaeth y cyfeirir ati yn Erthygl 7(1) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 ar ddeunydd pacio ar gyfer cludo sy'n cynnwys wyau hyd oni symudir yr wyau ar gyfer eu graddio, eu marcio, eu pecynnu, neu eu prosesu'n ymhellach yn ddiymdroi. |
Erthygl 8(1) | Erthygl 8(2) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 | Wyau a gyflenwir o safle cynhyrchu i gasglwr, i ganolfan becynnu neu i ddiwydiant nad yw'n ddiwydiant bwyd mewn Aelod-wladwriaeth arall i'w marcio â chod y cynhyrchydd cyn gadael y safle cynhyrchu, ac eithrio pan fo esemptiad wedi ei roi o dan Erthygl 8(2) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008. |
Erthygl 8(2), y frawddeg olaf | Copi o'r contract cyflenwi i fynd gyda llwyth o wyau y rhoddwyd esemptiad iddo o dan Erthygl 8(2) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008. | |
Erthygl 8(5) | Pwynt III(1) o Ran A o Atodiad XIV, yr ail is-baragraff, i'r Rheoliad Sengl CMO, ac Erthygl 10 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 598/2008 | Marcio wyau dosbarth B i'w marchnata mewn Aelod-wladwriaeth arall. |
Erthygl 9(1) | Pwynt 2 o'r Atodiad i Gyfarwyddeb y Comisiwn 2002/4/EC(27) ar gofrestriad sefydliadau sy'n cadw ieir dodwy, a gwmpesir gan Gyfarwyddeb y Cyngor 1999/74/EC | Cod cynhyrchydd. |
Erthygl 10 | Pwynt III(1) o Ran A o Atodiad XIV yr ail is-baragraff, i'r Rheoliad Sengl CMO | Y dangosiadau ar wyau dosbarth B. |
Erthygl 12(1) | Marcio pecynnau o wyau dosbarth A. | |
Erthygl 12(2), yr is-baragraff cyntaf a'r ail is-baragraff | Erthygl 12(1) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 a Rhan A o Atodiad I iddo, ac Atodiad II iddo, Erthygl 2 o Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2092/91(28) ar gynhyrchu cynhyrchion amaethyddol yn organig a dangosiadau sy'n cyfeirio at hynny ar gynhyrchion amaethyddol a bwydydd, a rheoliadau 12, 13 a 14. | Y dull ffermio i'w ddangos ar wyneb allanol y pecynnau sy'n cynnwys wyau dosbarth A. |
Erthygl 12(2), y trydydd is-baragraff | Erthygl 9(1) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 | Cod cynhyrchydd i'w egluro ar becynnau neu y tu mewn iddynt. |
Erthygl 12(2), y pedwerydd is-baragraff | Rhan B o Atodiad 1 i Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 a Phennod III o Gyfarwyddeb y Cyngor 1999/74/EC | Defnyddio dangosiad a restrir yn Rhan B o Atodiad I i Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 (cewyll a gyfoethogwyd). |
Erthygl 12(4) | Marcio pecynnau o wyau dosbarth B. | |
Erthygl 13 | Erthygl 3(1)(5) o Gyfarwyddeb 2000/13/EC | Dyddiad parhauster lleiaf. |
Erthygl 14(1) | Defnyddio'r geiriau 'extra' ac 'extra fresh' fel dangosiad ychwanegol o ran ansawdd ar becynnau'n cynnwys wyau dosbarth A. | |
Erthygl 14(2) | Erthygl 14(1) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 | Y dyddiad dodwy a'r terfyn amser naw niwrnod a bennir yn Erthygl 14(1) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 598/2008 i'w ddangos lle y defnyddir y geiriau 'extra' neu 'extra fresh' fel dangosiad ychwanegol o ran ansawdd ar becynnau'n cynnwys wyau dosbarth A. |
Erthygl 15 | Cyfeiriad at rawnfwyd fel cynhwysyn bwyd anifeiliaid pan roddir dangosiad ynghylch sut y bwydir ieir dodwy. | |
Erthygl 16 | Gwybodaeth i'w rhoi am werthiant wyau heb eu pecynnu. | |
Erthygl 17 | Ansawdd y pecynnau. | |
Erthygl 18 | Cynwysyddion pacio y caiff wyau diwydiannol eu marchnata ynddynt. | |
Erthygl 19 | Ailbecynnu wyau dosbarth A. | |
Erthygl 20(1) | Erthygl 20(4) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 | Cofnodion cynhyrchwyr ar ddulliau ffermio. |
Erthygl 20(2) | Erthyglau 15 a 20(4) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 | Cofnodion cynhyrchwyr ar ddull bwydo. |
Erthygl 20(3) | Erthygl 20(1) a (2) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 | Gwybodaeth a gofnodir gan gynhyrchwyr o dan Erthygl 20(1) a (2) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 i'w chofnodi fesul cwt ieir pan fo cynhyrchydd yn defnyddio dulliau ffermio gwahanol ar un safle cynhyrchu unigol. |
Erthygl 21(1) | Erthygl 21(2) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 | Cofnodion casglwyr ar wyau a gesglir ac a gyflenwir ganddynt. |
Erthygl 22(1), yr is-baragraff cyntaf | Erthygl 22(3) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 | Cofnodion canolfannau pecynnu. |
Erthygl 22(1), yr ail is-baragraff | Canolfannau pecynnu i ddiweddaru eu cofnodion stoc ffisegol bob wythnos. | |
Erthygl 22(2) | Erthyglau 15 a 22(1) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 | Canolfannau pecynnu i gadw cofnodion ar wahân pan fo wyau dosbarth A a'u pecynnau'n dwyn dangosiad ynghylch sut y bwydir ieir dodwy. |
Erthygl 23 | Erthyglau 7(2), 20, 21 a 22 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 | Cofnodion a ffeiliau y cyfeirir atynt yn Erthyglau 7(2), 20, 21 a 22 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 i'w cadw am o leiaf 12 mis o ddyddiad eu creu. |
Erthygl 24(5) | Erthyglau 20, 21 a 22 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 | Cofnodion y cyfeirir atynt yn Erthyglau 20, 21 a 22 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 i fod ar gael i'r gwasanaethau arolygu y tro cyntaf y gofynnir amdanynt. |
Erthygl 30(2) | Wyau a gaiff eu mewnforio o drydydd gwledydd i fod wedi eu marcio yn y darddwlad yn glir ac yn ddarllenadwy yn unol â'r cod gwlad ISO 3166. | |
Erthygl 30(3) | Pwynt IV(3) o Ran A o Atodiad XIV i'r Rheoliad Sengl CMO | Marcio pecynnau'n cynnwys wyau a fewnforir o drydedd wlad pan na fo digon o warantau wedi eu darparu bod y rheolau mewn perthynas â'r wyau hynny'n gyfwerth â deddfwriaeth Gymunedol. |
Rheoliad 16
Colofn 1 | Colofn 2 | Colofn 3 |
---|---|---|
Darpariaeth berthnasol Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003 | Darpariaethau sydd i'w darllen gyda darpariaethau Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003 a grybwyllir yng ngholofn 1 | Y pwnc |
Pwynt 1 o Ran D o Atodiad II | Erthygl 1(3) o Reoliad (EC) Rhif 2160/2003 | Gwahardd defnyddio wyau i'w bwyta'n uniongyrchol gan bobl fel wyau bwrdd onid ydynt yn tarddu o haid fasnachol o ieir dodwy sy'n ddarostyngedig i raglen o reolaethau cenedlaethol, ac nad yw o dan gyfyngiad swyddogol. |
Pwynt 2 o Ran D o Atodiad II, yr is-baragraff cyntaf | Pwynt 4 o Ran D o Atodiad II i Reoliad (EC) Rhif 2160/2003 | Gwahardd defnyddio wyau o statws milheintiol penodol i'w bwyta gan bobl oni fyddant wedi eu trin, ac eithrio pan fo'r cyfyngiadau ym mhwynt 2 o Ran D o Atodiad II i Reoliad (EC) Rhif 2160/2003 wedi eu diddymu o dan bwynt 4 o'r Rhan honno. |
Pwynt 2 o Ran D o Atodiad II, yr ail is-baragraff, paragraff (a) | Erthygl 1(3) o Ran D o Atodiad II i Reoliad (EC) Rhif 2160/2003 a phwynt 4 o'r Rhan honno, darpariaethau Erthyglau 113(3) a 116 o'r Rheoliad Sengl CMO a Rhan A o Atodiad XIV i'r Rheoliad hwnnw, a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008, cyn belled ag y maent yn ymwneud ag wyau Dosbarth B | Trin rhai wyau o statws milheintiol fel wyau Dosbarth B, ac eithrio pan fo'r cyfyngiadau ym mhwynt 2 o Ran D o Atodiad II i Reoliad (EC) Rhif 2160/2003 wedi eu diddymu o dan bwynt 4 o'r Rhan honno. |
Pwynt 2 o Ran D o Atodiad II, yr ail is-baragraff, paragraff (b) | Erthygl 1(3) o Reoliad (EC) Rhif 2160/2003 a phwynt 4 o Ran D o Atodiad II i'r Rheoliad hwnnw, ac Erthygl 10 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 | Marcio rhai wyau o statws milheintiol gyda'r dynodiad sy'n ofynnol o dan Erthygl 10 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008, ac eithrio pan fo'r cyfyngiadau ym mhwynt 2 o Ran D o Atodiad II i Reoliad (EC) Rhif 2160/2003 wedi eu diddymu o dan bwynt 4 o'r Rhan honno. |
Pwynt 2 o Ran D o Atodiad II, yr ail is-baragraff, paragraff (c) | Pwynt 4 o Ran D o Atodiad II i Reoliad (EC) Rhif 2160/2003 | Gwahardd mynediad rhai wyau o statws milheintiol i ganolfannau pecynnu oni fydd yr awdurdod cymwys wedi ei fodloni ynglŷn â'r mesurau i atal y posibilrwydd o groeshalogi, ac eithrio pan fo'r cyfyngiadau ym mhwynt 2 o Ran D o Atodiad II i Reoliad (EC) Rhif 2160/2003 wedi eu diddymu o dan bwynt 4 o'r Rhan honno. |
Rheoliad 32(2)
1. Difrifoldeb y methiant i gydymffurfio.
2. Y niwed neu'r niwed posibl i iechyd dynol.
3. Y niwed ariannol i ddefnyddwyr.
4. Y niwed ariannol i gystadleuwyr.
5. Parhad y methiant i gydymffurfio.
6. Tystiolaeth o fwriad y tu ôl i'r methiant i gydymffurfio.
7. Hanes o fethiant i gydymffurfio ar ran y person ("P") y bwriedir rhoi'r hysbysiad cosb iddo.
8. Y fantais ariannol a enillir gan P o ganlyniad i'r methiant i gydymffurfio.
9. Adnoddau ariannol P.
10. Maint busnes P.
11. Argaeledd yr eitem nad yw'n cydymffurfio, gan gynnwys y nifer o siopau manwerthu y'i masnachwyd ynddynt.
12. Ymddygiad P wedi i awdurdod gorfodi dynnu ei sylw at y methiant i gydymffurfio.
13. Camau blaenorol a gymrwyd gan yr awdurdod gorfodi i gynorthwyo P i gydymffurfio â'r Rheoliadau.
1. Camau a gymerwyd i ddiddymu neu leihau'r risg o ddifrod o ganlyniad i'r methiant i gydymffurfio.
2. Camau a gymerwyd gan P i gywiro'r niwed a wnaed gan y methiant i gydymffurfio.
3. Unrhyw gydweithredu ar ran P gyda'r awdurdod gorfodi wrth ymateb i'r methiant i gydymffurfio.
4. Pa un a hysbysodd P yr awdurdod gorfodi o'r methiant i gydymffurfio.
5. Adnoddau ariannol P.
6. Maint busnes P.
7. Argaeledd yr eitem nad yw'n cydymffurfio, gan gynnwys y nifer o siopau manwerthu y'i masnachwyd ynddynt.
8. Ymddygiad P wedi i awdurdod gorfodi dynnu ei sylw at y methiant i gydymffurfio.
9. Os cyflogai P a fethodd â chydymffurfio, y graddau yr oedd y cyflogai'n gweithredu y tu hwnt i'w awdurdod.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn cymryd lle Rheoliadau Wyau a Chywion (Cymru) 2009 (O.S. 2009/793).
Fel y gwnâi Rheoliadau 2009, maent yn darparu ar gyfer gorfodi a gweithredu safonau marchnata EU uniongyrchol gymwys mewn perthynas ag wyau deor a chywion dofednod buarth fferm a safonau marchnata EU uniongyrchol gymwys mewn perthynas ag wyau yn eu plisgyn ar gyfer eu bwyta. Maent hefyd yn gwneud darpariaeth newydd ar gyfer gorfodi rheolaethau EU uniongyrchol gymwys ar gyfer seroteipiau Salmonella sydd ag arwyddocâd i iechyd y cyhoedd, mewn perthynas â marchnata a defnyddio wyau yn eu plisgyn ar gyfer eu bwyta gan bobl.
O ran y safonau marchnata EU mewn perthynas ag wyau deor a chywion, mae'r Rheoliadau hyn–
(a) yn gwneud y methiant i gydymffurfio â darpariaethau Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 sy'n sefydlu trefn gyffredin o farchnadoedd amaethyddol, ac yn gwneud darpariaethau penodol ynglŷn â rhai cynhyrchion amaethyddol (y Rheoliad Sengl CMO) (OJ Rhif L 299, 16.11.2007, t. 1) a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 617/2008 (OJ Rhif L 168, 28.6.2008, t. 5), a grybwyllir yn Atodlen 1, yn dramgwydd (rheoliad 5);
(b) yn cynnwys darpariaethau sy'n ymwneud â chofrestru sefydliadau bridio pedigri, sefydliadau bridio eraill a deorfeydd (rheoliad 6); ac
(c) yn darparu eithriad rhag Erthygl 3(2) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 617/2008 drwy ganiatáu i wyau deor gael eu marcio mewn dull gwahanol i'r dull a grybwyllir yn y ddarpariaeth honno (rheoliad 7).
O ran y safonau marchnata EU sy'n gymwys yn uniongyrchol mewn perthynas ag wyau yn eu plisgyn ar gyfer eu bwyta, mae'r Rheoliadau hyn–
(a) yn gwneud y methiant i gydymffurfio â darpariaethau'r Rheoliad Sengl CMO a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 (OJ Rhif L 163, 24.6.2008, t 6) a grybwyllir yn Atodlen 2 yn dramgwydd (rheoliad 9);
(b) yn cynnwys darpariaethau ynglŷn ag awdurdodi canolfannau pecynnu i raddio wyau (rheoliad 10);
(c) yn darparu eithriad rhag darpariaethau pwyntiau III(1) a (3) o Ran A o Atodiad XIV i'r Rheoliad Sengl CMO o ran marcio wyau ar gyfer eu bwyta (rheoliad 11);
(ch) yn amrywio'r gofynion sylfaenol ar gyfer marchnata wyau fel wyau buarth drwy awdurdodi pori da byw ar libartau awyr agored ar gyfer ieir sy'n cynhyrchu'r cyfryw wyau (rheoliad 12);
(d) yn darparu eithriad rhag darpariaethau Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008, drwy ganiatáu i wyau gael eu marchnata fel wyau buarth er nad yw'r holl ofynion a osodir yn y Rheoliad hwnnw ar gyfer wyau buarth wedi eu bodloni (rheoliad 13); ac
(dd) yn darparu eithriad rhag darpariaethau Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008, drwy ganiatáu i wyau gael eu marchnata fel wyau sgubor er nad yw'r holl ofynion a osodir yn y Rheoliad hwnnw ar gyfer wyau sgubor wedi eu bodloni (rheoliad 14).
O ran y rheolaethau newydd mewn perthynas â Salmonella mae'r Rheoliadau'n cynnwys darpariaeth sy'n gwneud y methiant i gydymffurfio â darpariaethau Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L 325, 12.12.2003, t. 1) ar reoli Salmonella a chyfryngau milheintiol penodedig eraill a gludir mewn bwyd, a grybwyllir yn Atodlen 3, yn dramgwydd (rheoliad 16).
Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn darparu ar gyfer gorfodi'r Rheoliadau gan awdurdodau bwyd a Gweinidogion Cymru (rheoliad 17) ac yn gosod dyletswydd ar awdurdodau gorfodi i gynorthwyo a rhannu gwybodaeth â'i gilydd (rheoliad 18). Maent yn rhoi pwerau mynediad (rheoliad 19) a phwerau eraill (rheoliad 20), gan gynnwys pwerau i ymafael a dinistrio. Maent yn gwneud yn ofynnol dilyn gweithdrefnau penodol mewn unrhyw ddigwyddiad pan arferir y pwerau ymafael (rheoliad 21). Darperir hefyd ar gyfer dyroddi hysbysiadau cydymffurfio (rheoliad 22) ac ar gyfer apelau yn erbyn rhai penderfyniadau gan Weinidogion Cymru ac awdurdodau gorfodi (rheoliad 23). Maent yn galluogi Gweinidogion Cymru i osod gofynion ychwanegol o ran cadw cofnodion (rheoliad 24). Maent yn darparu ar gyfer cyhoeddi achosion pan ddinistriwyd eitemau yr ymafaelwyd ynddynt, ac achosion pan roddwyd hysbysiadau cydymffurfio (rheoliad 25).
Maent yn gwneud rhwystro yn dramgwydd (rheoliad 26) ac yn darparu ar gyfer cosbi tramgwyddau troseddol (rheoliad 27). Maent yn cynnwys darpariaethau sy'n estyn y cyfnod pan ellir dwyn erlyniad (rheoliad 28) a darpariaethau sy'n ymwneud â thramgwyddau a gyflawnir gan gorff corfforaethol, corff anghorfforedig neu bartneriaeth (rheoliad 29).
Maent yn creu cynllun hefyd ar gyfer dyroddi a thalu hysbysiadau cosb am dramgwydd o dan reoliad 16 ac yn fwyaf penodol ddarpariaethau ynglŷn â rhoi hysbysiad cosb (rheoliad 30); cynnwys hysbysiad o'r fath (rheoliad 31); swm y gosb sy'n daladwy o dan hysbysiad cosb (rheoliad 32 ac Atodlen 4); y cyfnod a ganiateir ar gyfer talu cosb ac effaith talu cosb (rheoliad 33); y dull a ddefnyddir i dalu cosb (rheoliad 34); dyroddi tystysgrif ynglŷn â thalu neu beidio â thalu cosb (rheoliad 35); talu cosbau i Gronfa Gyfunol Cymru (rheoliad 36); a thynnu hysbysiad cosb yn ôl (rheoliad 37).
Maent yn cynnwys darpariaethau hefyd ynglŷn â rhoi hysbysiadau o dan y Rheoliadau (rheoliad 38). Cymhwysir amryw o ddarpariaethau Deddf Diogelwch Bwyd 1990 (1990 p. 16) i'r Rheoliadau (rheoliad 39) a gwneir darpariaeth drosiannol (rheoliad 40).
Mae asesiad effaith rheoleiddiol llawn o effaith y Rheoliadau hyn ar gostau busnes a'r sector gwirfoddol ar gael yn www.cymru.gov.uk neu o Swyddfa'r Prif Swyddog Milfeddygol, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Adeiladau'r Llywodraeth, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ. Atodir ef hefyd i'r Memorandwm Esboniadol sydd ar gael, ynghyd â'r Rheoliadau hyn, ar wefan OPSI (www.opsi.gov.uk).
O.S. 2005/2766. Yn rhinwedd adrannau 59 a 162 a pharagraffau 28 a 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), mae swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan y dynodiad hwn bellach wedi eu breinio yng Ngweinidogion Cymru. Back [1]
1972 p.68. Back [2]
OJ Rhif L 299, 16.11.2007, t. 1, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1140/2009 (OJ Rhif L 312, 27.11.2009, t. 4). Back [3]
OJ Rhif L 163, 24.6.2008, t. 6, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 598/2008 (OJ Rhif L 164, 25.6.2008, t. 14). Back [4]
OJ Rhif L 168, 28.6.2008, t. 5. Back [5]
1990 p. 16. Back [6]
Mewnosodwyd adran 48(4A) gan baragraffau 7 ac 21 o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p. 28). Back [7]
OJ Rhif L 31, 1.2.2002, t. 1, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 202/2008 (OJ Rhif L 60, 5.3.2008, t. 17). Back [8]
Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51). Back [9]
Diwygiwyd adran 6(4) gan baragraff 6 o Atodlen 9 i Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (p. 40), paragraffau 7, 10(1) a (3) o Atodlen 5, ac Atodlen 6 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999, ac Atodlen 2 i O.S. 2002/794. Back [10]
Diwygiwyd adran 16(1) gan baragraffau 7 ac 8 o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999. Back [11]
Diwygiwyd adran 17 gan baragraffau 7, 8 a 12 o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999. Back [12]
Diwygiwyd adran 26(2) gan baragraff 13 o Atodlen 8, a Rhan 1 o Atodlen 23, i Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodi 2007 (p. 15). Diddymwyd adran 26(3) yn rhannol gan Atodlen 6 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999. Back [13]
Diwygiwyd adran 48(1) gan baragraffau 7 ac 8 o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999. Back [14]
Mae swyddogaethau "the Ministers", i'r graddau y meant yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru, gan eu bod wedi eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwnnw, fel y'u darllenir ar y cyd ag adran 40(3) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999, ac yna wedi eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30(2)(a) o Atodlen 11 iddi. Back [15]
O.S. 2009/793. Back [16]
OJ Rhif L 203, 3.8.1999, t 53, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 806/2003 (OJ Rhif L 122, 16.5.2003, t. 1). Back [17]
OJ Rhif L 109, 6.5.2000, t. 29, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1334/2008 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L 354, 31.12.2008, t. 34). Back [18]
1982 p. 30 fel y'i darllenir ag adran 17(5) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p.19). Back [19]
OJ Rhif L 325, 12.12.2003, t. 1, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 213/2009 (OJ Rhif L 73, 19.3.2009, t. 5). Back [20]
1980 p. 43. Back [21]
1978 p. 30. Diwygiwyd adran 15(1) gan baragraff 158 o Atodlen 17 i Ddeddf Cyfathrebiadau 2003 (p. 21). Back [22]
2000 p. 7. Back [23]
Diwygiwyd adran 21(2) gan O.S. 2004/3279. Back [24]
O.S. 1995/1544, dirymwyd gan O.S.A 2005/332 o ran yr Alban, O.S. 2007/2245 o ran Lloegr ac O.S. 2009/793 (Cy. 71) o ran Cymru. Back [25]
O.S. 2009/793. Back [26]
OJ Rhif L 30, 31.1.2002, t 44, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2006/83/EC (OJ Rhif L 362, 20.12.2006, t. 97). Back [27]
OJ Rhif L 198, 22.7.1991, t 1, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 404/2008 (OJ Rhif L 120, 7.5.2008, t. 8). Back [28]